Paratoi cynllun datblygu lleol i’w gyflwyno: canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol
Canllaw i awdurdodau lleol ar sut i gyflwyno cynlluniau datblygu lleol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y canllawiau hyn yw rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau cynllunio lleol (ACLlau) sy’n paratoi ar gyfer cyflwyno cynllun datblygu lleol (CDLl) i’w archwilio. Mae’n crynhoi pa ddogfennau y mae’n ofynnol eu cyflwyno i’w harchwilio a pha rai nad oes angen eu cyflwyno, ac yn rhoi arweiniad ar ba wybodaeth y dylai’r dogfennau hyn ei chynnwys. Bydd dilyn y cyngor yn y canllawiau hyn yn helpu i sicrhau bod camau cychwynnol yr archwiliad yn symud ymlaen mor gyflym a didrafferth â phosibl.
Ceir rhagor o arweiniad ynglŷn â’r broses archwilio yn y canlynol:
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2025, sydd ar gael ar Legislation.gov.uk
- Y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu
- Archwiliadau cynllun datblygu lleol: canllawiau gweithdrefnol
- Archwiliadau cynllun datblygu lleol: canllaw ar gyfer swyddogion rhaglen
Cytundeb lefel gwasanaeth, cyflwyno a dilysu
Cyn cyflwyno CDLl i’w archwilio, bydd ACLl yn llunio Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC). Bydd y ddogfen hon yn nodi’r camau gweithredu a’r ymrwymiadau y bydd y ddau barti’n glynu wrthynt yn ystod yr archwiliad.
Bydd y CLG yn cynnwys rhestr o ddogfennau y mae’n rhaid i’r ACLl eu cyflwyno cyn i Arolygydd gael ei benodi i gynnal yr archwiliad. Rhoddir arweiniad ynglŷn â gofynion cyflwyno yn adran 2 Archwiliadau cynllun datblygu lleol: canllawiau gweithdrefnol.
Ochr yn ochr â’r dogfennau a gyflwynir, bydd yn ofynnol i ACLlau lunio a chyflwyno datganiad sy’n rhoi ymateb manwl i’r cwestiynau rhagarweiniol a gynhwysir yn Atodiad 2 Archwiliadau cynllun datblygu lleol: canllawiau gweithdrefnol.
Yn union ar ôl cyflwyno’r CDLl, bydd PCAC yn cynnal ymarfer sgrinio i ganfod a yw’r broses o gynhyrchu’r CDLl yn bodloni’r profion gweithdrefnol, gan ddefnyddio’r ffurflen safonol sydd wedi’i hatodi yn Atodiad 2. Fe allai ACLlau ddymuno cynnal hunanasesiad gan ddefnyddio’r ffurflen hon: er nad yw hyn yn ofynnol, fe allai gyflymu’r broses ddilysu.
Swyddog Rhaglen
Er mwyn cynorthwyo’r Arolygydd i reoli a threfnu’r archwiliad, mae’n ofynnol i ACLlau benodi Swyddog Rhaglen cyn cyflwyno’r cynllun. Mae cyngor ynglŷn â rôl a chyfrifoldeb Swyddog Rhaglen yn ystod archwiliad ACLl wedi’i gynnwys yn Archwiliadau cynllun datblygu lleol: canllaw ar gyfer swyddogion rhaglen.
Llyfrgell yr archwiliad a gwefan yr archwiliad
Dylid rhoi rhif cyfeirnod unigryw i bob dogfen a gyflwynir i’w harchwilio. Mae’n bosibl na fydd angen rhestru gwahanol fathau o ddogfennau mewn ffyrdd gwahanol; bydd cyfeirnod adnabod ‘SD’ syml (sy’n sefyll am ‘Submission Document’ yn Saesneg) yn ddigonol fel arfer. Y dogfennau cychwynnol a gyflwynir i’w harchwilio fydd yn ffurfio’r sail i Lyfrgell yr Archwiliad, ond bydd dogfennau eraill yn cael eu hychwanegu yn ystod yr archwiliad.
