Grant gwasanaeth cyngor ar ddigartrefedd: canllawiau
Canllawiau i'ch helpu i wneud cais am gyllid i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor ar ddigartrefedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhan Un
Cyflwyniad
- Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo gwelliannau cynaliadwy i iechyd a lles pawb yng Nghymru ac yn cydnabod bod gan wybodaeth a chyngor am les cymdeithasol[1] rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth er mwyn mynnu eu hawliau o ran cyfiawnder sifil a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg a chyfartal mewn bywyd.
- Yn hanesyddol, mae Grant Atal Digartrefedd Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwasanaethau cynghori arbenigol ac annibynnol ym maes digartrefedd a dyfarnwyd arian ar gyfer 19 o wasanaethau cyngor i Shelter Cymru ers i'r Grant ddechrau yn 2003. Yn 2015, yn dilyn adolygiad annibynnol o grantiau digartrefedd Llywodraeth Cymru, cafodd y gwasanaethau amrywiol eu cyfuno i greu Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd i Gymru gyfan, a ddarperir gan Shelter Cymru.
Arian grant diben
- Ni fydd y Grant Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd yn cynnig arian craidd i ddarparwyr gwybodaeth a chyngor. Bydd yn ariannu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ym maes digartrefedd a thai sydd ‘am ddim i'r cleient’, sy'n dangos sut y byddant yn ‘sicrhau'r canlyniadau mwyaf effeithiol a chynaliadwy i'r rhai sy'n ceisio cyngor’ ac sy'n cyflwyno tystiolaeth o hynny.
- Nod y Grant Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd yw cynnig cyfraniad cadarnhaol er mwyn helpu i fodloni'r galw cynyddol parhaus am wasanaethau cynghori a sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru yn cael yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.
- Un o egwyddorion y gronfa yw y bydd y grant yn cefnogi'r darparwyr cyngor mwyaf effeithiol p'un a ydynt yn gweithredu yn y trydydd sector, yn y sector preifat neu mewn awdurdodau lleol.
- Bydd y gwasanaethau cynghori ym maes digartrefedd a thai a ddarperir gan y Grant Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd yn canolbwyntio ar hyrwyddo mynediad cynnar at gyngor yn effeithiol i bobl a allai wynebu risg o ddigartrefedd, gan gynnwys pobl o grwpiau poblogaeth a ymyleiddiwyd ac sydd o dan anfantais, yn ogystal â sicrhau bod pobl sy'n cael cyngor yn cael cyfle i wella eu gallu i wrthsefyll problemau lles cymdeithasol yn y dyfodol. Bydd y gronfa hefyd yn gwella mynediad at wasanaethau a all roi'r math o gyngor arbenigol sydd ei angen ar bobl i ddatrys problemau cymhleth sydd wedi hen ymsefydlu yn aml.
- Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y dylai arian grant ar gyfer gwasanaethau cynghori fod ar gael ar sail tymor hwy er mwyn galluogi'r darparwyr a ariennir i gynllunio'n fwy effeithiol, buddsoddi mewn gwaith partneriaeth, rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt o ran y ffordd y maent yn rheoli eu gwasanaethau a'u helpu i gadw eu staff arbenigol.
- Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu'r arian grant yn ystod y cyfnod rhwng 01 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2029, yn dilyn proses gwneud cais gystadleuol ac agored.
- Yn ogystal, mae'n bosibl y gellid ymestyn yr arian grant i ymgeiswyr llwyddiannus y tu hwnt i'r cyfnod cychwynnol o dair blynedd. Tua diwedd y tair blynedd cyntaf, yn hytrach nag ailagor cylch ariannu cystadleuol, bydd ymarfer meincnodi yn cael ei gynnal i benderfynu a ellid cynnig dyfarniad cyllid arall am hyd at dair blynedd i sefydliadau. Ni fyddai arian estynedig o dan y cynllun yn cael ei gynnig i sefydliadau islaw'r trothwy meincnodi. Ar ddiwedd y cyfnod o chwe mlynedd, byddai'r cynllun grant (os bydd yn parhau) yn agor cylch newydd o arian cystadleuol, gan roi cyfle i sefydliadau presennol a newydd wneud cais am arian.
- Hoffai Llywodraeth Cymru weld cynigwyr yn cyflwyno cynigion ynghylch sut y byddent yn darparu Gwasanaeth Cynghori ar gyfer Cymru gyfan sy'n rhoi gwybodaeth a/neu gyngor i grŵp o'r boblogaeth na chaiff ei gynrychioli'n ddigonol yn y rhanbarthau.
- Dylai ceisiadau i ddarparu gwasanaeth fodloni'r gofynion a nodir isod a dylent hefyd ddangos sut y byddant yn ategu'r gwasanaethau gwybodaeth a chyngor eraill a gefnogir drwy Gronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru.
Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd
- Gofynnir i gynigwyr ddangos sut y bydd eu cynnig ar gyfer Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd i Gymru gyfan yn gwneud y canlynol:
- darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth annibynnol ym maes tai i'r bobl hynny sydd ag anghenion o ran tai ym mhob cymuned yng Nghymru
- gwella ansawdd gwasanaethau gwybodaeth a chyngor drwy ddatblygu gwasanaeth gyda sicrwydd ansawdd
- yn gwella mynediad at wasanaethau, yn enwedig ymhlith pobl sy'n tueddu i beidio â defnyddio gwasanaethau nes y byddant mewn argyfwng
- gwreiddio'r agenda atal digartrefedd yn y gwasanaethau cyngor a ddarperir
- sicrhau bod profiadau bywyd yn rhan o wasanaethau cyngor, o safbwynt y ffordd y cânt eu darparu a'u hygyrchedd
- sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb
- wedi'u cynllunio mewn ffordd sy'n sicrhau bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn cael cyfleoedd pendant i feithrin eu gwybodaeth, eu galluogrwydd a'u sgiliau gyda'r nod o ddod yn fwy gwydn, cyhyd ag sy'n ymarferol, os bydd problemau tebyg yn digwydd eto
- datblygu mesurau canlyniadau ar gyfer ymyriadau gwybodaeth a chyngor, sy'n gysylltiedig â'r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
- Dylai'r gwasanaeth gynnwys gwasanaeth o bell sydd ar gael drwy ffonio un rhif ffôn, ac sy'n galluogi'r unigolyn sy'n ffonio i gael y cyngor penodol sydd ei angen arno yn gyflym. Mae angen i'r gwasanaeth ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb hefyd mewn lleoliadau hygyrch y mae pobl yn tueddu i fynd iddynt mewn cymunedau lleol ledled rhanbarth.
