Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1 ar yr agenda: croeso/sylwadau agoriadol

  1. Estynnodd y Prif Weinidog groeso i seithfed cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor). Rhoddodd drosolwg o'r agenda, gan gadarnhau y byddai'n gadael ar ôl eitem 3 ac y byddai'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn cadeirio gweddill y cyfarfod. Cyn symud i'r agenda, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Ben Cottam yn ymddiswyddo'n ffurfiol o'r Cyngor (yn effeithiol o 1 Awst) a diolchodd iddo am ei holl waith yn y Cyngor yn ogystal â fforymau eraill lle roedd wedi cynrychioli'r FSB.

Eitem 2 ar yr agenda: ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru

  1. Pwrpas yr eitem hon oedd rhoi cyfle i'r Prif Weinidog ymgynghori â'r Cyngor ar yr adolygiad blynyddol o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. Nid oedd y wybodaeth a ddarparwyd i'r aelodau yn y parth cyhoeddus ac felly ni ellid ei datgelu.
     
  2. Amlinellodd y Prif Weinidog sefyllfa bresennol yr adolygiad blynyddol a rhai o'r penderfyniadau anodd a wnaed o ystyried heriau'r hinsawdd economaidd bresennol. 
     
  3. Yn dilyn diweddariad y Prif Weinidog, rhoddodd aelodau eu barn ar yr adolygiad. Byddai'r sylwadau a godwyd yn cael eu bwydo'n ôl i'r Ysgrifenyddion a'r Gweinidogion Cabinet perthnasol, ond oherwydd statws cyfrinachol y drafodaeth, cytunwyd na fyddai'r rhain yn cael eu cofnodi yn y cofnod. 

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod cyfarfod y Cyngor yn trafod Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn y dyfodol, unwaith y caiff ei chyhoeddi.

Eitem 3 ar yr agenda: cytuno ar Adroddiad Blynyddol Drafft Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru

  1. Diben yr eitem hon oedd i'r Cyngor gytuno ar Adroddiad Blynyddol Drafft Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru. 
     
  2. Atgoffodd y Prif Weinidog aelodau fod y Cyngor eisoes wedi trafod yr adroddiad yng nghyfarfod mis Mawrth a bod eu barn wedi'u cynnwys fel rhan o'r drafft terfynol a gyflwynwyd iddynt ar gyfer y cyfarfod hwn. 
     
  3. Cytunodd y Cyngor ar Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i drefnu bod Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yn cael ei osod gerbron y Senedd a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor. 

Eitem 4 ar yr agenda: Is-grŵp Caffael a'r Diweddariad ar Weithredu Caffael Cymdeithasol Gyfrifol

  1. Gofynnodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i'r Cyngor nodi'r canllawiau drafft Adran 9(5) ar gyfansoddiad yr Is-grŵp Caffael a oedd yn adlewyrchu sgyrsiau cynharach gydag aelodau. Esboniodd y Gweinidog fod y papur ar gyfer yr eitem hon yn disgrifio'r broses a fyddai'n cael ei dilyn i benodi aelodau i'r Is-grŵp a'r bwriad oedd y byddai'r cadeiryddion (unwaith y byddent wedi'u henwebu a'u cytuno) wedyn yn bwrw ymlaen â hyn gyda swyddogion. Gofynnodd i'r aelodau a oeddent yn fodlon cytuno ar y canllawiau a'r tabl a ddarparwyd gyda'r papur neu gynnig unrhyw welliannau penodol. Ychwanegodd y Gweinidog y byddai swyddogion yn fodlon trefnu sesiwn friffio i'r Cyngor a'u cydweithwyr ar unrhyw un o'r materion a drafodir yn y papur.
     
  2. Roedd Shavanah Taj (TUC Cymru) yn croesawu'r cynnydd a wnaed a phwysleisiodd bwysigrwydd y gwaith hwn i'r undebau llafur o ran creu economi decach i bobl sy'n gweithio. Cadarnhaodd Shavanah fod yr undebau llafur yn chwilio am gyd-gadeirydd ar gyfer yr Is-grŵp gyda'r profiad perthnasol ac y byddai'n rhoi adborth i'r Cyngor ar y cynnydd maes o law. 
     
