Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Beth yw'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a pham rydym yn ymgynghori arno?

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi ein nod tymor hwy a'n hamcanion cydraddoldeb dros gyfnod o bedair blynedd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cydweithio â phartneriaid ac aelodau o'n grwpiau rhanddeiliaid cydraddoldeb. Rydym am ddefnyddio'r ymgynghoriad cyhoeddus ehangach hwn i ddatblygu Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol gyda’n gilydd, ynghyd â Chamau Gweithredu ategol (yr ymyriadau neu'r pethau y byddwn yn eu gwneud i gyflawni ein Hamcanion) dros y pedair blynedd nesaf, ac ar yr un pryd, rydym am weithio i gyflawni ein Nod Hirdymor i sicrhau cydraddoldeb yng Nghymru.  

Agorodd yr ymgynghoriad ffurfiol ar 13 Tachwedd 2023 a daeth i ben ar 12 Chwefror 2024.

Derbyniwyd ymatebion gan ystod eang o sefydliadau (n = 56) ac unigolion (n = 10). Mae dadansoddiad o'r ymatebion gan sefydliadau ar gael yn Nhabl 1.

Tabl 1: dadansoddiad o'r ymatebion a gyflwynwyd yn ôl math o sefydliad
Math o sefydliad     Nifer yr ymatebion
Y trydydd sector / sector gwirfoddol27
Cysylltiedig â'r GIG / Gofal Cymdeithasol10
Llywodraeth leol 4
Corff statudol 4
Corff addysg 2
Corff crefyddol1
Arall       3
Heb nodi           5

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â'r Nod Hirdymor? Esboniwch eich ymateb, gan awgrymu unrhyw ddiwygiadau

Cafwyd 62 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Nododd 51 o ymatebwyr eu bod yn cytuno â'r nod hirdymor, gyda 6 ymatebydd yn anghytuno a 3 ymatebydd yn nodi eu bod yn ansicr. Nid oedd modd penderfynu a oedd 2 o’r ymatebion yn cytuno neu’n anghytuno.

Cyfeiriodd nifer o ymatebwyr (n = 8) at y ffaith bod y nod hirdymor yn cyd-fynd â'u nod sefydliadol, gyda 3 ymatebydd yn sôn bod y nod yn uchelgeisiol fel rhan o'u cyflwyniad.

Er eu bod yn cytuno â'r nod hirdymor, soniodd llawer o ymatebwyr am ffyrdd y gellid gwella'r nod. 

  • cyfeiriodd 5 ymatebydd at natur hirdymor y nod, gyda rhai yn awgrymu na ddarparwyd diffiniad i nodi beth mae hirdymor yn ei olygu, ac eraill yn nodi nad yw 2024 i 2028 yn hirdymor
  • roedd 4 ymatebydd yn dadlau fod angen cyfeiriadau ychwanegol at anghydraddoldebau iechyd o fewn y Cynllun
  • nododd 14 o ymatebwyr bod gweithredu, cyflawnadwyedd a chamau gweithredu yn bwysig. Roedd yr awgrymiadau i gefnogi hyn yn cynnwys:
    • cynnal gwerthusiadau/adolygiadau
    • cael dull cyson
    • cadw ffocws ar yr hyn sy'n gorwedd islaw pan fydd cynlluniau'n rhai lefel uchel
    • sicrhau bod gan unigolion o fewn cyrff cyhoeddus sgiliau, awydd a dealltwriaeth
    • cael camau gweithredu rhagnodol
    • cael eglurder a chamau gweithredadwy
  • tynnodd nifer o ymatebwyr (n = 7) sylw at atebolrwydd yn y cyflwyniadau, gan gyfeirio at gael mecanweithiau effeithiol ar waith yn ogystal ag eglurder ac arweinyddiaeth. Yn ogystal, soniwyd sut y byddai'r Cynllun yn cael ei orfodi a phwy fyddai'n gyfrifol am sicrhau bod y nod yn cael ei gyflawni
  • roedd 5 ymatebydd o’r farn bod monitro a gwerthuso'r Cynllun yn bwysig er mwyn olrhain cynnydd
  • codwyd pryder gan rai ymatebwyr (n = 7) ynglŷn â'r ffaith nad oes gorfodaeth i orfodi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i fabwysiadu'r Cynllun gan y gallai hyn arwain at:
    • diffyg aliniad/cysondeb
    • dinasyddion heb fawr o ddim i droi ato pan fyddant yn anhapus
    • effaith ar y defnydd a wneir o’r Cynllun
    • dibrisio'r Cynllun
    • loteri cod post o ran yr hyn y gall dinasyddion ei ddisgwyl
  • cyfeiriodd 3 ymatebydd at ddefnyddio'r term peidio â gwahaniaethu yn y Cynllun, gan gyfeirio at sut mae'n oddefol (n = 2) ac y dylid ei ddisodli gan wrth-wahaniaethu (n = 2)
  • codwyd yr angen am gyllid ychwanegol gan 4 ymatebydd
  • cyfeiriodd 1 ymatebydd at awdurdodau lleol yn cyhoeddi eu cynlluniau ar adeg wahanol i Lywodraeth Cymru, gydag ymatebydd arall yn adleisio hyn o ran Byrddau Iechyd
  • tynnwyd sylw at bwysigrwydd y rhyngweithiadau rhwng y gwahanol gynlluniau gan 3 ymatebydd
  • soniwyd am ymgysylltu gan 3 ymatebydd, mewn perthynas â phobl â phrofiadau bywyd (n = 1) a rhanddeiliaid (n = 2)

Ynghyd â'r themâu uchod, codwyd y pwyntiau canlynol fel rhan o'r ymatebion i'r ymgynghoriad:

  • byddai’n ddefnyddiol cael rhagor o gyfeiriadau at erthyglau penodol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) - byddai'n dangos bod y llywodraeth yn cymhwyso ei dyletswydd o roi sylw dyledus i hawliau plant o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, drwy sicrhau bod hawliau plant yn cael eu hystyried yn weithredol yn eu holl waith a’u bod yn gweithredu ar sail yr hawliau hynny
  • dylid cynnwys perthyn yn y nod hirdymor - mae'r elfen bwysig hon a’r a'r nod pwysig hwn i gymdeithas ffynnu yn aml yn cael ei golli
  • mae'n bwysig ystyried nid yn unig y sawl sy’n cael budd o ymyriad ond hefyd yr amgylchedd y maent wedi'u lleoli ynddo, megis cyrff cyhoeddus
  • efallai na fydd dull hirdymor yn creu ymdeimlad o frys, gan achosi oedi o ran cyflawni oherwydd terfynau cau pell
  • byddai'n well gan lawer o gyrff cyhoeddus fwy o strwythur, ochr yn ochr ag amodau a disgwyliadau cliriach o'r hyn y dylai eu cynlluniau cydraddoldeb ei gynnwys
  • mae'n hanfodol bod mynediad at gyfiawnder yn rhan greiddiol o’r Cynllun oherwydd, heb hynny, ni ellir gwarantu cydraddoldeb a hawliau dynol
  • gallai roi mwy o bwyslais ar newid strwythurol wedi'i anelu at sefydliadau, systemau a phrosesau
  • awgrymu ychwanegu pwynt bwled pellach sy'n adlewyrchu pwysigrwydd sicrhau bod gan unigolion y gallu i weithredu dros eu bywydau eu hunain a'u cymunedau
  • mae diogelwch menywod a merched yn haeddu ystyriaeth benodol yn y nod hirdymor
  • pryder bod fframio'r Nod Hirdymor a'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol o fewn sawl maes thematig yn creu seilos diangen wrth lunio polisïau
  • pwysig bod y Cynllun yn cydnabod bod gan bob rhiant, gan gynnwys rhieni Catholig, yr hawl i addysgu eu plant yn seiliedig ar eu ffydd a'u credoau
  • mae yna 2 nod hirdymor gwahanol sy'n ddryslyd (1 ar dudalen 22 ac 1 ar dudalen 25)
  • pryder ynghylch a ddylai grwpiau ymylol gael mwy o fynediad gan eu bod yn profi mathau gwahanol o anfantais a gwahaniaethu, gellid ei gydnabod o bosibl yn y Cynllun fel bod pwysoli ychwanegol yn cael ei roi i gyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol mewn ffordd sy'n mynd i'r afael yn rhagweithiol â chroestoriadedd
  • cydbwyso’r nod ag ystyriaethau lleol, rhanbarthol a byd-eang sy'n arwain at heriau o ran gweithredu a rhwystro effaith, angen cael dull hyblyg i addasu i anghenion lleol ac arferion gorau rhyngwladol
  • angen gweithredu strategaethau rheoli newid cadarn, gan gynnwys ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a rhaglenni addysg i feithrin dealltwriaeth a derbyniad, a mynd i'r afael â gwrthwynebiad
  • methu â gwahaniaethu'n glir rhwng "tegwch" a "cydraddoldeb" ac felly mae'r nod yn aneglur
  • pa ardaloedd o Gymru fyddai canolbwyntio arbennig arnynt (yn systemig ac yn ddaearyddol)?
  • pa effaith fydd rôl llywodraeth y DU yn ei chael ar y Cynllun a'i effeithiolrwydd?
  • gellid ystyried tarddiadau sy’n canolbwyntio ar fod yn weithredol yn hytrach na newid goddefol o roi tegwch, peidio â gwahaniaethu a chynhwysiant i gydnabod y rôl weithredol y mae pobl yn ei chwarae wrth gyflawni'r nod hwn
  • yn hoffi weld gofalwyr yn cael eu hadnabod a'u cydnabod am eu rôl yn y gymuned a'u cyfraniad i Gymru
  • sut gall y Cynllun gryfhau asesiadau o effaith ar gydraddoldeb i sicrhau eu bod yn ystyrlon ac yn gadarn?