Dylai’r ACLl sefydlu Gwefan Archwiliad cyn cyflwyno’r CDLl. Rhoddir arweiniad manwl ar ddyluniad a chynnwys gwefan archwiliad yn Archwiliadau cynllun datblygu lleol: canllaw ar gyfer swyddogion rhaglen. I grynhoi, dylai’r wefan fod yn hawdd cael ati a chynnwys tudalen lanio a ddylai gynnwys manylion yr Arolygydd a benodwyd, enw a manylion cyswllt y Swyddog Rhaglen ac adran ‘newyddion diweddaraf’. Fe ddylai hefyd ddarparu mynediad at lyfrgell yr archwiliad a ddylai gynnwys dogfennau sy’n ymwneud â’r cyflwyniad, yr archwiliad, newidiadau yn sgil materion sy’n codi a mabwysiadu. Yn ogystal, dylai’r wefan egluro y bydd y Swyddog Rhaglen yn cynorthwyo unrhyw un sy’n cael trafferth cyrchu dogfennau’r archwiliad ar-lein.
Sylwadau a’r adroddiad ymgynghori
Mae ffurflenni enghreifftiol ar gyfer casglu sylwadau yn ystod y camau Adneuo a Newidiadau â Ffocws, ac ar gyfer diwygiadau i’r cynllun, ar gael yma.
Mae’n rhaid i gopïau o’r sylwadau gwreiddiol, heb eu golygu (o’r ymgynghoriadau Adneuo a Newidiadau â Ffocws) gael eu cyflwyno ar ffurf electronig ar gyfer yr archwiliad. Dim ond un copi caled o sylwadau pob unigolyn neu grŵp y dylid ei ddarparu. Ar gyfer diwygiadau i gynllun, dylid cyflwyno’r holl sylwadau a wnaed yn briodol, ond dylai’r ACLl nodi unrhyw sylwadau nad yw’n ystyried eu bod yn berthnasol i’r diwygiadau arfaethedig.
Dylai ACLlau gysylltu â PCAC ynglŷn â’r dull o drefnu sylwadau cyn cyflwyno. Nid oes angen trefnu sylwadau yn ôl polisi: os bydd un llythyr neu ymateb yn cyfeirio at nifer o wahanol faterion, ni fydd angen copïau lluosog. Fe allai’r ACLl ddymuno paratoi taenlen Excel sy’n amlygu’r rhannau o’r cynllun y mae pob sylw’n ymwneud â nhw. Mae taenlen Excel enghreifftiol ar gyfer y gofrestr sylwadau ar gael yma.
Mae Rheoliad 22(2)(d) yn mynnu bod ACLlau yn cyflwyno copi o’r holl sylwadau adneuo, ond mae PCAC o’r farn nad oes angen cyflwyno unrhyw sylw a dynnwyd yn ôl yn ffurfiol erbyn y cam hwnnw. Fodd bynnag, fe allai ACLlau ddymuno gadael y sylw ar y gronfa ddata, wedi’i anodi i egluro ei fod wedi cael ei dynnu’n ôl.
Yn rhan o’r Adroddiad Ymgynghori, mae’n rhaid i’r ACLl ddarparu crynodeb o’r prif faterion a’r sylwadau a wnaed, a chynnwys argymhellion ynglŷn â sut mae’r ACLl yn credu y dylid mynd i’r afael â phob sylw. I fodloni’r gofyniad hwn, mae PCAC yn argymell bod yr Adroddiad Ymgynghori’n cynnwys cyfres o atodlenni ‘prif faterion’, y mae pob un ohonynt:
- Yn enwi’r prif fater a rhannau cysylltiedig y cynllun,
- Yn rhestru rhifau cyfeirnod ac enwau’r rhai perthnasol a gyflwynodd sylwadau,
- Yn cynnwys crynodeb o faterion penodol a godwyd yn y sylwadau sy’n ymwneud â’r prif fater, ac
- Yn cynnwys rhesymau’r ACLl (a fynegir yn gyffredinol mewn llai nag 800 o eiriau fesul prif fater) dros argymell dim newid i’r cynllun neu argymell Newid â Ffocws i wneud y cynllun yn gadarn.
