Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ddiwygiadau arfaethedig i’r ystod o hysbysiadau cosb benodedig sy’n gymwys i drosedd segura llonydd fel y’i diffinnir yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003. 

Mae’r rheoliadau yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru roi Hysbysiadau Cosb Benodedig i yrwyr cerbydau lle mae cred resymol eu bod wedi cyflawni trosedd segura llonydd ac sydd wedi methu â chydymffurfio â chais gan berson a awdurdodwyd gan yr awdurdod lleol i roi’r gorau i gadw injan eu cerbyd yn rhedeg tra’n llonydd ar briffordd gyhoeddus. Ar hyn o bryd, £20 yw’r gosb, ac os na chaiff yr arian ei dalu o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig, mae’r swm yn codi i £40. Os yw’r gyrrwr wedi cyflwyno hysbysiad yn gofyn am wrandawiad, nid yw’r gosb yn daladwy tan ar ôl y gwrandawiad.

Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 30 Medi 2025. Er mwyn ymateb, dylech ddefnyddio’r ffurflen ar-lein neu gwblhau’r ffurflen ymateb amgaeedig a’i hanfon at unrhyw un o’r canlynol:

E-bost: polisiansawddaer@llyw.cymru
(gan nodi Ystod Hysbysiad Cosb benodedig ar gyfer segura llonydd yn y llinell bwnc)

Post: 

Polisi Ansawdd Aer 
Is-adran Diogelu’r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:

Is-adran Diogelu’r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ 

E-bost: polisiansawddaer@llyw.cymru

This document is also available in English.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o’r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Cefndir

Mae segura llonydd, yr arfer o adael injan yn rhedeg pan nad yw cerbyd yn symud, yn cyfrannu’n ddiangen at lygredd aer a sŵn. Mae hefyd yn gwastraffu tanwydd ac yn cynyddu costau i yrwyr.

Mae segura llonydd yn gallu bod yn destun pryder arbennig mewn rhai lleoliadau, megis y tu allan i ysgolion lle mae perygl i blant ddod i gysylltiad anghymesur ag allyriadau cerbydau, ac i drigolion sy’n cael eu heffeithio’n rheolaidd gan sŵn. 

Rydym yn bwriadu ymgymryd ag ystod o gamau gweithredu i hybu ymwybyddiaeth o niwed posibl segura llonydd ac i berswadio gyrwyr i ymatal rhag segura llonydd pan fydd cerbydau ar stop. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, ymgyrchoedd cyfathrebu cenedlaethol a chanllawiau i awdurdodau lleol i ddatblygu strategaethau lleol i newid ymddygiad. Mae ein ffocws ni ar gefnogi ac annog gyrwyr, ac rydym yn ystyried cosbau ariannol fel dewis olaf.

Rydym hefyd yn cydnabod bod angen adnoddau priodol ar awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi pan fydd angen gwneud hynny. 

O dan Reoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 (“rheoliadau 2003”), gall gyrrwr y credir ei fod yn cyflawni trosedd segura llonydd ac sy’n gwrthod diffodd ei injan pan mae’n cael cais i wneud hynny gan berson sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod lleol, wedi collfarn ddiannod, fod yn atebol am ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol (h.y. dirwy nad yw’n fwy na £1000) neu gall gael hysbysiad cosb benodedig am swm o £20. Mae’r swm yn codi i £40 os nad yw’r arian yn cael ei dalu o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad. Pan fo’r sawl sy’n derbyn y gosb yn cyflwyno hysbysiad yn gofyn am wrandawiad, nid yw’r arian yn daladwy tan ar ôl y gwrandawiad.

Pennwyd y swm hwn mewn deddfwriaeth fwy nag ugain mlynedd yn ôl ac nid yw wedi cynyddu gyda chwyddiant yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn credu nad yw’r swm o £20 yn adlewyrchu’n ddigonol ddifrifoldeb y risg bosibl o lygredd i iechyd y cyhoedd a’i fod yn rhy isel i weithredu fel ataliad digonol.

Drwy’r ymgynghoriad hwn, rydym yn croesawu barn ar gynigion i ddiwygio deddfwriaeth bresennol i alluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i bennu eu lefelau cosb eu hunain o ystod a ragnodir gan Weinidogion Cymru. Cynigir cyflwyno ystod newydd o gosbau a darparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol bennu lefel gosb addas i adlewyrchu anghenion lleol. Yr ystod arfaethedig yw £50 i £100, a fyddai’n sicrhau bod cosbau am y drosedd hon yn debycach i gosbau am droseddau amgylcheddol eraill.