- Mae'n bwysig bod cynigwyr yn esbonio sut y bydd eu model darparu gwasanaethau arfaethedig yn cysylltu â'u gwasanaethau wyneb yn wyneb cymunedol, ac yn eu hategu. Er enghraifft, nodi sut y bydd cynghorydd sy'n delio â'r cyswllt cyntaf yn sicrhau bod unigolyn yn cael cynnig mynediad uniongyrchol at ei wasanaethau gweithiwr achos wyneb yn wyneb rhanbarthol pan fydd angen.
- Bydd yn ofynnol hefyd i gynigwyr gynnig modelau darparu a all dargedu'n rhagweithiol fynediad cynnar at wasanaethau i bobl y gall fod mwy o angen cyngor ar les cymdeithasol arnynt o ganlyniad i nodweddion penodol a all fod ganddynt neu o ganlyniad i'r amgylchiadau penodol y maent yn eu hwynebu. Nid yw Llywodraeth Cymru am fod yn rhy ragnodol ynghylch pa grwpiau a allai gael eu targedu ond gallent gynnwys, er enghraifft, bobl sy'n camdriniaeth ddomestig neu'r rhai sy'n byw â chyflwr meddygol cronig. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i gynigwyr ystyried y rhai y mae angen cyngor arnynt fwyaf yn y rhanbarthau perthnasol a chyflwyno cynigion sy'n sicrhau y caiff mynediad ar gyfer y grwpiau hyn ei flaenoriaethu o fewn y model darparu gwasanaethau. Pan fydd grwpiau penodol o bobl yn cael eu targedu, disgwylir i fodelau gwasanaethau ymgorffori a defnyddio arbenigedd sefydliadau sy'n arbenigo mewn cefnogi'r grwpiau penodol hynny o bobl.
- Gofynnir i gynigwyr esbonio sut y bydd eu model darparu gwasanaethau arfaethedig yn cydgysylltu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau ym mhob ardal awdurdod lleol unigol yng Nghymru yn effeithiol ac yn sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu yn unol ag anghenion cymunedau lleol ledled y rhanbarthau.
- Bydd angen i gynigiwr esbonio sut y bydd ei wasanaeth arfaethedig yn ategu gwasanaethau cynghori lleol a chenedlaethol eraill sydd ar gael i bobl yn y rhanbarth.
Yr Arian sydd Ar Gael
- Bydd yn ofynnol i gynigiwr gyflwyno proffil o wariant cyllidebol sy'n dangos sut mae'n bwriadu defnyddio'r arian i ddarparu'r gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ar gyfer cyfnod y grant.
| Uchafswm yr Arian sydd ar Gael | 2026/27 £ | 2027/28 £ | 2028/29 £ |
|---|---|---|---|
| £1,468,710 | £1,468,710 | £1,468,710 |
Pryd i wneud cais
- Cyhoeddwyd y ffurflen gais i wneud cais am arian grant gan Lywodraeth Cymru ar 23 Gorffennaf 2025 a'r terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 15 Hydref 2025.
- Ni dderbynnir ceisiadau hwyr.
- Y terfyn amser ar gyfer derbyn unrhyw gwestiynau am y grant fydd 5pm ar 20 Awst 2025. Cyhoeddir rhestr o'r ymatebion i'r holl gwestiynau ar wefan Llywodraeth Cymru a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd. Dylid anfon unrhyw gwestiynau i: HousingManagementAndHomelessnessPreventionPolicy@gov.wales Dylai partïon â diddordeb sy'n gofyn cwestiynau wneud hynny gan wybod y caiff eu cwestiwn a'r ymateb iddo eu cyhoeddi.
Pwy all wneud cais
- Gall ceisiadau am yr arian gael eu cyflwyno gan ddarparwr unigol neu nifer o ddarparwyr ar y cyd sy’n gallu dangos sut y byddant yn diwallu'r ystod lawn o anghenion cyngor cymunedau amrywiol Cymru.
- Mae Grant Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd Llywodraeth Cymru yn gynllun cystadleuol a dim ond un cais y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gefnogi ar gyfer y gwasanaeth cynghori. Os na cheir unrhyw geisiadau sy'n cyflawni nodau ac yn bodloni gofynion y grant yn llawn ac yn ddigonol, ceidw Llywodraeth Cymru yr hawl i gefnogi mwy nag un cais pan fyddai gwneud hynny yn arwain at wasanaethau cyfunol sy'n cyflawni nodau ac yn bodloni gofynion y grant.
- Disgwylir i geisiadau unigol nodi cynigion sy'n defnyddio'r holl arian sydd ar gael, neu'r rhan fwyaf o'r arian hwnnw.
- Mae'n rhaid i gais cydweithredol am arian nodi darparwr arweiniol. Bydd y darparwr arweiniol hwn yn derbyn y cyfrifoldeb cytundebol am ddarparu'r gwasanaethau a ariennir gan y grant.
- Mae'n rhaid i gais hefyd gynnwys manylion llawn pob un o'r partneriaid eraill a fydd yn rhan o'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau a ariennir ar y cyd.
- Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau gwybodaeth a chyngor gyda sicrwydd ansawdd. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, mae'n rhaid i ddarparwr, mewn cais unigol neu gydweithredol am arian a fydd yn chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cynghori ym maes digartrefedd a thai i bobl, ar ddyddiad dechrau'n cyfnod ariannu, feddu ar Safon Ansawdd cynghori gydnabyddedig ar lefel briodol ar gyfer y gwasanaeth y mae'n bwriadu ei ddarparu.
- Mae Safonau Ansawdd cynghori derbyniol yn cynnwys y safonau ansawdd canlynol sydd wedi'u hachredu i Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- Y cynllun aelodaeth sy'n eiddo i Cyngor ar Bopeth
- Y Safon Ansawdd Cynghori
- Y Marc Ansawdd Arbenigol
- Lexcel
- Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf
- Cynllun Sicrhau Ansawdd Cymorth i Ferched Cymru
- Y Safon Elusen Ddibynadwy
- Yn ogystal â meddu ar Safon Ansawdd cynghori gydnabyddedig, bydd angen i ddarparwr, a fydd yn chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyngor ar ddyled yn uniongyrchol i bobl, gael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, neu fod wedi'i eithrio rhag cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Arianno, h.y. awdurdod lleol.
- Nid oes angen i ddarparwr nad yw ei rôl yn cynnwys rhoi cyngor cyffredinol nac arbenigol yn uniongyrchol i bobl, feddu ar Safon Ansawdd cynghori. Er enghraifft, bydd hyn yn cynnwys:
I. partner nad yw'n rhoi cyngor, y mae ei rôl, o fewn cais cydweithredol, yn cynnwys cydgysylltu a/neu reoli'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau gwybodaeth a chyngor a ariennir yn lleol, yn rhanbarthol neu i Gymru gyfan neu;
II. darparwr y mae ei rôl o fewn cais cydweithredol yn cynnwys hwyluso ymgysylltu cadarnhaol â phobl/grwpiau sydd fwyaf anodd eu cyrraedd a/neu ddarparu gwybodaeth/cyngor ar faterion lles cymdeithasol a'i gwneud yn bosibl i unigolyn gael ei atgyfeirio'n ddidrafferth at bartner sy'n rhoi cyngor.
- Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu i'r grant hwn ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cynghori rheng flaen. O fewn cynnig ariannu cydweithredol, mae'n rhaid i bartner nad yw'n rhoi cyngor, y mae ei rôl yn cynnwys cydgysylltu a/neu reoli'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau a ariennir yn lleol, yn rhanbarthol neu i Gymru gyfan, fod yn sefydliad Nid er Elw a all ddarparu tystiolaeth o'r canlynol:
I. ei hanes sefydledig a llwyddiannus o gydgysylltu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor a;
II. bod ganddo ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r Sector Cyngor ar Les Cymdeithasol yng Nghymru.
[1] Mae cyngor am les cymdeithasol yn cynnwys dyled, gwahaniaethu, addysg, cyflogaeth, tai, mewnfudo a budd-daliadau lles.
Rhan Dau
Llenwi'r ffurflen gais
Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy'n derbyn grant
- Rydym ni (Llywodraeth Cymru) am weithio gyda sefydliadau sy'n ymfalchïo yn eu henw da, eu darpariaeth a'u hymddygiad. Mae'r canllawiau atodedig yn amlygu ac yn egluro'r mathau o ymddygiadau, diwylliannau a gwerthoedd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn cael ‘eu gwireddu’ gan y sawl sy'n cael grantiau ganddi. Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y rhai hynny sy'n derbyn grant [HTML] | LLYW.CYMRU
- Lluniwyd y canllawiau hyn er mwyn helpu i sicrhau bod y rhai sy'n gwneud cais am arian grant yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i asesu eu cais.
- Ni chaiff ceisiadau anghyflawn eu hasesu ac, felly, ni chânt eu hystyried ar gyfer grant.
Adran Un: Manylion y Sefydliad/Darparwr Arweiniol
Mewn cais cydweithredol (lle y bydd darparwyr sy'n bartneriaid yn darparu'r gwasanaeth), mae'n ofynnol i'r sefydliad arweiniol nodi ei fanylion cyswllt llawn yn adran un.
Adran Dau: Darparwyr sy'n Bartneriaid (Ceisiadau Cydweithredol yn Unig)
Dim ond os yw'n gais cydweithredol y dylid llenwi'r adran hon. Mae'n gofyn am wybodaeth am y darparwr arall/darparwyr eraill a fydd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau arfaethedig a fydd yn cael arian grant.
Adran Tri: Sicrhau Ansawdd
Mae'n ofynnol i unrhyw ddarparwr/darparwyr sy'n gwneud cais am arian i ddarparu gwasanaeth cynghori arbenigol ddarparu'r canlynol:
I. tystiolaeth o'r Safon Ansawdd cynghori sydd ganddo (ganddynt) a chadarnhau'r dyddiad y bydd yn rhaid iddo (iddynt) gyflwyno cais newydd am y Safon Ansawdd cynghori hon;
II. datganiad i gadarnhau ei fod (eu bod) yn ddiduedd a'i fod (eu bod) yn gallu gweithredu bob amser er budd y bobl a fydd yn cael y gwasanaethau cynghori a ariennir sydd am ddim i'r cleient.
III. os bydd darparwr yn darparu gwasanaeth cynghori ar ddyled, dystiolaeth ei fod yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, neu gadarnhad ei fod wedi'i eithrio rhag cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Os bydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn rhoi'r gorau i reoleiddio darparwr ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod ariannu, rhaid i'r darparwr hysbysu Llywodraeth Cymru ar unwaith. Bydd gan Lywodraeth Cymru yr hawl i dynnu unrhyw arian grant yn ôl mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyngor ar ddyled oddi wrth unrhyw ddarparwr nad yw'n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol mwyach, p'un a yw'n meddu ar safon Llywodraeth Cymru o hyd ai peidio.
Bydd darparwr a ariennir sy'n peidio â dal Safon Ansawdd cynghori gydnabyddedig unrhyw bryd yn ystod cyfnod yr arian grant yn hysbysu Llywodraeth Cymru ar unwaith a chaiff yr arian ei dynnu yn ôl.
Bydd yn ofynnol i ddarparwr, wrth dderbyn grant, gadarnhau ei fod ef (a'r holl bartneriaid mewn cais cydweithredol) yn cytuno i ymgysylltu a chyfranogi'n llawn o fewn y mesurau sicrwydd ansawdd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu defnyddio.
Adran Pedwar: Dyddiad Disgwyliedig Dechrau Darparu'r Gwasanaethau
Mae'n ofynnol i gynigiwr gadarnhau y gall ddechrau darparu'r gwasanaethau gwybodaeth a chyngor a ariennir sydd am ddim i'r cleient o 01 Ebrill 2026 ymlaen.
Adran Pump: Y Gwasanaeth Arfaethedig
Mae'n ofynnol i gynigiwr ymateb i gyfres o gwestiynau am sut y bydd y gwasanaeth y mae'n bwriadu ei ddarparu yn cyflawni diben y Grant.
Sgorio
Bydd y broses asesu yn cynnwys system sgorio wedi'i phwysoli. Pan fydd cwestiwn yn cael ei sgorio, nodir pwysoliad y sgôr berthnasol ar ôl y cwestiwn.
Ceir crynodeb o bwysoliad y pwyntiau isod:
| Cwestiwn | Y Sgôr Uchaf Bosibl |
|---|---|
| 20 |
| 25 |
| 25 |
| 5 |
| 10 |
| 15 |
| Cyfanswm y Sgoriau Uchaf Posibl | 100 |
Cwestiwn 1: Profiad Blaenorol
Mae'r cwestiwn hwn yn gofyn am esboniad o brofiad a gallu profedig darparwr/darparwyr i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ar hawliau tai a digartrefedd sydd am ddim i'r cleient ar lefel leol, genedlaethol a Chymru gyfan. Mewn cais cydweithredol, mae hyn yn ymestyn i bob un o'r darparwyr gwasanaeth a fydd yn derbyn rhan o'r grant hwn. Os bydd cais cydweithredol yn cynnwys darparwyr gwasanaeth nad ydynt yn rhoi cyngor ond a all, er enghraifft, hwyluso ymgysylltu neu gyflawni swyddogaeth arall, dylech hefyd roi esboniad o unrhyw brofiad perthnasol sy'n ymwneud â'r swyddogaeth honno yn eich ymateb i'r cwestiwn hwn.
Gofynnir i gynigwyr hefyd esbonio eu profiad blaenorol o gymryd rhan mewn modelau darparu gwasanaethau cydweithredol.
