Neidio i'r prif gynnwy

Diben yr ymgynghoriad hwn

Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu adborth y cyhoedd ar y Cynllun Cyflawni Hyrwyddo Ymwybyddiaeth drafft, sy'n amlinellu'r camau i'w cymryd i godi ymwybyddiaeth yng Nghymru o’r risg i iechyd pobl a'r amgylchedd naturiol sy'n deillio o lygredd aer, yn ogystal â ffyrdd o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer. Bydd eich mewnbwn yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn gynhwysfawr ac yn effeithiol wrth fynd i'r afael â'r materion hyn, a bydd yn cyfrannu at greu strategaethau sy'n adlewyrchu anghenion a phryderon y gymuned.

Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 28 Hydref 2025. Er mwyn ymateb, dylech chi ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu gwblhau'r ffurflen ymateb amgaeedig a'i hanfon at unrhyw un o'r canlynol:

E-bost: airqualitypolicy@llyw.cymru

(dylech nodi Codi Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer yn y llinell bwnc)

Post:

Polisi Ansawdd Aer

Is-adran Diogelu'r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Mae fersiwn print bras, Braille ac ieithoedd amgen o’r ddogfen hon ar gael ar gais.

Manylion Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth:

Adran Diogelu'r Amgylchedd

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Cefnndir

Mae llygredd aer yn achosi risgiau sylweddol i iechyd pobl, byd natur a'r amgylchedd ehangach, gan effeithio ar unigolion a chymunedau ledled Cymru. Mae codi ymwybyddiaeth o'r effeithiau hyn yn hanfodol i rymuso pobl i wneud dewisiadau gwybodus sy'n cyfrannu at aer glanach ac amgylchedd iachach.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o risgiau llygredd aer ac annog camau gweithredu i leihau allyriadau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl yn deall sut mae llygredd aer yn effeithio ar iechyd – yn enwedig iechyd grwpiau o bobl sy’n fwy agored i niwed fel plant, oedolion hŷn, a'r rhai sydd â chyflyrau anadlol. Mae ein Cynllun Cyflawni drafft ar gyfer Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer yn disgrifio'r camau y byddwn ni’n eu cymryd i gyflawni'r ddyletswydd hon.

Mae'r Cynllun Cyflawni wedi'i ddatblygu gyda chymorth Grŵp Cyflawni Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer pwrpasol (gweler atodiad A am fanylion pellach). Mae'r Athro Paul Lewis, Cadeirydd y grŵp, wedi dod ag arbenigedd helaeth ym maes effeithiau amgylcheddol ar iechyd anadlol. Mae'r Athro Lewis wedi cyfrannu at nifer o baneli cynghori pwysig, gan gynnwys Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru, gan helpu i osod targedau gronynnau mân ar gyfer y Ddeddf Aer Glân arfaethedig yng Nghymru. Mae hefyd yn aelod o Banel Adolygu Annibynnol Cyfarwyddyd Ansawdd Aer Cymru a'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llosgi Tanwydd Solet Domestig yng Nghymru.

Yn y Cynllun Cyflawni drafft rydym yn cynnig casgliad o gamau gweithredu sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu cenedlaethol, darparu adnoddau addysgol, a chanllawiau i awdurdodau lleol gefnogi eu strategaethau newid ymddygiad eu hunain yn unol ag anghenion lleol.

Mae ein dull gweithredu’n canolbwyntio ar gefnogi a hyrwyddo newid cadarnhaol, gan sicrhau bod gan unigolion a busnesau'r wybodaeth angenrheidiol i gymryd camau gwirfoddol i gyfyngu ar lygredd aer. Er bod mesurau gorfodi’n parhau i fod yn bwysig, mae'r pwyslais ar addysg a grymuso, gan sicrhau bod aer glanach yn nod hygyrch i bawb.

Trwy'r ymgynghoriad hwn, rydym yn croesawu safbwyntiau ar ein hymrwymiadau yn y Cynllun Cyflawni i godi ymwybyddiaeth, sy'n cynnwys cefnogi mentrau lleol, a sicrhau bod gan unigolion a sefydliadau'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyfrannu at wella ansawdd aer ledled Cymru.

Polisi'r Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi. Mae ein strategaeth genedlaethol, Cynllun aer glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach ("y Cynllun Aer Glân"), yn amlinellu llwybr 10 mlynedd tuag at sicrhau aer glanach. Bydd y camau gweithredu’n mynd i'r afael â ffynonellau hysbys o lygredd aer fel trafnidiaeth, diwydiant (gan gynnwys amaethyddiaeth), ac allyriadau o gartrefi a busnesau.

Roedd y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021 i 2026 wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Cyflawnwyd yr ymrwymiad hwn drwy basio Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024, sy'n cyflwyno cyfres o fesurau a fydd yn cyfrannu at wella ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru. Mae'r Ddeddf yn rhan hollbwysig o'r pecyn o fesurau a nodir yn y Cynllun Aer Glân ac mae'n ychwanegu at ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes yn y maes hwn.

Yn y DU, mae allyriadau trafnidiaeth yn gyfrifol am 32% o allyriadau ocsidau nitrogen (NOx) a 14% o allyriadau deunydd gronynnol (PM2.5) sy'n cael effaith andwyol ar iechyd pobl. Mae Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 yn cydnabod pwysigrwydd ein seilwaith trafnidiaeth wrth gysylltu pobl a hwyluso twf economaidd. Mae gwella ansawdd aer a lleihau sŵn amgylcheddol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn ganolbwynt gweithredu pwysig.

