Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mike Usher - Cadeirydd - Cyfarwyddwr Anweithredol, ARAC LlC ac ARAC y Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau (CS&I)
  • Nigel Reader - Cadeirydd - Aelod Annibynnol, ARAC y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar (HSCEY)
  • Gareth Pritchard - Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol ARAC y Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg (ECWL)
  • Mel Doel - Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol, ARAC Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth (EET)
  • Andrew Goodall - yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Sioned Evans - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp CS&I
  • Judith Paget - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp HSCEY / Prif Weithredwr y GIG
  • Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol,  y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (LGHCCRA)
  • Emma Williams - Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, y Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg (ECWL)
  • Peter Ryland - Prif Weithredwr WEFO (yn cynrychioli Andrew Slade)
  • Dean Medcraft - Cyfarwyddwr Cyllid
  • Kim Jenkins - Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon, Llywodraethiant a Grantiau
  • Helen Morris - Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
  • Clare Thomas - Archwilio Cymru
  • Anthony Veale - Archwilio Cymru
  • Matthew Mortlock - Archwilio Cymru

Hefyd yn bresennol

  • Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol
  • Y Prif Swyddog Diogelwch
  • Y Prif Ystadegydd
  • Cyfarwyddwr – Academi Wales
  • Pennaeth Llywodraethiant, yr Uned  Arweinyddiaeth a Llywodraethiant Cyrff Cyhoeddus

1. Datganiadau o fuddiant

1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.

2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2025

2.1 Cytunodd y Pwyllgor fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cyflawn a chywir. Nododd yr Aelodau y cynnydd da a wnaed o ran rhoi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith ac fe gafodd ddiweddariadau ar y rhai nad ydynt wedi eu cwblhau eto.

3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu

3.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Pwyllgor ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Mae'r paratoadau ar gyfer Diwygio'r Senedd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol y Prif Weinidog a chyflawni yn erbyn ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu cyn diwedd tymor y Senedd.
  • Y cyflwyniad i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fel rhan o gamau i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer Maes Awyr Caerdydd.
  • Ailffocysu Rhaglen Newid LlC2025 wrth iddi ddechrau ar ei blwyddyn olaf.
  • Cam nesaf Gweithio'n Glyfar o fewn Llywodraeth Cymru.
  • Y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ‘Lleoedd ar gyfer Twf’ a throsglwyddo swyddi'r gwasanaeth sifil o Lundain i leoliadau eraill, gan gynnwys Cymru.

4. Materion Llywodraethu a risg

4.1 Dechreuodd y Pwyllgor graffu ar ddogfennau allweddol ac adroddiadau blynyddol gan roi sicrwydd sy'n sail i'r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2024-2025.

4.2 Gwnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r adroddiadau canlynol sy'n crynhoi gweithgarwch sicrwydd yn ystod 2024-2025:

  • Yr Adroddiad blynyddol ar Ddiogelwch a Rheoli Gwybodaeth gan y Prif Swyddog Diogelwch.
  • Yr Adroddiad Sicrwydd blynyddol ar y Defnydd o Fodelau Dadansoddol gan y Prif Ystadegydd.
  • Yr adroddiad blynyddol gan yr Uned Arweinyddiaeth a Llywodraethiant Cyrff Cyhoeddus.
  • Yr adroddiad blynyddol gan y Swyddog Diogelu Data.
  • Yr adroddiad blynyddol gan y Pennaeth Atal Twyll
  • Yr adroddiadau blynyddol gan Gadeiryddion Grŵp ARACs LlC.

4.3 Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y Gofrestr Risgiau Corfforaethol sy'n mynd drwy ei phroses adolygu, a'r ymatebion i'r Holiadur Rheolaeth Fewnol sy'n cael eu hasesu ac sy'n destun gwaith craffu pellach.

5. Diweddariad Archwilio Allanol

5.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Archwilio Cymru ar ei ddull gweithredu arfaethedig (a rhywfaint o'r gwaith cynnar a wnaed) i adolygu Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025, y risgiau allweddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith a'r amserlen gyflawni arfaethedig sy'n cefnogi cyhoeddi yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr 2025.

5.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynllun manwl sy'n sail i'r adolygiad o'r cyfrifon ac fe gydnabu'r cymhlethdodau a'r heriau sylweddolo dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â'r Ased Benthyciadau i Fyfyrwyr a'r Adolygiad Pum mlynedd o'r Rhwydwaith Ffyrdd. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y berthynas effeithiol a'r ffocws ar y cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion Archwilio Cymru sy'n ymwneud â chynhyrchu ac adolygu'r cyfrifon cyfunol.

5.3 Cafwyd diweddariad hefyd ar raglen gwerth am arian Archwilio Cymru a'u hadroddiadau sydd i'w cyhoeddi cyn hir.

6. Diweddariad Archwilio Mewnol

6.1 Gwnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r cynllun archwilio mewnol blynyddol ar gyfer 2024/2025.

6.2 Gwnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r Strategaeth Archwilio Mewnol sy'n elfen sylfaenol allweddol ar y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd.

Ysgrifenyddiaeth ARAC

Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2025