Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am drafodaethau diweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cyfiawnder i Gymru.
Rydym yn parhau i gefnogi datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Fel y nodwyd yn ein cyhoeddiad yn 2022, Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, mae angen dull graddol i gyflawni newid o'r raddfa hon. Yn fwy diweddar, cymeradwywyd y dull graddol hwn hefyd wrth gwrs gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Arglwydd Ganghellor i drafod datblygu ymrwymiadau maniffesto Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Dyma gyfle pwysig i wella'r system gyfiawnder yng Nghymru a cham sylweddol tuag at gryfhau'r cydweithio rhwng dwy lywodraeth sy'n rhannu'r un gwerthoedd.
O ran cyfiawnder ieuenctid, cytunwyd y byddai swyddogion yn y ddwy lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i ymchwilio i'r opsiynau lle y gellid ailosod cyfrifoldebau yn y system cyfiawnder ieuenctid. Roedd hyn yn cynnwys goruchwyliaeth strategol, trefniadau partneriaeth a llywodraethiant a'r modd yr ariennir gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid fel mannau cychwyn. Cytunwyd hefyd i ystyried ffurfioli'r trefniadau llywodraethiant ar gyfer ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Rydym hefyd yn trafod y potensial i Lywodraeth Cymru weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF i fabwysiadu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar y gwasanaeth prawf, yn debyg i'r model sydd ar waith ym Manceinion Fwyaf.
Mae ein huchelgeisiau yn mynd ymhell y tu hwnt i'r trafodaethau hyn, a byddem yn disgwyl i ragor o drafodaethau ddilyn.
Yn ystod y misoedd diwethaf, cyhoeddwyd yr Adolygiad Dedfrydu Annibynnol, a Rhan 1 yr Adolygiad Annibynnol o'r Llysoedd Troseddol.
Byddai ein diwygiadau arfaethedig i'r gwasanaeth prawf yn cefnogi hyn, drwy roi mwy o hyblygrwydd lleol i deilwra gwasanaethau i anghenion unigolion o dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf.
Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gydag undebau llafur wrth baratoi ar gyfer datganoli ac yn defnyddio arbenigedd academaidd a phroffesiynol ym maes cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Rwy'n deall y bydd aelodau o'r grŵp gwasanaeth prawf, sydd wedi cynghori Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, cyn bo hir, yn briffio aelodau Tŷ'r Arglwyddi ar eu gwaith i osod model ar gyfer gweithredu gwasanaeth datganoledig.
Rydym yn disgwyl i'r trafodaethau hyn fynd rhagddynt dros yr wythnosau nesaf, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