Polisi’r Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’n heconomi. Mae ein strategaeth genedlaethol, Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach, yn amlinellu llwybr 10 mlynedd tuag at sicrhau aer glanach. Bydd y camau gweithredu’n mynd i’r afael â ffynonellau hysbys o lygredd aer fel trafnidiaeth, diwydiant (gan gynnwys amaethyddiaeth), ac allyriadau o gartrefi a busnesau.

Roedd Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). 

Cyflawnwyd yr ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu eleni pan gyhoeddwyd Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (ar busnes.senedd.cymru) (“deddf 2024”), sy’n cyflwyno cyfres o fesurau a fydd yn cyfrannu at wella ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru. Mae Deddf 2024 yn rhan hollbwysig o’r pecyn o fesurau a nodwyd yn y Cynllun Aer Glân ac mae’n atgyfnerthu deddfwriaeth sy’n bodoli eisoes yn y maes hwn.

Mae allyriadau trafnidiaeth yn gyfrifol am gyfran sylweddol o lygredd aer, gan gynnwys ocsidau nitrogen a deunydd gronynnol sy’n cael effaith andwyol ar iechyd pobl. Mae Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 yn cydnabod pwysigrwydd ein seilwaith trafnidiaeth wrth gysylltu pobl a hwyluso twf economaidd. Mae gwella ansawdd aer a lleihau sŵn amgylcheddol sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn ganolbwynt gweithredu pwysig.

Mae Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru 2023 i 2028 yn disgrifio dull Llywodraeth Cymru o gefnogi amgylchedd sŵn iach. Mae’r ddogfen yn datgan ein huchelgais ar gyfer seinweddau priodol, sy’n golygu’r amgylchedd sain priodol ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Mae Polisi Cynllunio Cymru, sy’n amlinellu polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru, yn cydnabod rôl y system gynllunio wrth helpu i leihau cysylltiad y boblogaeth â llygredd aer a sŵn. 

Yn ôl adroddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd, mae sŵn traffig yn effeithio ar un o bob tri unigolyn yn ystod y dydd, ac yn tarfu ar gwsg un o bob pump yn y nos. Mae llygredd sŵn yn fwy na niwsans yn unig. Mae ganddo oblygiadau ar gyfer iechyd, gan gynyddu’r ffactorau risg ar gyfer clefyd isgemia’r galon a phwysedd gwaed uchel, amhariad ar y clyw ac amhariad gwybyddol, a beichiau iechyd eraill.

O dan reoliadau 2003, dim ond mewn perthynas ag allyriadau mae modd cyflawni trosedd segura llonydd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o effeithiau posibl llygredd sŵn ar lesiant pobl Cymru. 

O dan bwerau yn Neddf yr Amgylchedd 1995 a rheoliadau 2003, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu ystod o gosbau a chaiff awdurdodau lleol ddyfarnu hysbysiad cosb benodedig am swm o fewn yr ystod hon ar gyfer segura llonydd. Fodd bynnag, nid ydym hyd yma wedi gwneud rheoliadau i gyflwyno ystod o gosbau. Ar hyn o bryd, dim ond £20 y gall awdurdod lleol ei hawlio drwy hysbysiad cosb benodedig (yn codi i £40 os na chaiff y swm ei dalu o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad cosb benodedig). Rydym yn credu bod swm y gosb bresennol yn rhy isel, gan nad yw’n adlewyrchu’r niwed posibl y mae segura llonydd yn gallu ei achosi i bobl Cymru a’r amgylchedd ehangach. O ganlyniad, rydym yn cynnig cyflwyno ystod o gosbau o £50 i £100. 

Deddfwriaeth

O dan y ddeddfwriaeth gyfredol, mae trosedd yn cael ei chyflawni os yw cerbyd yn llonydd ar briffordd gyhoeddus gyda’r injan yn rhedeg. Mae eithriadau cyfyngedig sy’n cynnwys bod yn llonydd mewn traffig. 

