Cyfarfod Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi: 15 Hydref 2015
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi ar 15 Hydref 2015.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ymwelwyr
Aelodau’r Grŵp Cynghori ar Drethi
- Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth - Jane Hutt AC (Cadeirydd)
- Andrew Evans - Geldards
- Frank Haskew - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)
- Y Cynghorydd Aaron Shotton - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Leighton Jenkins, ar ran Emma Watkins - Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI)
- Rhodri Evans, ar ran Janet Jones - Ffederasiwn Busnesau Bach
- Kay Powell - Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Martin Warren - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW, Cymru)
- Robert Lloyd Griffiths – Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) Cymru
- Ruth Marks – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
- Nisreen Mansour, ar ran Victoria Winckler - Sefydliad Bevan
Yn bresennol
- Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr y Trysorlys
- Ed Sherriff - Pennaeth Strategaeth Cyllidol
- Andrew Hewitt - Rheolwr Prosiect Polisi Trethi Datganoledig
- Tom Nicholls - Economegydd
- Sarah Tully – Rheolwr Prosiect Polisi Trethi Datganoledig
- Jo Berry - Uwch Swyddog Cyfathrebu Strategol ac Ymgysylltu
- Trudi King - Yr Ysgrifenyddiaeth
Croeso gan y Gweinidog Cyllid
1. Croesawodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y rhai a oedd yn bresennol i chweched cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Drethi Cymru. Nododd y Gweinidog yr ymddiheuriadau a gafwyd gan Victoria Winckler, Emma Watkins, Martin Mansfield, Janet Jones a David Phillips. Croesawodd y Gweinidog Leighton Jenkins a oedd yn bresennol ar ran Emma Watkins a Rhodri Evans a oedd yn bresennol ar ran Janet Jones. Estynnodd y Gweinidog groeso hefyd i Nisreen Mansour o Sefydliad Bevan, a oedd yn bresennol ar ran Victoria Winckler, i drafod yr eitem ar Drethi Newydd.
2. Rhoddodd y Gweinidog amlinelliad byr o’r datblygiadau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys y pwyntiau a ganlyn:
- cyflwynwyd Bil Casglu a Rheoli Trethi i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf ac mae’r Pwyllgor Cyllid ar hyn o bryd yn craffu ar y Bil
- cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriadau ar y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Cafwyd dros 300 o ymatebion a diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu cyfraniadau a’u cymorth i annog eraill i gyfrannu eu syniadau a’u barn
- mae’r Gweinidog yn parhau i arwain trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar agweddau pwysig eraill o’r agenda ar ddiwygio cyllidol.
Materion sy’n codi
3. Roedd y nodyn o gyfarfod blaenorol y Grŵp wedi ei ddosbarthu i’r aelodau ymlaen llaw, ac roedd yr holl gamau gweithredu wedi eu cwblhau. Cadarnhaodd y Grŵp fod y nodyn yn grynodeb cywir o’r drafodaeth.
4. Lansiodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi gais am Dystiolaeth yn gynharach y mis hwn i gael barn a thystiolaeth gefnogol i gynyddu amrywiaeth ar Fyrddau Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Hoffai’r Gweinidog sicrhau bod Bwrdd newydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn adlewyrchu’r nod hwn i fabwysiadu diwydiant dreth amrywiol yng Nghymru. Cynigiodd y Gweinidog y dylid gosod eitem yn yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp, yn Chwefror 2016, i drafod sut y gellid sicrhau bod gan aelodau bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru y sgiliau a’r profiad cywir tra hefyd yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gweinyddu. Dylid trafod sut i gynyddu cynrychiolaeth merched a grwpiau eraill sydd â chynrychiolaeth isel ar Fwrdd ACC.
Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio Cyllidol
5. Soniodd Ed Sherriff yn fyr am drafodaethau rhynglywodraethol diweddar, gan gynnwys y sefyllfa bresennol ynghylch cyllid gwaelodol a datganoli Toll Teithwyr Awyr.
Prosiect Trethi Newydd Sefydliad Bevan
6. Rhoddodd Nisreen Mansour gyflwyniad a oedd yn rhoi braslun o gwmpas, elfennau allweddol a chynnydd y prosiect. Cyhoeddodd Sefydliad Bevan ei adroddiad cyntaf ar y prosiect hwn ar 5 Hydref.
Treth Trafodiadau Tir
7. Rhoddodd Andrew Hewitt a Tom Nicholls grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, amlinelliad o faterion polisi allweddol, a chyflwyniad i ardrethi a bandiau gan roi rhai enghreifftiau o’r gwaith modelu y maent wedi ei wneud.
Treth Gwarediadau Tirlenwi
8. Cyflwynodd Sarah Tully grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a rhoddodd amlinelliad o’r argymhellion polisi allweddol.
Unrhyw Fater Arall
9. Hysbysodd Jo Berry yr aelodau ei bod hi wedi cwblhau’r gwaith datblygu ar safle SharePoint a ddechreuwyd gan Ruth Leggett. Rhoddodd fraslun o’r safle newydd ac annogodd yr aelodau i’w ddefnyddio i ysgogi trafodaethau.
10. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2016.
11. Ni chodwyd unrhyw fater arall o dan yr eitem hon.