Cwestiwn 2: Darparu Gwasanaethau
Mae'r gyfres hon o gwestiynau yn edrych ar y ffordd y bydd y gwasanaeth(au) gwybodaeth a/neu gyngor arfaethedig ar ddigartrefedd a thai sydd am ddim i'r cleient yn cyflawni nodau allweddol y Grant Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd, gan gynnwys sut y bydd model darparu gwasanaethau arfaethedig:
I. Yn darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth annibynnol ym maes tai i'r bobl hynny sydd ag anghenion o ran tai ym mhob cymuned yng Nghymru. Yn ddi-dor ac yn gwbl integredig ar gyfer pobl sydd, er enghraifft, ag anghenion cyngor:
- ym mhob un o feysydd pwnc digartrefedd a thai, a/neu;
- sy'n symud o un math o gyngor i fathau eraill, h.y., canllawiau i gyngor cyffredinol i gyngor arbenigol, a/neu;
- sydd wedi cysylltu â gwasanaeth Cymru gyfan ac y mae angen iddynt gael gafael ar wasanaethau a ddarperir yn lleol/rhanbarthol.
Disgwylir i gynigwyr nodi'n fras sut y byddant yn ceisio sicrhau y bydd y gwasanaeth a gynigir ganddynt yn gydgysylltiedig â gwasanaethau cynghori eraill, y byddai llawer ohonynt yn cael eu hariannu drwy ffrydiau ariannu eraill. Disgwylir iddynt hefyd gadarnhau eu bod yn barod i integreiddio eu gwasanaeth yn llawn â gwasanaethu cynghori eraill a ariennir gan grant ledled Cymru.
Er mwyn helpu ymhellach i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig, mae disgwyl i gynigwyr gadarnhau sut y byddant yn ategu'r Gronfa Gynghori Sengl a ariennir gan Lywodraeth Cymru a allai gynnig cyfraniad cadarnhaol cyffredinol wrth i'r adnoddau sydd ar gael eu defnyddio i'r eithaf ac wrth i achosion o ddyblygu ymdrechion gael eu lleihau i'r eithaf. Mae disgwyl hefyd i gynigwyr ddangos sut y byddant yn cyfrannu at y Rhwydwaith Cynghori Rhanbarthol, ac yn ymgysylltu ag ef, ac unrhyw bartneriaethau rhwydwaith cynghori a sefydlwyd yn y rhanbarthau/yn genedlaethol.
Rhagwelir y bydd gwaith partneriaeth effeithiol yn ganolog i fodel darparu sy'n cyd-fynd â nod ac amcanion y Grant Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd a bydd cynigiwr yn dyrannu rhywfaint o'r arian sydd ar gael er mwyn meithrin a chynnal y rhwydwaith o wasanaethau sy'n rhan o'i fodel darparu cydweithredol arfaethedig.
Un o'r meysydd allweddol a archwilir drwy waith monitro grant rheolaidd fydd i ba raddau y mae gwasanaethau a ariennir wedi cael eu hintegreiddio'n effeithiol.
II. yn gwella ansawdd gwasanaethau gwybodaeth a chyngor drwy ddatblygu gwasanaeth gyda sicrwydd ansawdd
III. yn gwella mynediad at wasanaethau, yn enwedig ymhlith pobl sy'n tueddu i beidio â defnyddio gwasanaethau nes y byddant mewn argyfwng. Yn achos gwasanaethau wyneb yn wyneb, yn gallu mynd i galon cymunedau lleol, gan sicrhau bod y gwasanaethau a ariennir yn dra hysbys ac yn hygyrch ac yn achos y gwasanaeth o bell i Gymru gyfan, yn gallu creu proffil digonol er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn dra hysbys ac yn hygyrch
IV. yn gwreiddio'r agenda atal digartrefedd yn y gwasanaethau cyngor a ddarperir
V. yn sicrhau bod profiadau bywyd yn rhan o wasanaethau cyngor, o safbwynt y ffordd y cânt eu darparu a'u hygyrchedd
VI. yn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i bawb
VII. wedi'u cynllunio mewn ffordd sy'n sicrhau bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn cael cyfleoedd pendant i feithrin eu gwybodaeth, eu galluogrwydd a'u sgiliau gyda'r nod o ddod yn fwy gwydn, cyhyd ag sy'n ymarferol, os bydd problemau tebyg yn digwydd eto
VIII. yn datblygu mesurau canlyniadau ar gyfer ymyriadau gwybodaeth a chyngor, sy'n gysylltiedig â'r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cwestiwn 3: Cynllunio a Chydgysylltu Gwasanaethau
Mae'r gyfres hon o gwestiynau yn edrych ar y canlynol:
I. pa mor gadarn yw'r tybiaethau cynllunio a ddefnyddiwyd i ragfynegi nifer y bobl y disgwylir iddynt ddefnyddio'r gwasanaeth fel y'i nodir yn y tabl Disgwyliadau o ran Lleiafswm yr Achosion/Ymholiadau yng Nghwestiwn 6 o'r ffurflen gais;
II. pa mor effeithiol oedd y broses o gynllunio'r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor o ran sicrhau bod y gwasanaeth(au) a ariennir yn ategu adnoddau'r gwasanaethau cynghori sydd eisoes yn gweithredu mewn rhanbarth a ledled Cymru, gan wneud cyfraniad cadarnhaol yn gyffredinol drwy wneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau sydd ar gael ac osgoi dyblygu ymdrech cymaint â phosibl;
III. caiff y gwaith o ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ei gydgysylltu er mwyn sicrhau bod mynediad cyfartal a chyson at y gwasanaeth a ariennir ym mhob rhan o'r wlad;
IV. sut y bydd y broses o gynllunio'r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn sicrhau y caiff y gwasanaeth a ariennir ei ddarparu yn unol ag anghenion penodol cymunedau lleol;
V. sut y bydd system o adolygu ac arloesi yn sicrhau gwelliannau parhaus o ran effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
Cwestiwn 4: Y Gymraeg ac Ieithoedd Cymunedol
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaeth a ariennir gael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw unigolion sy'n nodi mai hon yw eu dewis iaith.
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau a ariennir gael cynnig gwasanaethau cyfieithu, ym mhob un o'r ieithoedd cymunedol, os bydd eu hangen arnynt.
Felly, bydd angen i gynigiwr nodi'n glir sut y bydd ei fodel darparu gwasanaeth arfaethedig yn sicrhau y bydd mynediad cyson a chyfartal i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a ariennir sydd am wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, neu unrhyw un o'r ieithoedd cymunedol.
Cwestiwn 5: Gwasanaethau sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn sy'n Cyfrannu at Les
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i bobl Cymru gael eu gwasanaethu gan wasanaethau cynghori cynaliadwy gyda sicrwydd ansawdd sy'n darparu gwasanaethau sy'n grymuso pobl ac sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Yn eu cais am arian, gofynnir i gynigwyr ddangos y ffyrdd y bydd eu gwasanaeth arfaethedig yn cyfrannu at bob un o'r saith nod llesiant neu rai ohonynt.