Darperir templed ar gyfer rhestr prif faterion yn Atodiad 3.
Ar wahân, mae Rheoliad 22(2)(c) yn mynnu bod yr Adroddiad Ymgynghori’n nodi sut mae’r ACLl yn argymell y dylid mynd i’r afael â phob sylw. Mae PCAC yn argymell mai’r ffordd fwyaf ymarferol o fodloni’r gofyniad hwn yw trwy atodi taenlen i’r Adroddiad Ymgynghori. Dylai ymateb yr ACLl i bob sylw gael ei gynnwys yn y templed ar gyfer y gofrestr sylwadau (mae’r templed ar gael yma).
Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl sylwadau a allai arwain at oblygiadau i gadernid. Fe allai ymateb rhesymedig i sylwadau arwyddocaol osgoi’r angen i ddarparu sylwadau ysgrifenedig pellach yn ystod yr archwiliad. Bydd yr ymateb hwn yn bwysig wrth benderfynu ar y ‘prif faterion’ ac a oes angen diwygiadau i fynd i’r afael â materion cadernid.
- Dylai Adroddiadau Ymgynghori roi rhesymau da dros beidio â chynnwys dyraniadau amgen neu ychwanegol a gynigiwyd gan y rhai a gyflwynodd sylwadau. Mae ystyriaethau allweddol yn debygol o gynnwys sut mae safle’n cyd-fynd â chyflawnadwyedd a strategaeth gyffredinol y CDLl. Bydd cynnwys manylion o’r fath yn helpu’r Arolygydd a hyrwyddwyr i ddeall pam nad yw safle’n cael ei ddyrannu ac fe ddylai arbed amser i ACLlau wrth baratoi ar gyfer yr archwiliad.
Y sylfaen dystiolaeth
Dylai’r polisïau a’r dyraniadau yn y CDLl ddeillio o’r dystiolaeth, yn hytrach na bod tystiolaeth yn cael ei chasglu’n ôl-weithredol. Dylai’r sylfaen dystiolaeth fod yn gymesur ac yn berthnasol. Ni ddylai ACLlau gyflwyno tystiolaeth nad yw’n llywio cynnwys y cynllun. Bydd yr Arolygydd sy’n archwilio yn craffu ar dystiolaeth a gyflwynwyd i’w harchwilio os bydd angen yn unig, er enghraifft os yw’n ymddangos bod tystiolaeth yn absennol, yn ddiffygiol neu’n hen, neu nad yw’n cyd-fynd â’r cynllun.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd gan yr Arolygydd ddealltwriaeth o faterion lleol cefndirol. Felly, fe allai tystiolaeth bwysig gynnwys dogfennau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio neu benderfyniadau apêl, tystiolaeth sy’n cefnogi strategaeth adfywio bresennol neu arfaethedig, ffynonellau cyllid, neu fentrau corfforaethol a allai fod yn berthnasol i’r CDLl.
Gall papurau cefndir neu bapurau pwnc roi cyd-destun defnyddiol i faterion allweddol. Dylent ymhelaethu ar destun ategol y CDLl er mwyn esbonio, mor gryno â phosibl, sut mae’r dystiolaeth wedi llywio’r polisi a pham mae’r dull arfaethedig yn gadarn. Ni ddylai ACLlau ddefnyddio papurau cefndir eu hunain fel tystiolaeth, ond yn hytrach i gynorthwyo’r broses archwilio. Mae’n annhebygol y bydd angen papurau cefndir ar gyfer pob polisi: dylent fod yn angenrheidiol dim ond ar gyfer y prif faterion sy’n debygol o fod yn destun trafodaeth mewn sesiynau gwrandawiad.
Cyfarfodydd cynghori
Mae PCAC yn cynnig ‘cyfarfodydd cynghori’ i gynorthwyo ACLlau i baratoi ar gyfer cyflwyno CDLlau i’w harchwilio. Nod y cyfarfod cynghori yw cynorthwyo ACLlau i baratoi’n effeithiol ar gyfer y broses archwilio. Cynhelir y cyfarfodydd 4 i 6 wythnos cyn cyflwyno, fel arfer. Trafodaethau anffurfiol yw’r cyfarfodydd hyn a gadeirir gan Arolygydd profiadol heb ragfarnu. Er mwyn didueddrwydd, ni fyddai Arolygwyr sy’n cynnal ymweliadau cynghori ar gynllun yn cael eu penodi i’w archwilio wedi hynny.
