Cyfarfod Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi: 17 Gorffenaf 2017
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi ar 17 Gorffennaf 2017.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Y Grŵp Cynghorol ar Drethi
- Cadeirydd: Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
- Andrew Evans, Geldards LLP
- Frank Haskew, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
- Janet Jones, Ffederasiwn y Busnesau Bach
- Robert Lloyd Griffiths, Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru
- Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA David Phillips, Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
- Kay Powell, Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Martin Warren, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
- Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan
- Leighton Jenkins, CBI Cymru/Wales (yn cynrychioli Ian Price)
Mynychwyr eraill
- Kathryn Bishop, Darpar-gadeirydd, Awdurdod Cyllid Cymru
Swyddogion yn bresennol
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
- Dyfed Alsop, Cyfarwyddwr Rhaglen Weithredu Awdurdod Cyllid Cymru
- Georgina Haarhoff, pennaeth yr Is-adran Drethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu, Trysorlys Cymru
- Ed Sherriff, Pennaeth Polisi Gwario Cyhoeddus, Trysorlys Cymru
- Sarah Carter, Pennaeth Datblygu Trysorlys Cymru
- Claire McDonald, Rheolwr Rhaglenni, Rhaglen Gyflawni Awdurdod Cyllid Cymru
- Clare Blake, Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol
- Lu Toscano-Davies, Swyddog Polisi a Gweithrediadau, Trysorlys Cymru (Ysgrifenyddiaeth)
Ymddiheuriadau
- Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
- Ian Price, CBI Cymru
Croeso gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. Croesawodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y rhai oedd yn bresennol i unfed cyfarfod ar ddeg Grŵp Cynghorol ar Drethi Cymru. Roedd ymddiheuriadau wedi dod i law oddi wrth Martin Mansfield.
2. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet groesawu a chyflwyno Kathryn Bishop, y cadeirydd dynodedig sydd newydd ei phenodi i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) i'r Grŵp.
Materion yn codi
3. Roedd nodyn y cyfarfod blaenorol (13 Chwefror) wedi'i ddosbarthu i'r aelodau cyn y cyfarfod. Roedd yr holl gamau gweithredu wedi eu cwblhau. Cadarnhaodd y grŵp fod y nodyn yn grynodeb cywir o'r drafodaeth.
Diweddariad Awdurdod Cyllid Cymru
4. Esboniodd Claire McDonald y sail gyfreithiol dros sefydlu ACC, y corff anadrannol cyntaf i'w greu gan Lywodraeth Cymru, a fyddai'n cael ei sefydlu yn ffurfiol yn yr hydref, yn barod i gasglu trethi datganoledig yn Ebrill 2018.
5. Amlinellodd Claire gylch gwaith y corff ac adrodd ar adleoli staff i Ganolfan QED, yn Ystad Trefforest, a'r cynnydd o ran gwasanaethau digidol a recriwtio.
6. Dywedwyd wrth y grŵp i'r ymgynghoriad ar ganiatáu i ACC gael mynediad i bwerau troseddol gael ei gyhoeddi ar 10 Gorffennaf. Ymgynghoriad 12 wythnos oedd hwn, a fyddai'n dod i ben ar 2 Hydref 2017.
7. Cafwyd trafodaeth ar strwythur data a chasglu data, cyfathrebu a gwasanaethau digidol. Adroddodd Dyfed Alsop i'r grŵp fod y materion hyn wedi cael eu trafod ac y byddai staff ag arbenigedd penodol yn cael eu recriwtio yn y meysydd hynny. Roedd gwasanaethau digidol wedi cael adolygiad gateway defnyddiol iawn ac roedd y prosiect yn canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau 'diwrnod 1' - sef cofrestru, ffeilio a thalu.