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Yn ogystal, dylai cynigwyr ddisgrifio sut y byddant yn sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu cynnwys yn y broses barhaus o gynllunio ac ailgynllunio eu gwasanaeth.
Cwestiwn 6: Gwerth am Arian
O dan y cwestiwn hwn, caiff ceisiadau eu sgorio er mwyn blaenoriaethu ceisiadau sy'n cynnig y gwerth gorau am arian yn gyffredinol. Yn benodol, caiff yr wybodaeth a ddarperir am ddisgwyliadau o ran lleiafswm yr achosion/ymholiadau, y gost gyfartalog fesul cynghorydd cyfwerth ag amser llawn (CALl) a'r canlyniadau disgwyliedig ei chyfuno i roi darlun cyffredinol o werth am arian a gaiff ei sgorio, hyd at uchafswm o 15 o bwyntiau.
I. Disgwyliadau o ran Lleiafswm yr Achosion/Ymholiadau
Mae'n ofynnol i gynigiwr nodi ei ddisgwyliadau o ran lleiafswm yr achosion/ymholiadau y mae'n disgwyl ymdrin â nhw (bob blwyddyn am dair blynedd y grant).
Dylai cynigwyr nodi nifer yr ymholiadau a'r achosion yn ôl lefel y cyngor. Rydym yn sylweddoli y bydd darparwyr gwybodaeth a chyngor yn defnyddio diffiniadau gwahanol o ymholiadau ac achosion yn eu cofnodion. Er mwyn rhoi rhyw syniad o faint o waith y disgwylir iddo gael ei wneud yn y cynnig, byddem yn gofyn i gynigwyr gwblhau'r adran hon gan gyfeirio at y dehongliad canlynol fel y gellir asesu ceisiadau i weld a yw cwmpas y gwasanaeth yn briodol a sicrhau eu bod yn cynnig y gwerth am arian sy'n ofynnol.
Wrth ‘ymholiad’ rydym yn rhagweld darn untro ar wahân o waith gyda chartref sy'n ceisio cyngor neu wybodaeth lle mae cyfanswm yr amser a dreulir ar y gwaith hwnnw yn llai na 30 munud fel arfer.
Wrth ‘achos’ rydym yn golygu gwaith sydd fel arfer yn para cyfanswm o 30 munud neu fwy, a fydd yn golygu, o bosibl, fwy o waith cofnodi nag yn achos ymholiad ac a fyddai, fel arfer, yn cynnwys darparu cadarnhad ysgrifenedig o gyngor.
Os mai dim ond i bobl â nodweddion penodol neu bobl mewn sefyllfaoedd penodol y bydd rhai rhannau o'r gwasanaeth arfaethedig ar gael, dylai ymgeiswyr roi dadansoddiad o hyn mewn cromfachau ar ôl cyfanswm yr achosion neu'r ymholiadau, lle y bo'n gymwys.
Yn yr adroddiadau monitro sy'n ofynnol o dan y grant hwn, bydd hefyd yn ofynnol i ddarparwyr roi gwybodaeth am nifer y bobl y rhoddwyd cyngor iddynt, gan gynnwys cyfran y cleientiaid mynych, a nifer y problemau y rhoddwyd cyngor arnynt.
II. Gwariant Grant Arfaethedig
Gofynnir i gynigiwr nodi'n glir faint o arian grant y mae'n gwneud cais amdano ar gyfer y cyfnod ariannu cyfan.
Disgwylir i gynigwyr gyflwyno cynigion sy'n defnyddio'r holl arian sydd ar gael, neu'r rhan fwyaf o'r arian hwnnw.
Nodir uchafswm yr arian sydd ar gael i ddarparu'r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn y tabl isod:
| Uchafswm yr Arian sydd ar Gael | 2025/26 £ | 2026/27 £ | 2027/28 £ |
|---|---|---|---|
| £1,468,710 | £1,468,710 | £1,468,710 |
Mae'n ofynnol i gynigiwr gwblhau’r proffil o wariant a rhoi dadansoddiad manwl o'r gwariant arfaethedig yn y daenlen wariant. Dylai cynigwyr gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn dangos sut y caiff yr arian grant y gofynnir amdano ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor ym mhob blwyddyn ariannol dros y cyfnod ariannu o 3 blynedd.
Mae rhywfaint o fformiwla wedi'i chynnwys yn y daenlen er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr. Fodd bynnag, y cynigiwr sy'n gyfrifol am gadarnhau bod yr holl fanylion a ddangosir ar y taenlenni yn gywir, yn enwedig pan ychwanegir llinellau ychwanegol a gall fod angen addasu fformiwlâu.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog cynigiwr sy'n gwneud cais am arian grant i gynnig cyflogau sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw gwirioneddol neu sy'n uwch nag ef. Os bydd unrhyw gyflogau a nodir yng nghynnig cynigiwr yn is na'r Cyflog Byw gwirioneddol, byddwn yn awyddus i drafod â'r cynigiwr unrhyw ffyrdd y gallwn ei helpu i allu cynnig cyflogau sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw gwirioneddol neu sy'n uwch nag ef. Mae rhagor o wybodaeth am y Cyflog Byw gwirioneddol ar gael yn https://www.livingwage.org.uk/.
Nodiadau pwysig
- Er nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu nodi cyfanswm cost gyfartalog ddisgwyliedig gwasanaeth cynghorwyr cyffredinol ac arbenigol CALl, bydd cyfanswm y gost gyfartalog fesul cynghorydd yn benderfynydd pwysig wrth asesu i) a yw'r gost gyfartalog yn ddigonol i roi hyder bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn debygol o gael eu darparu a ii) bod y gost gyfartalog yn ddigon cystadleuol i sicrhau bod y gwasanaeth a ariennir yn cael yr effaith gymdeithasol fwyaf posibl.
- Cyfrifir cyfanswm y gost gyfartalog fesul cynghorydd drwy rannu cyfanswm costau'r cynnig â nifer y cynghorwyr arfaethedig. Ystyrir bod gweithiwr Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl) yn gweithio 37 awr yr wythnos. Os nad yw hyn yn wir, dylai ymgeiswyr adio nifer yr oriau a weithir gan y cynghorwyr arfaethedig at ei gilydd a rhannu'r cyfanswm â 37 i roi ffigur CALl.
- Mae Llywodraeth Cymru am i gymaint o'r grant hwn â phosibl ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Dylid cadw costau sy'n gysylltiedig â chydgysylltu gwahanol wasanaethau ac â chonsortia yn gyffredinol i'r lefel isaf posibl sydd ei hangen i sicrhau prosesau darparu gwasanaethau ac adrodd integredig effeithiol.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo rhesymoldeb unrhyw Daliadau rheoli/Costau canolog y gofynnir amdanynt.
- Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu'n ariannol at unrhyw gostau diswyddo.
III. Disgwyliadau o'r Canlyniadau a Monitro
Mae'n ofynnol i gynigiwr ddarparu gwybodaeth am y mesurau perfformiad allweddol y mae'n bwriadu adrodd arnynt ac esbonio sut y bydd y mesurau perfformiad yn dangos i Lywodraeth Cymru fod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor y mae'n bwriadu ei ddarparu yn cyflawni nodau allweddol y Grant Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd ac yn cyd-fynd â'r Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd.
Bydd hefyd yn ofynnol i gynigiwr gadarnhau, os bydd yn cael arian, y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu mesurau perfformiad a mesurau canlyniadau ychwanegol a chytuno arnynt ar y cyd.
Adran Chwech: y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Mae'n rhaid i bob darparwr gadarnhau ei fod yn deall ac yn derbyn yr amodau canlynol ac y bydd yn cydymffurfio â nhw:
- Mae'n rhaid i bob dyfarniad arian grant gydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
- Bydd angen i unrhyw wybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu a'i chadw gan ddarparwr a ariennir gael ei thrin yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
- Er mwyn cyflawni dibenion y grant bydd yn ofynnol i ddarparwr a ariennir brosesu data personol. Ond ni chaiff unrhyw ddata personol eu rhannu â Llywodraeth Cymru.
- Y darparwr/darparwyr llwyddiannus fydd y Rheolydd Data a'r prosesydd data.
- Fel Rheolydd Data a phrosesydd data, dim ond data sy'n angenrheidiol ac yn berthnasol i ddiben y prosiect hwn y dylai darparwr/darparwyr ofyn amdanynt, a dim ond pan fo rheswm cyfreithiol penodol dros wneud hynny y dylai (dylent) gasglu data.
Wrth gwblhau Atodiad A o'r ffurflen gais, bydd cynigwyr yn nodi pa eitemau o ddata personol y byddant yn eu casglu wrth ddarparu'r gwasanaeth arfaethedig.
Adran Saith: Datganiad
Mewn cais cydweithredol (lle mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan sawl partner) dylai'r datganiad/ardystiad gael ei gwblhau gan y darparwr arweiniol.
Dylai unrhyw un sy'n llofnodi'r datganiad hwn fod wedi'i awdurdodi'n llawn gan ei sefydliad ei hun ac, yn achos cais cydweithredol, y partner arall/partneriaid eraill sy'n rhan o'r cais.
Er na ofynnir am gopïau o gytundebau partneriaeth rhwng partneriaid mewn cais cydweithredol fel rhan o'r cais hwn am grant, mae'r datganiad hwn yn cadarnhau eu bod ar waith ac ar gael i Lywodraeth Cymru os gofynnir amdanynt.
Meini prawf asesu ceisiadau
- Diben cynnal yr ymarfer ceisiadau am grant agored hwn yw galluogi Llywodraeth Cymru i nodi'r modelau darparu gwasanaethau sy'n gwneud y canlynol:
I. cyflawni nod ac amcanion y Grant Gwasanaeth Cynghori Digartrefedd;
II. rhoi'r hyder mwyaf o ran y gallu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel;
III. cynnig y gwerth gorau am arian.
- Cynhelir asesiad cychwynnol o'r holl gynigion, a:
I. chaiff cynnig nad yw'n bodloni'r gofyniad i ddarparwr sy'n cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ym maes digartrefedd a thai fod yn ddeiliad Safon Ansawdd cynghori gydnabyddedig (neu na all ddarparu tystiolaeth gadarn y bydd yn dal Safon o'r fath erbyn y dyddiad y bydd y gwasanaethau a ariennir yn dechrau, megis cadarnhad ei fod wedi gwneud cais am archwiliad Safon Ansawdd cynghori) ei wrthod.
II. caiff cynnig lle y bydd darparwr yn darparu gwasanaeth cyngor ar ddyledion nas rheoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (neu na all ddarparu tystiolaeth gadarn y bydd yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol) ac nad yw wedi'i eithrio rhag cael ei reoleiddio gan yr awdurdod hwnnw ei wrthod.
III. caiff cynnig cydweithredol, lle y bydd partner nad yw'n rhoi cyngor yn cydgysylltu'r gwasanaethau a ariennir ac nad yw'n sefydliad Nid er Elw, ei wrthod.
- Caiff ceisiadau anghyflawn eu gwrthod ar y cam asesu cychwynnol.
- Bydd yr asesiad o'r ymatebion i'r cwestiynau yn y ffurflen gais yn seiliedig ar fethodoleg sgorio sy'n defnyddio system sgorio wedi'i phwysoli (fel y dangosir yn y tabl ar dudalen 10) gyda'r sgoriau uchaf posibl yn cael eu rhestru ar gyfer pob cwestiwn sydd i'w asesu.
Rhan tri
Gwybodaeth ychwanegol
Goruchwyliaeth dechnegol
- Mae'n rhaid i oruchwylwyr technegol staff sydd ynghlwm wrth ddarparu'r gwasanaethau cynghori a ariennir fod yn gynghorwyr lles cymdeithasol profiadol ac, yn achos y gwasanaethau cyngor arbenigol, mae'n rhaid i oruchwyliwr technegol fod yn weithiwr achos arbenigol profiadol yn y maes pwnc a ariennir y mae cyngor yn cael ei roi mewn perthynas ag ef, h.y. cyngor ar ddyledion, tai ac ati.
Cofnodion sesiynau cynghori a gwaith a wnaed
- Mae'n rhaid darparu tystiolaeth ar gyfer yr holl achosion a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar ffurf cofnod cynhwysfawr o achosion, p'un a roddir caniatâd i gynnal gwerthusiad allanol ai peidio (gweler isod). Bydd hyn yn cynnwys unrhyw ryngweithio rhwng y cleient a thrydydd partïon ac unrhyw waith a wneir i ymdrin â'r achos neu ei adolygu.
Adrodd a gwybodaeth am weithgarwch monitro
- Bydd yn ofynnol i ddarparwr a ariennir gyflwyno adroddiadau monitro chwarterol i Lywodraeth Cymru ar berfformiad y gwasanaeth a ariennir, yn ogystal â darparu gwiriadau cydymffurfio. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau.
- Bydd yn ofynnol i ddarparwr a ariennir ddarparu gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor. Bydd Llywodraeth Cymru a'r darparwr a ariennir yn cytuno ar yr wybodaeth sydd i'w darparu.
- Bydd yn ofynnol i ddarparwr a ariennir roi copi o'i gofrestr risg wedi'i diweddaru i Lywodraeth Cymru ar gais. Os nodir risg sylweddol newydd yn ystod y cyfnod adrodd, dylid hysbysu Llywodraeth Cymru amdani o fewn pum diwrnod gwaith, neu'n gynt os yw'n bosibl.
