Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin ar hyn o bryd, wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr ar gorff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd y sector addysg.
Bydd y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth yn weithredol o 1 Medi 2025, a bydd yn arwain y gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i gefnogi ymarferwyr, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, athrawon, uwch arweinwyr, penaethiaid a chynghorwyr gwella ysgolion mewn ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru ar hyd eu llwybrau gyrfa.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Dw i'n falch o groesawu Dr Gwenllian Lansdown Davies fel Prif Weithredwr newydd y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd. Mae Gwenllian yn dod â chyfoeth o brofiad gyda hi a dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd wrth inni ganolbwyntio ar wella cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer ein sector addysg.
Bydd y corff dysgu ac proffesiynol ac arweinyddiaeth yn cynnig trefniadau dysgu proffesiynol o ansawdd, sy'n gyson yn genedlaethol, a bydd yn canolbwyntio, ymhlith elfennau eraill, ar wella llythrennedd, rhifedd a lles, ochr yn ochr â rhaglenni newid hirdymor, gan gynnwys cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a gwella'r ffordd yr addysgir y Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg.
Hoffwn ddiolch i Tegwen Ellis am ei chyfraniad at arweinyddiaeth addysgol dros y blynyddoedd diwethaf yn arbennig yn ei rôl fel Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae ei hymroddiad a’i gweledigaeth wedi creu argraff barhaol ar y sector. Bydd y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth yn ymgorffori rhai o swyddogaethau'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ochr yn ochr ag ystod ehangach o gyfleoedd dysgu proffesiynol cenedlaethol.
Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies:
Ar ôl treulio 11 mlynedd yn y sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae cyfrwng Cymraeg, dw i'n edrych ymlaen at ddechrau yn y rôl newydd hon a gwneud gwahaniaeth ymarferol, drwy weithio ochr yn ochr â'r sector addysg a chyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
