Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

1. Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r holl aelodau a oedd yn bresennol (Atodiad A) i gyfarfod cyntaf Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol i Gymru a chadarnhaodd mai diben y Grŵp yw symud ymlaen â’r gwaith o gyd-gynllunio’r trefniadau olynol o ran buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, gan weithio yn ôl y rhagdybiaeth y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu cyllid llawn yn lle Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ac y bydd y galluoedd a ddatganolwyd i Lywodraeth Cymru o ran datblygu economaidd yn cael eu parchu’n llawn.

2. Nododd y Cadeirydd bwysigrwydd y Grŵp o ran canfod y ffordd orau o greu dull gweithredu wedi’i deilwra i Gymru, sef dull gweithredu sy’n manteisio’n llawn ar y cyfle a fydd ar gael, pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, i adeiladu ar y profiad a gafwyd wrth reoli rhaglenni olynol yr UE, gan symleiddio’r trefniadau lle bynnag y bo’n bosibl o ran buddsoddi rhanbarthol a sicrhau eu bod yn berthnasol i ardaloedd economaidd gweithredol yng Nghymru.

3. Pwysleisiodd y Cadeirydd, gan dybio y bydd ceisiadau Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU yn cael eu bodloni, y bydd cyfle i ailystyried ffocws buddsoddiadau rhanbarthol yn y dyfodol ac y bydd hyn yn cynnig heriau newydd, a bydd angen gwneud dewisiadau anodd os ydym am fwrw iddi’n syth yn 2021. Bydd yn bwysig i’r Grŵp ddefnyddio’r holl arbenigedd sydd ar gael ac, i’r perwyl hwnnw, anogodd y Cadeirydd yr aelodau i drafod y materion a godir yn y cyfarfodydd yn eang ymhlith eu hetholwyr. Nododd y Cadeirydd y bydd yn adrodd ar drafodaethau’r Grŵp i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a bydd argymhellion y Grŵp yn helpu i lywio gwaith parhaus cysylltiedig sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru.

Cylch gorchwyl drafft ac aelodaeth

4. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Grŵp wedi’i sefydlu i gynghori Gweinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod y cynigion yn adlewyrchu’n llawn farn partneriaid ledled Cymru. Ni ddisgwylir i’r Grŵp wneud penderfyniadau. Nododd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn gohebiaeth oddi wrth Ganolfan Cydweithredol Cymru ynghylch cynrychiolaeth gan fentrau cymdeithasol ar y Grŵp. Nododd y gellid gwneud argymhellion pellach i’r Gweinidogion ynghylch aelodaeth y Grŵp, ond esboniodd er y gallai fod rhywfaint o hyblygrwydd ei bod yn bwysig cadw’r Grŵp yn benodol ac yn hydrin o ran ei faint er mwyn galluogi trafodaethau ar lefel strategol. Hefyd, ychwanegodd y Cadeirydd mai’r Grŵp yw’r mecanwaith strategol cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu ac y bydd cyfleoedd i sefydlu is-grwpiau sy’n cynnwys cynrychiolwyr eraill er mwyn llywio gwaith datblygu ar faterion penodol. Hefyd, gellir gwahodd pobl ychwanegol i fynychu cyfarfodydd y Grŵp Llywio i drafod materion penodol ac, wrth i’r gwaith ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf, gall fod angen adolygu aelodaeth y Grŵp hwn.

5. Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Grŵp ar yr ychwanegiadau at y rhestr o aelodau sydd wedi’i chynnwys ar ffurf Atodiad i’r papur ar y cylch gorchwyl.

6. Gwnaeth y Grŵp y sylw canlynol:

  • Mae’r papur ar y cylch gorchwyl drafft, yn ogystal â phapurau eraill a ddosbarthwyd, yn rhoi sylw i bolisi a gweithredu ar wahân ond, er mwyn i’r prosiect fod yn llwyddiannus, mae angen ystyried y ddau beth gyda’i gilydd.