  3. Cytunodd y Cyngor ar ganllawiau Adran 9(5).
     
  4. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai sesiwn friffio ar y canllawiau a materion cysylltiedig yn y papur yn cael ei chynnig i aelodau'r Cyngor a'u cydweithwyr gan swyddogion. 
     
  5. Cododd y Fonesig Elan Closs-Stephens (Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus) y broses ar gyfer cyhoeddi'r gwahoddiad i fynegi diddordeb i wasanaethu ar yr Is-grŵp. Gofynnodd a fyddai'r cais hwn yn dod trwyddi hi fel cadeirydd y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus neu a fyddai'r undebau llafur yn cysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau unigol. 
     
  6. Dywedodd y Gweinidog y byddai swyddogion yn egluro'r broses mynegi diddordeb i aelodau'r Cyngor. 

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i gynnig sesiwn friffio i aelodau'r Cyngor a'u cydweithwyr ar ganllawiau Adran 9(5) a'r materion cysylltiedig sydd yn y papur.

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i roi eglurhad ar y broses mynegi diddordeb.

Eitem 5 ar yr agenda: Deddf Hawliau Cyflogaeth

  1. Dywedodd y Gweinidog fod Jess Turner (Unsain) wedi gofyn yn benodol am ddiweddariad ar y Bil Hawliau Cyflogaeth a bod y papur ar gyfer yr eitem hon yn adeiladu ar ddiweddariadau blaenorol a ddarparwyd i'r Cyngor. Nododd ei fod yn arbennig o falch eu bod wedi llwyddo i drafod pwerau dirprwyedig sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru sefydlu corff negodi pwrpasol i Gymru sy'n cwmpasu gwasanaethau plant ac oedolion. 
     
  2. Esboniodd y Gweinidog fod y Bil yn parhau i wneud cynnydd da tuag at Gydsyniad Brenhinol ac y byddai'n cyflawni'r cynnydd mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth trwy wella hawliau cyflogaeth, cryfhau eu gorfodaeth, a moderneiddio cysylltiadau diwydiannol. Amlinellodd sut y byddai'r Bil yn gwella diogelwch swyddi, amodau gwaith, yn hybu cynhyrchiant, yn atal arferion cyflogaeth gwael ac yn adfer cydbwysedd i gysylltiadau diwydiannol trwy gael gwared ar gyfyngiadau diangen ar undebau llafur. Gorffennodd y Gweinidog trwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a bod Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael eu paratoi ar y Bil i'r Senedd eu hystyried. 
     
  3. Diolchodd Ruth Brady (GMB) i'r Gweinidog am ei ddiweddariad a gofynnodd a oedd yn ffyddiog y byddai gweithwyr yng Nghymru yn elwa ar ddarpariaethau'r Bil ynghylch tâl gofal cymdeithasol a'r Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion (SSSNB).
     
  4. Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn bwrw ymlaen â'r negodiadau ar y Cytundebau Cyflog Teg ar gyfer staff gofal cymdeithasol. Eglurodd fod darpariaethau'r Bil yn cwmpasu'r SSSNB yn Lloegr yn unig a bod gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud darpariaethau mewn perthynas â staff cymorth ysgolion. Ychwanegodd y Gweinidog fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ymrwymo i adeiladu ar ymdrechion presennol i sicrhau bod anghenion staff cymorth yn cael eu hystyried yn llawn yng Nghynllun y Gweithlu Addysg Strategol. Dywedodd fod gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud darpariaeth ar gyfer corff negodi staff cymorth ysgolion yng Nghymru, os oes angen. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru ddarparu briff ysgrifenedig ar hyn i aelodau'r Cyngor.
     
  5. Pwysleisiodd Shavanah Taj bwysigrwydd y Bil i'r undebau llafur o ystyried ei botensial i wella amodau gweithwyr. Cyfeiriodd at y ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil a fyddai'n cael ei chynnal yn y Senedd yn ddiweddarach yn y mis a dywedodd fod yr undebau llafur yn paratoi sesiwn friffio ar bwysigrwydd ei ddarpariaethau iddynt. Byddai ar gael i'r Gweinidog ac aelodau'r Cyngor hefyd. 
     