Er bod yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar lygredd aer, mae Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o effeithiau posibl llygredd sŵn ar lesiant pobl a bywyd gwyllt yng Nghymru. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae sŵn traffig yn effeithio ar un o bob tri unigolyn yn ystod y dydd, ac yn tarfu ar gwsg un o bob pump yn y nos. Mae llygredd sŵn yn fwy na dim ond niwsans – mae ganddo oblygiadau ar gyfer iechyd, gan gynyddu'r ffactorau risg ar gyfer clefyd isgemia'r galon a phwysedd gwaed uchel, amhariad ar y clyw ac amhariad gwybyddol, a beichiau iechyd eraill. Mae Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru 2023 i 2028 | LLYW.CYMRU yn disgrifio dull Llywodraeth Cymru o gefnogi amgylchedd sŵn iach. Mae'r ddogfen yn datgan ein huchelgais ar gyfer seinweddau priodol, sy'n golygu'r amgylchedd sain priodol ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Mae Polisi Cynllunio Cymru (PPW), sy'n amlinellu polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru, yn cydnabod rôl y system gynllunio wrth helpu i leihau cysylltiad y boblogaeth â llygredd aer a sŵn. Mae PPW yn cael ei ategu gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol (TANs).

Pam rydyn ni'n ymgynghori

Mae llygredd aer yn bryder amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd sylweddol, sy'n effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Mae codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo newid ymddygiad yn hanfodol er mwyn sicrhau gwelliannau ystyrlon.

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu cynigion sy'n ceisio cefnogi a hyrwyddo camau gwirfoddol i wella ansawdd aer. Trwy godi ymwybyddiaeth a darparu arweiniad clir, ein nod yw cefnogi unigolion, busnesau a chymunedau i gymryd camau gwirfoddol sy'n gwella ansawdd aer.

Rydym yn canolbwyntio ar ymgyrchoedd cyfathrebu cenedlaethol, adnoddau addysgol, a chanllawiau i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu mentrau eu hunain i godi ymwybyddiaeth o ansawdd aer. Trwy ddarparu gwybodaeth glir a hygyrch, rydym yn gobeithio hyrwyddo camau gweithredu cadarnhaol a lleihau ymddygiad sy'n cyfrannu at lygredd.

Rydym yn gofyn am fewnbwn gan amrywiaeth eang o leisiau er mwyn sicrhau bod y mentrau hyn yn effeithiol. Waeth a oes gennych chi brofiad uniongyrchol o lygredd aer neu os ydych chi ond yn awyddus i rannu eich safbwynt, bydd eich dealltwriaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio dulliau gweithredu yn y dyfodol. Mae pawb yn cael eu hannog i gyfrannu.

Cwestiynau

Rydym yn gofyn am safbwyntiau ar y graddau y bydd y Cynllun Cyflawni Codi Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ac yn cyfrannu at newid cadarnhaol. Mae'r Cynllun Cyflawni yn cynnwys un ar bymtheg o gamau penodol a fydd yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid. Mae'r camau gweithredu wedi'u rhestru o dan bedwar pennawd yn ôl y maes targed arfaethedig ar gyfer pob cam gweithredu.

Gellir cyflwyno ymatebion trwy ein ffurflen ar-lein trwy lawrlwytho fersiwn Word o'r ffurflen ymateb i'w chwblhau. Gellir anfon ffurflenni ymateb wedi'u cwblhau drwy e-bost at airqualitypolicy@llyw.cymru

Cwestiwn 1

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd camau gweithredu'r Cynllun Cyflawni yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau i iechyd pobl sy'n deillio o lygredd aer?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Cwestiwn 2 

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y camau gweithredu’n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau i'r amgylchedd naturiol sy'n deillio o lygredd aer?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Cwestiwn 3 

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y camau gweithredu’n helpu pobl i nodi ffyrdd o leihau eu cyfraniad at lygredd aer?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Cwestiwn 4 

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y camau gweithredu’n helpu pobl i nodi ffyrdd o leihau eu cysylltiad â llygredd aer?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Cwestiwn 5

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd y Cynllun Cyflawni’n cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac y bydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Cwestiwn 6 

Os oes gennych unrhyw safbwyntiau neu sylwadau perthnasol eraill yn ymwneud â'r Cynllun Cyflawni nad ydych wedi gallu eu rhannu uchod, gallwch eu nodi yma.

Grŵp Cyflawni Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer

Hoffai Llywodraeth Cymru gydnabod cyfraniad gwerthfawr yr unigolion a'r sefydliadau canlynol sydd wedi helpu i ddatblygu'r Cynllun Cyflawni.

  • Yr Athro Paul Lewis
  • Phil Webb, Iechyd a Llesiant 360
  • Dr James Heydon, Prifysgol Nottingham
  • Dr Menna Price, Prifysgol Abertawe
  • Dr Gareth Morgan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Hugh Russell, Awyr Iach Cymru/Plant yng Nghymru
  • Haf Elgar, Awyr Iach Cymru/Cyfeillion y Ddaear
  • Joseph Carter, Awyr Iach Cymru/Asthma + Lung UK
  • Dr Sarah Williams, Meddyg Teulu/Greener Practice Wales
  • John Hughes, Cynrychiolydd Grŵp Cymunedol
  • Gemma Roberts, British Heart Foundation
  • Steve Manning, Cyngor Dinas Casnewydd
  • Sarah Jones, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Paul Callow, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Amber Horton, Iechyd Cyhoeddus Cymru