O'r 6 ymateb i'r ymgynghoriad nad oeddent yn cytuno â'r nod hirdymor, roedd 4 gan unigolion, gyda'r 2 arall heb nodi a oeddent yn sefydliad neu'n unigolyn fel rhan o'u hymateb. Roedd y rhesymau dros beidio â chefnogi'r nod hirdymor yn cynnwys ei fod yn ddiangen (n = 2) ac nad oedd yn bosibl i bob dinesydd allu derbyn canlyniadau tecach (n = 1). Yn ogystal, dywedodd un ymatebydd nad yw anghenion menywod yn cael eu bodloni neu hyd yn oed yn cael eu hystyried o ddifrif, tra bod un arall yn gwneud y pwynt na ddylai cyflawni cymdeithas decach ddigwydd ar draul mathau eraill o ryddid; os yw rhyddid unigol yn cael ei golli oherwydd bod gwladwriaeth nani yn pennu pob a gymerir, yna mae anghydraddoldeb yn cael ei wreiddio yn y system.

Cwestiwn 2: A ydych yn cytuno â'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol arfaethedig uchod? Esboniwch eich ymateb, gan awgrymu unrhyw ddiwygiadau

Cafwyd 66 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Nododd 51 o ymatebwyr eu bod yn cytuno â'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol arfaethedig, gyda 7 ymatebydd yn anghytuno a 3 ymatebydd yn nodi eu bod yn ansicr. Nid oedd modd penderfynu a oedd 5 o’r ymatebion yn cytuno neu’n anghytuno.

Mae'r mwyafrif helaeth o'r ymatebion i'r cwestiwn hwn yn hir ac yn fanwl iawn, ac mae angen trin y crynodeb hwn o themâu o ymatebion fel casgliad o themâu cyffredin yn hytrach na rhestr helaeth o awgrymiadau ymatebwyr ar gyfer diwygiadau. Oherwydd y gwahanol ddulliau casglu, nid oedd yr ymatebion wedi'u safoni ac roeddynt yn amrywio'n fawr yn y ffordd yr oeddent yn ateb y cwestiwn, felly nid yw themâu yn gyffredinol wedi'u coladu o amgylch Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol penodol oni bai eu bod yn benodol berthnasol i'r pwynt.  

O'r 66 ymatebydd, derbyniodd 1 yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn llawn heb unrhyw sylw ac ni ddarparodd 11 unrhyw sylw penodol ar y Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol sy'n golygu bod y dadansoddiad canlynol yn seiliedig ar 54 o ymatebion.  

Roedd yr angen i'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol gael eu hategu gan bolisïau, strategaethau a deddfwriaeth gadarn a mesuradwy yn thema gref ar draws ymatebion (n=23).  

Nododd ymatebwyr bwysigrwydd casglu data (n=6) gan dynnu sylw at yr angen am gasglu data gwell a mwy effeithlon. Soniodd 2 ymateb am awgrym o ymgorffori casglu data gorfodol mewn perthynas â chefndiroedd economaidd-gymdeithasol gweithwyr i adlewyrchu cyfansoddiad y gweithlu yng Nghymru yn well, a sylwadau unigol mewn perthynas â'r angen am sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer yr ymrwymiadau ynghylch hawliau dynol, trafnidiaeth gyhoeddus a chyflogaeth.  

Soniodd ymatebwyr am ddiffyg cysylltiad â'r strategaethau presennol o fewn yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol (n=16), ac aliniad â nodau thematig 'A yw Cymru'n Decach 2023' wedi'u crybwyll yn benodol (n=4).  

Nodwyd y diffyg Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb cysylltiedig gan 2 ymatebydd.  

Nododd ymatebwyr nad yw'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol fel y'u cynigir yn glir nac yn fesuradwy (n=11). Roedden nhw'n teimlo nad oedd y Cynllun yn cynnwys manylion ar sut y byddai'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn cael eu cyflawni a sut y byddem yn gwybod eu bod wedi'u cyflawni. Roedd cred bod camau clir gydag amserlenni cysylltiedig ynghlwm wrthynt ac amlinelliad clir o sut y byddai'r cynnydd yn cael ei fesur ar goll. Dywedodd un ymateb fod yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol ar hyn o bryd yn 'darllen fel nodau trosfwaol' yn hytrach nag amcanion 'sy'n darparu cyngor clir i gyrff cyhoeddus'.  

Beirniadwyd yr iaith yn yr adroddiad am fod yn amwys ac yn brin o ymrwymiad gan ymatebwyr (n=11). Mae'r canlynol yn sampl o'r feirniadaeth:  

  • gormod o eiriau ac ymadroddion heb eu diffinio
  • ddim yn glir pwy sy'n berchen ar ba amcan a phwy sy'n gyfrifol;
  • nid yw geiriau fel 'ymwybyddiaeth', 'annog' a 'dealltwriaeth' yn creu newid nac yn dangos ymrwymiad i sicrhau bod hawliau'n cael eu gwireddu
  • mae'r iaith o fewn yr amcanion yn oddefol ac mae angen iddi fod yn weithredol
  • mae angen egluro geiriau fel 'dulliau ysgogi'

Roedd anghydraddoldebau iechyd yn thema gref o fewn yr ymatebion (n=16) gydag ymatebwyr yn teimlo bod angen crybwyll hyn yn benodol a mynd i'r afael â hyn o fewn yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol (nid oedd consensws ar ba Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol gan fod ymatebwyr yn cynnig sylwadau o wahanol gyfeiriadau) ac roedd rhai (n=3) yn nodi fod hyn angen ei amcan ei hun.  

Roedd croestoriadedd yn thema gyffredin arall, gydag ymatebwyr yn teimlo nad oedd yn cael sylw digonol a bod angen ystyriaeth fwy penodol arno (n=11). Nodwyd bod diffyg cyngor cyfraith gwahaniaethu sylfaenol neu ganolfannau ar gyfer cyngor a chymorth croestoriadol yng Nghymru, a bod hynny’n tanseilio'r ymrwymiad.  

Roedd Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5 ac Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6 yn aml yn cael eu grwpio gyda'i gilydd mewn ymatebion. Roedd 7 ymatebydd yn teimlo bod y themâu yn gorgyffwrdd i'r fath raddau fel y dylid eu cyfuno. Cododd 15 o ymatebwyr faterion penodol mewn perthynas â phresenoldeb 'trafnidiaeth gyhoeddus' yn Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5 gan deimlo ei fod allan o'i le ac nad yw'n gysylltiedig ag unrhyw un o'r nodau/gweithredoedd. Pwysleisiodd yr ymatebwyr pa mor bwysig oedd trafnidiaeth hygyrch a fforddiadwy yn eu barn hwy o ran cyflawni'r holl Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol ac roedd rhai (n=5) yn teimlo bod angen ychwanegu trafnidiaeth fel Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol ar wahân. Dywedodd un ymatebydd fod trafnidiaeth gyhoeddus presennol yn anaddas ar gyfer feganiaid, oherwydd y tanwydd a’r tecstilau a ddefnyddir.   

Roedd rhai (n=6) pobl yn teimlo bod Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5 yn rhy gul yn ei ddisgrifiad ac fod angen ei ehangu i gynnwys, defnydd o adnoddau cymunedol, mynediad at iechyd, cofrestru meddygon teulu ac ati. 