  6. Dywedodd y Gweinidog y gallai dyddiad y ddadl ar y Bil a'r Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol cysylltiedig yn y Senedd newid ac y byddai'r aelodau'n cael gwybod am hyn. 

Cam Gweithredu: Swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu briff ysgrifenedig i aelodau'r Cyngor ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer cyflogau ac amodau staff cymorth ysgolion yma yng Nghymru. 

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i gael ei hysbysu ynghylch amserlen y Senedd ar gyfer dadl ar y Bil Hawliau Cyflogaeth a'r Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol cysylltiedig. 

Eitem 6 ar yr agenda: diweddariad ar y Gweithgor ar Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes

  1. Diolchodd y Gweinidog i Ben Cottam am gyd-gadeirio'r Gweithgor ar Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes cyn iddo adael y Cyngor. Cadarnhaodd fod y Gweithgor wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf ar 6 Mai a gofynnodd i Peter Hughes, a oedd wedi cadeirio'r cyfarfod (fel y cyd-gadeirydd arall) roi diweddariad i'r Cyngor.
     
  2. Diolchodd Peter Hughes (Unite) hefyd i Ben Cottam am ei gyfraniad yn cadeirio'r Gweithgor. Cadarnhaodd Peter fod cyfarfod cyntaf cadarnhaol wedi bod a oedd wedi cytuno ar yr amcanion craidd, y cylch gorchwyl ac amserlen y cyfarfodydd. Pwysleisiodd bwysigrwydd bwrw iddi ar fyrder fel Gweithgor a dywedodd y byddai cynrychiolwyr o Lywodraeth yr Alban yn mynychu'r cyfarfod nesaf i rannu eu profiad gyda’u polisi Fair Work First.
     
  3. Croesawodd Ben Cottam y cynnydd a wnaed gan gynnwys cytuno ar gynllun gwaith a phwysleisiodd bwysigrwydd cadw ffocws ar yr hyn a fyddai'n agenda heriol wrth symud ymlaen. 
     
  4. Diolchodd y Gweinidog i'r cyd-gadeiryddion a nododd y byddai angen dewis rhywun yn lle Ben Cottam cyn ei ymadawiad ym mis Awst. 

Eitem 7 ar yr agenda: datganiadau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

  1. Eglurodd y Gweinidog fod y papur ar gyfer yr eitem hon yn amlinellu sefyllfa'r Cyngor wrth gyhoeddi datganiadau. Atgoffodd aelodau y gallai'r Cyngor gyhoeddi datganiad o'u cynghorion i Weinidogion ond dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig ac y byddai angen i bob aelod gytuno ar y datganiad. 
     
  2. Mynegodd Gareth Lloyd (UCU) siom nad oedd modd cytuno ar ddatganiad y Cyngor ynghylch diswyddiadau posibl yn y sector Addysg Uwch. Amlinellodd Gareth yr heriau sy'n wynebu addysg ôl-16 yng Nghymru a chyfeiriodd at bryderon parhaus ynghylch y potensial o ddiswyddiadau gorfodol mewn sawl sefydliad. Teimlai nad oedd y rhain yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac mai cymorth cyfyngedig yr oedden nhw’n ei gynnig i'r staff wedi'u heffeithio. 
     
  3. Awgrymodd Shavanah Taj y gellid trefnu sesiwn y tu allan i gyfarfod ffurfiol o'r Cyngor i weld sut y gallai'r aelodau anelu at gonsensws pan nad oedd modd dod i gytundeb.   
     
  4. Roedd Ben Cottam yn cefnogi awgrym Shavanah. Pwysleisiodd Ben pa mor wahanol oedd y sefydliadau sydd wedi'u cynrychioli yn y Cyngor a chyfyngiadau'r hyn y gallent ei sancsiynu o'u safbwyntiau unigol. Mynegodd bryder nad oedd datganiadau yn rhan o ddull diofyn y Cyngor a bod angen egluro sut a phryd y gellid eu defnyddio. 
     