Dylai ACLlau sy’n dymuno trefnu cyfarfod cynghori gysylltu â PCAC cyn gynted â phosibl i drafod y trefniadau.
Atodiad 1: rhestr wirio ar gyfer cyflwyno
Bydd yr ACLl yn darparu:
Un copi papur o’r canlynol:
- Y CDLl Adnau (gan gynnwys y mapiau cynigion)
- Pan fydd y cynllun sy’n cael ei archwilio yn cynnwys Newidiadau â Ffocws, CDLl Cyfansawdd (gan gynnwys unrhyw fapiau cynigion diwygiedig) sy’n dangos y newidiadau â ffocws fel ‘newidiadau wedi’u tracio’
Sylwer: Mae’n bosibl y bydd angen copi arall o’r dogfennau a restrir yn yr adran hon rhag ofn y penodir Arolygydd ychwanegol.
Un copi electronig o’r canlynol:
- Yr holl sylwadau a dderbyniwyd o dan Reoliad 18 a, lle y bo’n berthnasol, yr holl sylwadau a dderbyniwyd ar y Newidiadau â Ffocws;
- Taenlen (neu fformat tebyg), wedi’i fformatio i’w darllen ochr yn ochr â’r adroddiad ymgynghori, sy’n cofnodi pob sylw a dderbyniwyd ac yn crynhoi sut mae’r ACLl yn argymell y dylid mynd i’r afael â’r sylw. Dylai’r daenlen gynnwys enwau a manylion cyswllt yr holl rai a gyflwynodd sylwadau, a chofnodi a ydynt yn dymuno cael eu clywed yn ystod yr archwiliad. Dylai’r daenlen hefyd gofnodi ‘prif fater’ y sylw, ac fe ddylai fod modd ei didoli yn ôl y maes hwn; bydd hyn yn helpu i ffurfio’r sail i raglen gwrandawiadau. Mae templed ar gael yma.
Sylwer: Nid oes angen cynnwys sylwadau a dynnwyd yn ôl cyn cyflwyno.
Mae’n rhaid i’r holl ddogfennau eraill fod ar gael ar wefan yr archwiliad erbyn yr adeg cyflwyno. Fe allai PCAC ofyn am gael copi caled o rai dogfennau Sylfaen Dystiolaeth at ddefnydd yr Arolygydd. Dylai’r ACLl gysylltu â PCAC ynglŷn â hyn cyn cyflwyno. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r holl ddogfennau fod ar gael trwy wefan archwiliad yr ACLl:
- Unrhyw restr newidiadau â ffocws;
- Adroddiadau terfynol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd sy’n cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd;
- Y Cytundeb Cyflawni sy’n cynnwys y Cynllun Cynnwys y Gymuned;
- Yr holl ddogfennau sy’n ffurfio’r Sylfaen Dystiolaeth graidd. Mae’n rhaid i Sylfaen Dystiolaeth gyflawn fod ar gael ar yr adeg cyflwyno.
- Y gofrestr safleoedd ymgeisiol (lle y bo’n berthnasol);
- Unrhyw ddatganiadau tir cyffredin y cytunwyd arnynt rhwng yr ACLl a gwrthwynebwyr o sylwedd;
- Unrhyw restr sy’n nodi mân newidiadau i’r CDLl Adnau (neu, pan fydd cynllun mabwysiedig yn cael ei ddiwygio, y CDLl mabwysiedig) nad ydynt yn ymwneud â chadernid; ac
- Adroddiad Ymgynghori sy’n cynnwys:
- Crynodeb o sut mae’r ACLl wedi cynnwys y gymuned a rhanddeiliaid wrth baratoi’r cynllun a’r Arfarniad o Gynaliadwyedd (gan gynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol).