Mae Rheol 123 o Reolau’r Ffordd Fawr (Y Gyrrwr a’r Amgylchedd) yn nodi; “Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gadael cerbyd sydd wedi’i barcio heb neb i ofalu amdano â’r injan yn rhedeg neu adael injan cerbyd yn rhedeg yn ddiangen tra bo’r cerbyd hwnnw’n llonydd ar ffordd gyhoeddus. Yn gyffredinol, os yw’r cerbyd yn llonydd ac yn debygol o barhau felly am fwy nag ychydig funudau, dylech ddefnyddio’r brêc parcio a diffodd yr injan i leihau allyriadau a llygredd sŵn. Fodd bynnag, caniateir gadael yr injan yn rhedeg os yw’r cerbyd yn llonydd mewn traffig neu ar gyfer canfod namau.”

Mae deddfau traffig yn cael eu gorfodi gan yr heddlu, ac mae’r drosedd hon yn gallu arwain at ddirwy o rhwng £1,000 a £2,500. Fodd bynnag, mae pwerau sy’n ymwneud â throseddau segura gan awdurdodau lleol hefyd, ac mae person sydd wedi’i awdurdodi gan awdurdod lleol lle mae’r drosedd yn digwydd (person awdurdodedig) yn gallu gofyn i yrrwr ddiffodd ei injan. Os nad yw gyrrwr yn gwneud hynny, gall y person awdurdodedig roi hysbysiad cosb benodedig i’r gyrrwr, o fewn 24 awr, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo dalu £20. Mae hyn yn codi i £40 os na chaiff y swm ei dalu yn unol â’r amserlen a nodir yn yr hysbysiad. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â swm y gosb y caiff awdurdodau lleol ei chymhwyso yn unig.

Mae esboniad manylach isod o’r fframwaith deddfwriaethol presennol sy’n ymwneud â segura llonydd a’r pwerau y gallai Gweinidogion Cymru eu defnyddio i wneud y newidiadau hyn pe bai’r cynnig yn cael ei fabwysiadu:

Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladwaith a Defnydd) 1986 (“Rheoliadau 1986”)

Mae rheoliad 98(1) o Reoliadau 1986 yn ei gwneud yn ofynnol i yrrwr cerbyd llonydd ddiffodd ei injan er mwyn atal allyriadau diangen. Mae paragraff (2) yn darparu eithriadau:

  • pan fydd cerbyd yn llonydd oherwydd gofynion traffig (tra’n ciwio, er enghraifft, wrth oleuadau traffig)
  • lle mae injan yn rhedeg er mwyn olrhain a chywiro nam, neu
  • pan fydd gofyn i’r injan fod yn rhedeg oherwydd peiriannau ar gerbyd (ar gyfer pweru rheweiddio, er enghraifft, neu offer cywasgu ar gerbyd casglu sbwriel)

Deddf Traffig Ffyrdd 1988 a Deddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988

Mae adran 42 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn nodi bod torri Rheoliadau 1986 yn drosedd h.y. mae’n drosedd gadael eich injan yn rhedeg ac eithrio yn y sefyllfaoedd a nodwyd uchod. Fodd bynnag, nid yw’r Ddeddf yn pennu cosb am y drosedd honno. Mae adran 9, a Rhan 1 o Atodlen 2 Deddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988, yn darparu bod troseddau o dan adran 42 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn brofadwy yn ddiannod ac yn destun dirwy ar lefel 4 ar y raddfa safonol (uchafswm o £2,500) os cânt eu cyflawni mewn perthynas â cherbydau nwyddau neu gerbyd wedi’i addasu i gludo mwy nag 8 o bobl neu lefel 3 ar y raddfa safonol (uchafswm o ddirwy o £1,000) mewn unrhyw achos arall.

Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 (“rheoliadau 2003”) 

Mae rheoliad 2(1) yn diffinio ‘tramgwydd segura llonydd’ fel achos o dorri, neu fethiant i gydymffurfio â chymaint o reoliad 98 (diffodd peiriant pan yn llonydd) o Reoliadau 1986 sy’n ymwneud ag atal allyriadau nwyon llosg.

Mae rheoliadau 12 yn darparu, pan fo ganddo reswm rhesymol i gredu bod gyrrwr cerbyd yn cyflawni trosedd segura llonydd, h.y. nad yw’r person wedi cydymffurfio â rheoliad 98 o Reoliadau 1986, gall person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i’r gyrrwr ddiffodd yr injan. Os nad yw gyrrwr yn diffodd yr injan, mae’n euog o drosedd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1000). 

