Neidio i'r prif gynnwy

Atebion i gwestiynau cyffredin am ardaloedd rheoli mwg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw ardaloedd rheoli mwg?

Ardaloedd lle mae rheolau penodol ar waith i leihau llygredd aer yn sgil llosgi tanwydd solet fel glo a phren yw ardaloedd rheoli mwg. Y darnau perthnasol o ddeddfwriaeth yw Deddf Aer Glân 1993 a Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 ('y ddeddfwriaeth’).

Mae ardal rheoli mwg yn ardal lle na chaiff pobl a busnesau:

  • allyrru mwg o simnai adeilad. Mae hyn yn cynnwys adeiladau awyr agored sydd â simnai, fel hafotai
  • prynu neu werthu tanwydd anawdurdodedig i'w ddefnyddio o fewn ardal rheoli mwg oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn offer 'esempt' (offer sydd wedi'i gymeradwyo i'w defnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg)

Pam mae gennym ardaloedd rheoli mwg?

Mae rheolau ardal rheoli mwg ar waith mewn rhai rhannau o'r wlad i leihau llygredd aer yn sgil llosgi tanwydd solet. Llygredd aer yw un o'r risgiau amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae llosgi tanwydd solet yn cyfrannu'n fawr at fath o lygrydd o'r enw deunydd gronynnol mân, sy'n bresennol mewn mwg. Gall y gronynnau bach hyn niweidio eich ysgyfaint ac organau eraill, a niweidio eich iechyd chi, iechyd eich teulu ac iechyd y gymuned ehangach.

Pa fath o eiddo y mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol iddo?

Mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i unrhyw eiddo sy'n allyrru mwg o simnai adeilad, neu simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais unrhyw foeler sefydlog neu gyfarpar diwydiannol sefydlog, ac sydd mewn ardal rheoli mwg. Mae hyn yn cynnwys eiddo preswyl.

Ble mae'r ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru?

Ar hyn o bryd mae ardaloedd rheoli mwg mewn pedwar awdurdod lleol yng Nghymru. Y rhain yw Sir y Fflint, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam. I wirio a yw eich eiddo mewn ardal rheoli mwg, ewch i'r wefan hon:  Map o Ardaloedd Rheoli Mwg Cymru | MapDataCymru

Beth os nad yw fy eiddo mewn ardal rheoli mwg?

Hyd yn oed os nad ydych yn byw mewn ardal rheoli mwg dylech bob amser ystyried ffyrdd o gynhesu eich cartref sy’n achosi llai o lygredd er mwyn helpu’r amgylchedd a hefyd eich iechyd chi ac iechyd eich cymdogion. 

Gall awdurdodau lleol greu ardaloedd rheoli mwg newydd ar unrhyw adeg, ar ôl ymgysylltu â dinasyddion a rhanddeiliaid. Os ydych chi'n credu bod problem gyda llygredd mwg yn eich ardal chi, gallwch annog eich awdurdod lleol i greu ardal rheoli mwg i fynd i'r afael â'r broblem. 

A oes angen i mi newid fy lle tân/stôf os ydw i'n byw mewn ardal rheoli mwg?

Nid oes unrhyw ofyniad i newid eich lle tân neu stôf, felly gallwch gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth heb fod angen unrhyw uwchraddio drud. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar ba fathau o danwydd solet y gallwch eu defnyddio mewn offer hŷn. Er enghraifft, ni chaniateir i chi losgi coed mewn lle tân agored neu stof hŷn os ydych chi'n byw mewn ardal rheoli mwg. Gweler rhagor isod.

Beth os ydw i eisiau gosod stôf newydd?

Rydym yn eich annog i chwilio am ffyrdd eraill o wresogi'ch cartref sy'n llygru llai, ond os mai tanwydd solet yw eich unig opsiwn, edrychwch am y safon Ecodesign sy'n sicrhau bod yr offer yn cyrraedd safonau llym ar gyfer allyriadau ac effeithlonrwydd. 

Sut galla i gyfyngu ar allyriadau mwg?

Os mai tanwydd solet yw eich unig opsiwn, ystyriwch newid i danwydd sy'n llygru llai a dilynwch enghreifftiau arfer gorau o losgi'n fwy effeithlon fel https://www.hetas.co.uk/burn-better/

Dylech sicrhau hefyd bod eich offer wedi'i osod yn gywir, yn cael ei weithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n iawn. Rydym yn cynghori bod eich simnai'n cael ei chynnal a chadw gan lanhäwr simneiau proffesiynol ardystiedig bob blwyddyn. 

Beth alla i ei losgi mewn ardal rheoli mwg?

YGallwch losgi'r tanwydd canlynol mewn ardal rheoli mwg: 

  • tanwydd 'di-fwg': glo carreg, glo carreg rhannol, nwy a glo stêm anweddol isel
  • tanwydd solet awdurdodedig/ardystiedig a weithgynhyrchwyd, y gallwch ddod o hyd iddo ar y wefan ganlynol: Authorised/Certified Fuels – Clean Air Act Data Entry System
  • pren sych, ond dim ond os ydych chi'n defnyddio offer esempt priodol. Ni allwch losgi coed mewn lle tân agored mewn ardal rheoli mwg. Gallwch wirio a yw'ch offer wedi'i eithrio trwy chwilio ar y wefan ganlynol: Exempt Appliances – Clean Air Act Data Entry System. Dim ond y mathau o danwydd y mae'r gwneuthurwr yn dweud y gellir eu defnyddio yn yr offer y cewch chi eu defnyddio.

Beth allai ddigwydd os na fyddaf yn dilyn y rheolau?

Os ydych chi'n prynu neu'n derbyn tanwydd solet rheoledig (heb eu hawdurdodi) i’w losgi o fewn ardal rheoli mwg, ac nad oes gennych offer esempt i'w losgi, byddwch yn torri'r gyfraith a gallech wynebu dirwy o hyd at £1,000.

Os na fyddwch chi'n defnyddio'r tanwydd a/neu'r offer cywir, gan arwain at alllyriadau mwg o'ch simnai, efallai y cewch ddirwy o hyd at £300 am bob trosedd. Mae rhagor o wybodaeth am reolau ardaloedd rheoli mwg ar gael yma Canllawiau ardaloedd rheoli mwg ar gyfer awdurdodau lleol: taflen ffeithiau sancsiynau sifil. Yn gyntaf, gellir rhoi Hysbysiad Gwella i chi, sy'n egluro'r rheolau ac yn cynnig cyngor ar effeithiau llygredd o losgi tanwydd solet a sut i leihau eich allyriadau. Os bydd yr allyriadau mwg yn parhau, gellir rhoi Hysbysiad o Fwriad i chi. Yna byddai gennych 28 diwrnod i gynnig sail resymol dros wrthwynebu ac os na chaiff hyn ei dderbyn, gall Hysbysiad Terfynol gael ei roi i chi.