Neidio i'r prif gynnwy

Pwrpas

Gofynnir i aelodau'r Grŵp Llywio gynnig eu barn ar y canlynol:

  • i ba raddau y dylai prosesau gwneud penderfyniadau a chyfrifoldebau gael eu nodi'n glir rhwng y lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol
  • pa gyrff gwneud penderfyniadau ddylai fod ar bob lefel a pha fath o allu y byddai angen ei feithrin er mwyn iddynt gynllunio a chyflawni'n effeithiol
  • yr angen posibl am glustnodi neu ofynion sylfaenol ar gyfer amcanion gwahanol ar bob lefel

Y Materion

1. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n llunio model Buddsoddi Rhanbarthol newydd yn lle Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd sy'n gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, polisïau a chynlluniau ehangach, ac sydd wedi'i lywio gan randdeiliaid ac arfer gorau rhyngwladol (cyflwynir papur ar wahân ar gwmpas polisi).

2. Mae'r gweithgarwch ymgysylltu hyd yma wedi tynnu sylw ar yr angen i symleiddio trefniadau partneriaeth rhanbarthol a'r angen am adnoddau ychwanegol yn gymesur â'r graddau y caiff cyfrifoldebau eu dirprwyo.

3. Bydd angen nodi'n glir pa gyfrifoldebau ddylai fod ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a lleol er mwyn meithrin gallu priodol, ad-drefnu'r systemau a'r trefniadau cyflawni presennol, a rhoi eglurder ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol.

Safbwynt Llywodraeth Cymru hyd yma

4. Mae'r ymrwymiad i ranbartholi yn seiliedig ar ymrwymiadau gwleidyddol a sylfaen dystiolaeth gadarn bod dirprwyo a datganoli ar raddfa sylweddol yn creu mwy o berchenogaeth ymhlith cymunedau a rhanddeiliaid, gan sicrhau polisïau mwy effeithiol.

5. Mae Cynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn canolbwyntio gweithgarwch cynllunio a chyflawni ar dri rhanbarth economaidd gweithredol: Gogledd Cymru; De-ddwyrain Cymru; a De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Bydd angen i fodel yn y dyfodol fod yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru i hyrwyddo integreiddio ac osgoi ychwanegu haenau newydd; ond wrth wneud hynny cydnabyddir bod amrywiaeth eang o drefniadau cyflawni rhanbarthol eraill ar waith mewn meysydd polisi gwahanol.

6. Bydd angen i fodel yn y dyfodol allu cynllunio a chyflwyno buddsoddiadau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Bydd yr ymrwymiad i symleiddio gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid fel ei gilydd yn her yng nghyd-destun datganoli a'r galwadau i sicrhau trefniadau llywodraethu cadarn.

7. Mae rhai meysydd lle mae'r ddadl dros gadw buddsoddiadau lefel genedlaethol yn gadarn, gan fanteisio ar arbedion maint ac osgoi dyblygu a chystadleuaeth rhwng rhanbarthau. Gallai hyn gynnwys seilwaith ar raddfa fawr, buddsoddiadau sgiliau cenedlaethol fel prentisiaethau, Offerynnau Ariannol neu gymorth busnes. Fodd bynnag, mae'r adborth hyd yma yn pwysleisio y gallai buddsoddiadau cenedlaethol o'r fath fod yn fwy effeithiol pe baent yn cael eu datblygu mewn partneriaeth wirioneddol â rhanddeiliaid rhanbarthol a lleol, gan adlewyrchu ffactorau penodol lleol a rhanbarthol yn well.

Safbwyntiau rhanddeiliaid

8. Ceir consensws cyffredinol mewn sawl maes o ran y model newydd (cyflwynwyd nifer o safbwyntiau mewn ymateb i'r papur polisi Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, ymchwiliadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, papurau sefyllfa, ac mewn cyfarfodydd a digwyddiadau):