Diweddariadau llafar

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Tom Smithson, Uned Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

7. Rhoddodd Tom Smithson ddiweddariad ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Dyma’r prif bwyntiau a wnaed:

  • Mae Gweinidogion Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid yn lle cronfeydd yr UE yng Nghymru ar ôl Brexit ac, yn unol â’n setliad datganoli, am i Lywodraeth Cymru gadw’r ymreolaeth i ddatblygu a darparu trefniadau olynol wedi’u teilwra yn ôl y dirwedd arbennig o ran polisïau, deddfwriaeth a phartneriaethau yng Nghymru
  • Mae’r safbwyntiau hyn gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi’u hargymell gan Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Grŵp Hollbleidiol Seneddol y DU ar Gyllid ar ôl Brexit i Genhedloedd, Rhanbarthau ac Ardaloedd Lleol ac amrywiaeth eang o randdeiliaid
  • Nid yw’r ymgynghoriad a addawyd gan Lywodraeth y DU, a oedd wedi’i drefnu ar y dechrau ar gyfer diwedd 2018, wedi digwydd eto ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw fewnbwn ystyrlon i’r gwaith o’i baratoi. Rydym yn parhau i gyfrannu ein safbwyntiau, a rhai ein rhanddeiliaid, a cheisio ymgysylltu mewn ffordd adeiladol â chydweithwyr yn Llywodraeth y DU
  • Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyn ymgynghori i randdeiliaid yng Nghymru ac, yn y digwyddiad diweddaraf a gynhaliwyd yn ystod mis Ionawr yng ngogledd Cymru, gwnaeth un o swyddogion Llywodraeth Cymru gymryd rhan am y tro cyntaf a chyflwyno gwaith datblygu sydd eisoes yn mynd rhagddo yng Nghymru ynghyd â safbwyntiau clir Llywodraeth Cymru. Yn y cyfamser, mae swyddogion yn parhau i gydweithio â phartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys cydweithio drwy’r Grŵp hwn, i ddatblygu trefniadau olynol.

8. Gwnaeth y Grŵp y sylwadau canlynol:

  • Teimlwyd ei bod yn hollbwysig datblygu trefniadau Cymru o ran buddsoddi rhanbarthol, gan fonitro datblygiadau yn y DU yn fanwl a bod yn barod i ymateb iddynt. Dylai rhan o’r paratoi hwn gynnwys cydnabod bod dulliau gweithredu a modelau’r DU yn wahanol i’r rheiny a ddefnyddir fel arfer yng Nghymru.
  • Dylai cynrychiolwyr sectorau ar y Grŵp fanteisio ar unrhyw gyfle a phob cyfle i gadarnhau safbwyntiau Cymru ar gyllid yn y dyfodol wrth gyfathrebu â swyddogion cyfatebol yn y DU, gan gynnwys annog cyrff sy’n gweithredu ar draws y DU i gydnabod galluoedd datganoledig.

Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Datganoli Cyfrifoldeb i’r Rhanbarthau: Marcella Maxwell

9. Rhoddodd Marcella Maxwell ddiweddariad ar y cynnydd o ran gweithredu Cynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru, a’i hagenda o ran datganoli cyfrifoldeb i’r rhanbarthau a fydd yn allweddol i fuddsoddi cyllid datblygu economaidd rhanbarthol yn y dyfodol yng Nghymru.