Mae rheoliad 7 yn darparu bod troseddau segura llonydd yn cael eu rhagnodi fel troseddau cosb benodedig.

Mae rheoliad 13 yn darparu bod person awdurdodedig (sy’n golygu swyddog awdurdodedig gyda’r awdurdod lleol, neu unrhyw berson arall sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod lleol), yn gallu dyfarnu hysbysiad cosb benodedig i yrrwr y cerbyd os yw’n ystyried bod trosedd segura llonydd wedi’i chyflawni. Ni ellir euogfarnu person am drosedd segura statudol o dan reoliad 12 lle mae hysbysiad cosb benodedig wedi’i roi os caiff ei dalu cyn diwedd y cyfnod y mae’n rhaid ei dalu. 

Mae rheoliad 8(b) yn darparu bod swm y gosb yn £20. Mae rheoliad 18 yn darparu bod hawl gan yrrwr sydd wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig i ofyn am wrandawiad. Mae rheoliad 17(5) a (6)(c) yn darparu bod swm y gosb benodedig yn codi i £40 os na chaiff y swm ei dalu o fewn y cyfnod talu penodedig neu os nad yw’r derbynnydd wedi cyflwyno hysbysiad yn gofyn am wrandawiad.

Mae rheoliad 18 yn darparu y gall person ofyn am wrandawiad mewn perthynas â’r drosedd y mae’r hysbysiad cosb benodedig yn ymwneud â hi, h.y. y drosedd segura llonydd. Pan ofynnir am wrandawiad, nid yw swm y gosb yn daladwy.

Mae rheoliad 20 yn darparu, os yw awdurdod lleol yn penderfynu na ddylai’r hysbysiad cosb benodedig fod wedi cael ei roi neu ei fod wedi’i roi i’r person anghywir, caiff yr awdurdod lleol dynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl. 

Mae rheoliad 21 yn darparu, pan nad yw cosb benodedig wedi’i thalu erbyn y dyddiad talu penodedig, caiff llys sirol orchymyn ei chasglu trwy atafaeleb gan y llys sirol neu fel arall fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn y llys hwnnw, ac yn unol â rheoliad 22, mae Gorchymyn Gorfodi Dyledion Traffig Ffyrdd 1993 yn gymwys.

Rheoliad 17: pan fo swm y gosb yn cael ei dalu cyn diwedd y cyfnod talu, ni chaniateir euogfarnu person am drosedd sydd wedi bod yn destun hysbysiad cosb benodedig. 

Pŵer i wneud y newidiadau arfaethedig

Mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu defnyddio pwerau yn Neddf yr Amgylchedd 1995 (“deddf 1995”), ac mae’r rhain wedi’u trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac adran 162(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. 

Mae adran 87(1)(c) o Ddeddf 1995 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas ag asesu neu reoli ansawdd aer. Mae adran 87(2)(o)(ii) o Ddeddf 1995 (a fewnosodwyd gan adran 24(2)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn darparu y caiff rheoliadau gynnwys ystod o gosbau pan fo’r drosedd ragnodedig yn drosedd segura llonydd a ragnodir gan Weinidogion Cymru. Mae Gweinidogion Cymru wedi rhagnodi segura llonydd fel trosedd o dan reoliadau 2003.

Pam rydym ni’n ymgynghori?

Rydym eisiau casglu barn ar ddiwygiadau arfaethedig i reoliadau 2003, fel y’u nodir yn adran 5 o’r ddogfen hon.

Mae segura llonydd yn drosedd sy’n bodoli eisoes, y caniateir ei gorfodi trwy sancsiynau sifil. Nid yw’r cynigion yn y ddogfen hon yn bwriadu newid hyn, na chreu unrhyw drosedd newydd, na chymhwyso unrhyw ddyletswydd newydd i awdurdodau lleol. Fodd bynnag, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod yr adnoddau priodol gan awdurdodau lleol i allu cymryd camau gorfodi pan fydd angen gwneud hynny.