- Unrhyw wyriad oddi wrth y Cynllun Cynnwys y Gymuned, ynghyd ag esboniad [Rheoliad 9(6)].
- Cyfanswm nifer y sylwadau a dderbyniwyd.
- Crynodeb o’r prif faterion sy’n codi o’r ymgynghoriad adneuo ac argymhellion / camau gweithredu’r ACLl. Ar gyfer pob prif fater, dylid darparu crynodeb o’r materion a godwyd mewn sylwadau adneuo perthnasol ac argymhellion yr ACLl ar gyfer sut y dylid mynd i’r afael â’r materion hynny yn y CDLl. Dylid hefyd nodi’r rhai a gyflwynodd sylwadau sy’n dymuno cael eu clywed.
- Rhestr o sylwadau na wnaed yn briodol, ym marn yr ACLl.
Atodiad 2: asesiad sgrinio profion gweithdrefnol
Cam 1: gwaith rhagarweiniol
- A oes Cytundeb Cyflawni cyfredol y cytunwyd arno ar waith, sy’n cyfateb i bob cam o’r broses llunio cynllun?
- A oes Cynllun Cynnwys y Gymuned wedi’i gymeradwyo, sydd yna’n ffurfio’r sail ar gyfer yr holl ymgysylltu â’r gymuned?
- A yw’r ACLl wedi ymgynghori â’r cyrff priodol?
- A oes materion o natur strategol (sy’n effeithio ar fwy nag un awdurdod cynllunio lleol) wedi’u hamlygu, ac a oes gwaith cydweithredol priodol wedi digwydd?
- A gasglwyd gwybodaeth sylfaenol a thystiolaeth fel bod modd adolygu’r materion sy’n effeithio ar ddatblygiad yr ardal yn barhaus?
- A gasglwyd gwybodaeth sylfaenol a thystiolaeth i osod y fframwaith ar gyfer yr arfarniad o gynaliadwyedd?
- A ymgynghorwyd â’r cyrff amgylcheddol statudol am bum wythnos ar gwmpas a lefel manylion y wybodaeth amgylcheddol sydd i’w chynnwys yn yr Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd (a’r Arfarniad o Reoliadau Cynefinoedd, os oes angen)?
- A baratowyd Adroddiad Adolygu sy’n nodi/cyfiawnhau pa rannau o’r cynllun mabwysiedig y mae angen eu diwygio a pha rai nad oes angen eu diwygio, a’r weithdrefn ddiwygio briodol?
- A wnaed galwad cyn adneuo ar gyfer safleoedd ymgeisiol i dirfeddianwyr / datblygwyr / hyrwyddwyr safleoedd fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau 14 a 26A?
Cam 2: ymgynghori ar y strategaeth a ffefrir (neu ymgysylltu ynglŷn â chwmpas diwygio’r cynllun ar gyfer y broses ffurf fer)
- A roddwyd gwybod i’r canlynol (fel y bo’n briodol):
- y cyrff ymgynghori penodol
- y cyrff ymgynghori cyffredinol sydd â diddordeb ym mhwnc y CDLl ac a wahoddwyd i wneud sylwadau ar ei gynnwys
- A ddywedwyd wrth yr holl bartïon mai dyma’r prif gyfle i gyfranogi mewn perthynas â’r cynllun sy’n dod i’r amlwg?
- A wahoddwyd sylwadau gan bobl sy’n byw neu’n cynnal busnes yn yr ardal ar gynnwys y CDLl? (Nid yw’n ofynnol ar gyfer diwygiadau ffurf fer)
- A wahoddwyd sylwadau gan awdurdod cynllunio lleol arall ar faterion a fyddai’n cael effaith sylweddol ar y ddwy ardal?
- A yw’r ACLl wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid sy’n gyfrifol am gyflawni’r strategaeth?
- A yw’r ACLl wedi ystyried sylwadau a wnaed?
- A yw’r ymgynghoriad / ymgysylltiad wedi cyfrannu at ddatblygu dewisiadau amgen ac arfarnu eu cynaliadwyedd?