  5. Eglurodd y Gweinidog fod y ddeddfwriaeth yn glir a bod y Cyngor yn bodoli i ddarparu cyngor i Weinidogion yn hytrach na’r cyhoedd. Ategodd y Gweinidog y byddai angen i'r holl aelodau gymeradwyo datganiad ac y byddai angen iddo gynrychioli cyngor i Weinidogion. Roedd yn cefnogi'r angen i gynnal trafodaeth bellach y tu hwnt i'r cyfarfod hwn er mwyn archwilio opsiynau ar gyfer darparu cyngor gan y Cyngor a chyrraedd consensws. Dywedodd y byddai swyddogion yn trefnu gweithdy er mwyn trafod y mater hwn ymhellach. 

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i drefnu gweithdy i drafod mater sut i ddod i gonsensws ar gynghori mewn partneriaeth gymdeithasol.

Eitem 8 ar yr agenda: deallusrwydd artiffisial (AI)

  1. Eglurodd y Gweinidog fod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC) wedi creu gwaith gwerthfawr ar ddefnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial (AI) a'i fod yn awyddus i adeiladu ar hyn wrth ddatblygu ymagwedd y Cyngor ei hun. Pwysleisiodd y ffaith fod AI yn symud yn gyflym a bod angen i'r Cyngor osgoi dyblygu. Cadarnhaodd y Gweinidog fod cyfarfod yn cael ei drefnu gydag Amber Courtney (aelod allweddol o Weithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu) i dynnu ar ei phrofiad ynghylch y camau nesaf posibl. Dywedodd y byddai swyddogion yn datblygu papur i'r Cyngor ei ystyried yn ei gyfarfod nesaf. 
     
  2. Cyfeiriodd Shavanah Taj at bwysigrwydd datblygu ymagwedd fel Cyngor a oedd yn cydnabod manteision AI i weithwyr ac sy'n eu cefnogi yn y dyfodol wrth i'r dechnoleg hon esblygu. Esboniodd Shavanah fod yr undebau llafur wrthi'n cynnal trafodaethau am ddatblygu gwaith AI ar gyfer y gwasanaethau datganoledig, gan ddweud y byddai'n gallu rhoi diweddariad mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cyfeiriodd hefyd at y posibilrwydd o ddatblygu pecyn cymorth i gyd-fynd â chanllawiau AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a gwerth datblygu enghreifftiau o arferion gorau fel y gallai pobl weld sut yr oedd rhoi AI ar waith mewn modd moesegol yn edrych. 
     
  3. Ategodd Russell Greenslade (CBI) y ffaith fod datblygiadau AI yn symud yn gyflym a bod busnesau'n ceisio datblygu dull cytbwys sy'n cydnabod manteision AI iddyn nhw tra’n cefnogi gweithwyr. Pwysleisiodd Russell y flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i AI gan fusnesau, yn enwedig yng ngoleuni cyhoeddi Strategaeth Ddiwydiannol arfaethedig Llywodraeth y DU. 
     
  4. Croesawodd y Gweinidog y flaenoriaeth a roddir i AI gan fusnesau a phwysleisiodd bwysigrwydd y Cyngor yn ychwanegu gwerth a gweithredu'r dechnoleg hon yn foesegol. 
     
  5. Tynnodd Ben Cottam sylw at ddiddordeb busnesau llai mewn AI ond mai lefelau cymharol isel sy'n ei fabwysiadu a'i ddeall ar hyn o bryd. Cyfeiriodd Ben at werth y sectorau cyhoeddus a phreifat yn dysgu oddi wrth ei gilydd o safbwynt gweithredu a defnyddio AI i uwchsgilio'r gweithluoedd. 
     
  6. Roedd y Gweinidog yn cefnogi'r syniad o'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Ychwanegodd fod y Prif Weinidog wedi arddangos gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar faterion AI yn ddiweddar yng Nghyngor y Gwledydd a'r Rhanbarthau lle roedd cynrychiolwyr wedi dangos diddordeb brwd. Pwysleisiodd y Gweinidog fod angen dechrau bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ac y byddai trafodaeth fwy sylweddol yn cael ei chynnal yng nghyfarfod nesaf y Cyngor yn seiliedig ar y papur a gaiff ei baratoi.

