Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae'r Môr Mawr (neu’r 'Ardaloedd y Tu Hwnt i Awdurdodaeth Genedlaethol' (ABNJ) fel y'u gelwir) yn gorchuddio bron i hanner wyneb y ddaear, ond nid oes fframwaith cynhwysfawr i reoli'r ffordd y mae'i amgylchedd yn cael ei ddiogelu, ei adnoddau'n cael eu hecsbloetio na sut mae gweithgareddau morol yn cael eu cynnal.
I Lywodraethau ledled y byd, mae hyn yn her ac yn gyfle. Yn ecolegol, ceir yn y môr mawr amrywiaeth aruthrol o fioamrywiaeth gan gynnwys rhywogaethau mudol ac eco-systemau benthig, nad ydynt i'w cael yn unrhyw le arall yn y byd.
Yn amgylcheddol, rydym yn dechrau deall pwysigrwydd y môr mawr. Mae'n dal a storio carbon ac yn amsugno gwres; y ddau'n helpu i liniaru effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.
Yn economaidd, mae'n cynnig potensial. Mae'r môr mawr yn gartref i stociau pysgod gwerthfawr, prinfwynau a deunyddiau genetig a ddefnyddir mewn meddygaeth a biotechnoleg. Eto, heb strwythur llywodraethu cyfreithiol, mae'r dyfroedd hyn yn wynebu mwy o ecsbloetio wrth i dechnolegau wella, ond heb ddealltwriaeth lawn o'r effeithiau parhaol.
Mae wedi cymryd bron 20 mlynedd i wneud y Cytundeb BBNJ. Cafodd ei ddatblygu trwy'r Cenhedloedd Unedig ac mae’n gam cyntaf tuag at reoleiddio'r môr mawr. Ei nod yw cau’r bylchau mewn cyfraith ryngwladol o ran rheoli gweithgareddau yn y môr mawr, hyrwyddo cydweithrediad a diogelu'r amgylchedd.
Yn dilyn cyhoeddi'r Cytundeb yn 2023, rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau'r Cytundeb trwy gyhoeddi Bil y BBNJ yn gynharach y mis hwn.
Bydd y Bil yn creu fframwaith cyfreithiol mewn tri maes gwahanol.
Yn gyntaf, bydd y Bil yn darparu ar gyfer dynodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) yn y môr mawr, er mwyn gallu eu gwarchod yn effeithiol a sicrhau defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth y môr.
Yn ail, bydd y Bil yn darparu mecanwaith ar gyfer rhannu manteision adnoddau genetig y môr yn deg. Mae hyn yn ymwneud â DNA morol a deunydd organig arall nad oes rheoleiddio arnyn nhw ar hyn o bryd. Mae potensial enfawr yn y sector hwn i gefnogi ymchwil fferyllol a meddyginiaethol mewn ffordd reoledig a chynaliadwy, gyda phrifysgolion Cymru yn chwarae rhan allweddol.
Yn olaf, bydd y Bil hefyd yn newid dalgylch y cyfundrefnau rheoleiddio presennol, yn benodol y rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol. Bydd hyn yn helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut i reoli effeithiau sylweddol ar amgylchedd y môr. Cynigir y bydd gofyn i brosiectau penodol yn y môr asesu unrhyw effeithiau sylweddol posibl ar y Môr Mawr, i ddiogelu bioamrywiaeth a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Rwyf wedi ymrwymo i ddiogelu 30% o'r tir a'r môr yng Nghymru erbyn 2030, nod a osodwyd yng Nghynhadledd 15 y Partïon (COP 15) drwy Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal. Rwyf hefyd yn ymrwymo i wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ddeddf yn dangos ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang yn yr hyn y mae'n ei wneud i ddiogelu'r môr. Ond ni ddylai’r weledigaeth honno ddod i ben wrth ein ffiniau. Rwy'n falch o weld y Bil hwn yn cael ei ddatblygu i roi mecanweithiau rheoleiddio yn yr ABNJ ar waith a gwireddu'r potensial i gysylltu safleoedd gwarchodedig cenedlaethol a rhyngwladol â'i gilydd.
Yn ogystal, mae'n gyfle i brifysgolion Cymru gydweithio ar ymchwil forol ar raddfa fyd-eang, gan greu amgylchedd rhyngwladol sefydlog a mwy rhagweladwy.
Er ei bod yn bwysig cydnabod mai cam cyntaf yw hwn, mae'n ymrwymiad pwysig dros gadwraeth rhyngwladol ein moroedd. Bydd Llywodraeth Cymru yn dal i chwarae ei rhan yn yr ymdrechion hyn i sicrhau bod ein moroedd, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol, yn iach, yn lân ac yn fiolegol amrywiol ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