- A yw cyfranogiad wedi:
- dilyn yr egwyddorion a amlinellir yn y Cynllun Cynnwys y Gymuned
- integreiddio cyfranogiad â’r Cynllun Integredig Sengl/Cynllun Llesiant Lleol neu Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol
- bod yn gymesur â graddau’r materion
- A yw’r ACLl wedi cadw cofnod o’r canlynol:
- y rhai a wahoddwyd i wneud sylwadau
- sut y gwnaed hyn
- y prif faterion a godwyd
Cam 3: paratoi’r CDLl Adnau neu ddiwygiadau i’r cynllun
- A yw’r ACLl wedi paratoi dewisiadau amgen rhesymol i’w gwerthuso yn ystod y broses o baratoi’r CDLl?
- A yw’r ACLl wedi ystyried y canlynol, ac asesu dewisiadau amgen yn unol â nhw (fel y bo’n berthnasol):
- Cynllun Gofodol Cymru a’r polisi cenedlaethol
- Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
- Nodau llesiant cenedlaethol
- CDLlau cyfagos (gan gynnwys Cynlluniau Lleol yn Lloegr)
- Y Cynllun Integredig Sengl / Cynllun Llesiant Lleol neu Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol
- Strategaethau lleol eraill a fabwysiadwyd
- A yw’r ACLl wedi ystyried materion eraill, er enghraifft:
- Y cynllun trafnidiaeth lleol
- Y strategaeth dai leol
- Strategaethau adnoddau, gwastraff, mwynau a sylweddau peryglus
- A yw’r ACLl wedi ystyried yr angen i gynnwys polisïau ar liniaru ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd?
- A gynhaliwyd arfarniad o gynaliadwyedd ar ddewisiadau amgen, gan gynnwys ymgynghori ar yr adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd?
- A amlinellwyd rhesymau dros unrhyw flaenoriaethau rhwng dewisiadau amgen?
- A yw’r ACLl wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ar gynnwys y CDLl, yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a’r Arfarniad o Reoliadau Cynefinoedd, ac wedi cadw cofnod ohonynt?
- A yw’r ACLl wedi asesu a chyfiawnhau’n llawn pam y dyrannwyd neu na ddyrannwyd safleoedd penodol?
- A yw’r ACLl wedi darparu cyfiawnhad lleol ar gyfer unrhyw bolisïau sy’n ailadrodd polisi cenedlaethol neu’n ei ailadrodd i raddau helaeth?
- A baratowyd map cynigion cywir?
- A yw’r ACLl wedi datblygu fframwaith ar gyfer monitro effeithiau’r CDLl?
- Os yw’r cynllun i’w ddiwygio o dan y weithdrefn ‘ffurf fer’ (Rheoliad 13A a Rhan 4A), a yw’r Adroddiad Adolygu, tystiolaeth ac ymatebion ymgynghori yn cyfiawnhau hyn? A yw’n glir bod strategaeth y cynllun yn gadarn o hyd ac na fyddai’n cael ei haddasu gan y diwygiadau arfaethedig?
Cam 4: ymgynghori ar y CDLl Adnau neu ddiwygiadau i’r cynllun
- A yw’r adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd (terfynol) wedi cael ei baratoi?
- A eglurwyd ble y mae’n rhaid cyflwyno sylwadau ac o fewn pa gyfnod?
- A sicrhawyd bod copïau o’r canlynol ar gael i’w harchwilio:
- dogfennau’r CDLl
- datganiad ynghylch materion y CDLl
- A yw’r ACLl wedi cyhoeddi’r canlynol ar ei wefan:
- dogfennau’r CDLl
- y materion adneuo
- datganiad/manylion ynghylch ble/pryd y gellir gweld dogfennau
- A yw’r ACLl wedi anfon y canlynol at bob corff ymgynghori a wahoddwyd i gyflwyno sylwadau o dan Reoliad 17(c) neu 26B(c): y CDLl Adnau neu ddiwygiadau i’r cynllun, yr Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd, yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cychwynnol, rhestr dogfennau ategol, hysbysiadau a datganiadau perthnasol?
- A gyhoeddwyd hysbysiad ynglŷn â’r materion adneuo a manylion ynghylch ble a phryd y gellir archwilio dogfennau, yn gyson â’r Cynllun Cynnwys y Gymuned?