Roedd thema benodol o ddiffyg eglurder a dryswch mewn perthynas ag Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 5 a 6 gyda phobl yn cael trafferth deall beth oedd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol penodol hyn yn anelu at ei gyflawni, sut y byddent yn cael eu cyflawni a phwy oedd yn gyfrifol.  

Roedd pryderon ynghylch adnoddau yn ymddangos mewn llawer o'r ymatebion (n=17) gydag ymatebwyr yn teimlo bod llawer o sectorau eisoes wedi wynebu toriadau enfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bod cyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn afrealistig heb gynnydd sylweddol o ran cyllid ac adnoddau. Tynnwyd sylw at y trydydd sector fel rhan bwysig o allu cyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol ond nodwyd eu bod wedi wynebu'r toriadau mwyaf. Soniwyd am yr argyfwng costau byw fel rhwystr pellach i gyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol gan y byddai tlodi yn gyrru nifer cynyddol o bobl i wasanaethau yn chwilio am gymorth, fodd bynnag nid yw'r gwasanaethau hyn eisoes yn gallu ateb y galw.  

Nodwyd y diffyg ffocws a sylw penodol ar nodweddion gwarchodedig fel pryder gan 11 ymatebydd.  

Nid oedd 8 ymatebydd yn credu bod yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn talu digon o sylw i dlodi a sut mae'n effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau mewn cymdeithas (plant, y gymuned fyddar, pobl â nodweddion gwarchodedig).  

Roedd tai yn ymddangos fel thema mewn 5 o'r ymatebion, gydag ymatebwyr yn dweud bod methiant i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a pha mor hanfodol oedd mynd i'r afael â hyn i gyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol.  

Gwnaeth 14 o ymatebwyr sylwadau ar yr angen i fynd i'r afael â heriau strwythurol ac anghydraddoldebau systemig ac nid oeddent yn teimlo bod yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn darparu darlun clir o sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni.  

Derbyniwyd y ffocws ar brofiad bywyd yn gadarnhaol (n=8) gydag ymatebwyr yn cymeradwyo'r sylwadau a'r cynhwysiant ond yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhoi'r strwythurau ar waith i hwyluso hyn a sicrhau bod cydgynhyrchu go iawn yn digwydd, gyda phobl yn cael cydnabyddiaeth briodol am eu hamser a'u profiad. Nododd un ymatebydd, o ystyried y tebygolrwydd uchel y bydd y rhai sydd â phrofiad bywyd yn cael budd-daliadau lles, bod angen i Lywodraeth Cymru unioni'r sefyllfa bresennol o fudd-daliadau'n cael eu heffeithio'n negyddol pan fydd pobl yn derbyn cydnabyddiaeth am gymryd rhan mewn cydgynhyrchu.  

Derbyniodd Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7 lawer llai o sylwadau na'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol eraill ac yn gyffredinol cafodd ei dderbyn yn gadarnhaol. Fodd bynnag, roedd rhai (n=3) yn teimlo bod angen i ystyriaethau newid yn yr hinsawdd fod yn gryfach ac roedd rhai (n=9) yn codi pryderon bod rhai grwpiau yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan newid yn yr hinsawdd ac felly roedd angen ystyriaeth benodol arnynt (du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl â nodweddion gwarchodedig, menywod, y tlotaf yn ein cymdeithasau, feganiaid). Nododd ymatebydd hefyd fod y sector amgylcheddol yn arbennig o ddiffygiol o ran amrywiaeth, ac y dylid tynnu sylw at hyn fel maes i'w wella. Roedd 1 ymatebydd o'r farn na ddylid cynnwys Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7 o gwbl gan ei fod yn 'gost wastraffus'.  

Tynnwyd sylw at y ddarpariaeth Gymraeg a'i phwysigrwydd gan 2 ymatebydd.

Cwestiwn 3: Dywedwch wrthym am unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â chydraddoldeb a chydlyniant cymunedol yng Nghymru y dylid mynd i'r afael â nhw yn eich barn chi?

Cafwyd 57 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Roedd y cwestiwn hwn yn gwestiwn agored. Cafodd y themâu canlynol eu coladu o gyflwyniadau hir a manwl. 

Mae rhai sylwadau (n=5) yn awgrymu bod angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag allgáu digidol. Cydnabyddir bod mwy o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu ar-lein yn raddol, gan danlinellu pwysigrwydd meithrin cymunedau sydd â mynediad a sgiliau digidol digonol. Mae hyn yn effeithio'n arbennig ar y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig gyda chysylltedd digidol gwael. Mae'r ymatebion yn pwysleisio, o ystyried y toriadau cyllidebol i raglen Cymunedau Digidol Cymru, bod angen i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol gynnwys camau gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n deillio o allgáu digidol a thlodi. 

Nododd 5 ymatebydd yr angen i wella ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac agweddau'r cyhoedd tuag at anabledd. Credir bod hyn yn helpu i gael gwared ar rwystrau strwythurol a meithrin integreiddio. 

Roedd sylwadau (n=4) yn tynnu sylw at y bwlch cynyddol rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, yn enwedig mewn cyrhaeddiad addysgol a chyflogaeth. Galwodd ymatebwyr hefyd am weithredu i fynd i'r afael ag effaith barhaus pandemig COVID-19, sy'n ehangu'r bwlch yn barhaus.

Mae plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd wedi colli allan ar dair blynedd neu fwy o gymorth addysgol arbenigol fel Therapi Galwedigaethol, Therapi Iaith a Lleferydd a mwy o ganlyniad i gau ysgolion a newid gwersi i ddarpariaeth 'ar-lein'. O ganlyniad i'r bwlch cymorth hwn mewn dysgu yn ystod y ffenestr 2020-2021, collodd llawer o'r plant a'r bobl ifanc hyn ag anableddau dysgu y gefnogaeth hanfodol yn eu blynyddoedd datblygu a’u blynyddoedd addysgol. (S15) 

Cytunodd rhai ymatebwyr (n=4) ar yr angen i gefnogi teuluoedd â phlant a phobl ifanc ag anableddau corfforol a dysgu. Trafodir bod gwasanaethau yn aml yn methu ag ymgysylltu â theuluoedd, gan eu gadael i lywio'r heriau o ryngweithio â'u plant a chymdeithas ehangach ar eu pennau eu hunain. Mae hyn hefyd yn cael effaith ar drallod ariannol. 

Gan ddechrau ar enedigaeth, nid yw'r mwyafrif helaeth o fabanod byddar a'u teuluoedd yng Nghymru yn derbyn unrhyw gymorth o gwbl i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae'n rhaid i deuluoedd yng Nghymru dalu i ddysgu cyfathrebu â'u plant (S21).

Mae angen i'r Cynllun gydnabod, yn achos llawer o blant a phobl ifanc anabl eu teuluoedd nhw fydd yn cefnogi eu hymgysylltiad, a dylai gwasanaethau ddeall sut i weithio gyda'r teuluoedd cyfan, o ddiagnosis, i'r ysgol, cyflogaeth, tai, ymgysylltu cymdeithasol a dinesig a thu hwnt (S13).

Galwodd ymatebwyr (n=3) am fynediad cyfartal i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae pobl hŷn a phobl anabl yn wynebu anawsterau wrth gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. 

Roedd nifer o ymatebwyr (n=6) o’r farn bod croestoriadedd ar goll neu nad oedd yn sylw digonol. Awgrymwyd na ddylid trin pob un o'r 9 nodwedd warchodedig fel grŵp homogenaidd, ond yn hytrach gyda chefnogaeth, adnoddau a chyfleoedd wedi'u teilwra i gyflawni canlyniadau teg. 

Mynegodd 5 ymatebydd y dylai amcanion y Cynllun ddangos yn benodol ei effaith ar iechyd meddwl a llesiant, yn enwedig o ran dangos dulliau gwahanol ar gyfer gwahanol grwpiau. Soniodd yr ymatebwyr am blant a phobl ifanc, unigolion LHDTC+, pobl anabl, a'r rhai sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn benodol mewn perthynas â hyn. 

Mynegwyd pryder bod y Cynllun yn methu â gosod amcanion a chamau gweithredu mwy penodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae llawer o ymatebwyr (n = 6) yn cyfeirio at cysylltiad rhwng iechyd, tlodi ac anghydraddoldeb. 

Cyfeiriodd sawl ymatebydd (n=4) at y diffyg ffocws ynghylch deddfwriaeth ac ymrwymiad hawliau dynol. 

