Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr

Y Grŵp Cynghorol ar Drethi

  • Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (Cadeirydd)
  • Andrew Evans, Geldards
  • Leighton Jenkins ar ran Emma Watkins, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain
  • Janet Jones a Rhodri Evans, Y Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
  • David Phillips, Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Kay Powell, Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Martin Warren, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW, Cymru)
  • Victoria Winckler, Sefydliad Bevan

Cyflwynwyr

  • Laura McAllister, Cadeirydd, Chwaraeon Cymru (yn bresennol ar gyfer yr eitem ar Aelodaeth Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru)
  • Adele Baumgardt, Is-gadeirydd, Chwaraeon Cymru (yn bresennol ar gyfer yr eitem ar Aelodaeth Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru)

Swyddogion yn bresennol

  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, y Trysorlys
  • Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol
  • Georgina Haarhoff, Pennaeth Polisi Trethi a Rheoli Deddfwriaeth
  • Claire McDonald, Y Rheolwr Prosiect ar gyfer rhoi Awdurdod Cyllid Cymru ar waith
  • Richard Clarke, Y Rheolwr Prosiect ar gyfer Gweinyddu Trethi
  • Ed Sherriff, Pennaeth y Strategaeth Gyllidol
  • Jo Berry, Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol
  • James Price, Yr Uwch-swyddog Cyfrifol – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol
  • Laura Offside (Ysgrifenyddiaeth)

Croeso gan y Gweinidog Cyllid

1. Croesawodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y rhai a oedd wedi dod ynghyd yn seithfed cyfarfod y Grŵp Cynghoroli ar Drethi. Nododd y Gweinidog fod Emma Watkins, Martin Mansfield, Frank Haskew a Robert Lloyd Griffiths wedi anfon eu hymddiheuriadau. Croesawodd y Gweinidog Laura McAllister ac Adele Baumgardt o Chwaraeon Cymru a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i roi cyflwyniad ar amrywiaeth ar fyrddau yn y sector cyhoeddus.

2. Rhoddodd y Gweinidog grynodeb o'r datblygiadau ers y cyfarfod diwethaf, a oedd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

  • Mae'r Bil Casglu a Rheoli Trethi bellach wedi cwblhau cyfnod 2. Yn amodol ar gael cymeradwyaeth derfynol gan y Cynulliad, dylai fod yn barod i'r Cydsyniad Brenhinol gael ei roi ym mis Ebrill eleni.
  • Mae'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn parhau ynghylch agweddau pwysig ar yr agenda diwygio cyllidol.
  • Penodwyd Dyfed Alsop, sydd ar hyn o bryd yn Brif Swyddog Strategaeth yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn Gyfarwyddwr Cyflawni ar gyfer rhoi Awdurdod Cyllid Cymru ar waith, a bydd yn dechrau yn ei swydd yn ystod yr haf 2016.

Materion sy'n codi

3. Dosbarthwyd nodiadau cyfarfod diwethaf y Grŵp Cynghorol ar Drethi ymhlith yr aelodau cyn y cyfarfod, ac roedd yr holl gamau gweithredu wedi eu cyflawni. Cadarnhaodd y Grŵp fod y nodiadau'n grynodeb cywir o'r drafodaeth.

Y diweddaraf am ddiwygio cyllidol

4. Rhoddodd Ed Sherriff y newyddion diweddaraf am y trafodaethau diweddar rhwng y llywodraethau, gan gynnwys canlyniadau Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU, a'r safbwyntiau diweddaraf o ran cyllido teg a datganoli toll teithwyr awyr.

Awdurdod Cyllid Cymru/ hynt y Bil Casglu a Rheoli Trethi

5. Rhoddodd Georgina Haarhoff y newyddion diweddaraf am hynt y Bil Casglu a Rheoli Trethi, Bil y Dreth Trafodiadau Tir, Bil y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a phapur diweddaraf y Trysorlys.

6. Roedd y Bil Casglu a Rheoli Trethi wedi pasio cyfnod 2, ac yn ôl pob tebyg byddai'n cael y Cydsyniad Brenhinol erbyn dechrau mis Ebrill. Byddai'r Biliau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael eu cyflwyno ar ôl etholiad y Cynulliad, gan ddibynnu ar gytundeb Llywodraeth newydd Cymru. Byddai cyfraddau a bandiau'r trethi newydd yn cael eu penderfynu tua mis Ebrill 2018.

Aelodaeth Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru

7.Cyflwynodd Claire McDonald yr eitem hon ar aelodaeth a chyfansoddiad BwrddAwdurdod Cyllid Cymru. Anerchwyd y grŵp gan yr Athro Laura McAllister ac AdeleBaumgardt o Chwaraeon Cymru, a oedd yn sôn am eu profiadau o ran recriwtioaelodau i'r Bwrdd, a sut yr oeddent wedi cynyddu amrywiaeth a gwella effeithiolrwyddy Bwrdd.

Siarter y Trethdalwyr

8.Cyflwynodd Richard Clarke grynodeb o hynt y gwaith ar Siarter y Trethdalwyr hyd ynhyn. Gofynnodd i'r Grŵp am eu sylwadau a'u hadborth ar gwestiynau'r arolwg a oeddwedi eu llunio.

Unrhyw Fater Arall

9.Rhoddodd Victoria Winckler y newyddion diweddaraf am brosiect Sefydliad Bevan inodi syniadau at gyfer trethi datganoledig posibl newydd. Roedd y prosiect yn tynnuat ei derfyn. Bellach roedd gwefan Sefydliad Bevan a'r cyfryngau cymdeithasol yncael eu defnyddio i hyrwyddo'r drafodaeth ar syniadau. Byddai'r adroddiad terfynol arbrosiect y trethi newydd yn cael ei lansio wedi etholiad y Cynulliad Cenedlaethol.