Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Yn unol â’r cytundeb ar gysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf roi gwybod i’r Aelodau imi gynrychioli Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru ar 30 Mehefin 2025.
Roedd y cyfarfod yn gyfarfod hybrid, a'r tro hwn fi oedd yn ei gadeirio a’i gynnal. Yn bresennol, roedd Rushanara Ali AS, Gweinidog Digartrefedd a Democratiaeth yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (yn bresennol wyneb yn wyneb), Fleur Anderson AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Gogledd Iwerddon (ar-lein), a Jamie Hepburn MSP, Gweinidog Busnes Seneddol yr Alban (yn bresennol wyneb yn wyneb).
Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i gael diweddariad gan Lywodraeth y DU ar y cynlluniau diwygio etholiadol a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn yr Alban cyn etholiadau'r flwyddyn nesaf, yn ogystal â rhoi diweddariad ar hynt gwaith diwygio etholiadol Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom hefyd drafod gwaith rhynglywodraethol ar ddiogelwch mewn perthynas ag etholiadau, ymgysylltu democrataidd, a'r cynnydd a wneir tuag at ganiatáu ceisiadau pleidlais absennol ar-lein ar gyfer etholiadau datganoledig.
Yn union cyn cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol, clywsom gan sefydliadau a ariennir gan Grant Ymgysylltu Democrataidd Llywodraeth Cymru am sut yr oeddent wedi defnyddio eu cyllid i wella dealltwriaeth a hyrwyddo cyfranogiad. Y sefydliadau hynny oedd Cyngor Caerdydd, ElectHer, The Politics Project, Sgowtiaid Cymru a MAD Abertawe.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd, a bwriedir cynnal cyfarfodydd bob chwarter. Byddaf yn sicrhau bod diweddariadau'n parhau i gael eu rhoi i'r Aelodau.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