Mae'r rhan fwyaf o ymatebion yn ymhelaethu ar yr angen am gamau gweithredu manwl a diriaethol sydd â'r potensial i ddarparu arweiniad ac arweinyddiaeth i gyrff sy'n ymwneud â gweithredu'r Cynllun. Serch hynny, pwysleisiodd 7 ymatebydd na fyddai'r gweithredu yn bosibl heb fod cyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu i awdurdodau lleol neu sefydliadau'r trydydd sector.

Ynghyd â'r themâu uchod, codwyd y pwyntiau canlynol fel rhan o'r ymatebion i'r ymgynghoriad: 

  • tynnodd dau ymatebydd sylw at yr angen i adeiladu cymdeithas sy'n ystyriol o drawma
  • tynnodd dau ymatebydd sylw at y ffaith bod y Cynllun wedi methu â chydnabod tai digonol fel ffordd o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Galwodd dau ymatebydd am opsiynau tai diogel i fenywod sy'n dianc rhag trais domestig
  • soniodd nifer o ymatebwyr am yr angen i fynd i'r afael â gwahanol fathau o wahaniaethu, gyda phob ymatebydd yn tynnu sylw at agwedd wahanol: rhagfarn ar sail oedran, islamoffobia, hiliaeth rhyng-ethnig, bwlio mewn lleoliadau addysgol, gwahaniaethu yn erbyn mathau eraill o addysg, a gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion nad ydynt yn siarad Cymraeg
  • galwodd un ymatebydd am yr angen i gynnwys digartrefedd ieuenctid yn y Cynllun
  • credai un ymatebydd mewn ffocws cryfach ar gydraddoldeb rhywedd a rôl ymchwil deg mewn polisi a gwneud penderfyniadau
  • roedd un ymatebydd yn dadlau bod angen mynd i'r afael â digartrefedd ieuenctid 
     

Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno bod cael Egwyddorion Ymagwedd arfaethedig yn cryfhau'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol?

Cafwyd 59 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Nododd 37 o ymatebwyr eu bod yn cytuno bod yr Egwyddorion Ymagwedd arfaethedig yn cryfhau'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, gyda 7 ymatebydd yn anghytuno a 5 ymatebydd yn nodi eu bod yn ansicr. Nid oedd modd penderfynu a oedd 10 o’r ymatebion yn cytuno neu’n anghytuno.

Cyfeiriodd nifer o ymatebwyr (n = 9) mewn rhyw ffordd at yr Egwyddorion Ymagwedd yn mynd i'r afael â themâu trawsbynciol gan ddarparu fframwaith ar gyfer gweithredu, gan weithredu fel dogfen drosfwaol, sy’n tynnu gwahanol gynlluniau a pholisïau ynghyd mewn ffordd gydgysylltiedig i osgoi dyblygu a sicrhau cysondeb wrth gyflawni. Galwodd 3 o'r ymatebwyr hyn hefyd am fanylion pellach o ran y rôl gydlynu a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru a sut y bydd y strategaethau, y cynlluniau, yr amcanion, yr egwyddorion, yr allbynnau a'r gweithgareddau yn dod at ei gilydd dros y pedair blynedd nesaf i leihau anghydraddoldebau.

Soniodd 5 ymatebydd am ddeddfwriaeth / rheoleiddio fel rhan o'u cyflwyniadau, gan gyfeirio at sut maent yn effeithio ar y nodau cydraddoldeb, sut y gellir eu cymhwyso i gyflawni canlyniadau gwell a sut y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â diffyg cydymffurfio.

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd ymgysylltu gan 11 o ymatebwyr, gan gyfeirio at yr angen am well perthnasoedd, targedu amrywiaeth o bobl / rhanddeiliaid sydd â phrofiad bywyd / diddordebau personol, cymryd camau mor agos at y gymuned leol â phosibl, a'r angen am ymgysylltu'n gynnar ar ddechrau'r Cynllun / wrth ddatblygu polisi. 

Cododd 8 ymatebydd y mater o Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wrth ateb y cwestiwn hwn. Galwodd un ymatebydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mynediad i'r cyhoedd i bob Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, tra cyfeiriodd eraill at y rôl arweinyddiaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae wrth sicrhau bod Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cynnal gan bob adran y llywodraeth ac awdurdodau lleol, pryder ynghylch Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy'n cael eu cynnal ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud, a'r angen am welliannau i broses cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Cyfeiriwyd at adnoddau gan nifer o ymatebwyr (n = 9), gan gynnwys yr angen am adnoddau digonol i gefnogi gweithredu, a phryder bod disgwyl i awdurdodau lleol a'r trydydd sector gyflawni gydag adnoddau cyfyngedig.

Nododd 12 ymatebydd bwysigrwydd mesur cynnydd, gan gyfeirio at:

  • dangosyddion / targedau mesuradwy
  • fframweithiau monitro a gwerthusiadau
  • y diffyg targedau ac offer / dulliau sy'n golygu ei bod yn anodd mesur cynnydd
  • yr angen am fonitro, adolygu ac ymgysylltu rheolaidd
  • adrodd blynyddol ar gynnydd cyrff cyhoeddus yn erbyn Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol

Nodwyd yr angen am gamau gweithredu / canlyniadau diriaethol gan 9 ymatebydd. 

Cododd llawer o ymatebwyr (n = 8) y pwynt o sicrhau atebolrwydd am fodloni'r egwyddorion, gan gynnwys cydymffurfiaeth gan awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus.

Cyfeiriwyd at bwysigrwydd ymchwil a data gan rai ymatebwyr (n = 5), gan ofyn a oes ymchwil ar y bwlch gweithredu wedi'i wneud, cyfeirio yr angen i sicrhau bod lleisiau'r rhai mwyaf agored i niwed yn cael eu clywed a'r diffyg data sy'n bodoli.

Roedd 3 ymatebydd yn dadlau y dylai'r egwyddorion hyn fod eisoes ar waith. 

Ynghyd â'r themâu uchod, codwyd y pwyntiau canlynol fel rhan o'r ymatebion i'r ymgynghoriad:

  • Bydd cyfrif rhagweithiol am y ffactorau sylfaenol sy'n cyfrannu at anghydraddoldebau, megis y blociau adeiladu ar gyfer iechyd, yn helpu i brif ffrydio tegwch wrth ddylunio a chyflawni ymyriadau a datblygu polisi Llywodraeth Cymru.
  • Mae Egwyddorion Ymagwedd yn amwys ac mae angen gwaith pellach arnynt i fod yn effeithiol.
  • Croesawu egwyddor croestoriadedd ond eisiau annog mwy o ffocws ar sut mae nodweddion yn rhyngweithio i gynhyrchu gwahanol heriau neu anghenion gwasanaeth, yn hytrach na chyfuno’r meddwl ar lefel llunio polisi. h.y., canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na gwasanaeth.
  • Dim ond gwaith sy'n cael ei wneud yn uniongyrchol o dan fandad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sy'n cael ei gynnwys. Byddem yn argymell ymagwedd drawslywodraethol at gydraddoldeb.
  • Annog Llywodraeth Cymru i edrych ar ei gwaith mewn sectorau eraill i roi strategaeth gydraddoldeb eang lawn fel y bwriedir yma.
  • Wrth ddelio â phroblemau cymhleth, efallai na fydd atebion syml yn ddigonol, ac felly yr ymagwedd a ffefrir fyddai defnyddio dulliau lluosog. Er y gall fod anfantais i gyfyngu ar gwmpas y rhai sy'n cael eu helpu, mae dylunio ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn y pen draw o fudd i bawb. Fodd bynnag, gall canolbwyntio ar achos sylfaenol mwyaf trawiadol anghydraddoldeb wella bywydau llawer o bobl yn sylweddol a gwella gwasanaethau i eraill.
  • Byddem yn cwestiynu i ba raddau y bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu hymgorffori yng ngwaith partneriaid cyflenwi'r sector cyhoeddus, o ystyried nad yw'n ymddangos bod drafft presennol y Cynllun yn gwneud unrhyw ddarpariaethau yn hyn o beth.
  • Ddim yn argyhoeddedig y byddant yn gwireddu eu potensial llawn oni bai eu bod yn cael eu hintegreiddio mewn set o Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol sy'n adlewyrchu rôl newydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn llawn.
  • O ystyried bod ffocws y Cynllun yn un lefel uchel, ac yn cael ei gefnogi gan raglenni gwaith eraill, nid yw'n glir a fydd cynnwys egwyddorion gweithio ychwanegol yn cefnogi’r gwaith o gyflawni'r Cynllun.
  • Mae gwerthfawrogi 'dogfen fyw' yn helpu llunwyr polisi i addasu i anghenion sy'n newid, sy'n bwysig, ond rydym yn pryderu y gallai hyn effeithio ar osod targedau a chraffu - fodd bynnag, rydym yn croesawu'r ymrwymiad i lunio adroddiad blynyddol ar gynnydd y Cynllun.
  • Gwerthfawrogi bod y Cynllun yn anelu at edrych ar newid dros y tymor hwy, gyda'r bwriad o adeiladu ar y cynllun blaenorol a gweithio tuag at y nod hirdymor.
  • Angen bod mwy o eglurder ynghylch gwariant o fewn llinellau treuliau busnes penodol i wella tryloywder a chraffu.
  • Annog bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r bwlch rhwng y bwriad a'r cyflawniad wrth lunio polisïau, yn enwedig o ystyried maint y dasg o wella cydraddoldeb yng Nghymru mewn ffordd ystyrlon.
  • Yn adlewyrchu'n gywir yr angen i'r Cynllun allu ymateb yn gyflym i newidiadau yn yr amgylchedd polisi.
  • Croesawu'r tryloywder a ddangosir yn yr ymagwedd.
  • Mae’n galonogol gweld yr ymrwymiad a'r cyfranogiad ar draws Llywodraeth Cymru i weithredu'r Cynllun hwn.
  • Yn hytrach na datgan 'byddwn yn ceisio..' byddai defnyddio 'byddwn ni' yn iaith gryfach sy'n nodi'r penderfyniad i fynd i'r afael â'r bwlch gweithredu.
  • Galluogi'r strategaeth i barhau i fod yn berthnasol i gamau gweithredu a allai gael eu datblygu yn y dyfodol ar draws gwahanol raglenni gwaith grwpiau lleiafrifol.
  • Mae cydnabod a mynd i'r afael â chroestoriadedd yn sicrhau bod polisïau ac ymyriadau wedi'u teilwra i brofiadau cymhleth ac amrywiol unigolion, gan hyrwyddo canlyniadau mwy teg.
  • Mae anghenion menywod biolegol yn cael eu hanwybyddu.
  • Dim rhesymeg glir yn ymwneud â dewis egwyddorion.
  • Fel gyda'r nod hirdymor a'r amcanion, maent yn uchelgeisiol, ac mae angen ystyried y cyflawniadau realistig y gellir eu gwneud o fewn pedair blynedd.
  • Nid yw egwyddorion yn cynnwys galluogwyr i gefnogi pobl i weld eraill fel unigolion, mae angen y sgiliau ar bobl i wneud hyn – sut ydyn ni'n darparu'r sgiliau hynny?
  • Uchelgeisiol o ystyried y sefyllfa ariannol ar hyn o bryd.
  • Sut mae'r Cynllun hwn yn cael ei gofleidio gan bob gweinidog yn Llywodraeth Cymru?