Gwerthuso
- Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y cysylltiadau rhwng allbynnau'r gwasanaethau cynghori y mae'n eu comisiynu a'r canlyniadau tymor hwy i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn. Disgwylir i ddarparwr sy'n cael arian grant gan Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n llawn â'r maes gwaith datblygiadol hwn.
- Gallai'r ystyriaeth hon sy'n cael ei rhoi i'r canlyniadau cynaliadwy hirdymor i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cynghori a ariennir gan Lywodraeth Cymru gynnwys defnyddio trydydd parti i werthuso canlyniadau a/neu wneud gwaith ymchwil ychwanegol gydag unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau cynghori a ariennir.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r holl ddarparwyr a ariennir ganddi er mwyn sefydlu dulliau arfer gorau o hyrwyddo manteision gwerthuso i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u hannog i roi eu cydsyniad ar sail gwybodaeth i gael eu gwerthuso. Bydd yn ofynnol i ddarparwr a ariennir gadarnhau (a phob partner sy'n rhan o fodel darparu gwasanaethau cydweithredol) ei fod yn fodlon cymryd rhan yn y gwaith hwn yn ystod y cyfnod y bydd yn derbyn arian grant.
Amrywiol
- Mae cynigiwr yn gyfrifol am gael cyngor, ar ei draul ei hun, ynghylch unrhyw hapddigwyddiadau yn y dyfodol; neu unrhyw amgylchiadau eraill; neu faterion a allai effeithio mewn unrhyw ffordd ar ei gais am arian grant. Er enghraifft, os bydd un o gyflogeion darparwr sy'n cael arian ar hyn o bryd o un o ffrydiau arian grant Llywodraeth Cymru yn gofyn a yw ei gyflogaeth bresennol a ariennir gan grant yn dod o dan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (TUPE).
Rhan pedwar
Canllawiau ar gyllid
- Gofynnir i ddarparwr a ariennir gadarnhau y proffiliau o wariant a darparu diweddariadau ar gyfer y gwariant disgwyliedig yn rheolaidd yn ystod cyfnod yr arian grant.
Hawliadau a Thalu
- Caiff y grant ei dalu bob chwarter mewn ôl-daliadau ar ôl i hawliadau wedi'u dogfennu'n gywir gael eu cyflwyno yn unol â'r darpariaethau a gaiff eu nodi yn y llythyr dyfarnu grant/amodau ffurfiol. Fodd bynnag, gellir gwneud taliadau ymlaen llaw os gellir dangos yn glir fod hyn yn angenrheidiol. Os yw'n briodol, gall darparwyr ofyn am dempled Talu Ymlaen Llaw neu gadarnhau bod un wedi'i gyflwyno am y cyfnod ariannol presennol os bydd darparwr yn cael arian grant arall a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru.
Hysbysiad preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru
- I gael gwybodaeth am y ffordd rydym yn trin unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant, cliciwch yma Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru
- Caiff yr wybodaeth rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian a chadarnhau pwy ydych. Os canfyddir twyll, mae'n bosibl y gwrthodir rhoi gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth benodol i chi yn y dyfodol.
- Ceir rhagor o fanylion am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym a'r asiantaethau atal twyll hyn, a'ch hawliau diogelu data, drwy e-bostio Swyddogdiogeludata@llyw.cymru.
Atodiad 1: Diffiniadau
Diffiniadau o Fathau o Wybodaeth a Chyngor
Fel y'u cyhoeddwyd yn Fframwaith Sicrhau Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Cymru Llywodraeth Cymru.
Math Un: Gwybodaeth
Mae'n disgrifio gwasanaeth sy'n rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gleientiaid er mwyn iddynt wybod mwy a gwneud mwy am eu sefyllfa. Gall gynnwys darparu gwybodaeth am bolisïau, hawliau ac arferion; ac am wasanaethau lleol a gwasanaethau i Gymru gyfan a gwasanaethau a fydd, o bosibl, yn gallu cynnig rhagor o help i'r cleient. Y cleient sy'n gyfrifol am gymryd unrhyw gamau pellach.
E.e. mae cleient yn gofyn a all gael help gyda'i dreth gyngor. Rydych yn rhoi taflen, “Help gyda Threth Gyngor” iddo ynghyd â manylion dau wasanaeth cynghori lleol sy'n cynnig cyngor ar fudd-daliadau lles.
Math Dau: Canllawiau
Mae'n disgrifio gwasanaeth a all drafod manteision ac anfanteision gwahanol opsiynau heb wneud argymhellion penodol. Gall gynnwys gwneud a derbyn atgyfeiriadau, nodi argyfyngau a blaenoriaethu materion.
E.e. mae cleient am ddeall ei opsiynau o ran cyllid cyn dewis car newydd neu gar ail-law. Mae'r cynghorydd ariannol yn esbonio nodweddion gwahanol opsiynau prynu ond nid yw'n argymell opsiwn cyllido na darparwr cyllid penodol.
Math Tri: Cyngor
Mae'n disgrifio gwasanaethau sy'n canfod problem gyfreithiol y cleient ac unrhyw faterion cyfreithiol cysylltiedig; mae'n nodi opsiynau a deddfwriaeth berthnasol a phenderfynu sut mae'n gymwys i amgylchiadau penodol cleient; mae'n cynnwys nodi goblygiadau a chanlyniadau camau gweithredu o'r fath a'r sail dros weithredu; mae'n cynnwys llenwi ffurflenni; mae'n darparu gwybodaeth am faterion sy'n berthnasol i'r broblem megis rhoi cyngor ar y camau nesaf a nodi dyddiadau erbyn pryd y mae'n rhaid cymryd camau er mwyn sicrhau hawliau'r cleient. Gellir rhoi cyngor ar fwy nag un achlysur.
E.e. mae cleient yn gofyn a all gael help i ofalu am gymydog oedrannus. Rydych yn gwirio hawl y cleient i fudd-daliadau ac yn nodi y gall fod ganddi'r hawl i hawlio Lwfans Gofalwyr yn dibynnu ar sefyllfa ei chymydog o ran budd-daliadau. Rydych yn dweud wrth y cleient am gael ffurflen gais er mwyn diogelu ei dyddiad hawlio posibl ac yn cynnig manylion gwasanaethau a all gynnig help i'r cleient a'i chymydog.
Math Pedwar: Cyngor gyda gwaith achos
Mae'n cynnwys pob elfen o wasanaeth cynghori, ac mae hefyd yn cynnwys gweithredu ar ran y cleient i symud yr achos yn ei flaen. Gallai gynnwys negodi ar ran y cleient â thrydydd partïon dros y ffôn, drwy lythyr neu wyneb yn wyneb. Bydd yn cynnwys y darparwr cyngor yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am waith dilynol.
