Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Y Grŵp Cynghorol ar Drethi

  • Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Cadeirydd
  • Andrew Evans, Geldards LLP
  • Frank Haskew, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • Y Cyngh.Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Cymru
  • Robert Lloyd Griffiths, Sefydliad y Cyfarwyddwyr
  • Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Kay Powell, Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Leighton Reed, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan

Eraill yn bresennol

  • Matt Williams, Ffederasiwn y Busnesau Bach (yn cynrychioli Janet Jones)

Swyddogion yn bresennol

  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Dyfed Alsop, Cyfarwyddwr Rhaglen Weithredu Awdurdod Cyllid Cymru
  • Georgina Haarhoff, Trysorlys Cymru
  • Debra Carter, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol
  • Ruth Leggett, Trysorlys Cymru
  • Lu Toscano-Davies, Trysorlys Cymru - Ysgrifenyddiaeth

Apologies

  • Janet Jones, Ffederasiwn y Busnesau Bach
  • Martin Mansfield, TUC Cymru
  • David Phillips, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Ian Price, CBI Cymru

Croeso gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

1. Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y mynychwyr a chyflwyno dwy eitem newydd: Y Cyng. Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid ac Adnoddau i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (yn olynu'r Cyng. Aaron Shotton) a Leighton Reed, Cyfarwyddwr Trethi o Broomfield and Alexander a oedd yn cynrychioli Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (yn olynu Martin Warren, bellach yn Aelod o Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru).

Materion yn codi

2. Roedd nodyn y cyfarfod blaenorol (17 Gorffennaf) wedi'i ddosbarthu i'r aelodau cyn y cyfarfod. Cadarnhaodd y grŵp fod y nodyn yn grynodeb cywir o'r drafodaeth.

Rhestr fer o drethi newydd yn cael ei chyhoeddi yn y gyllideb ddrafft

3. Yn dilyn dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf ynghylch y gallu i ddatblygu trethi Cymreig newydd, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet mai proses dryloyw a chydweithredol fyddai hon i sicrhau bod cynigion polisi mor gadarn â phosibl. Nid oedd unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ac roedd amser o hyd i sicrhau bod cynigion yn cael eu llywio'n llawn.

4. Esboniodd Georgina Haarhoff fod cryn ddiddordeb wedi bod ymhlith aelodau o'r cyhoedd, gyda channoedd o ymatebion ar y cyfryngau cymdeithasol a degau o e-byst i Lywodraeth Cymru. Canlyniad hyn a'r adolygiad cychwynnol a gynhaliwyd yn Llywodraeth Cymru oedd rhestr fer o bedwar syniad, a amlinellwyd yn yr Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru (a gyhoeddwyd ochr yn ochr â Chyllideb ddrafft Cymru ar 3Hydref). Y pedwar syniad oedd: treth ar ddeunydd plastig untro, ardoll gofal cymdeithasol, treth ar dwristiaeth a threth ar dir gwag.

5. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth ymhellach ar gyfer pob un o'r cynigion, gan gynnwys trafodaethau gyda'r sectorau yr effeithid arnynt. Ar ddechrau 2018, y bwriad oedd y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrth Lywodraeth y DU pa un o'r pedwar syniad yr oedd am fwrw ymlaen ag ef i brofi mecanwaith Deddf Cymru 2014.

6. Gwahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet yr aelodau i rannu eu sylwadau am y rhestr fer ar gyfer trethi newydd. Tanlinellodd yr aelodau'r angen i sicrhau bod gan unrhyw dreth newydd bosibl sail resymegol gref o ran polisi. Roedd yn bwysig bod yn glir ynghylch i ba raddau yr oedd treth yn ceisio newid ymddygiad neu godi refeniw. Bydd dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau yn helpu i nodi ymarferoldeb treth, gan gynnwys ei heffaith debygol ar faterion cymdeithasol ac economaidd. Byddai'r achos ynghylch a ddylai treth weithredu ar lefel Cymru neu ar lefel awdurdod lleol yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys ble y câi'r dreth yr effaith fwyaf.

7. Roedd trafodaeth ynghylch cymhlethdod posibl ardoll gofal cymdeithasol, effeithiau posibl treth tir gwag i dirfeddianwyr, y sector eiddo a buddsoddwyr, ac ystyriaethau ymarferol megis gweinyddu a gorfodi. Cytunwyd bod angen ystyried nifer o faterion yn ofalus. Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet mai dechrau'r broses oedd hyn ac y byddai'n croesawu sylwadau pellach wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Cynllun gwaith polisi trethi

8. Rhoes Georgina Haarhoff y newyddion diweddaraf i'r grŵp am y cynnydd a wnaed gyda chynllun gwaith polisi trethi ar gyfer 2017. Roedd ymchwil ragarweiniol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod yr haf wedi llywio'r crynodebau a oedd wedi'u cyflwyno yn yr Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru.

9. Gwahoddodd Georgina yr aelodau i hysbysu'r Ysgrifenyddiaeth erbyn y Nadolig am unrhyw feysydd ymchwil a allai gael eu cynnwys yn y cynllun gwaith ar gyfer 2018.

10. Amlinellodd Debra Carter yr elfen ar y cynllun gwaith ar gyfer 2018 sy'n ymwneud â threthi lleol, a oedd yn cynnwys sut y gellid gwneud y dreth gyngor yn decach, ac adolygu rhyddhad ardrethi busnesau bach.

11. Tanlinellodd yr aelodau bwysigrwydd parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i bolisi trethi Cymru gael ei ddatblygu ymhellach, er mwyn sicrhau proses agored a thryloyw.

Awdurdod Cyllid Cymru

12. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y grŵp fod bwrdd ACC wedi'i benodi ers y cyfarfod blaenorol a bod Dyfed Alsop wedi'i benodi'n brif weithredwr.

13. Rhoes Dyfed y newyddion diweddaraf i'r grŵp am y prif gerrig milltir. Roedd digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd wedi'u trefnu ledled Cymru, gan lywio datblygiad y system ddigidol ar gyfer casglu a rheoli trethi. Roedd yr ymgynghoriad ar bwerau troseddol ACC wedi dod i ben, ac fe gâi adroddiad ei gyhoeddi cyn bo hir. Roedd staff ACC wedi symud i Ganolfan QED yn Nhrefforest, ac roedd yr ymarfer recriwtio ddiweddar wedi denu nifer uchel o ymgeiswyr.

Unrhyw Fater Arall

14. Ni chodwyd unrhyw eitemau eraill o dan unrhyw fater arall.

15. Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r mynychwyr am eu cyfraniadau defnyddiol ac adeiladol.

16. Cynhelid y cyfarfod nesaf ar 12 Chwefror 2018 ac fe fyddai'n canolbwyntio ar faterion polisi trethi lleol.