Cwestiwn 5: Os felly, a ydych yn cytuno mai'r rhain yw'r Egwyddorion Ymagwedd cywir? Esboniwch eich ymateb, gan awgrymu unrhyw ddiwygiadau

Mae'r dadansoddiad yn seiliedig ar 62 o ymatebion. Cytunodd 35 ymatebydd mai dyma'r egwyddorion ymagwedd cywir, tra bod 6 ymatebydd yn anghytuno a nododd 5 arall nad oeddent yn gwybod. Nid oedd modd penderfynu a oedd yr 16 ymateb arall yn cytuno neu’n anghytuno. 

O'r bobl a oedd yn cytuno (n=35), roedd ymatebwyr yn canmol yr ymagwedd groestoriadol a'r bwriad i gysylltu a thynnu gwaith cydraddoldeb ehangach at ei gilydd, gan leihau dyblygu a dulliau seilo o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau. 

O'r ymatebwyr a oedd yn anghytuno (n=6), roedd beirniadaeth yn canolbwyntio ar rethreg wag gydag 1 ymatebydd yn teimlo ei fod yn anwybyddu hawliau menywod biolegol.

Casglwyd y themâu canlynol o ymatebion yr ymatebwyr hynny a roddodd sylwadau ychwanegol ar gyfer y cwestiwn (n=41). 

Roedd y thema gryfaf a ddaeth i'r amlwg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y strwythurau a fyddai'n sail i'r egwyddorion, gydag ymatebwyr (n=14) yn codi pryderon nad oedd gwybodaeth glir wedi'i darparu ar sut y byddai'r egwyddorion yn cael eu gweithredu. Roedd ymatebwyr yn credu bod angen fframwaith clir ynghlwm wrth yr egwyddorion a fyddai'n nodi sut y byddai'r egwyddorion yn cael eu cyflawni ynghyd ag amserlenni clir, cerrig milltir, atebolrwydd, mecanweithiau i sectorau eraill arwain a chyfrannu, a chynlluniau pendant ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso. Cododd ymatebwyr (n=2) bryderon hefyd am lefelau’r adnoddau sydd eu hangen i weithredu'r egwyddorion. 

Nodwyd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel mecanwaith pwysig o sicrhau bod egwyddorion yn cael eu rhoi ar waith, gyda 9 ymatebydd wedi crybwyll hyn yn benodol. Fe'u hystyriwyd fel ffordd o ddangos ymgysylltiad ystyrlon â gwahanol grwpiau a chymunedau. Roedd ymatebwyr yn teimlo y dylid darparu mynediad i'r cyhoedd i'r Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb er mwyn gwella tryloywder. Codwyd pryderon am ansawdd a chysondeb Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar hyn o bryd ac roedd ymatebwyr yn teimlo bod angen eu cryfhau.

Nododd ymatebwyr (n=5) nad oedd yr iaith o fewn yr egwyddorion yn ddigon cryf na chlir. Cynigiwyd awgrym penodol ynglŷn â'r defnydd o 'brif ffrydio' gan fod yr ymatebydd yn teimlo ei fod yn rhy debyg i derminoleg arall a ddefnyddir yn y sector cydraddoldeb, gan deimlo y byddai'n well defnyddio’r gair ‘gwreiddio’ yn ei le. 

Rhoddodd 9 ymatebydd adborth penodol mewn perthynas â diwygio neu ychwanegu egwyddorion penodol. Roedd awgrymiadau ar gyfer egwyddorion ychwanegol yn cynnwys: 

  • egwyddor o weithio tuag at arweinyddiaeth leiafrifol ar faterion sy'n effeithio fwyaf ar y lleiafrifoedd hyn
  • pedwaredd egwyddor i'w chynnwys, gydag ystyriaeth benodol i ddadansoddi, adborth a chanlyniadau
  • ychwanegu egwyddor arall ‘i wella dealltwriaeth y cyhoedd o gydraddoldeb a’i fanteision i bawb’
  • egwyddor ynghylch ymyrraeth gynnar

Awgrymwyd y diwygiadau canlynol: 

  • diwygio'r drydedd egwyddor i 'Grymuso grwpiau ymylol fel bod Cymru'n trosglwyddo'n gyflym i gydraddoldeb i bawb
  • teilwra'r egwyddorion i fynd i'r afael yn benodol â digartrefedd ieuenctid a cham-drin domestig
  • adolygu'r egwyddor gyntaf i ymgorffori ystyriaeth ddyledus i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • cynnwys amcanion ychwanegol sy'n ymwneud ag 'Amrywiaeth mewn Democratiaeth' a gwaith ymyrraeth gynnar o fewn cymunedau
  • cyfuno egwyddorion 2 a 3 i gwmpasu, 'gallu cael eu hadnewyddu i ystyried cyfeiriad polisi sy'n dod i'r amlwg a deddfwriaeth sy'n effeithio ar gydraddoldeb, boed hynny'n cael ei wneud yng Nghymru neu, yn ehangach, ledled y DU'

Er bod y themâu uchod yn cyfleu rhywfaint o'r consensws ar draws yr atebion i gwestiwn 5, codwyd llawer o bwyntiau o fewn ymatebion unigol nad oeddent yn gorwedd yn daclus ynddynt. Mae'r canlynol yn rhoi crynodeb o'r sylwadau unigol hyn: 

  • mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn hanfodol i gyflawni'r egwyddorion
  • angen osgoi nodi nodweddion gwarchodedig penodol (n=2)
  • angen canolbwyntio'n benodol ar nodweddion gwarchodedig (n=2), ffydd a chred athronyddol
  • mae angen i groestoriadedd ganolbwyntio mwy ar y lefel unigol yn hytrach nag ar lefel y sector
  • credu bod angen cynnal ymchwil i sefydlu pam mae'r bwlch rhwng gweithredu a chyflawni yn bodoli fel y gellir mynd i'r afael ag ef mewn ffordd sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • mae angen canolbwyntio'n benodol ar gydgynhyrchu ar (n=2)
  • dylid ymgynghori â darparwyr gwasanaeth pwysig ar yr heriau sy'n wynebu wrth weithredu polisïau a chynlluniau
  • dylid sefydlu pwyllgor annibynnol sy'n cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd a phrofiad proffesiynol o gydraddoldeb a nodweddion gwarchodedig i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a darparu awgrymiadau ar weithredu'r strategaeth
  • cynigiodd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ddau ddarn penodol o adborth mewn perthynas â phobl fyddar sy’n defnyddio iaith arwyddion Prydain
  • gofynnwn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i greu cynllun 5 mlynedd (mewn cydweithrediad agos â Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain) i uwchsgilio pobl fyddar Cymru sy’n defnyddio iaith arwyddion Prydain i ymgymryd â chyfrifoldebau am ddylunio, cyflwyno, rheoli a gwerthuso materion sy'n gysylltiedig ag iaith arwyddion Prydain yng Nghymru
  • mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn credu bod gan bobl fyddar sy’n defnyddio iaith arwyddion Prydain statws categori croestoriadol / deuol fel lleiafrif o ran anabledd a lleiafrif o ran iaith. Yn aml, darperir gwasanaethau iaith arwyddion Prydain gan ddefnyddio cyllid anabledd, ac i'r gwrthwyneb. Gall y croestoriadedd hwn achosi llawer o ddryswch a gall fod yn anodd datrys hynny; ac mae wedi cael ei ddefnyddio i rwystro pobl fyddar Cymru rhag cymryd arweinyddiaeth ar wneud penderfyniadau a llunio polisïau ar iaith arwyddion Prydain a materion sy’n ymwneud â bod yn fyddar. Mae hyn yn creu canlyniadau gwael

Cwestiwn 6: A ydych yn credu y bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn ein helpu i gyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol? Esboniwch eich ateb

Cafwyd 55 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Nododd 36 o ymatebwyr eu bod yn cytuno y bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn helpu i gyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol gyda 10 ymatebydd yn anghytuno a 4 ymatebydd yn nodi eu bod yn ansicr. Nid oedd modd penderfynu a oedd 5 o’r ymatebion yn cytuno neu’n anghytuno. 

Er eu bod yn cytuno y bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn helpu i gyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, roedd llawer o ymatebwyr (n = 10) o’r farn nad yw pob Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol yn dangos cydberthynas uniongyrchol â'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Roedd ymatebion yn amrywio, gyda rhai yn nodi mai dim ond un i dri o’r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol oedd â chysylltiad clir. 

Dadleuodd 5 ymatebydd bwysigrwydd sicrhau bod pob nod yn dangos ei berthnasedd i'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Roedd nifer o ymatebwyr (n=7) o blaid cynnwys camau gweithredu manwl sy'n sail i'r amcanion i ddeall eu heffaith ymarferol ar gyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. 

Tynnodd rhai ymatebwyr (n=5) sylw at rôl hanfodol casglu data cadarn, o ansawdd uchel, gan bwysleisio'r angen am ddadansoddi trwy lens croestoriadol. Mynegodd dau ymatebydd y gred bod diffyg o ran casglu data ynglŷn â chefndiroedd economaidd-gymdeithasol ar hyn o bryd, megis diffyg gwybodaeth am bobl anabl.

Roedd y gofyniad i fonitro, gwerthuso a mesur llwyddiant yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol mewn perthynas â'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn thema gref (n=10). Ychwanegodd 3 ymatebydd yr angen i fesur effaith bresennol y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol o ystyried nad yw'n dangos gwelliannau mawr. 

Dywedodd 6 ymatebydd fod yr heriau ariannol sy'n bodoli yng Nghymru, megis effaith y pandemig neu'r argyfwng costau byw, yn cyflwyno anawsterau o ran cyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Rhaid i'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol gydnabod y sefyllfa hon ac adeiladu arni. 

Codwyd pryder gan rai ymatebwyr (n=7) ynglŷn â'r her o gyflawni oherwydd y toriadau ariannol mewn gwasanaethau cyhoeddus a chostau cynyddol ym maes gofal cymdeithasol ac addysg. Heb gynnydd sylweddol i gyllid ac adnoddau, mae cyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ymddangos yn amwys ac afrealistig. 

Cododd 7 ymatebydd yr angen am drawsnewid yn y cydweithrediad â'r sector cyhoeddus. Maent o blaid mesurau i sicrhau eu bod yn atebol nid yn unig am gydymffurfio â'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol ond hefyd am gadarnhau eu penderfyniadau gyda thystiolaeth. Nododd 3 ymatebydd y gallai hyn arwain at newid yn y ffordd o wneud penderfyniadau, sef newid o gael ei yrru'n bennaf gan effeithlonrwydd ariannol a rheoli argyfyngau i ymrwymiad strategol, hirdymor i'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. 

Pwysleisiodd rhai ymatebwyr (n=4) y gwerth mewn ymgysylltu â phobl â phrofiadau bywyd i ddeall y materion croestoriadol a'u cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau. 

Mae'r pwyntiau canlynol yn cynrychioli cynigion a gyflwynwyd gan ymatebwyr ar wahân: 

  • Gallai mwy o bwyslais ar iechyd helpu’r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol i gyflawni'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol - mae'r diffyg darpariaethau a thriniaethau yn golygu bod pobl â salwch yn gorfod gadael y gweithlu neu'n methu ail-ymuno â’r gweithlu
  • Gwella ansawdd addysg mewn cymdogaethau difreintiedig
  • Ystyried integreiddio dull sy’n canolbwyntio ar y teulu wrth asesu effaith economaidd-gymdeithasol
  • Ystyried materion sy'n ymwneud â thai
  • Ystyried materion fel tlodi tanwydd, tlodi hylendid, a thlodi rhwng y cenedlaethau
  • Gwella mynediad at wasanaethau i fenywod a phobl anabl er mwyn cynyddu cyfleoedd i gyfrannu at yr economi
  • Ystyried y croestoriad rhwng anfantais economaidd a cham-drin ('Mae menywod yn llai abl i ddianc rhag tlodi, ac mae hyn yn fwy gwir am fenywod sydd ag anghenion cymorth niferus fel y rhai sydd wedi profi rhyw fath o drais yn erbyn menywod. Mae hyn yn arbennig o wir am fenywod Du a lleiafrifol, menywod hŷn, menywod byddar ac anabl, a menywod LHDTC+')
  • Ystyried cynnwys canllawiau statudol ar ddarparu cymorth i bobl ag anableddau dysgu yn y gwaith
  • Ystyried cynnig bod cyflogwyr yn mesur cefndir economaidd-gymdeithasol eu gweithwyr a'u recriwtiaid posibl
  • Cefnogi cyflogwyr i roi cyfleoedd cyflogaeth boddhaol i bobl ag anableddau dysgu
  • Gwella mynediad cyhoeddus i drafnidiaeth i bobl anabl er mwyn hwyluso cymudo di-dor i'r gwaith

Cwestiwn 7: A ydych yn credu y bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn helpu i hyrwyddo ac ymgorffori hawliau dynol yng Nghymru Esboniwch eich ateb

Cafwyd 55 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Dywedodd 22 o ymatebwyr eu bod yn credu y bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn helpu i hyrwyddo ac ymgorffori hawliau dynol yng Nghymru; nid oedd 9 ymatebydd yn credu hyn ac atebodd 5 ymatebydd nad oeddent yn gwybod. Mewn 19 o'r ymatebion i'r cwestiwn hwn, nid oedd yn glir a oedd yr ymatebydd yn credu y bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn helpu i hyrwyddo ac ymgorffori hawliau dynol yng Nghymru.

Cyfeiriodd 10 ymatebydd mewn rhyw ffordd at weithredu'r Cynllun, gan awgrymu bod llwyddiant o ran hyrwyddo ac ymgorffori hawliau dynol yn dibynnu ar hyn, ac yn galw am ragor o fanylion ar sut y bydd gweithredu yn cael ei gyflawni yn ymarferol, gan gynnwys yr angen am ddarparu amserlenni.

Codwyd yr angen i fesur a monitro'r Cynllun mewn perthynas â hawliau dynol gan 6 ymatebydd, a chyfeiriodd 2 ymatebydd at yr angen i orfodi'r Cynllun.