Trafodaeth ar y fframwaith polisi trethi a threthi newydd
8. Amlinellodd Georgina Haarhoff y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at ddatblygu prif elfennau'r fframwaith a'r cynllun gwaith. Rhoes y newyddion diweddaraf hefyd ar y ddadl ynghylch y trethi newydd.
9. Dywedodd Georgina i'r fframwaith polisi trethi a'r cynllun gwaith gael eu cyhoeddi ar 12 Mehefin. Roedd y fframwaith yn nodi'r meini prawf ar gyfer gwneud polisi trethi yng Nghymru a'r pum egwyddor y câi trethi newydd eu hasesu yn eu herbyn.
10. Rhoes Georgina y newyddion diweddaraf am ddadl y Cynulliad ar drethi newydd a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf. Croesawodd awgrymiadau gan y grŵp ar drethi posibl newydd, yn ogystal â'r rhai a argymhellwyd yn yr adroddiad gan Sefydliad Bevan.
11. Cafwyd trafodaeth ar y cwmpas ar gyfer defnyddio trethiant fel arf ar gyfer cyflawni amcanion polisi: roedd yr aelodau'n awyddus i'r amcan polisi gael ei roi ar flaen y drafodaeth, er mwyn i dreth gael ei hystyried yn un o nifer o ysgogwyr posibl i gyflawni amcanion polisi, yn hytrach nag yn ddiben ynddo'i hun.
12. Gosodwyd pwyslais ar raddau'r dystiolaeth a'r dadansoddiad a gâi ei gynhyrchu a'i asesu fel rhan o'r ystyriaeth o unrhyw dreth newydd bosibl. Gofynnodd yr aelodau fod sylw penodol yn cael ei roi i effaith bosibl treth newydd neu newid mewn gweinyddu trethi ar fusnesau bach. Gofynnwyd i'r aelodau hefyd roi adborth unigol yn sgil y cyfarfod.
Diweddariad ar Gyfraddau Cymreig o Dreth Incwm
13. Rhoes Sarah Carter y newyddion diweddaraf i'r grŵp am y gwaith o roi Cyfraddau Cymreig o Dreth Incwm (WRIT) ar waith.
14. Esboniodd Sarah y galluogrwydd sydd ar gael ar gyfer pennu ardrethi o ganlyniad i ddatganoli WRIT ac amlinellu cydbwysedd cyllid (yn dechrau yn 2019-20). Bu iddi grynhoi'r blaenoriaethau ar gyfer Gweinidogion Cymru, yr.
15. Tanlinellodd yr aelodau y byddai cyfathrebu yn allweddol: byddai'n bwysig ei gwneud yn glir nad treth ychwanegol oedd hon. Cafwyd trafodaeth am y profiad yn yr Alban o faich gweinyddol, yn enwedig i fusnesau bach - gofynnwyd i'r aelodau rannu unrhyw adborth yr oeddent wedi'i gael ar heriau gweinyddol sy'n dod i'r amlwg er mwyn i Lywodraeth Cymru ddysgu oddi wrtho wrth weithio gyda CThEM i roi WRIT ar waith.
16. Ysgrifennydd y Cabinet ac awgrymu mai pwnc y dylai'r Grŵp ddod yn ôl ato oedd hyn.
Rhagolygon Refeniw Trethi Datganoledig
17. Rhoes Ed Sherriff y newyddion diweddaraf am y trefniadau ar gyfer craffu annibynnol ar ragolygon refeniw trethi datganoledig ar gyfer 2017-2018 a sicrwydd ar eu cyfer yn ogystal â chynhyrchu rhagolygon refeniw trethi yn annibynnol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Roedd hyn yn dilyn y cytundeb a wnaed yn y fframwaith cyllidol. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn ddiweddar yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y trefniadau.
Unrhyw Fater Arall
18. Ni chodwyd unrhyw eitemau eraill o dan unrhyw fater arall.
19. Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r mynychwyr am eu cyfraniadau defnyddiol ac adeiladol.
20. Byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym mis Hydref.