Credwn nad yw lefel y gosb yn adlewyrchu’n ddigonol pa mor ddifrifol yw’r risg y gall llygredd ei hachosi i iechyd y cyhoedd. Credwn hefyd fod lefel y gosb benodedig fel ag y mae yn rhy isel i weithredu fel ataliad go iawn. Nodwyd y swm mewn deddfwriaeth fwy nag 20 mlynedd yn ôl ac nid yw wedi cynyddu gyda chwyddiant yn ystod y cyfnod hwnnw. Credwn y bydd rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol ddewis swm uwch ar gyfer cosbi segura llonydd yn eu hwyluso i gymryd camau gorfodi effeithlon ac effeithiol i helpu i leihau achosion o’r drosedd, a hynny yn ei dro yn helpu i wella ansawdd aer eich cymuned.

Croesewir ymateb gan yrwyr a rhai nad ydynt yn yrwyr. Byddai’n arbennig o ddiddorol clywed gan awdurdodau lleol, a gweithredwyr a chyrff gorfodi sifil, yn ogystal â sefydliadau sydd â diddordeb mewn mynd i’r afael â llygredd aer er lles iechyd y cyhoedd.

Diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003

Mae’r diwygiadau arfaethedig fel a ganlyn:

Bydd ystod newydd o gosbau’n cael ei nodi yn y rheoliadau

Cynigir y bydd hyn yn amrywio rhwng £50 a £100, gan ddod â’r gosb yn debycach i symiau cosb benodedig ar gyfer troseddau amgylcheddol eraill (er enghraifft, parcio niwsans, sŵn o anheddau ac ati.)

Swm y gosb benodedig ar hyn o bryd yw £20, yn unol â Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003. O ystyried chwyddiant (ar bankofengland.co.uk), byddai hyn oddeutu £35 heddiw. Mae adborth arolwg blaenorol gan awdurdodau lleol ar bwnc segura llonydd wedi nodi bod y swm hwn yn rhy isel iddynt ei ystyried yn ddarbodus ei orfodi. Gellir ystyried hefyd nad yw dirwy isel yn cynnig fawr o ataliad.

Awdurdodau lleol i gael pwerau yn ôl disgresiwn i ddewis a phennu swm cosb o fewn yr ystod a ragnodir yn y ddeddfwriaeth newydd 

Bydd gan awdurdodau lleol hyblygrwydd i bennu lefel briodol o gosb ariannol o fewn yr ystod a nodir yn y rheoliadau. Bydd hyn yn sicrhau bod lefelau cosb yn adlewyrchu anghenion lleol a gellir eu pennu ar lefel sy’n cadw’r ddysgl yn wastad rhwng sicrhau ataliad ddigonol ac osgoi cosb ormodol.

Cynigir y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chefnogi gan ganllawiau newydd i awdurdodau lleol o dan adran 88(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (gydag ymgynghoriad pellach i’w gynnal ar ganllawiau drafft).

Gallai canllawiau roi cyngor i awdurdodau lleol ar bennu cosbau o fewn yr ystod a nodir yn y rheoliadau newydd, ond byddai awdurdodau lleol yn dal gafael ar yr hyblygrwydd terfynol i gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig o fewn yr ystod a nodir yn y rheoliadau. 

Gallai canllawiau dynnu sylw at bwysigrwydd a manteision posibl gweithredu ar y broblem hon, gyda ffocws penodol ar ardaloedd lle mae segura llonydd yn digwydd yn gyson ac wedi’i ganolbwyntio mewn un man, a lle mae mwy o bobl yn dioddef effeithiau andwyol, yn enwedig grwpiau mwy agored i niwed. Er enghraifft, gallai’r canllawiau gynnwys:

  • cyngor ar hybu ymwybyddiaeth a chyflawni newid ymddygiad
  • cyngor ar ddatblygu a gweithredu strategaethau gwrth-segura
  • cynghori ar y cysylltiad rhwng ansawdd aer a sŵn a sut y gall gwella ansawdd aer arwain at fanteision o ran seinwedd
  • cyngor ar weinyddu’r gyfundrefn cosbau newydd ochr yn ochr â chyfeiriadau at adnoddau presennol, megis pecynnau cymorth gwrth-segura
  • cyngor ar ymgorffori strategaethau gwrth-segura mewn pecyn ehangach o ymyriadau cysylltiedig i wella ansawdd aer, a
  • gofyniad i ddarparu adroddiadau data blynyddol i Lywodraeth Cymru ar orfodi troseddau segura llonydd gan gynnwys, er enghraifft, nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd

Darpariaeth i’w chynnwys yn y rheoliadau i nodi sut y gellir defnyddio enillion net

Mae’r incwm sy’n deillio o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer segura llonydd o dan reoliadau 2003 yn cael ei gadw gan yr awdurdod lleol a roddodd yr hysbysiad hwnnw. Ar hyn o bryd, nid yw rheoliadau 2003 yn nodi sut y gellir defnyddio enillion net (h.y. yr arian sy’n weddill ar ôl i’r costau sy’n gysylltiedig â gorfodi gael eu didynnu o’r refeniw a godwyd).