10. Gwnaeth y Grŵp y sylwadau canlynol:

  • Mae angen mwy o gydweithredu o fewn rhanbarthau ledled Cymru, ac mae angen creu partneriaethau a chysylltiadau â rhanbarthau ar draws ffiniau tir a môr, gan gynnwys y rheiny yn Lloegr ac yn Iwerddon
  • Mae angen i’r trefniadau o ran buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol gydnabod a rhoi ystyriaeth i’r trefniadau presennol o ran Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf, a’r trefniadau sy’n datblygu
  • Dylid gwneud ymdrechion i symleiddio’r strwythurau rhanbarthol presennol drwy integreiddio trefniadau gwaith presennol lle bynnag y bo’n bosibl. Gall hyn gynnwys y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Dylid ystyried cymorth i’r economi sylfaenol sy’n ceisio sicrhau twf cynhwysol mewn trefniadau buddsoddi yn y dyfodol
  • Ystyriaeth bwysig sy’n gysylltiedig â chreu strategaethau rhanbarthol llwyddiannus yw’r mater ynghylch dirprwyo’n briodol i’r rhanbarthau eu hunain
  • Ar hyn o bryd, caiff Canolbarth Cymru ei ystyried yn rhan o’r un rhanbarth ag Abertawe, ond mae’n bwysig cydnabod bod y ddwy economi yn wahanol iawn i’w gilydd, yn enwedig gan fod Canolbarth Cymru yn wledig yn bennaf. Yn ogystal, nodwyd y byddai ardaloedd o Ganolbarth Cymru am weithio gyda rhanbarthau yn Lloegr hefyd, megis Canolbarth Lloegr, ond yn gyffredinol na fyddai hyn mor bwysig i ardaloedd yng ngorllewin Cymru; gallai cysylltiadau trawsffiniol o’r fath helpu o ran sicrhau’r mynediad ehangaf posibl at ffrydiau cyllido ar draws y DU yn y dyfodol
  • O ran sut y gall cyllid yn y dyfodol roi’r cymorth gorau i ranbarthau, bydd yn bwysig ystyried a yw cwmnïau a sefydliadau sydd wedi’u lleoli mewn rhanbarth yn gallu cyflawni’r hyn sydd ei angen ar y rhanbarth – bydd yn bwysig edrych y tu hwnt i’r cymysgedd a’r cyfansoddiad diwydiannol presennol.

Prosiect y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD): Sheilah Seymour, Uned Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

11. Cyflwynodd Sheilah Seymour brosiect OECD a fydd yn cefnogi datblygiad polisi datblygu economaidd rhanbarthol newydd i Gymru. Gwnaed y prif bwyntiau canlynol:

  • Bydd yr OECD yn darparu her a chyngor manwl i Lywodraeth Cymru ynghylch gweithredu’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi ac wrth inni ddatblygu cynlluniau newydd ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit
  • Mae’n brosiect dwy flynedd sy’n cynnwys dadansoddiad o’r system lywodraethu aml-lefel yng Nghymru er mwyn helpu i feithrin gallu sefydliadol ar gyfer llywodraethu rhanbarthol. Bydd cenhadaeth astudio i gefnogi’r gwaith dadansoddol a chyfres o seminarau i ddatblygu a lledaenu pecyn cymorth ar gyfer gweithredu er mwyn helpu o ran datblygu polisïau rhanbarthol
  • Mae holiadur/arolwg yr OECD wedi’i dderbyn a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r rheiny sy’n gallu ymateb orau i’r arolwg, gan gynnwys y rhanbarthau lle bo’n briodol
  • Bydd y Grŵp yn cael gwybod am waith yr OECD, ac yn cael ei gynnwys yn y gwaith, drwy gyfarfodydd a drwy e-bost
  • Mae taflen sy’n trafod gwaith yr OECD yn fanylach wedi’i chyhoeddi ar dudalen we Llywodraeth Cymru.

12. Datganodd yr Athro Kevin Morgan fuddiant, gan fod yr OECD wedi gofyn iddo fod yn rhan o’i banel adolygu. Hefyd, mae wedi ysgrifennu papur i helpu â gwaith yr OECD; cynigiodd rannu’r papur â’r Grŵp.

Trafodaeth: Cwmpas polisi (Papur 02) – Tom Brown, Uned Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

13. Cyflwynodd Tom Brown bapur ar fframwaith polisi ar gyfer y drafodaeth gyntaf er mwyn helpu i gyfeirio gwaith yn y dyfodol ynghylch y cyd-destun strategol a thargedu buddsoddiadau yn y dyfodol, gan gynnwys y sail ar gyfer symud ymlaen â model sy’n fwy seiliedig ar ganlyniadau a sicrhau ei fod yn gydnaws â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Gofynnwyd i’r Grŵp ystyried pa amcanion y dylid eu ceisio i benderfynu ynghylch buddsoddiadau yn y dyfodol.