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod papur yn cael ei ddarparu ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyngor ar gamau nesaf posibl ynghylch defnydd moesegol o AI.

Eitem 9 ar yr agenda: cofnodion/camau gweithredu sy'n codi

  1. Dywedodd y Gweinidog fod wyth cam gweithredu parhaus yn deillio o gyfarfodydd blaenorol y Cyngor, a rhoddodd amlinelliad ohonynt. Gofynnodd i'r aelodau a oeddent yn fodlon cytuno arnynt. 
     
  2. Cytunodd y Cyngor ar y camau gweithredu sy'n codi. 

Eitem 10 ar yr agenda: cyfarfod nesaf, dyddiad a lleoliad

  1. Dywedodd y Gweinidog fod angen newid dyddiad cyfarfod nesaf y Cyngor, gan awgrymu ei fod yn cael ei ddwyn ymlaen i 15 Medi. Mae hyn er mwyn caniatáu i eitem agenda fod yn rhan o’r gyllideb flynyddol, a fyddai'n caniatáu amser i ymgynghori'n ystyrlon â'r Cyngor.
     
  2. O ran y lleoliad, darparodd y Gweinidog ganlyniadau pôl a rannwyd â'r aelodau yn gofyn lle yr hoffent gynnal y cyfarfod nesaf. Eglurodd nad oedd pob aelod wedi ymateb ond mai lleoliad yn y De-orllewin oedd y dewis.
     
  3. Cytunodd yr aelodau i'r dewis lleoliad hwn. 
     
  4. Mynegodd y Fonesig Elan Closs-Stephens a Gareth Lloyd eu hymddiheuriadau cyn cyfarfod 15 Medi.
     
  5. Gofynnodd Shavanah Taj am i amser y cyfarfod gael ei ddarparu cyn gynted â phosibl i'r aelodau fel y gallent wneud trefniadau teithio addas. 
     
  6. Cytunodd y Gweinidog, gan gadarnhau y byddai'n cael ei gynnal yn y bore ac y byddai swyddogion yn darparu mwy o fanylion maes o law. 
     
  7. Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd ei fod yn dymuno cynnal cyfarfod y Cyngor yn y Gogledd yn y dyfodol. 

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i gadarnhau manylion cyfarfod y Cyngor ar 15 Medi i aelodau maes o law. 

Papur i'w nodi: diweddariad, adroddiadau blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol Cyrff Cyhoeddus 24/25

  1. Cadarnhaodd y Gweinidog fod chwe adroddiad Blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol wedi'u derbyn hyd yma gan gyrff cyhoeddus. Eglurodd ei bod hi'n anodd cynnal dadansoddiad ar sail set mor fach o adroddiadau ond y bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai pob un o'r 55 adroddiad yn cael eu rhannu ag aelodau yn y pen draw.

Presenoldeb yn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (SPC): 4 Mehefin 2025

Cynrychiolwyr y Gweithwyr 

Ruth Brady, GMB
Neil Butler, NASUWT
Gareth Lloyd, UCU
Shavanah Taj, TUC Cymru  
Mike Walker, USDAW
Peter Hughes, Unite
Sian Boyles, PCS

Cynrychiolwyr Cyflogwyr 

Pippa Britton, Y Sector Gwirfoddol
Y Fonesig Elan Closs-Stephens, Cyrff Cyhoeddus
Nicola Prygodzicz, Iechyd
Janis Richards, Busnes
Ben Cottam, Busnes 
Russell Greenslade, Busnes

Llywodraeth Cymru

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog
Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Jo Salway
Sinead Gallagher
Josh Vuglar
Amy Dietrich
Sue Hurrell

Sylwedyddion

Chris Llewellyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Gwen Williams (yn lle'r Athro Wendy Larner)
Simon Dunne (yn lle Jess Turner)

Ymddiheuriadau

Helen Whyley, RCN Cymru
Jess Turner, UNSAIN
Kathryn Robson, Addysg Bellach
Yr Athro Wendy Larner,  Addysg Uwch
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Llywodraeth Leol