Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyma ddiweddariad blynyddol ar ein hymrwymiad i ddileu hepatitis B ac C yng Nghymru erbyn 2030.
Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, a phartneriaid trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni targedau ymestyn Sefydliad Iechyd y Byd. Mae llwyddiannau i’w dathlu eleni, ond hefyd heriau i’w goresgyn.
Mae ein cynllun sgrinio cynenedigol cyffredinol ar gyfer hepatitis B, ynghyd â’r camau gweithredu wedi’u targedu i roi cymorth i bawb sy’n profi’n bositif, wedi helpu i gynnal statws y DU yn yr ymgyrch i ddileu’r trosglwyddiad o fam i blentyn. Mae’r cyfraddau profi cyffredinol ar gyfer hepatitis B ac C ar y lefelau uchaf erioed – fe wnaethant gynyddu eto yn 2024, o’i gymharu â 2023 – ac rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y profion a ddarperir yn ystad y carchardai yng Nghymru.
Mae ein gwasanaeth profion cartref am ddim a chyfrinachol (dolen allanol) yn caniatáu i bobl archebu pecyn ar-lein, cymryd sampl gwaed syml o’u bys, a chael eu canlyniadau trwy neges destun. Rydym yn parhau i sicrhau bod mwy o becynnau profi ar gael yn y gymuned – mae tua 27,000 o becynnau profi cymunedol wedi’u dosbarthu hyd yma drwy 400 o wasanaethau ledled Cymru.
Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o hepatitis B ac C cronig sydd wedi eu canfod yn 2024 o’i gymharu â 2023. Mae’r driniaeth yn parhau i fod yn hynod effeithiol, ac mae lefelau’r canlyniadau mwyaf difrifol sy’n gysylltiedig â hepatitis B ac C, gan gynnwys canserau’r afu, trawsblaniadau afu, a marwolaethau yn parhau i fod yn isel.
Rydym wedi cynnal canran o dros 90% yn gyson o ran y plant sy’n cael y brechlyn hexavalent (chwech mewn un, sy’n cynnwys amddiffyniad rhag hepatitis B) erbyn eu pen-blwydd cyntaf, sy’n rhagori ar darged Sefydliad Iechyd y Byd.
Serch hynny, mae angen inni wneud mwy eto yn ystod y blynyddoedd nesaf:
- Rydym am gyflawni cyfraddau cyson ac uchel o dros 95% ar gyfer brechu rhag hepatitis B - lefel Cymru gyfan yw 94.1% ar hyn o bryd.
- Mae’n bwysig gwella’r data ar y defnydd o’r brechlyn hepatitis B ar gyfer poblogaethau sydd mewn perygl er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y rheini sydd ei angen.
- Rhaid inni barhau i wella’r ddarpariaeth o nodwyddau a chwistrellau i sicrhau bod unrhyw un sy’n chwistrellu yn gallu gwneud hynny mewn modd mor ddiogel â phosibl, gan leihau’r risg o gael ei heintio.
- Mae cyfraddau profi ar y lefelau uchaf erioed, ond rhaid eu gwella ymhellach os ydym am gyflawni ein nodau dileu.
- Gallwn ehangu gwasanaethau allgymorth ledled Cymru, a darparu mynediad cyflym at driniaeth.
- Mae mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â hepatitis B ac C yn rhan hanfodol o’n hymdrechion i’w dileu fel problem iechyd cyhoeddus.
Rydym yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer swyddi cydgysylltu cenedlaethol pwrpasol; cyllid craidd ar gyfer byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith o ddiogelu iechyd; a chyllid pwrpasol ar gyfer camddefnyddio sylweddau.
Mae gan bob Bwrdd Iechyd a Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau gynlluniau dileu lleol ar y cyd, yn ogystal â grwpiau llywio aml-asiantaeth lleol sy’n goruchwylio hynt y gwaith hwn.
Rwy’n falch bod Cymru bellach yn Genedl Llwybr Cyflym, sy’n golygu bod partneriaid cyflenwi allweddol ym mhob un o’r saith ardal bwrdd iechyd wedi llofnodi datganiad yn eu hymrwymo i gydweithio i gyflawni targedau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer HIV, hepatitis B ac C, a TB ac i fynd i’r afael â stigma.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.