14. Gwnaeth y Grŵp y sylwadau canlynol:

  • Nid defnyddio model grantiau ddylai fod yr unig ffordd o ddarparu cyllid: dylid archwilio mecanweithiau eraill hefyd. Cadarnhaodd swyddogion Llywodraeth Cymru y bydd modelau eraill, megis offerynnau ariannol, yn cael eu hystyried, a bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda Banc Datblygu Cymru i helpu i ddatblygu’r meddwl cynnar hwn
  • Roedd diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth y DU ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn golygu ei bod yn fwy anodd siarad yn hyderus am yr hyn a ddylai fod yn amcan, a’r hyn na ddylai fod yn amcan, o ran y trefniadau newydd
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddylai fod y prif fodd o bennu amcanion o ran cyllid rhanbarthol
  • Mae’n fwy anodd mesur llwyddiant yn erbyn canlyniadau na mesurau perfformiad mwy traddodiadol sy’n seiliedig ar gynnyrch, ac felly bydd angen pennu dangosyddion cadarn a deallus ar gyfer y rhaglen gyffredinol ac, yn yr un modd, mesurau perfformiad deallus ar gyfer prosiectau unigol
  • Mae cynhyrchiant fel arfer yn cael ei ddefnyddio yn un o brif fesurau llwyddiant mewn llawer o systemau
  • Mae’n rhaid rhoi cyfle i ranbarthau ddiffinio eu hamcanion eu hunain o ran mynd i’r afael â’r heriau y maent yn eu hwynebu.

Trafodaeth: Model gweithredu (Papur 03) – Anton Orzel, Uned Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

15. Cyflwynodd Anton Orzel y papur ar y model gweithredu, gan ei gysylltu â’r gwaith a wnaed gyda’r OECD a’u canllawiau arferion gorau.

16. Gwnaeth y Grŵp sylwadau, gan gynnwys y canlynol:

  • Ni ddylai polisi a gweithredu gael eu trin yn feysydd ar wahân, fel y nodwyd yn gynharach yn y cyfarfod
  • Y peth gorau fyddai dechrau yng nghamau cynnar iawn y broses weithredu, er mwyn edrych ar yr hyn nad yw wedi gweithio mewn mannau eraill – yn enwedig wrth gymharu’r ffocws ar ganlyniadau â model sy’n cael ei lywio gan dargedau – er mwyn blaenoriaethu’r gwaith o bennu’r cyfeiriad a’r prif amcanion wrth gynllunio fframwaith cenedlaethol
  • Er mwyn i ddatganoli cyfrifoldeb i’r rhanbarthau fod yn effeithiol, mae’n rhaid bod gan y rhanbarthau y gallu i wrthod prosiectau, a system sy’n ddigon ymatebol a hyblyg i ddelio â gwaith trawsffiniol
  • Bydd angen dull gweithredu mwy cymesur o ran risg, h.y. derbyn y bydd rhai pethau yn methu ac na fydd popeth yn gweithio. Dylai teimlad o rymuso fod yn gysylltiedig â hynny heb fod y Llywodraeth yn micro-reoli. Byddai blaenoriaethau clir a chyfathrebu â’r rhanbarthau yn helpu o ran hyn
  • Mae angen strwythur llywodraethu clir fel bod partneriaethau yn gwbl glir ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth. Bydd yn bwysig sicrhau bod y bobl iawn yn y lle iawn i gyflawni’r ffyrdd o weithio dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy’r trefniadau newydd
  • Yn y gorffennol, buddsoddwyd gormod o adnoddau mewn prosiectau ar lefel genedlaethol na chawsant effaith ddigon mawr yn rhanbarthol neu ficro-brosiectau a oedd wedi methu â mynd i’r afael â phroblemau ehangach. Dylai cyllid wedi’i dargedu helpu i fynd i’r afael ag anghenion rhanbarthol
  • Mae’n rhaid i fframwaith cenedlaethol osgoi bod yn rhy benodol, er mwyn iddo beidio â rhwystro galluoedd rhanbarthau i ymateb i’w materion / anghenion eu hunain. Mae gwell cydgysylltu rhanbarthol ar wahân i gyflawni’n genedlaethol
  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y pwerau a fydd gan ranbarthau Lloegr a’u cymharu â’i chynigion ei hun o ran rhanbarthau Cymru, oherwydd gallai cydraddoldeb alluogi gwell cydweithredu trawsffiniol
  • O ran pontio i’r trefniadau newydd, dylai Llywodraeth Cymru fod yn ymwybodol o effaith “ymyl y diben” ar ganlyniadau cymdeithasol a allai ddeillio o golli cynlluniau
  • Dylai fod un system technoleg gwybodaeth genedlaethol sydd wedi’i chynllunio i gyd-fynd â strwythur y dull cyllido
  • Mae’n rhaid i unrhyw bolisi dirprwyo fod yn gysylltiedig ag atebolrwydd, gan gynnwys ymwreiddio’r pum ffordd o weithio yn yr egwyddor datblygu cynaliadwy dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cynllunio Gwaith Dadansoddol: Sheilah Seymour, Uned Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

17. Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelodau nodi bod y ddau bapur a gyflwynir yn rhan o’r eitem hon ar yr agenda wedi’u marcio yn ddrafftiau ac felly na ddylid eu rhannu y tu allan i’r Grŵp ar yr adeg hon. Roedd y papurau hyn yn adolygiad llenyddiaeth o nodweddion polisi rhanbarthol effeithiol ac yn ymgais cychwynnol i fapio’r trefniadau presennol o ran gweithio’n rhanbarthol yng Nghymru.

18. Gwnaeth Sheilah Seymour y prif bwyntiau canlynol:

  • Bydd y papurau drafft yn cael eu datblygu ymhellach mewn pryd ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp; ar hyn o bryd, bwriedir iddynt roi amlinelliad cychwynnol o’r meysydd y bydd y papurau terfynol yn eu trafod
  • Croesewir awgrymiadau gan y Grŵp ynghylch meysydd neu bynciau eraill y gellid eu trafod mewn papurau yn y dyfodol.

19. Yn ogystal â’r gwaith dadansoddol yn y papurau hyn, nododd Sheilah y bydd y tîm ymchwil yn gwneud gwaith arall, gan gynnwys y canlynol:

  • Rheoli prosiect yr OECD
  • Gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i baratoi adolygiadau thematig sy’n nodi’r gwersi yn sgil cyflawni rhaglenni ariannu strwythurol blaenorol a phresennol yr UE
  • Dadansoddiad economaidd-gymdeithasol cenedlaethol i roi cyfeiriad ar gyfer gwaith datblygu rhanbarthol
  • Datblygu fframwaith monitro a gwerthuso newydd ochr yn ochr â datblygu’r ffrydiau gwaith eraill
  • Datblygu rhaglen ymchwil a dadansoddi ar gyfer y tymor hwy sy’n ceisio llenwi bylchau o ran gwybodaeth a nodir drwy’r adolygiadau o dystiolaeth a’r adolygiadau thematig sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd
  • Adolygiad llenyddiaeth a ddylai gael ei gwblhau erbyn cyfarfod nesaf y Grŵp. Gan fod gweithio’n rhanbarthol yn datblygu, cyflwynir fersiwn diweddaredig o’r ymarfer mapio rhanbarthol yn y cyfarfod nesaf.

20. Gwnaeth y Grŵp y sylwadau canlynol:

  • Dylid cyfeirio at atebolrwydd deuol partneriaethau sgiliau rhanbarthol i Lywodraeth Cymru ac i’r rhanbarthau. Dylid cynnwys partneriaethau trafnidiaeth, Addysg Uwch ac Addysg Bellach
  • Mae Tîm Pontio’r UE Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith mapio rhanbarthol tebyg a all gyfrannu at y papur hwn
  • Dylai fod dadansoddiad pellach o fapio ar sail sgiliau, a chyfeiriadau cryfach at Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac at y Datganiadau Ardal a gynhyrchir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n nodi’r cyfleoedd a’r risgiau amgylcheddol mewn ardal
  • Gofynnodd y Grŵp am ymchwil ynghylch yr hyn sydd wedi gweithio ac economi gymysg/twf uchel. Mae angen canolbwyntio ar yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni
  • Nododd y Cadeirydd mai man cychwyn yn unig yw hwn ac y bydd yr ymchwil yn edrych ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil ymdrechion eraill. Yna, gallwn gomisiynu ymchwil bellach os bydd ei hangen mewn rhai meysydd.

Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Alison Sandford, Uned Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

21. Cyflwynodd Alison Sandford y papur trafod a oedd yn cynnwys syniadau a chyfleoedd o ran ymgysylltu allanol i helpu o ran llywio datblygiad strategaeth ymgysylltu gynhwysfawr a fydd yn cael ei chyflwyno i gyfarfod o’r Grŵp yn y dyfodol.

