Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i ysgrifennu at Aelodau i ddweud wrthynt am y diweddaraf sy’n digwydd o ran datblygu clwstwr sy’n arbenigo mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi lle canolog i Arbenigo Craff yn ei Strategaeth Arloesi.  Mae hyn yn golygu ein bod yn ymrwymo i ymyrryd yn strategol mewn sectorau diwydiannol sy’n bodloni’r tri rhagamod:

Yn gyntaf - lle mae gan Gymru eisoes arbenigeddau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Yn ail – mae gennym fusnesau all fanteisio i’r eithaf ar yr wybodaeth hon; a
Yn drydydd – bod yna farchnadoedd byd-eang y gallwn fanteisio arnyn nhw.

Mae’r Strategaeth yn helpu Cymru i ddod o hyd i gyfleoedd busnes yn y sectorau hynny sy’n torri tir newydd, yn nhermau datblygu cynhyrchion, arallgyfeirio a chreu llwybrau newydd i’r farchnad ac yn sicrhau bod arloesedd yn sbardun pwysig i Gymru.

Mae’r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i’r sector lled-ddargludyddion dros y blynyddoedd diwethaf yn profi bod y Strategaeth yn gweithio.  Ynghyd â phartneriaid ym maes busnes a’r sector academaidd, rydym yn anelu at greu pumed clwstwr lled-ddargludyddion Ewrop a’r unig un sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar led-ddargludyddion cyfansawdd.  Bydd y clwstwr yn Ewropeaidd o ran graddfa ond â photensial byd-eang.

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn rhannau hanfodol o du mewn llawer o’r dyfeisiau sy’n newid ein ffordd o fyw – WiFi, ffonau clyfar, GPS, cysylltiadau lloeren a LED.

Byddan nhw’n hanfodol hefyd ar gyfer llawer o uwch systemau’r dyfodol:

  • cerbydau trydan gyda synwyryddion sy’n atal gwrthdrawiad
  • technoleg wisgadwy i fonitro iechyd
  • celloedd solar effeithiol iawn y gellir eu defnyddio yn y gofod
  • Rhyngrwyd Pethau.  

Trwy ymchwilio, datblygu a chynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion cyfansawdd, rhoddir hwb i allu Cymru i gystadlu ac i’n twf economaidd ni a  thwf y Deyrnas Unedig.

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd marchnadoedd byd-eang ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd yn werth $125 biliwn, twf o 10 - 20% y flwyddyn fesul cymhwysiad.

Rydym wedi bod yn defnyddio model a elwir y ‘triple helix’ i weithio â’r sector preifat a’r sector academaidd i sefydlu tri phrosiect pwysig fydd yn helpu i gefnogi’r clwstwr busnes.

Y prosiect cyntaf, gwerth £90 miliwn, yw’r Athrofa Ymchwil i Dechnoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.  Cafodd ei sefydlu yng Nghampws Arloesi Prifysgol Caerdydd a bydd yn agor yn swyddogol yn 2018. Gyda £12 miliwn o help ariannol gan Lywodraeth Cymru, bydd yn darparu cyfleusterau modern iawn i ymchwilwyr a’r diwydiant gyd-weithio i lunio a phrofi dyfeisiau.  Bydd yn gartref i 116 o ymchwilwyr.

Cyfarwyddwr yr Athrofa yw’r Athro Diana Huffaker, un o arbenigwyr penna’r maes.  Cafodd ei phenodi trwy raglen Sêr Cymru fel Cadeirydd y Panel Uwch Beirianneg a Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yr ail brosiect yw’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd sy’n werth £42 miliwn.  Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE plc, un o gyflenwyr penna’r byd o wafferi lled-ddargludo cyfansawdd.  Bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu amrywiaeth o ddeunyddiau lled-ddargludo cyfansawdd newydd.  Mae’r Ganolfan yn Llaneirwg eisoes wedi agor gan gyflogi 65 o bobl ac mae cynlluniau i ehangu.

