Cyfarfod Fforwm Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle: 17 Mawrth 2025
Crynodeb o'r drafodaeth o'r cyfarfod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Eitem 1 ar yr agenda: sylwadau rhagarweiniol, cofnodion a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.
Eitem 2 ar yr agenda: Yr Arolwg Bywydau Gwaith: profiadau gweithwyr ansicr o ecsbloetio yn y farchnad lafur yn y Deyrnas Unedig
Cafwyd cyflwyniad gan Goleg Prifysgol Llundain ar brif arolwg y Deyrnas Unedig ynghylch ecsbloetio yn y farchnad lafur a gwaith ansicr. Mae disgwyl canlyniadau'r arolwg yn nes ymlaen eleni.
Eitem 3 ar yr agenda: Partneriaeth Iechyd a Diogelwch Cymru Gyfan: sut yr ydym yn hyrwyddo, cefnogi a gwella iechyd a diogelwch yng Nghymru
Tynnodd cyflwyniad Partneriaeth Iechyd a Diogelwch Cymru Gyfan sylw at nodau'r bartneriaeth, y meysydd sydd o ddiddordeb iddynt, a sut mae'n gweithio ar y cyd ym maes iechyd a diogelwch.
Eitem 4 ar yr agenda: Straen yn y gwaith: mynd i'r afael â'r achosion
Cafwyd cyflwyniad gan TUC Cymru ar straen yn y gweithle a'i achosion. Amlygwyd ystod o ffactorau sy'n cyfrannu at straen yn y gwaith. Nododd y Fforwm fod gan gyflogwyr, undebau llafur, a'r Llywodraeth rôl wrth leihau straen yn y gwaith a lliniaru ei achosion.