22. Gwnaed y prif bwyntiau canlynol o’r papur:

  • Y Grŵp hwn fydd y mecanwaith strategol cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Yn amodol ar gytundeb y Grŵp hwn, rydym yn bwriadu sefydlu is-grwpiau i ystyried y manylion ynghylch materion thematig/penodol, ac anogir aelodau’r Grŵp i roi awgrymiadau ynghylch y mathau o is-grwpiau y gellid eu sefydlu
  • Bydd cyfleoedd pwysig i ymgysylltu drwy waith yr OECD, er enghraifft, cenadaethau astudio a digwyddiadau
  • Bydd gwaith y Prif Swyddogion Rhanbarthol a’u timau, a’u hymgysylltu â’r partneriaethau rhanbarthol, yn ganolog i’r strategaeth ymgysylltu
  • Byddwn yn ceisio ymgysylltu’n rheolaidd â grwpiau gwleidyddol a grwpiau thematig eraill (e.e. pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Grŵp Strategaeth Partneriaid Cymdeithasol)
  • Rydym yn awyddus i fynychu digwyddiadau a drefnir gan sectorau’r aelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith datblygu; ac
  • Rydym yn cydnabod yr angen i ymgysylltu’n fwy â busnesau, pobl ifanc a dinasyddion, a gofynnwyd i’r aelodau roi eu barn am y ffordd orau o gyflawni hyn.

23. Gwnaeth y Grŵp sylwadau, gan gynnwys y canlynol:

  • Cytunwyd i greu is-grwpiau yn ffordd o roi sylw manylach i faterion penodol o ran datblygu; er enghraifft, ymhlith y materion a grybwyllwyd roedd sgiliau, arloesi a chysylltiadau rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Croesawodd y Grŵp bapur ar bwnc is-grwpiau i’w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol
  • Dylai gwaith ymgysylltu ganfod ffordd o gysylltu â mwy na’r ‘rhai arferol’ – gan gynnwys gwneud trefniadau penodol i gynnwys cymunedau â nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu cynrychioli’n llai aml mewn gweithgareddau ymgynghori. Mae’r gwersi a ddysgwyd yn sgil darparu cyllid yr UE yn cynnwys y ffaith nad oedd pobl o reidrwydd yn gwybod am y gwahaniaeth roedd y cyllid yn ei wneud, er bod lefel dda o ymwybyddiaeth
  • Dylai cyfathrebu â’r cyhoedd yn y dyfodol ynghylch y buddsoddiadau a wneir gael ei hyrwyddo ar ffurf cyfres o brosiectau sy’n cael eu cyflawni mewn rhanbarth, yn hytrach nag ar ffurf prosiectau unigol. Byddai’r dull gweithredu hwn yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch y gwelliannau a’r buddion sy’n cael eu creu drwy gyllido buddsoddiadau
  • Gallai asesiadau o lesiant lleol, a gynhelir gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, fod yn ffordd ddefnyddiol o edrych ar yr hyn y mae ardaloedd eisoes wedi ei ddweud ynghylch beth maent ei eisiau ar gyfer eu cymuned
  • Gallai’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol ynghylch Cronfeydd Strwythurol, sy’n gweithredu ar hyn o bryd ym mhob un o’r pedwar rhanbarth, helpu i hwyluso gwaith ymgysylltu yn eu hardal
  • Gofynnodd y Grŵp am gael defnyddio dulliau cyfathrebu digidol yn fwy, yn rhan o’r strategaeth ymgysylltu – yn enwedig er mwyn cofnodi cyfraniad pobl sydd â diddordebau rhyngranbarthol
  • Byddai pecyn cymorth ymgysylltu, gan gynnwys cyfres o negeseuon allweddol, yn ddefnyddiol iawn er mwyn helpu i sicrhau bod cynrychiolwyr y Grŵp hwn i gyd yn eglur ynghylch y negeseuon sydd i’w cyflwyno wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys swyddogion cyfatebol yn y DU a’r cyhoedd.

Cyfarfodydd yn y Dyfodol: Cadeirydd

24. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Grŵp nodi y bydd cyfarfod nesaf y Grŵp yn cael ei gynnal ar 2 Mai; nid yw’r lleoliad wedi’i gadarnhau eto.

