Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf ddatgan bod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi heddiw ar y cam cyntaf o’r adolygiad o God Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ceisio barn ar y cynigion ar gyfer y meysydd a ganlyn:
- pennod wedi ei neilltuo i rianta corfforaethol a fydd yn ehangu ar y canllawiau ar rôl yr awdurdodau lleol fel rhieni corfforaethol;
- cryfhau llais y plentyn, yn benodol yn y broses o gynllunio gofal a chymorth a hefyd mewn perthynas â lleoliadau;
- argymhellion gan blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal ar symud lleoliadau a chyfarfodydd adolygu;
- diweddariad ar y derminoleg a’r ddeddfwriaeth yn y fersiwn gyfredol o’r Cod a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018
Bydd ail gam yr adolygiad o’r Cod yn cael ei gynnal ddechrau tymor y Senedd nesaf a bydd yn cynnwys diweddariadau ar dai a digartrefedd, a phobl sy’n gadael gofal.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn para 12 wythnos ac yn cau ar 27 Hydref. Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, a bydd hyn yn cynnwys meithrin cysylltiadau â phlant a phobl ifanc sy’n profi gofal neu sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ym mis Hydref.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