  • Cynllun newydd wedi'i lunio yng Nghymru i ddisodli'r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd drwy un ffrwd ariannu sy'n para am sawl blwyddyn, ac sy'n cyfuno cyllid cyfalaf a refeniw
  • Llywodraeth Cymru, gan weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, yn pennu cyfeiriad strategol clir, yn datblygu polisi a fframwaith ariannu newydd, yn cyflwyno rheolau cyffredin, yn cytuno ar fuddsoddiadau cenedlaethol, yn goruchwylio ac yn rhoi arweiniad, ac yn rhannu arfer gorau.
  • Tynnu'r cyfyngiadau daearyddol sy'n gysylltiedig â rhaglenni'r UE a chynnwys hyblygrwydd ar gyfer buddsoddiadau trawsffiniol, yn enwedig â Lloegr
  • Mwy o ddirprwyo o ran prosesau gwneud penderfyniadau i ardaloedd rhanbarthol a lleol, gan ystyried opsiynau i ddyrannu cyllid rhanbarthol a lleol drwy fformiwlâu sy'n seiliedig ar angen
  • Defnyddio partneriaethau rhanbarthol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cael eu datblygu ar gyfer gweithgarwch cynllunio a chyflawni, ond dylid sicrhau eu bod yn symlach, yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol
  • Ystyriaeth briodol i fuddsoddiadau lleol, gan adeiladu ar y profiadau o ddatblygiadau arloesol a datblygiadau a arweinir gan y gymuned, gan gynnwys enghreifftiau fel dull gweithredu LEADER yn y Rhaglen Datblygu Gwledig
  • Cysoni ac integreiddio systemau / prosesau â rhaglenni ariannu ehangach yng Nghymru (e.e. model achos busnes cyffredin, meini prawf dethol, ac ati)
  • Dull cymesur sy'n fwy seiliedig ar risg o ran archwilio, dilysu, buddsoddiadau arloesol, mynediad gan y trydydd sector, a monitro a gwerthuso
  • Cadw amcanion trawsbynciol: cynaliadwyedd amgylcheddol a chydraddoldeb; ychwanegedd; denu buddsoddiad arall

9. Roedd meysydd lle cafwyd safbwyntiau croes, sy'n gofyn am ragor o drafodaeth a dadansoddi:

  • Croesawyd yr awgrym i gael un gronfa ariannu, ond bu rhai yn galw am glustnodi at ddibenion gwahanol, gan gynnwys datblygu gwledig, datblygiadau a arweinir gan y gymuned a chynhwysiant cymdeithasol
  • Cafwyd safbwyntiau gwrthgyferbyniol ar y cymysgedd o fuddsoddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol gyda'r ffocws ar bob un yn dibynnu ar safbwynt yr ymatebydd
  • Nid oes barn glir o ran y graddau y dylid datganoli prosesau gwneud penderfyniadau a chyfrifoldebau ar lefelau rhanbarthol a lleol, gyda chwestiynau am lefel y gallu a'r adnoddau a'r potensial i gynnwys dulliau cymell a chosbi yn y model.

Trafodaeth Grŵp

1. Ble dylai'r gallu i wneud penderfyniadau a chyfrifoldebau penodol fod yn y model buddsoddi newydd ar gyfer buddsoddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol?

10. Mae nifer o swyddogaethau, penderfyniadau a chyfrifoldebau yn gysylltiedig â rhaglen fuddsoddi hirdymor, lle mae amrywiaeth o sefydliadau yn cyflawni nifer o brosiectau gyda'r nod o gyfrannu at amcanion a chanlyniadau cyffredin.

11. Wrth lunio'r model ariannu newydd, ar gyfer pob maes cyfrifoldeb bydd angen penderfynu pwy ddylai fod yn gyfrifol:

  • Llywodraeth Cymru
  • Corff rhanbarthol priodol
  • Partneriaeth leol briodol
  • Drwy gyfrifoldeb a rennir gan unrhyw gyfuniad. Byddai'r dull gweithredu hwn yn gofyn o hyd am eglurder ynglŷn â rolau pob partner (e.e. cymeradwyo cynlluniau / cyflawni cynlluniau)

12. Gallai penderfyniadau a chyfrifoldebau fod yn wahanol yn dibynnu ar b'un a yw buddsoddiadau'n cael eu cynllunio a'u rhoi ar waith ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol. Ar lefel uchel, gallai'r rhain gynnwys:

