Mae'r prosiect photovoltaic (PV) yn Tŷ Matrix, Abertawe, yn rhan o'r uchelgais i ddadcarbonoli'r ystad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Cyflwyniad
Mae’r prosiect ffotofoltaidd yn Nhŷ Matrix yn Abertawe yn rhan o uchelgais Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ddatgarboneiddio ein hystad yn unol â’r targedau a manylir yng Nghynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.
Ar ôl cwblhau arolygon cychwynnol, gan gynnwys gwiriadau adeileddol ar yr adeilad presennol, tynnwyd sylw at y ffaith bod gan do Tŷ Matrix lawer o botensial ar gyfer cynhyrchu ynni glân trwy ddefnyddio paneli solar ffotofoltaidd, gyda photensial i adennill y costau o fewn pum mlynedd.
Yr her
Er mwyn lleihau’r perygl o dân sy’n gysylltiedig â’r gosodiad ffotofoltaidd, penderfynwyd lleoli’r gwrthdroyddion mewn lloc allanol a oedd angen caniatâd cynllunio arno. Os na chafwyd caniatâd cynllunio, cytunwyd ar leoliad arall ar gyfer y gwrthdroyddion, sef mewn ystafell beiriannau allanol a oedd yn bodoli eisoes. Roedd gan y lleoliad newydd hwn effaith bosibl ar faint a chostau’r ceblau y byddai eu hangen oherwydd bod y lleoliad ymhellach i ffwrdd. Yn ffodus, rhoddwyd caniatâd yn unol â rhaglen y contractwyr.
Y dull
Gall gweithredu prosiect solar fel hwn fynd i’r afael â sawl mater presennol sy’n gysylltiedig â defnyddio ynni a charbon, gan ddarparu datrysiadau sy’n cyfrannu at nodau cynaliadwyedd ac amgylcheddol.
Yn dilyn trafodaethau â Chyngor Dinas a Sir Abertawe, penderfynwyd y gallai’r prosiect fynd rhagddo ar sail cais datblygu a ganiateir yn hytrach na chaniatâd cynllunio llawn, a roddwyd ym mis Tachwedd 2024.
Aeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ymlaen â’r dyluniad ar gyfer yr opsiwn ffotofoltaidd solar ar y to, sy’n cynnwys 137kW o baneli ffotofoltaidd solar yn cynhyrchu tua 116,476kWh o drydan y flwyddyn.
Mae’r arae yn cynnwys 224 o baneli 615 wat. Penderfynwyd gosod y gwrthdroyddion yn storfa feiciau’r adeilad presennol a lloc polyester wedi’i atgyfnerthu â ffeibr gwydr newydd ar gyfer ochr arall yr adeilad.
Ceisiwyd cynllunio ar gyfer y lloc newydd a chadarnhawyd hynny ar gyfer mis Chwefror 2025.
Mae hyn yn cyfrannu tuag at y canlynol
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
- Cyfrifol yn fyd-eang (cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle, defnyddio cyflenwyr lleol ac ati)
Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru (Menter 10 – Cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle)
Effeithiau a chanlyniadau
Gan fod gan yr adeilad ddau gyflenwad trydan a mesuryddion sydd wedi’u cysylltu â’r Grid Cenedlaethol, mae’r pŵer ffotofoltaidd a gynhyrchir wedi’i wasgaru’n gyfartal ar draws dau hanner y safle. Mae’r cytundeb gyda’r Grid Cenedlaethol hefyd yn caniatáu inni allforio hyd at gyfanswm o 160kW i’w system os nad yw’r galw yn cael ei ddiwallu gan yr adeilad.
Aeth y system yn fyw ddiwedd mis Mawrth ac mae eisoes wedi cyflawni dyddiau pan ydym wedi cynhyrchu mwy na’r hyn a ddefnyddiwyd gennym yn yr adeilad, gan allforio’r hyn a oedd yn weddill i’r grid.
Y gwersi a ddysgwyd a chynllunio ar gyfer y dyfodol
Bydd y cam nesaf yn cynnwys cyflwyno mannau gwefru ychwanegol ar gyfer cerbydau trydan ar y safle, a fydd yn ategu’r prosiect ffotofoltaidd, gan godi uchelgais Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru o ran datgarboneiddio yn uwch.
