Egluro caffael a gwerthu tanwydd anawdurdodedig mewn ardal rheoli mwg, yn unol â Deddf Aer Glân 1993.
Mae'r daflen ffeithiau hon yn egluro Caffael a Gwerthu Tanwydd Anawdurdodedig mewn ardal rheoli mwg, yn unol â Deddf Aer Glân 1993, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
Mae'n anghyfreithlon prynu a gwerthu tanwydd anawdurdodedig i'w ddefnyddio lle mae gorchymyn rheoli mwg ar waith, oni bai ei fod ar gyfer offer esempt mewn adeilad, lle tân, neu foeler sefydlog / cyfarpar diwydiannol sefydlog. Mae'r rhestr o fathau awdurdodedig o danwydd yng Nghymru i'w gweld ar y wefan ganlynol: Authorised/Certified Fuels – Clean Air Act Data Entry System. Mae'r rhestr o offer esempt yng Nghymru i'w gweld ar y wefan ganlynol: Exempt Appliances – Clean Air Act Data Entry System
Gallwch erlyn prynwr tanwydd os bydd yn torri'r rheol hon gyda dirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1,000).
Gallwch erlyn manwerthwr os bydd yn torri'r rheol hon a bydd y llys yn penderfynu ar lefel y ddirwy. Dylech wirio hefyd bod manwerthwyr yn cymryd camau i hysbysu cwsmeriaid am y rheolau hyn, er enghraifft, trwy roi arwydd wrth ymyl y tanwydd neu'r til, neu neges wrth dalu ar-lein.
O dan y ddeddfwriaeth, gall manwerthwr ddefnyddio unrhyw un o'r canlynol fel amddiffyniad os gall brofi seiliau rhesymol dros gredu—
(a) nad oedd yr adeilad yn un yr oedd y gorchymyn rheoli mwg o dan sylw yn berthnasol iddo, neu
(b) y prynwyd y tanwydd i'w ddefnyddio mewn—
- lle tân a oedd, ar adeg danfon y tanwydd, yn lle tân esempt, neu
- boeler neu gyfarpar nad oedd y gorchymyn rheoli mwg yn berthnasol iddo.