E.e. mae myfyriwr yn ei chael hi'n anodd cael ei flaendal am ddifrod yn ôl gan landlord lleol. Rydych yn cysylltu â'r landlord ac yn esbonio y byddwch yn helpu'r myfyriwr i adennill uchafswm gwerth y blaendal. Mae'r landlord yn honni bod difrod wedi’i wneud i'r eiddo, honiad y mae'r myfyriwr yn ei dderbyn yn ddiweddarach. Rydych yn helpu'r ddau i gytuno ar swm rhesymol i'w ddidynnu er mwyn gwneud iawn am y difrod.
Math Pump: Gwaith achos arbenigol
Mae'n disgrifio gwasanaethau lle mae'r cynghorydd neu'r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd yn ymgymryd â gwaith cynghori a gwaith achos ar lefel lle mae angen gwybodaeth fanwl iawn o'r gyfraith a chyfraith achosion. Fel arfer, mae hyn yn golygu y caiff ei roi gan gynghorydd sy'n meddu ar wybodaeth ac arbenigedd ar y dyfnder sydd ei angen i gynrychioli cleientiaid yn y llys neu'r tribiwnlys.
E.e. mae achos cleient wedi methu mewn tribiwnlys nawdd cymdeithasol haen gyntaf. Mae eich cynghorydd yn nodi gwall cyfreithiol ym mhenderfyniad y tribiwnlys y bydd yn mynd ymlaen i'w ddadlau gerbron yr Uwch Dribiwnlys. Bydd ei ddadleuon yn cyfeirio at ddeddfwriaeth a chyfraith achosion.
Cwestiynau cyffredin
1. A allef ofyn a yw Gwasanaethau Awdurdod Lleol Statudol/Gwrthryfelwyr yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn ac os felly a oes modd defnyddio'r cyllid hwn i wella darpariaeth bresennol o Wasanaethau Gwybodaeth ac Ymgynghori am Ddigartrefedd
Mae'r cyllid grant hwn i gyflwyno Gwasanaeth Cyngor Digartrefedd ar gyfer Cymru gyfan. Felly, gall awdurdod lleol gynnig cais am gyllid os ydynt yn rhan o gais cydweithredol am wasanaethau cyngor sy'n cwmpasu Cymru gyfan.
2. Bydd Gwasanaeth Cyngor ar Ddyledion Byddin yr Iachawdwriaeth yn agor yn fuan yng Nghymru. Fel rhan o'r gwaith hwn, ein nod yw gweithio gyda'n gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru i gynnig cyngor ar ddyledion i'w cleientiaid. A fyddai'n addas i'r gwasanaeth hwn wneud cais i'r gronfa hon?
Mae'r cyllid grant hwn i gyflwyno Gwasanaeth Cyngor Digartrefedd ar gyfer Cymru gyfan fel yr amlinellir ym mharagraff 12 o'r ddogfen ganllawiau.
3. Sut fydd y prynwr yn sicrhau bod gwasanaethau cynghori’r contractwr yn briodol ac yn gwbl hygyrch i gymunedau difreintiedig neu sydd wedi’u hymylu—yn enwedig o ran dangos bod gan y staff dosbarthu’r arbenigedd, y cymhwysedd iaith a diwylliannol, a’r profiad byw angenrheidiol i gefnogi’r grwpiau hyn yn effeithiol?
Fel rhan o'r ffurflen gais, bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth gadarn i ddangos y gallant ddarparu mynediad cyson a chyfartal at wasanaethau i bob cymuned yng Nghymru, bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod dewisiadau iaith yn cael eu bodloni.
4. Os na all yr ymgeisydd neu'r contractwr llwyddiannus ddangos arbenigedd ar draws pob maes o ddarparu cyngor i gymunedau sydd wedi'u hymylu neu dan anfantais, a fyddai cyfran o'r cyllid yn cael ei ailddyrannu i ymgeiswyr a all ddangos tystiolaeth o arbenigedd wrth fynd i'r afael â'r anghenion hynny sydd heb eu diwallu?
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos arbenigedd ar draws pob maes o ddarparu cyngor ar ddigartrefedd i bob cymuned.
5. Mae Nodiadau Canllaw’r Gwasanaeth Cynghori ar Ddigartrefedd yn nodi y dylai ‘y gwasanaeth gynnwys gwasanaeth o bell … sy’n galluogi’r person sy’n ffonio i dderbyn y cyngor arbenigol sydd ei angen arnynt yn gyflym’. Ar gyfer y diffiniad o ‘Math 5 – Gwaith achos arbenigol’, mae Atodiad 1 i’r Canllawiau yn nodi ‘fel arfer mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei ddarparu gan gynghorwyr sydd â’r dyfnder angenrheidiol o wybodaeth a phrofiad cyfreithiol i gynrychioli cleientiaid drwy’r llys neu’r tribiwnlys’. Mae’r Nodiadau Canllaw hefyd yn nodi ‘bod yn rhaid i wasanaethau cynghori, ar ddyddiad dechrau’r cyfnod ariannu, ddal Safon Ansawdd cyngor cydnabyddedig ar y lefel briodol ar gyfer y gwasanaeth y maent yn bwriadu ei ddarparu’. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, a all Llywodraeth Cymru gadarnhau pa rai o’r Safonau Ansawdd a restrir ym mharagraff 28 o’r Nodiadau Canllawiau sy’n gallu darparu digon o sicrwydd ansawdd ar gyfer cyngor a gwaith achos tai a digartrefedd lefel arbenigol a ariennir gan grant?
Y Safonau Ansawdd sy'n briodol ar gyfer sefydliadau sy'n cynnig i ddarparu gwasanaethau cyngor a gwaith achos ar lefel arbenigol yw:
- Y Safon Ansawdd Cynghori
- Y Marc Ansawdd Arbenigol
- Lexcel
- Y cynllun aelodaeth sy'n eiddo i Cyngor ar Bopeth
6. Mae swm y grant arfaethedig yn aros yn sefydlog dros dair blynedd gyntaf y cyfnod grant. O ystyried y bydd costau cyflawni yn cynyddu gyda chwyddiant yn flynyddol, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y cwmpas i ddyfarnu codiadau chwyddiannol yn ystod Blynyddoedd 2 a 3? Os bydd estyniad am dair blynedd arall, pa ddull fydd Llywodraeth Cymru yn ei gymryd mewn perthynas â chodiadau chwyddiannol dros y cyfnod estyniad pellach o dair blynedd?
Mae'r swm cyllido sydd ar gael ar gyfer y 3 blynedd fel y nodir ym mharagraff 18 o'r ddogfen ganllawiau. Ni wnaed unrhyw benderfyniad ynghylch cyllido y tu hwnt i 2026-2029.