Cynigir gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r defnydd o enillion net i adlewyrchu nod gorfodi, sef mynd i’r afael ag allyriadau cerbydau. Byddai cyfyngu’r defnydd o enillion net i fesurau i wella ansawdd aer yn gwella effaith mentrau gwrth-segura lleol ymhellach. Byddai hyn hefyd yn hybu hyder y cyhoedd nad yw cosbau yn cael eu trin gan awdurdodau lleol fel ymarfer codi refeniw cyffredinol, ond yn hytrach yn canolbwyntio’n llwyr ar wella ansawdd aer.

Rheoliadau i nodi cynnydd canrannol i swm y gosb pan nad yw’r taliad yn cael ei wneud o fewn y cyfnod penodedig

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig gynnwys diffiniad clir o’r cyfnod amser priodol ar gyfer talu swm y gosb, neu gyflwyno cais am wrandawiad.

Os yw’r sawl sy’n derbyn hysbysiad cosb benodedig yn methu ag ymateb, cynigir bod swm y gosb yn cynyddu 50%. Felly byddai cosb o £50 yn dod yn £75, a chosb o £100 yn dod yn £150.

Cynigir y byddai rheoliadau’n cael eu gwneud ym mis Mawrth 2026, ac yn dod i rym ar 1 Awst 2026. Byddai ymgyrch hysbysebu yn cael ei chynnal yn y misoedd cyn y mis Awst er mwyn hybu ymwybyddiaeth bod segura llonydd yn drosedd, ac i rybuddio’r cyhoedd am yr ystod gosbau newydd.

Cwestiynau

Rydym yn gofyn am eich barn ar y cwestiynau canlynol. Gellir cyflwyno ymatebion trwy ein ffurflen ar-lein neu trwy lawrlwytho fersiwn Word o’r ffurflen ymateb i’w chwblhau. Gellir anfon ffurflenni ymateb wedi’u cwblhau drwy e-bost at polisiansawddaer@llyw.cymru.

Cwestiwn 1

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y byddai isafswm cosb o £50 am drosedd segura llonydd yn ddigon i atal gyrwyr rhag gadael i’r injan redeg?

  • cytuno’n gryf
  • cytuno
  • ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • anghytuno
  • anghytuno’n gryf

Cwestiwn 2

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y byddai uchafswm cosb o £100 am drosedd segura llonydd yn ataliad cryfach ond yn osgoi cosbi gyrwyr yn annheg?

  • cytuno’n gryf
  • cytuno
  • ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • anghytuno
  • anghytuno’n gryf

Cwestiwn 3

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai awdurdodau lleol allu pennu cosb briodol o fewn yr ystod a ragnodir i adlewyrchu amgylchiadau lleol a natur y troseddau?

  • cytuno’n gryf
  • cytuno
  • ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • anghytuno
  • anghytuno’n gryf

Cwestiwn 4

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai swm y gosb gynyddu 50% os nad yw’n cael ei thalu o fewn cyfnod penodol?

  • cytuno’n gryf
  • cytuno
  • ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • anghytuno
  • anghytuno’n gryf

Cwestiwn 5

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y byddai canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru yn ddefnyddiol i gefnogi awdurdodau lleol i bennu cosbau priodol o fewn yr ystod a ragnodir?

  • cytuno’n gryf
  • cytuno
  • ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • anghytuno
  • anghytuno’n gryf

Cwestiwn 6

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai rheoliadau nodi y dylai unrhyw incwm dros ben gan awdurdodau lleol sy’n deillio o gosbau segura llonydd gael ei ddefnyddio ar gyfer mesurau i wella ansawdd aer yn unig?

