Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Y Grŵp Cynghorol ar Drethi

  • Cadeirydd: Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Andrew Evans - Geldards LLP
  • Frank Haskew - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • Y Cynghorydd Anthony Hunt, – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Leighton Reed, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr

Eraill yn bresennol

  • Leighton Jenkins, CBI Cymru, yn cynrychioli Ian Price
  • Matt Williams, Ffederasiwn Busnesau Bach, yn cynrychioli Janet Jones

Swyddogion yn bresennol

  • Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • Becca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth, Awdurdod Cyllid Cymru, yn cynrychioli Dyfed Alsop
  • Andy Fraser, Pennaeth Strategaeth Trethi, Trysorlys Cymru
  • Laura Fox, Arweinydd Polisi a Deddfwriaeth Trethi, Trysorlys Cymru
  • Nicola Moorhouse, Arweinydd Polisi Trethi, Trysorlys Cymru
  • Lu Toscano-Davies, Trysorlys Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Ymddiheuriadau

  • Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
  • Janet Jones, Ffederasiwn Busnesau Bach (Matt Williams yn ei chynrychioli)
  • Robert Lloyd Griffiths, Sefydliad y Cyfarwyddwyr
  • Martin Mansfield, TUC, Cymru
  • Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • David Phillips, Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Kay Powell, Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Ian Price, CBI Cymru (Leighton Jenkins yn ei gynrychioli)
  • Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan
  • Dyfed Alsop - Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru
  • Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol

Croeso

1. Croesawodd Andrew Jeffreys bawb a oedd yn bresennol. Roedd yn cadeirio’r cyfarfod ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a oedd yn methu â bod yn bresennol oherwydd salwch.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi

2. Roedd cofnodion y cyfarfod blaenorol (20 Tachwedd 2017) wedi cael eu hanfon at yr aelodau cyn y cyfarfod. Cadarnhaodd y Grŵp fod y cofnodion yn grynodeb cywir o'r drafodaeth.

Syniadau ar gyfer trethi newydd Cymru

3. Rhoddodd Georgina Haarhoff yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ynghylch hynt y gwaith o ddatblygu trethi newydd, gan ddisgrifio'r broses y cytunwyd arni â Llywodraeth y DU. Byddai Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflwyno treth ar dir gwag, gan barhau i ystyried y posibiliadau ar gyfer y tri syniad newydd arall ar gyfer trethi (treth deunydd plastig untro, ardoll gofal cymdeithasol, treth twristiaeth).

4. Amlinellodd Andy Fraser y prif faterion sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd mewn perthynas â chyflwyno treth ar dir gwag. Y nod oedd helpu i sicrhau bod tir sy'n addas i'w ddatblygu yn cael ei ddefnyddio, gan roi hwb i'r cyflenwad o dai ac i’r uchelgais adfywio yn unol â strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb.

5. Trafododd y grŵp nifer o faterion sy'n gysylltiedig â threth ar dir gwag, gan gynnwys ei diben, ei chwmpas posibl, ei heffeithiolrwydd, a materion sy'n ymwneud â'i gweinyddu. Soniwyd hefyd am yr angen i roi cyfle i randdeiliaid gyfrannu eu syniadau hwythau ynghylch datblygu'r dreth.

6. Rhoddodd Georgina Haarhoff, Nicola Moorhouse a Laura Fox grynodeb o'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran y tri syniad arall ar gyfer trethi.

Awdurdod Cyllid Cymru

7. Rhoddodd Becca Godfrey yr wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer cyflwyno treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi ar 1 Ebrill. Roedd y gwaith o gofrestru cyfreithwyr yn mynd rhagddo, ac roedd cyfrifiannell treth trafodiadau tir ar gael ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru. Roedd digwyddiadau i randdeiliaid yn cael eu cynnal ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth.

Rôl esblygol Grŵp Cynghorol ar Drethi

8. Nododd Andrew Jeffreys y byddai prif ffocws y gwaith o ddatblygu polisi trethi yng Nghymru yn symud at y cam nesaf unwaith y byddai trethi Cymru, ac Awdurdod Cyllid Cymru, yn dechrau bod yn weithredol ym mis Ebrill, ac y byddai'r cam hwnnw'n cynnwys cyfraddau treth incwm yng Nghymru a'r gwaith ar y trethi newydd.

Unrhyw Fater Arall

9. Ni chodwyd unrhyw eitemau eraill o dan unrhyw fater arall.

10. Diolchodd Andrew Jeffreys i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau defnyddiol ac adeiladol.

11. Byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 9 Gorffennaf 2018.