Rhaglennu

  • Cytuno ar gynlluniau neu raglenni buddsoddi neu eu diwygio
  • Monitro cynlluniau neu raglenni buddsoddi a chyflwyno adroddiadau arnynt
  • Datblygu system monitro a gwerthuso
  • Datblygu TG a systemau
  • Rheolau sy'n nodi paramedrau ar gyfer buddsoddi, datrys anghydfodau, dulliau cymell a chosbi, gofynion adrodd a goruchwylio ac ati.
  • Canllawiau, blaenoriaethau a meini prawf dethol, prosesau ymgeisio ac ati

Rhoi rhaglenni ar waith

  • Rheoli cyllidebau a risg ariannol
  • Dewis prosiectau ac ymrwymo i drefniadau cytundebol
  • Monitro prosiectau yn erbyn yr hyn a gyflawnwyd ac adroddiadau cysylltiedig
  • Mesur llwyddiant a gwerthusiadau
  • Archwilio a dilysu

13. Mae adborth rhanddeiliaid yn awgrymu rôl i Lywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol o ran pennu fframwaith buddsoddi cyffredinol, datblygu rheolau cyffredin er mwyn sicrhau chwarae teg i bawb, a goruchwylio'r hyn a gyflawnir yn rhanbarthol ac yn lleol drwy system monitro a gwerthuso gyffredin. Fodd bynnag, nid yw'r rôl hon wedi'i phennu eto a gallai amrywio o brosesau monitro a dilysu manwl i adolygiadau blynyddol llai manwl, neu ddull gweithredu sy'n seiliedig ar risg sy'n hyblyg, yn dibynnu ar y cynnydd a wnaed.

14. Ceir rhywfaint o risg o greu mwy o gymhlethdod a darnio ar lefel ranbarthol os caiff dulliau gweithredu gwahanol eu mabwysiadu ar bob lefel. Gallai hyn arwain at systemau TG, prosesau ymgeisio a chanllawiau gwahanol, ac anallu i gymharu rhanbarthau neu integreiddio buddsoddiadau. Mae dirprwyo ystyrlon yn ymarferol yn debygol o wrthdaro â'r uchelgais i symleiddio. Bydd dirprwyo yn gofyn am gymhlethdod ychwanegol o fewn strwythurau llywodraethu, gan ofyn am fwy o adnoddau, sy'n cyd-fynd â'r lefel ddirprwyo.

15. Fodd bynnag, drwy fwy o ddirprwyo byddai'r rhanbarthau yn cael yr ymreolaeth a'r cyfrifoldeb mwyaf. Byddai hyn yn sicrhau'r berchenogaeth fwyaf ymhlith rhanbarthau, y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi ei bod yn hanfodol i sicrhau datblygu economaidd rhanbarthol ystyrlon.

16. Gydag unrhyw elfen o ddirprwyo, bydd angen i ni ystyried sut gall y system yn ei chyfanrwydd osgoi'r risgiau posibl o gystadleuaeth anfuddiol rhwng rhanbarthau, dadleoli gweithgarwch economaidd rhwng rhanbarthau, neu ddyblygu gweithgarwch yn ddiangen rhwng pob lefel.

Pwynt Trafod 1: Beth yw safbwyntiau'r grŵp ar y rolau a'r cyfrifoldebau a ddylai fod ar y lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol?

2. Pa gyrff gwneud penderfyniadau ddylai fod ar bob lefel a pha fath o allu y byddai angen ei feithrin er mwyn iddynt gynllunio a chyflawni'n effeithiol

17. Ar y lefel genedlaethol mae uned ganolog wedi cael ei sefydlu yn Llywodraeth Cymru, yn unol ag argymhelliad Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu trefniadau olynol ar sail drawslywodraethol.

18. Caiff y cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, ond mae gan bob cronfa ei rheolau ei hun a bennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, gan sicrhau mynediad agored a theg at raglenni ariannu cysylltiedig a rhywfaint o sicrwydd i randdeiliaid.

19. Yn ystod y gweithgarwch ymgysylltu hyd yma, bu rhai yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw uned ganolog er mwyn goruchwylio'r broses gyflawni ar y lefel genedlaethol, gan adeiladu ar arbenigedd WEFO ac Awdurdodau Rheoli eraill yng Nghymru, ond wedi'i haddasu'n sylweddol i gyflawni'r swyddogaethau gwahanol a fydd eu hangen yn y model newydd.