- A gynhaliwyd ymgynghoriad / ymgysylltiad priodol â’r gymuned a thirfeddianwyr ynglŷn â lleoliad cynigion ar y map cynigion, mewn modd sy’n cydymffurfio â’r Cynllun Cynnwys y Gymuned?
Cam 5: cyflwyno
- A yw’r CDLl wedi’i baratoi yn unol â’r Cytundeb Cyflawni? A yw’r ACLl wedi cynnal ymgynghoriad fel y disgrifiwyd yn y Cynllun Cynnwys y Gymuned? A yw’r rhestrau a’r disgrifiad o’r CDLl yn y Cytundeb Cyflawni yn cyfateb i’r ddogfen a gyflwynwyd? A fodlonwyd graddfeydd amser a nodwyd?
- A roddwyd ystyriaeth i’r Cynllun Integredig Sengl / Cynllun Llesiant Lleol neu Gynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol?
- A amlygwyd y materion strategol ac a gynhaliwyd ymgysylltiad ac ymgynghoriad priodol?
- A yw’r CDLl Adnau ac unrhyw Newidiadau â Ffocws (gan gynnwys unrhyw safleoedd newydd a gynigiwyd yn y Newidiadau â Ffocws) wedi bod yn destun Arfarniad o Gynaliadwyedd ac a oes adroddiad terfynol ar gael?
- A yw’r CDLl yn ystyried Cymru’r Dyfodol, polisi cenedlaethol, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a’r nodau llesiant?
- A yw’r ACLl:
- wedi cyhoeddi’r dogfennau rhagnodedig, a sicrhau eu bod ar gael mewn swyddfeydd ac ar y we
- wedi rhoi gwybod i’r cyrff statudol ac anstatudol perthnasol, yn ogystal â’r rhai hynny a wahoddwyd i wneud sylwadau ar y cynllun
- A ddarperir map cynigion cywir a chlir yn y CDLl?
- A baratowyd datganiad sy’n amlinellu:
- Pa gyrff / unigolion a wahoddwyd i wneud sylwadau o dan Reoliadau 17 a 26B
- Sut y cawsant eu gwahodd
- Nifer y sylwadau a gyflwynwyd ar bob cam (Rheoliadau 16 / 26A a 18 / 26C)
- Crynodeb o’r prif faterion a godwyd yn dilyn yr ymgynghoriad adneuo
- Sut y dylid mynd i’r afael â sylwadau adneuo
- A yw’r ACLl wedi casglu ynghyd yr holl sylwadau a wnaed o dan Reoliad 18?
- A yw’r ACLl wedi casglu ynghyd sylfaen dystiolaeth sy’n angenrheidiol i gyfiawnhau polisïau’r CDLl?
- A yw’r ACLl wedi cymeradwyo ei CDLl i’w gyflwyno?
- A anfonwyd y canlynol at yr Arolygiaeth Gynllunio ar ffurf copi papur a neges e-bost:
- copi o’r CDLl gan gynnwys y map cynigion
- y dogfennau a ragnodir yn Rheoliad 22(2)
- A sicrhawyd bod y canlynol ar gael yn yr un man â’r CDLl Adnau:
- Copi o’r CDLl
- Y dogfennau a ragnodir yn Rheoliad 22(2)
- A gyhoeddwyd y canlynol ar wefan yr ACLl:
- y CDLl gan gynnwys y map cynigion
- Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd
- datganiad Rheoliad 22(2)(c)
- dogfennau ategol
- sylwadau a gyflwynwyd o dan Reoliad 18
- datganiad ynghylch ble a phryd y bydd y CDLl a’r dogfennau ar gael
- A yw’r ACLl wedi hysbysu unigolion sydd wedi gofyn am gael eu hysbysu bod y CDLl wedi’i gyflwyno?
Atodiad 3: atodlenni prif faterion
Mae’r adran hon yn rhoi arweiniad ar grynhoi ‘prif faterion’ sy’n codi o’r ymgynghoriad adneuo, a’u trefnu mewn grwpiau, mewn Adroddiadau Ymgynghori.