Y trydydd prosiect yw Catapwlt Rhaglenni lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cymru.  Cawsom drafodaethau gydag Innovate UK, asiantaeth arloesedd Prydain, ynghylch potensial aruthrol y sector i ddatblygu ac i gyrraedd marchnadoedd ledled y byd.  Hefyd, trafodwyd capasiti unigryw’r De i ddatblygu a manteisio ar gyfleoedd newydd.  O ganlyniad, ymwelodd Innovate UK â ni a chael eu hargyhoeddi gan ein hachos busnes.  Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys y byddai’n buddsoddi £50 miliwn yn y maes dros y pum mlynedd nesaf.

Dyma’r ganolfan Catapwlt gyntaf i gael pencadlys yng Nghymru.  Gan gynnwys arian cyfatebol gan bartneriaid, bydd £150 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y sector.  Mae hyn yn gadarnhad o lwyddiant ein strategaeth a nawr, rydym yn chwilio am Gadeirydd a safle proffil uchel yn y De-ddwyrain.
Bydd y Catapwlt yn helpu busnesau i droi’r deunyddiau y maen nhw’n eu datblygu yn y Ganolfan yn rhaglenni a chynhyrchion newydd. Fel y Canolfannau Catapwlt eraill ym Mhrydain, bydd yn gyfleuster fydd ar agor i’r DU cyfan; y diwydiant fydd yn ei arwain a bydd lle yno i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig yn ogystal â busnesau mawr.

Gyda’i gilydd, bydd yr Athrofa, y Ganolfan a’r Catapwlt yn creu dros 300 o swyddi.  Hefyd, yn ôl ymchwil gychwynnol gan Brifysgol Caerdydd, rhagwelir y bydd, erbyn 2025,  5,000 o swyddi newydd anuniongyrchol wedi cael eu creu ymysg cwmnïau hen a newydd fydd yn sefydlu eu hunain yn sgil yr hyb hwn o wybodaeth ac arbrofion.  Bydd y rhan fwyaf o’r swyddi’n rhai crefftus, technolegol fydd yn talu cyflog uwch ac ar lefel graddedigion ac ôl-raddedigion.

Gallwn ddisgwyl i’r cwmnïau sydd wedi‘u sefydlu yn y sector yng Nghymru, cwmnïau fel SPTS, MicroSemi ac IQE, fanteisio ar y seilwaith i ddefnyddio’u galluoedd a chydweithio a chwsmeriaid newydd. Ond bydd y buddiannau economaidd a ddaw i Gymru yn llawer ehangach.  Bellach, mae llawer o sectorau diwydiannol yn defnyddio rhannau micro-electronig.  Gan fod y seilwaith ar gyfer hyn ar gael yn lleol, bydd llawer o’n BBaCh a’n gweithgynhyrchwyr uwch nawr yn gallu dylunio deunyddiau a dyfeisiau pwrpasol, gweithio â chwmnïau o bob cwr o’r byd a chael mynediad at farchnadoedd newydd.  Bydd hyn yn hanfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o gynhyrchion perfformiad uchel sy’n defnyddio llai o ynni y gellir eu defnyddio yn y cartref, ym maes gofal iechyd ac ym maes dyfeisiau symudol.

Mae’r clystyrau lled-ddargludyddion eraill yn Ewrop wedi sicrhau’r buddiannau economaidd canlynol:
  • creu BBaCh newydd ac yn ehangu cwmnïau cyfredol;
  • ysgogi cydweithio rhyngwladol;
  • creu cyfleoedd i fewnfuddsoddi;
  • cyflymu masnacheiddio ymchwil academaidd.

Rydym yn disgwyl i’r un peth ddigwydd yng nghlwstwr Cymru ac eisoes, mae busnesau rhyngwladol wedi cysylltu â ni ynghylch eu dymuniad i fod yn rhan ohono.

Rwy’n hapus iawn bod y weledigaeth gyffrous sydd gennym ar gyfer y sector wedi datblygu mor gyflym.  Bydd hyn, heb os, yn rhoi Cymru ar y map.  Mae’n dangos pa mor effeithiol yw’r model ‘triple helix’ ac mae’n enghraifft o sut mae agwedd Glyfar Llywodraeth Cymru at arloesi yn dod â budd i bobl a busnesau Cymru.