  • cytuno’n gryf
  • cytuno
  • ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • anghytuno
  • anghytuno’n gryf

Cwestiwn 7

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â mis Awst 2026 fel dyddiad arfaethedig i’r rheoliadau ddod i rym er mwyn rhoi digon o amser i gynnal ymgyrch hybu ymwybyddiaeth?

  • cytuno’n gryf
  • cytuno
  • ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • anghytuno
  • anghytuno’n gryf

Cwestiwn 8

A oes gennych unrhyw sylwadau ar yr arfarniad a nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft?

Cwestiwn 9

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y bydd y rheoliadau arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg?

  • cytuno’n gryf
  • cytuno
  • ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • anghytuno
  • anghytuno’n gryf

Cwestiwn 10

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau perthnasol eraill ar ein cynigion i bennu ystod gosbau trwy reoliadau i helpu i fynd i’r afael â segura llonydd, nodwch nhw yma. 

Atodiad 1: ymgyngoreion penodol y cysylltwyd â nhw

Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i bawb, a hoffai Llywodraeth Cymru glywed gan unrhyw un sydd eisiau lleisio barn ar y cynigion.

Cysylltwyd â’r ymgyngoreion penodol canlynol oherwydd eu bod naill ai wedi cyfrannu at ymgynghoriadau tebyg yn y gorffennol, bod ganddynt ddiddordeb polisi clir yn y cynigion, neu eu bod yn ymgyngoreion statudol. 

  1. Y Gymdeithas Gorfodi Sifil (CIVEA)
  2. Awdurdodau llywodraeth leol Cymru
  3. Iechyd Cyhoeddus Cymru
  4. Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  5. Byrddau Iechyd Lleol
  6. Awyr Iach Cymru
  7. Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd
  8. Asthma + Lung UK Cymru
  9. Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
  10. Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI)
  11. Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru
  12. Cyd-gynhyrchu Cymru
  13. CLA Cymru
  14. Cyngor y Diwydiant Adeiladu (CIC)
  15. Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB)
  16. Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr
  17. CPT Cymru
  18. Cymdeithas Rheolwyr Bysiau Lleol (ALBUM)
  19. Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  20. CILT Cymru Wales
  21. Plant yng Nghymru
  22. Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru
  23. Ffederasiwn y Busnesau Bach
  24. Undebau llafur
  25. Y Sefydliad Trwyddedu (IoL)
  26. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  27. Cymdeithas Ceir Hurio Preifat Trwyddedig (LPHCA) Cymru
  28. Mid Wales Tours
  29. Cymdeithas Genedlaethol Hurio Preifat a Thacsis (NPHTA)
  30. Awdurdodau Trwyddedu Gogledd Cymru
  31. Uber
  32. Zenith Logistics Consultants Ltd
  33. Wrexham Chauffers Ltd
  34. Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS)
  35. Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru
  36. Grŵp Veezu
  37. Gweithredwyr tacsis
  38. Darparwyr cludiant ysgol
  39. Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  40. Trafnidiaeth Gymunedol VEST
  41. Cymdeithas Cludiant Cymunedol
  42. Cymdeithas Bysiau a Choetsus Cymru (CaBAC)
  43. Cymdeithas Swyddogion Cydlynu Trafnidiaeth (ATCO)
  44. Dŵr Cymru
  45. Openreach
  46. Gwrthryfel Difodiant
  47. Living Streets
  48. Cyfeillion y Ddaear Cymru
  49. Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  50. Cadwch Gymru’n Daclus
  51. Cymdeithas Lleihau Sŵn/
  52. Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
  53. Sustrans
  54. Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU (UKELA)
  55. Cyswllt Amgylchedd Cymru
  56. Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru
  57. Y Sefydliad Acwsteg
  58. Y Post Brenhinol
  59. UPS
  60. Evri
  61. YODEL
  62. Logistics UK
  63. Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU
  64. Grŵp Gweithredu Beiciau Modur (MAG)
  65. Cymdeithas y Diwydiant Beiciau Modur (MCIA)
  66. NCDA (Cymdeithas Genedlaethol Cludwyr ac Anfonwyr)
  67. Clwb Brenhinol y Modurwyr (RAC)
  68. Cymdeithas y Modurwyr (AA)
  69. Llywodraeth y DU
  70. Llywodraeth yr Alban
  71. Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon
  72. Cyfoeth Naturiol Cymru
  73. Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA)
  74. Panel Arbenigol Llygredd Cymru Gyfan