Pan fydd polisi neu ddyraniad safle unigol yn destun sylw adneuo, yn gyffredinol dylid mynd i’r afael â hyn fel prif fater ar wahân. Fodd bynnag, os gwneir nifer o sylwadau adneuo ar un polisi neu ddyraniad safle, dylid casglu’r rhain ynghyd o dan un prif fater.
Yn ogystal, gall sylwadau adneuo sy’n perthyn i bolisïau sy’n gysylltiedig yn agos, neu i nifer o ddyraniadau safle sy’n perthyn yn agos (er enghraifft o amgylch anheddiad penodol) gael eu casglu ynghyd yn un prif fater unigol, yn enwedig pan fyddai’n amlwg yn fuddiol i seilwaith a materion eraill gael eu hystyried yn eu cyfanrwydd.
Lle y bo’n bosibl, dylai’r atodlenni ymddangos yn yr Adroddiad Ymgynghori yn yr un drefn ag y mae’r prif faterion yn ymddangos yn y cynllun.
Lle y gwnaed sylwadau adneuo nad ydynt yn dod o dan ‘brif fater’ fel yr amlygwyd gan yr ACLl, dylid rhestru’r rhain mewn atodlen ‘materion amrywiol’.
Dylai Atodlenni Prif Faterion gael eu strwythuro fel a ganlyn:
Prif fater
Rhowch deitl byr sy’n crynhoi’r materion allweddol a godwyd yn y sylwadau adneuo (e.e. “Targed/gofyniad tai” neu “Lletemau glas”).
Cyfeiriadau at adrannau’r CDLl
Rhestrwch y tudalennau, y polisïau, y paragraffau, y dyraniadau neu’r rhifau mapiau y mae’r prif fater hwn yn berthnasol iddynt
Y rhai a gyflwynodd sylwadau
Rhestrwch y rhif cyfeirnod unigryw ar gyfer pob sylw. Nodwch mewn teip trwm ba gyflwynwyr sylwadau sydd wedi gofyn am gael eu clywed.
Cynnwys perthnasol y CDLl y mae’r prif fater yn ymwneud ag ef
Darparwch ddisgrifiad byr o gynnwys y cynllun sy’n destun gwrthwynebiad (e.e. “Y fethodoleg ar gyfer penderfynu ar y targed tai” neu “Hyd a lled y lletem las o gwmpas tref [X] a’r cyfiawnhad iddi”).
Crynodeb yr ACLl o’r sylw(adau) adneuo
Crynhowch y sylwadau adneuo a dderbyniwyd ar y prif fater hwn gan y rhai a gyflwynodd sylwadau. Lle y bo’n bosibl, casglwch y sylwadau ynghyd mewn grwpiau er mwyn osgoi ailadrodd. Nodwch mewn teip trwm y materion penodol y mae rhai o’r cyflwynwyr sylwadau neu bob un ohonynt wedi gwneud cais i gael eu clywed ynglŷn â nhw.
Newidiadau a geisir gan y rhai sy’n cyflwyno sylwadau
Amlinellwch unrhyw newidiadau penodol a geisir gan y rhai a gyflwynodd sylwadau wrth ymateb i’r materion a godwyd yn y sylwadau adneuo. Unwaith eto, casglwch nhw ynghyd mewn grwpiau er mwyn osgoi ailadrodd a nodwch mewn teip trwm y materion penodol y mae rhai o’r cyflwynwyr sylwadau neu bob un ohonynt wedi gwneud cais i gael eu clywed ynglŷn â nhw.
Argymhellion yr ACLl, gan gynnwys rhesymau
Amlinellwch ymateb rhesymegol yr ACLl i’r materion a godwyd (a fynegir fel arfer mewn llai nag 800 o eiriau ar gyfer pob prif fater). Esboniwch pam mae’r ACLl yn ystyried bod y cynllun yn gadarn. Neu, pan fydd yr ACLl o’r farn bod angen ‘Newid â Ffocws’, nodwch natur y newidiadau a argymhellir, gan roi rhesymau.