Soniodd nifer o ymatebwyr (n = 11) yn benodol am gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig (Cenhedloedd Unedig) ar ryw adeg yn eu hymateb i'r cwestiwn hwn. Dywedodd rhai ymatebwyr eu bod yn croesawu'r ymrwymiad i ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â phobl anabl, menywod a phlant yng nghyfraith Cymru. Roedd ymatebwyr eraill yn teimlo bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu "gwanhau" yn y Cynllun heb gyfeiriad penodol at sut y bydd ymgorffori’r rhain yng nghyfraith Cymru yn digwydd. Gwnaed cyfeiriadau eraill at ddeddfwriaeth gan 10 ymatebydd, gyda rhai yn galw ar y Cynllun i ganolbwyntio mwy ar ddeddfwriaeth hawliau dynol.

Dywedodd 6 ymatebydd eu bod yn croesawu codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol, tra cyfeiriodd 2 ymatebydd at yr angen i esbonio yn y Cynllun beth yw ystyr hawliau dynol a'u bod yn berthnasol i bawb. Roedd sawl ymatebydd (n = 10) yn awyddus i weld y Cynllun yn mynd ymhellach trwy ei gwneud yn glir sut y gall pobl weithredu pan fydd eu hawliau'n cael eu torri, gan gynnwys yr angen am ddarparu offer / dulliau i herio ac adnoddau i gefnogi hyn, gan awgrymu nad yw codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol ar ei ben ei hun yn ddigonol.

Gofynnodd 2 ymatebydd am ymestyn y dyletswyddau sylw dyladwy fel bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus hyrwyddo ac ymgorffori hawliau dynol yn hytrach na’u hannog i wneud hynny’n unig. Cododd 4 ymatebydd y pwynt fod angen cydweithio â phartneriaid / rhanddeiliaid / cymunedau fel bod pawb yn derbyn y Cynllun ac yn helpu i sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf.

Nododd 17 ymatebydd fod angen i’r Cynllun gefnogi grwpiau agored i niwed penodol, gan gynnwys:

  • lleiafrifoedd ethnig
  • pobl anabl, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu a'r rhai sy'n fyddar / yn defnyddio iaith arwyddion Prydain
  • menywod
  • ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan gynnwys pobl nad oes hawl ganddynt i dderbyn arian cyhoeddus (NRPF)
  • pobl ddigartref
  • goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • pobl LHDTC+
  • hen bobl
  • plant / pobl ifanc
  • cleifion
  • gweithwyr cymorth gofal
  • pobl sy'n dilyn crefyddau ac yn arddel credoau, gan gynnwys feganiaid
  • pobl â sensitifrwydd maes electromagnetig / Gorsensitifrwydd Electromagnetig
  • pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig

Nododd 7 ymatebydd fod rhywbeth ar goll yn y Cynllun, gan gynnwys:

  • cydnabyddiaeth bod tai da yn hanfodol i gyflawni pob agwedd ar y Cynllun
  • amcan ynghylch iechyd
  • integreiddio perthyn o fewn yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol lle bo hynny'n berthnasol
  • data: heb faint sampl digonol, nid yw'n bosibl canfod gwahaniaethau ystadegol arwyddocaol, sydd yn ei dro yn ei gwneud hi'n amhosibl arsylwi tueddiadau a chreu ymyriadau lle bo angen. Gall hwn fod yn fater hawliau dynol sy'n gofyn am ddull creadigol i'w ddatrys. Gellir cysylltu â grwpiau cymunedol gyda'r nod o wella safonau byw gan ddefnyddio'r data a gasglwn. Dylid trefnu cyfarfodydd dilynol gyda grwpiau cymunedol, a gall aelodau o'r gymuned hefyd dderbyn hyfforddiant ar gasglu data ymchwil gymdeithasol;
  • ymrwymiad diffiniedig cliriach i'r model cymdeithasol o anabledd yng Nghymru
  • mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn gofal cymdeithasol
  • yr hawl i anadlu aer glân a'r hawl i adsefydlu
  • esboniad o sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r sylwadau terfynol (lle bo'n briodol o fewn hawliau datganoledig) o'r saith Confensiwn y mae'r DU wedi'u cadarnhau

Ynghyd â'r themâu uchod, codwyd y pwyntiau canlynol fel rhan o'r ymatebion i'r ymgynghoriad:

  • Nid yw pobl yn gwybod ble i fynd am help a chefnogaeth mewn cysylltiad â hawliau dynol.
  • Os yw'r mecanweithiau atebolrwydd priodol yn cael eu rhoi ar waith, rhoi cyfrifoldeb ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddarparu tystiolaeth o gydymffurfiaeth â hawliau dynol a’r rhai sy’n craffu i gael hyfforddiant a bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i graffu ar gynlluniau strategol yn erbyn gofynion deddfwriaethol hawliau dynol.
  • Mae dyrannu adnoddau’n briodol a sicrhau adnoddau digonol ar gyfer gwasanaethau cymorth a chydweithio â sefydliadau perthnasol yn hanfodol.
  • Gallai'r nodau a restrir fod yn gryfach. Ar hyn o bryd, maent wedi'u hysgrifennu mewn iaith fwy goddefol na gweithredol, ac efallai nad yw hynny’n rhoi'r sicrwydd sydd ei angen y bydd y nodau yn cael eu cyflawni.
  • Gellid ystyried dileu "yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd ledled Cymru", a chynnwys "ledled Cymru" yn unig gan nad lleoedd daearyddol yn unig yw cymunedau.
  • Yn y datganiad "Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hyrwyddo a lle maent yn sail i bob polisi cyhoeddus", yn ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Lywodraeth Cymru neu bobl Cymru. A ellid ail-eirio hyn mewn rhyw ffordd?
  • Yn pryderu am y diffyg ymgysylltu ystyrlon yn y broses Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ac yn gobeithio y byddai cynnwys yr amcan hwn yn annog y defnydd o Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant ar lefel fwy manwl ac ystyrlon a thrwy ddull ystyriol a rhagweithiol ar draws y llywodraeth.
  • Model posibl y gallai Llywodraeth Cymru ei fabwysiadu neu dynnu ysbrydoliaeth ohono yw Cynllun Gweithredu Colofn Hawliau Cymdeithasol Ewrop. Mae Colofn Hawliau Cymdeithasol Ewrop yn nodi 20 o egwyddorion a hawliau allweddol sy'n hanfodol ar gyfer marchnadoedd llafur a systemau diogelu cymdeithasol teg sy’n gweithredu'n dda. Mae’n alinio'n gryf â llawer o'r uchelgeisiau a restrir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, megis y rhai sy'n ymwneud â chyflogaeth deg. Mae'r egwyddorion wedi'u nodi fel camau gweithredu pendant ochr yn ochr â phrif dargedau i'w cyflawni gan yr UE erbyn 2030. Rhennir y gwaith o gyflawni ar draws sefydliadau'r UE, awdurdodau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, partneriaid cymdeithasol a chymdeithas sifil.
  • Yn yr Almaen gall busnesau sector preifat gofrestru gyda’r Charta der Vielfalt, menter gorfforaethol i hyrwyddo’r gwaith o gydnabod, gwerthfawrogi ac integreiddio amrywiaeth mewn diwylliant busnes. Gallai creu siarter amrywiaeth debyg yng Nghymru helpu i symud tuag at nodau ac amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Byddai hynny hefyd yn rhoi hwb i lwyddiant busnesau a'u gwneud yn gyflogwyr mwy deniadol drwy ddefnyddio amrywiaeth eu gweithwyr.
  • Mae'r ymadrodd "cyngor croestoriadol" yn ddefnydd braidd yn anghonfensiynol o'r term croestoriadedd - awgrymwn y gellir cyfleu'r weithred a nodwyd yn well os caiff ei mynegi fel "gweithio i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gwybod ble i ddod o hyd i gyngor a chymorth priodol, gan gynnwys cyngor a chymorth wedi’i deilwra i’r sawl sy’n profi ffurfiau croestoriadol o wahaniaethu".
  • Mae'r Hawl i Adsefydlu yn gysylltiedig â'r Hawl i Iechyd. Nid yw'n bosibl cael y safon uchaf o iechyd heb fynediad i adsefydlu - Dylai gwasanaethau fel adsefydlu fod ar gael i bawb, yn hygyrch i bawb, yn dderbyniol (h.y. yn briodol) ac o ansawdd uchel.
  • Gallai gynnwys Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol ychwanegol sy'n canolbwyntio ar hawliau dynol neu adolygu'r camau gweithredu "byddwn yn" yn gyffredinol i sicrhau bod un neu fwy ohonynt yn ymwneud yn uniongyrchol â hyrwyddo'r Siarter Hawliau Dynol a chamau tebyg.
  • Pwysig bod pob grŵp poblogaeth yn deall unrhyw ddull gaiff ei fabwysiadu. Mae gwaith ar gydlyniant yn hanfodol i leihau tensiynau cymunedol. Mae camau gweithredu i hyrwyddo ymwybyddiaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol os yw'r rhain yn mynd i'r afael â holl gymunedau Cymru.
  • Mae sicrhau bod amcanion nid yn unig yn uchelgeisiol ond hefyd yn gyflawnadwy yn hanfodol.
  • Gall cydbwyso anghenion amrywiol gwahanol gymunedau gyflwyno heriau, ac mae'n bwysig gwrando ar adborth ac addasu strategaethau yn unol â hynny.
  • Ddim yn credu bod Llywodraeth Cymru yn deall neu'n bodloni gofynion y Siarter Hawliau Dynol.
  • Aneglur beth rydych chi'n bwriadu ei wneud mewn gwirionedd. Tegwch? Cydraddoldeb? Pryd ydych chi'n golygu tegwch? Pryd ydych chi'n golygu cydraddoldeb?
  • A ddylai Cymru wthio i ennill mwy o rym yn y maes hwn neu gael ei siarter hawliau ei hun, o ystyried bod y maes pwnc hwn a meysydd pwnc cysylltiedig yn dod o dan reolaeth Llywodraeth Prydain?
  • Mae llawer yn dibynnu ar y graddau y mae gofynion sy’n gwrthdaro yn cael eu bodloni a'u rheoli.
  • Defnyddiol cael grid gyda chyfeiriadau rhwng hawliau dynol ac amcanion ac yna dilyn hyn gyda set gynhwysfawr o gamau gweithredu i ddeall beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol i’r llywodraeth.
  • Nid yw'r ddogfen yn adlewyrchu ymrwymiad i hawliau dynol yn unol â'r Rhaglen Lywodraethu.
  • Diffyg ffocws ar hawliau dynol.
  • Nid yw’n ddogfen arbennig o uchelgeisiol.
  • Mae llawer o sôn yng Nghymru am ymgorffori hawliau dynol ond mae'n ymddangos bod y Cynllun yn fwy seiliedig ar gydraddoldeb yn hytrach na hawliau dynol.