20. Ar y lefel ranbarthol, mae amrywiaeth o strwythurau partneriaeth, gyda rhywfaint o waith yn mynd rhagddo i ddeall y trefniadau presennol (gweler y papur mapio rhanbarthol drafft). Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi hefyd yn bwriadu gweithio gyda phartneriaethau rhanbarthol i ranbartholi polisi datblygu economaidd yng Nghymru. Ceir partneriaethau sgiliau rhanbarthol gwahanol, a byrddau Bargeinion Dinesig a Thwf.

21. Bydd angen gwneud penderfyniad cynnar ar y strwythurau partneriaeth mwyaf priodol i'w defnyddio a ph'un a fydd angen addasiadau er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cymhwysol a chynrychioliadol. Yna gellir cynnal gweithgareddau meithrin gallu, yn unol â'r cyfrifoldebau dirprwyedig.

22. Efallai y bydd angen trefniadau cyfreithiol gwahanol, yn dibynnu ar y graddau y caiff cyfrifoldebau eu dirprwyo. Os caiff cyllid ei ddirprwyo a bod penderfyniadau ariannu yn cael eu gwneud, er enghraifft, bydd angen bodloni gofynion ynglŷn â rheoli arian cyhoeddus.

23. Codwyd pryderon gan rai rhanddeiliaid ynglŷn â risg y bydd sefydliadau sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a rhanbarthol yn 'cipio'r cyllid', neu'r risg o 'rannu'r cyllid rhwng pawb'. Bydd angen ystyried y materion hyn ymhellach wrth lunio system newydd a'r ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud.

24. Ar y lefel leol, hyd yma, mae rhanddeiliaid wedi cyfeirio at Grwpiau Gweithredu Lleol yn bennaf, ond mae'r rhain yn canolbwyntio ar ardaloedd gwledig. Gallai'r broses o greu grwpiau newydd olygu cryn dipyn o amser paratoi a wynebu heriau o ran meithrin gallu. Efallai y bydd yr awydd i reoli cyllid yn is, gyda'r gallu i wneud penderfyniadau ar flaenoriaethau ariannu yn bwysicach.

Pwynt Trafod 2: Beth yw barn y grŵp ar ba strwythurau a phartneriaethau fyddai orau i ymgymryd â chyfrifoldebau perthnasol am wneud penderfyniadau ar bob lefel?

3. Yr angen posibl am glustnodi neu ofynion sylfaenol ar gyfer amcanion gwahanol ar bob lefel

25. Mae rhanddeiliaid wedi codi pryderon y gallai un gronfa ariannu hyblyg arwain at sefyllfa lle mae buddsoddiad yn gwyro tuag at ardaloedd megis ardaloedd trefol, nad yw'n adlewyrchu anghenion cymunedol na lleol, neu ei bod yn lleihau ymdrechion tuag at gynhwysiant cymdeithasol.

26. Ar lefel yr UE, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyflwyno cyfres o ddulliau gweithredu gwahanol i fynd i'r afael â materion tebyg, yn bennaf drwy ei gwneud yn ofynnol i isafswm dyraniadau gael ei bennu ar gyfer pob rhaglen fuddsoddi mewn ardaloedd â blaenoriaeth.

27. Gall clustnodi neu isafswm dyraniadau sicrhau na chaiff blaenoriaethau eu colli ond gallant arwain at lai o hyblygrwydd. Gallai canllawiau cenedlaethol hefyd arwain at ddull gweithredu 'un ateb i bawb', er bod cyfleoedd ym mhob ardal yn wahanol o bosibl rhwng rhanbarthau.

28. Ar y llaw arall, efallai na fydd cydnabyddiaeth bod angen buddsoddi yn yr ardaloedd hyn (heb glustnodi) yn ddigon i gynnig sicrwydd y bydd buddsoddi yn yr ardaloedd dan sylw, ond mae'n rhoi'r hyblygrwydd mwyaf posibl.

29. Gallai dull gweithredu mwy dynamig geisio pennu isafswm dyraniadau ar lefelau gwahanol mewn ardaloedd a ffefrir yn seiliedig ar fesurau gwrthrychol (e.e. elfen o wledigrwydd), ond byddai hyn yn ychwanegu rhywfaint o gymhlethdod.

Pwynt Trafod 3: A oes angen cynnwys elfen o glustnodi wrth lunio'r model ac, os felly, beth fyddai'r ffordd orau o wneud hynny?