Mae menter newydd arloesol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd sydd wedi'i chynllunio i wneud beicio modur yn fwy diogel wedi'i chyflwyno yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae marciau ac arwyddion ffyrdd arloesol PRIME (sef “Perceptual Rider Information for Maximising Expertise and Enjoyment”) yn anelu at helpu beicwyr modur i wneud penderfyniadau mwy diogel wrth agosáu at droadau mewn ffyrdd ac ymdrin â’r troadau hynny.
Yn dilyn cynllun treialu hynod lwyddiannus yn yr Alban — lle dadansoddwyd dros 32,000 o deithiau beicwyr modur ar draws 22 o safleoedd — mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), wedi cyflwyno marciau PRIME mewn pedwar safle allweddol yn y Gogledd a'r Canolbarth, sef:
- A487 Pantperthog, Gwynedd
- A5 Coed Bwlch, Rhysgog, Llangollen
- A483 i'r gogledd o Lanbadarn Fynydd
- A483 Neuadd Glascoed, i'r de o'r Drenewydd
Mae tystiolaeth yn dangos bod PRIMEs, sy'n defnyddio arwyddion gweledol cynnil sydd wedi'u gosod mewn lleoliadau da, yn cael effaith fesuradwy a chadarnhaol ar ymddygiad beicwyr, gan gynnwys:
- gostyngiadau sylweddol mewn cyflymder
- lleoliad gwell ar y ffyrdd wrth agosáu at droadau ac ar bigyn troadau
- ymddygiad brecio mwy diogel
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Rydym yn falch iawn o fod yn treialu'r fenter diogelwch ffyrdd newydd hon am y tro cyntaf yng Nghymru.
“Mae tystiolaeth yn dangos bod beicwyr modur ymhlith y defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed, yn enwedig ar ffyrdd gyda throadau sydyn. Mae PRIME yn ffordd effeithiol o helpu i leihau risgiau a chefnogi beicwyr i wneud dewisiadau mwy diogel ar y ffyrdd, felly roedd yn beth iawn i'w wneud.”
Mae'r fenter yn cael cefnogaeth gref gan Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed Powys sydd wedi gweithio ers amser maith i leihau gwrthdrawiadau beiciau modur ar draws eu hardaloedd.
Dywedodd yr Arolygydd Gweithrediadau Arbenigol yn Heddlu Dyfed-Powys, Dawn Fencott-Price:
Rydym yn croesawu'r cynllun treialu ar gyfer y fenter arloesol hon i wella diogelwch beicwyr modur ar ein ffyrdd. Bu 25 o wrthdrawiadau yn ystod 2024, gan arwain at un neu fwy o bobl wedi'u lladd - cynnydd o 66% ar 2023.
“Mae hon yn ymyrraeth cost isel sydd wedi cael ei phrofi i wella diogelwch ffyrdd i feicwyr yn sylweddol pan gaiff ei defnyddio yn yr amodau ffyrdd cywir. Mae un farwolaeth ar ein ffyrdd yn un yn ormod – a lleihau nifer y beicwyr modur sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd yw ein blaenoriaeth.
Mae'r cynllun treialu cyntaf hwn yng Nghymru yn garreg filltir bwysig wrth fabwysiadu gwelliannau diogelwch cost-effeithiol i ddefnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed. Os bydd y cynllun yn llwyddiannus, gallai marciau PRIME gael eu hehangu ar draws rhwydwaith ffyrdd ehangach Cymru.