Cwestiwn 8: A oes gennych unrhyw bwyntiau penodol pellach yr hoffech eu codi mewn perthynas â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol? 

Cafwyd 59 o ymatebion i’r cwestiwn hwn. Roedd y cwestiwn hwn yn gwestiwn agored. Cafodd y themâu canlynol eu coladu o gyflwyniadau hir a manwl. 

Roedd y thema gryfaf (n=22) a ddaeth i'r amlwg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn ymwneud â datblygiad a dyluniad y Cynllun. Roedd rhai ymatebwyr yn croesawu ei nod o gydgrynhoi cynlluniau amrywiol, gan ei gweld yn fuddiol i gyrff cyhoeddus ddeall cydberthynas y gwahanol gynlluniau a blaenoriaethu mentrau cydraddoldeb gyda'i gilydd yn hytrach na dilyn amcanion unigol. Serch hynny, mynegodd llawer o ymatebwyr eu pryderon am y posibiliad y gallai’r Cynllun ddod yn ddogfen fapio yn unig, heb ymrwymiad i gyflawni canlyniadau realistig a phenodol. 

Pwysleisiodd 5 ymatebydd yr angen i weithredu amserlenni realistig ar gyfer y Cynllun hwn ac eraill sy'n cyd-fynd ag ef. Roeddent yn sôn am yr angen am gamau gweithredu manwl a phenodol o ran amser i sicrhau gweithrediad effeithiol. 

Galwodd 12 ymatebydd am fonitro, gwerthuso ac adrodd ar ganlyniadau ac ymrwymiadau'r Cynllun drwy asesiad effaith. Mae sefydlu metrigau ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn llwyddiannus yn cael ei ystyried yn hanfodol i ddangos cynnydd sylweddol a chyflawni effaith ystyrlon, yn y byd go iawn. Ar ben hynny, roedd rhai ymatebwyr eisiau gweld y rhesymeg y tu ôl i'r mesuriadau a ddewiswyd. 

Nododd rhai ymatebwyr (n=5) y gallai monitro wella atebolrwydd gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Cytunodd dau ymatebydd y dylid trin y Cynllun a chydraddoldeb fel cyfrifoldebau deddfwriaethol eraill. 

Roedd mwy o fanylion ar gasglu data yn bwnc arall a godwyd. Mae ymatebwyr (n=5) eisiau deall sut a pha ddata cydraddoldeb fydd yn cael ei gasglu, ei ddadansoddi a'i ddefnyddio i lywio'r broses o wneud penderfyniadau a mesur cynnydd. Mae ymatebydd arall yn credu y bydd yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddylunio a chomisiynu systemau sy'n casglu'r data perthnasol. 

Gofynnwyd am ragor o fanylion am gydgynhyrchu a sut y bydd yn digwydd hefyd, gan ei fod yn cael ei ystyried yn ffynhonnell hanfodol arall o ddata ar gyfer datblygu a gweithredu'r Cynllun. Ystyriwyd bod cydweithio â'r cyhoedd ac yn enwedig ag awdurdodau lleol i deilwra'r egwyddorion i'r cyd-destun lleol yn hanfodol. Fodd bynnag, cododd 5 ymatebydd bryderon mai’r cyllid a’r adnoddau a ddyrennir i'r cyrff hyn a gwasanaethau eraill yn y pen draw fydd yn pennu llwyddiant y Cynllun. 

Ynghyd â'r themâu uchod, codwyd y pwyntiau canlynol fel rhan o'r ymatebion i'r ymgynghoriad:

  • Mynegodd 2 ymatebydd eu pryderon ynglŷn â therminoleg ynghylch 'Cymru iachach: cymdeithas lle ... dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.' a 'Iechyd: galluogi cyfrifoldeb personol' gan fod yr iaith yn rhoi cyfrifoldeb ar yr unigolyn a chyfrifoldeb cyfyngedig ar gyrff cyhoeddus am sicrhau iechyd a diogelwch dinasyddion.
  • Awgrymodd 2 ymatebydd y dylid ystyried ymgorffori asesiad o’r effaith ar iechyd yn y Cynllun.
  • Awgrymodd 1 ymatebydd y gellid ychwanegu'r egwyddor o 'weithredu cadarnhaol' fel y chweched 'ffordd o weithio'.
  • Awgrymodd 2 ymatebydd y gellid ystyried canfyddiadau adroddiad diweddaraf 'A yw Cymru'n Decach' o fewn y Cynllun.
  • Cododd ymatebwyr unigol ar wahân wahanol feysydd coll o'r adroddiad, gan gynnwys:
    • tlodi gwledig
    • tlodi gwaith
    • anghydraddoldebau iechyd
    • tai a thai cymdeithasol
    • mynediad at ofal cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â phobl hŷn;
    • effeithiau anghymesur COVID-19 ar wahanol grwpiau;
    • cymorth ar gyfer byw'n annibynnol;
    • y cyfleoedd sy’n crebachu i bobl ifanc.
  • Soniodd gwahanol ymatebwyr am yr angen i gynnwys cymorth wedi'i dargedu ar gyfer:
    • gofalwyr di-dâl
    • menywod, yn enwedig menywod sy'n dioddef cam-drin domestig
    • y rhai sy'n wynebu anfantais neu wahaniaethu ac nad oes ganddynt nodwedd warchodedig, fel cymuned y Lluoedd Arfog neu blant sy'n derbyn gofal.
  • Argymhellodd gwahanol ymatebwyr unigol y gellid ymgorffori Confensiwn Istanbul, CEDAW (Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, Deddf Hawliau Dynol 1988 neu Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, GOWA 2006 Adran 77, VAWDA a Chonfensiynau a Chyfamodau Rhyngwladol perthnasol eraill e.e. CCUHP neu CCUHPA.
  • Awgrymodd 1 ymatebydd y byddai fforymau ar gyfer rhannu arfer da mewn rhanbarthau ac ardaloedd gwasanaeth yn hynod o ddefnyddiol i gefnogi sefydliadau ar lawr gwlad wrth weithredu'r Cynllun
  • Galwodd 2 ymatebydd am fentrau i godi ymwybyddiaeth o'r Cynllun a hawliau, ac mae ymatebydd arall yn credu bod "y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ffyddiog iawn bod cynyddu ymwybyddiaeth yn gwella’r gwaith o lunio polisïau ac yn cynhyrchu canlyniadau gwell ond mae ymchwil yn dangos nad yw ffocws ar wybodaeth ac ymwybyddiaeth yn unig yn effeithiol wrth newid diwylliannau ac ymddygiadau".