25. Cytunodd y Grŵp ag awgrym y Cadeirydd y dylai cyfarfodydd yn y dyfodol gael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru, gan fod y Grŵp yn gyfrifol am gydgynhyrchu model buddsoddi rhanbarthol sy’n gweithio i Gymru gyfan. Bydd y swyddogion yn rhoi gwybod i’r aelodau am ddyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd yn y dyfodol cyn gynted â phosibl.

Unrhyw fater arall a sylwadau i gloi

26. Ni chodwyd unrhyw fater arall.

27. Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod ac am y sylwadau a wnaed ar y papurau a gyflwynwyd y bore yma. Bydd cofnodion drafft y cyfarfod yn cael eu dosbarthu i’r aelodau ac, ar ôl cytuno arnynt, byddant yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru.

28. Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.

Atodiad A: Rhestr o fynchwyr

  • Amanda Wilkinson - Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru
  • Bethan Owen - Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Carwyn Jones-Evans - Datblygu Economaidd ac Adfywio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Ceri Davies - Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Y Cyng. Rosemarie Harris - Cadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru
  • Eirlys Lloyd - Rheolwr Partneriaethau Cymunedol/Canolfan Bwyd Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Rhwydwaith Gwledig Cymru
  • Grahame Guilford (annibynnol) - Perchennog, Grahame Guilford and Company Ltd
  • Hannah Wharf - Pennaeth Materion Allanol, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Iwan Trefor Jones - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Gwynedd, Partneriaeth Gogledd Cymru
  • Lisa Thomas - Pennaeth Coleg Merthyr Tudful, Colegau Cymru
  • Nick Speed - Pennaeth Materion Cyhoeddus a Pholisi, Cymru a’r Rhanbarthau, Centrica ccc, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru
  • Paul Maliphant - Cyfarwyddwr Datblygu ac Arweinydd Cyfrif, Mott MacDonald Ltd, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Phil Fiander (ar ran Judith Stone) - Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
  • Yr Athro Kevin Morgan (annibynnol) - Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd
  • Rhys Thomas (ar ran y Cyng. Kellie Beirne) - Partneriaeth De-ddwyrain Cymru, Prifysgol Caerdydd

Mynychwyr Llywodraeth Cymru

  • Peter Ryland - Cyfarwyddwr, WEFO
  • Rob Halford - Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth, WEFO
  • Tom Smithson - Pennaeth Polisi Buddsoddi Rhanbarthol, WEFO
  • Alison Sandford - Pennaeth Gweithio mewn Partneriaeth, WEFO
  • Tom Brown - Uwch-reolwr Polisi (Polisi Rhanbarthol), WEFO
  • Anton Orzel - Rheolwr Datblygu Strategaeth, WEFO
  • Sheilah Seymour - Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi o ran Polisi Buddsoddi Rhanbarthol, WEFO
  • Tom Higgins - Ymchwilydd Cymdeithasol o ran Polisi Buddsoddi Rhanbarthol, WEFO
  • Ashley Davis - Swyddog Polisi o ran Polisi Buddsoddi Rhanbarthol, WEFO
  • Marcella Maxwell - Pennaeth Gweithredu’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi
  • Steve Codd - Partneriaeth Ranbarthol De-ddwyrain Cymru, Pennaeth TG (ar ran David Rosser, Prif Swyddog Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru)
  • Andrew Clark - Dirprwy Gyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes (ar ran Huw Morris, Cyfarwyddwr)
  • Helen Minnice-Smith - Cynghorydd Polisi Amaethyddiaeth a Newid Hinsawdd, Yr Economi a Materion Gwledig, Ymadael â’r UE a’r Strategaeth (ar ran Ruth Studley, Cyfarwyddwr)
  • Nick Williams - Rheolwr y Rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, Tai ac Adfywio (ar ran John Howells, Cyfarwyddwr)

Ymddiheuriadau a dderbyniwyd

  • Y Cyng. Rob Stewart - Partneriaeth De-orllewin Cymru; Partneriaeth Ranbarthol De-orllewin Cymru; Dinas a Sir Abertawe
  • Martin Mansfield - Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru - I’w gadarnhau
  • Sioned Evans - Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru