Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

  1. Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn amlinellu bod rhaid i gorff cyhoeddus lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan y Ddeddf.
     
  2. Dechreuodd y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol ar 1 Ebrill 2024. Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i’r ddeddfwriaeth bellach geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu gynrychiolwyr eraill o staff lle nad oes undebau llafur yn bresennol) wrth osod eu hamcanion llesiant neu wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau y bwriadant eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny.
     
  3. Rhaid i bob corff cyhoeddus gytuno ar ei adroddiad gyda'i undebau llafur cydnabyddedig (neu gynrychiolwyr eraill o'i staff) pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) neu, os na chytunwyd arno, rhaid i'r adroddiad gynnwys datganiad sy'n esbonio pam.
     
  4. Mae'n ofynnol i bob corff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol gyhoeddi a darparu adroddiad blynyddol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd sy'n cwmpasu gweithgareddau 24/25. Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer cyflwyno adroddiadau.
     
  5. Yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, cytunwyd y byddai'r adroddiadau hyn yn cael eu casglu a'u dadansoddi gan ysgrifenyddiaeth y Cyngor. Bydd aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn cael crynodeb o'r adroddiadau hyn bob blwyddyn.        
     
  6. Mae'r aelodau hefyd wedi gofyn am gynnwys gwybodaeth ychwanegol yn yr adroddiadau i dynnu sylw at arferion da o weithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol. Ysgrifennodd y Gweinidog lythyr at y Cyrff Cyhoeddus yn gofyn am gynnwys gwybodaeth am y canlynol:
  • Pa mor aml y mae'r cyflogwr yn cwrdd ag undebau llafur fel rhan o'u dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.
  • A ddarparwyd hyfforddiant i weithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur ar sut oedd y ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol i'w gweithredu/yn cael ei gweithredu yn y sefydliad hwnnw; ac
  • Unrhyw enghreifftiau o ble mae gweithgarwch yn mynd rhagddo'n dda yn y cyfnod adrodd, gan gynnwys astudiaethau achos.
  1. Nid oes unrhyw ofyniad ar gyrff cyhoeddus i ddarparu unrhyw wybodaeth y tu hwnt i’r hyn a nodir yn y Ddeddf, ond roedd y llythyr yn mynegi pa mor ddefnyddiol fyddai'r wybodaeth honno. 

Diweddariad

  1. Hyd yma, mae chwech o'r 55 o Gyrff Cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i’r ddyletswydd wedi cyflwyno eu hadroddiad Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer 2024 i 2025, sef:
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Awdurdod Tân y Canolbarth a'r Gorllewin
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
  • Awdurdod Heddlu'r Gogledd
  1. Mae'r Cyrff Cyhoeddus sydd wedi cyflwyno adroddiad wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol, ar ôl bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraffau 2 a 3 uchod. 
     
  2. O ran y wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani yn llythyr y Gweinidog, sylwodd ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar duedd gynnar sef bod Cyrff Cyhoeddus yn cynnwys cyfarfodydd lle maen nhw'n trafod y ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ond heb ddarparu union fanylion pryd y digwyddodd hynny. Gallai hyn fod oherwydd bod y swp cyntaf o adroddiadau wedi'u drafftio cyn i lythyr y Gweinidog gael ei gyhoeddi.
     
  3. Hyd yma, nid oes unrhyw Gorff Cyhoeddus wedi darparu unrhyw astudiaethau achos fel enghraifft bod trefniadau’r Bartneriaeth Gymdeithasol yn mynd rhagddynt yn dda o fewn y sefydliad. Unwaith eto, efallai ei bod hi'n ddyddiau cynnar o ran drafftio'r adroddiadau.

Y camau nesaf

  1. Darperir diweddariad pellach neu ddadansoddiad cychwynnol (yn dibynnu ar nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd ar y pryd) yng nghyfarfod mis Hydref.
     
  2. Unwaith y bydd yr holl adroddiadau wedi'u cyflwyno gan ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, bydd adroddiad cryno llawn yn cael ei ddrafftio a'i gyflwyno i'r Cyngor i'w ystyried. 
     
  3. Mae'r holl adroddiadau a gyflwynwyd ar gael i'r cyhoedd, a bydd y dolenni'n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol maes o law, ond yn y cyfamser, mae Ysgrifenyddiaeth y Cyngor yn hapus i rannu dolenni gydag unrhyw aelod sy'n gofyn amdanynt.