Neidio i'r prif gynnwy

Esbonio cyfrifoldebau'r grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Cefndir

Fel ymateb i fygythiad ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), cyhoeddodd Llywodraeth y DU sawl strategaeth bum mlynedd i fynd i'r afael mewn ffordd integredig a thraws-sectorol â'r pwnc. Cyhoeddwyd gweledigaeth 20 mlynedd y DU yn 2019 i hybu uchelgeisiau ac i gynorthwyo'r gwaith o lunio strategaethau y tu hwnt i 2019. Roedd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Pum Mlynedd 2019 – 2024 yn nodi uchelgeisiau a chamau gweithredu heriol, ac yn bwysig, roedd yn mabwysiadu dull Un Iechyd ar gyfer pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd. Bydd dull newydd yn adeiladu ar yr uchelgeisiau hyn yn ogystal â gosod camau newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae Cymru ynghyd â gwledydd eraill y DU, wedi bod yn cydweithio i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Pum Mlynedd y DU.  Ein ffordd o weithio yng Nghymru yw gwneud y gorau o'n cryfderau er mwyn ychwanegu cymaint o werth ag y medrwn at waith y DU, heb ddyblygu'r ymdrechion hynny. 

Diben a chwmpas

Mae Grŵp Iechyd Anifeiliaid Cymru ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd wedi'i sefydlu i roi cyngor i Lywodraeth Cymru wrth gyflawni Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU a'n dull gweithredu yng Nghymru. Gall y cyngor ystyried dulliau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth o AMR, er enghraifft, gan ystyried tirwedd unigryw Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae i ddatrys problem AMR, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, a thu hwnt â gweinyddiaethau eraill, rhanddeiliaid, milfeddygon, asiantaethau darparu ac arbenigwyr yn y maes ym Mhrydain/DU. 

Mae cwmpas y grŵp hwn yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru. Bydd y grŵp yn trafod, yn holi ac yn clywed barn amrywiaeth eang o ffynonellau er mwyn gallu rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol. 

Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • dulliau cyflawni, gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys milfeddygon, cynrychiolwyr y diwydiant, y byd academaidd ac ati
  • cyfathrebu â diwydiant/y cyhoedd

Bydd y dull AMR yng Nghymru yn ystyried AMR mewn anifeiliaid a ffermir ac anifeiliaid anwes; gan ystyried y blaenoriaethau a osodwyd gan Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

Amcanion

Dyma amcanion cyffredinol Grŵp Iechyd Anifeiliaid Cymru ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd:

  • cynghori ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r dull o ymdrin ag AMR yng Nghymru
  • i fod yn atebol i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ac adrodd hefyd i Grŵp Goruchwylio Cyflawni Cymru ar AMR
  • darparu cyngor ac arweiniad, y gall swyddogion eu cyflwyno i Weinidogion i'w hystyried, trwy ddull cydgysylltiedig, yn ôl yr angen
  • cynghori ar y gofynion gwyliadwriaeth a monitro angenrheidiol ar gyfer mesur y defnydd o wrthfiotigau
  • cynghori Llywodraeth Cymru ar sut y gall sicrhau bod agweddau ar reoli AMR yng Nghymru (a gweddill y DU lle bo'n briodol) sy'n ymwneud ag anifeiliaid (milfeddygol) yn cael eu rheoli mewn ffordd gydgysylltiedig a synergyddol â rheoli AMR mewn pobl, gan fabwysiadu dull ‘Un Iechyd’ go iawn
  • ar gyfer y tri sector (pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd), dysgu cymaint ag y medrir am y lleill i weld ble mae'r bylchau yn eu gwybodaeth a chynghori sut i'w llenwi
  • rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar bolisi a chyflawni AMR yng Nghymru fel ei fod yn cael ei ystyried yn esiampl ryngwladol
  • cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, fel Cymru iachach, Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang, Cymru ffyniannus a Chymru gydnerth

Aelodau a strwythur y bwrdd

Bydd y grŵp yn gymysgedd o gynrychiolwyr y llywodraeth a'r sector preifat. Bydd cynrychiolwyr y llywodraeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Bydd rhanddeiliaid y sector preifat yn cynnwys milfeddygon a ffermwyr.

Yn sgil arbenigedd y cylch gwaith, caiff unigolion eu gwahodd i ddod yn aelod o'r grŵp. Disgwylir i unigolion ddod i'r cyfarfodydd yn eu henw eu hunain, ac nid fel cynrychiolwyr sefydliad neu grŵp y maent yn aelod ohono. 

Ni chaiff aelodau'r grŵp eu talu am ddod i gyfarfodydd ond fe fyddan nhw'n cael hawlio costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Rolau a chyfrifoldebau

Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru fydd yn darparu'r cymorth ysgrifenyddol. 

Caiff eitemau priodol ar yr agenda eu codi cyn y cyfarfod. Y Cadeirydd fydd yn penderfynu ar yr agenda derfynol a bydd yr ysgrifenyddiaeth yn ei rhannu cyn y cyfarfod. Cymerir y camau y gwelir gan y grŵp bod eu hangen ac efallai y caiff is-grwpiau eu sefydlu i hwyluso hynny.

Nid oes gan y grŵp yr ymreolaeth i wneud penderfyniadau ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i benderfyniadau megis sut y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu, i gadarnhau Cytundebau Lefel Gwasanaeth gyda chyrff cyflawni, i gymeradwyo cynlluniau wrth gefn nac i gymeradwyo cyflwyniadau.

Ffyrdd o weithio

Bydd y grŵp yn cynnal cyfarfodydd bedair gwaith y flwyddyn, tri rhithwir ac un wyneb yn wyneb, ynghyd â chyfarfodydd ad hoc yn ôl yr angen. 

Fel arfer, bydd y grŵp yn darparu diweddariadau rheolaidd, (chwarterol) o weithgareddau a chanlyniadau. Yna gall yr ysgrifenyddiaeth drosglwyddo'r diweddariadau hyn i'r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid, Grŵp Goruchwylio Cyflawni Cymru ar AMR ac i Lywodraeth y DU pan fo'n briodol, gan ddarparu manylion gweithgareddau, yr amcanion a wireddwyd, cynlluniau'r dyfodol a heriau. 

Caiff y grŵp hefyd adrodd / gwneud ceisiadau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ôl y gofyn ac fel sy'n briodol. 

Oes y grŵp

Bydd y grŵp yn cael ei sefydlu yn 2024 am gyfnod o bum mlynedd, tan 2029, yn unol â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol 5 mlynedd y DU ar gyfer AMR sy'n cwmpasu'r cyfnod hwn.

Gwerthuso

Ni fydd unrhyw asesiadau perfformiad yn cael eu cynnal oherwydd natur y Grŵp. Bydd aelodaeth y Grŵp yn dod i ben yn awtomatig yn unol â hyd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer AMR.