Neidio i'r prif gynnwy

Mae buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn helpu miloedd yn fwy o bobl hŷn ac anabl i fyw'n fwy annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyrannodd Llywodraeth Cymru £5.5 miliwn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf a mwy na £1.25 miliwn mewn refeniw i'r Rhaglenni Byw'n Annibynnol yn 2025-26.

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, â Mr a Mrs Watkins sydd wedi bod yn cael cymorth gan Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.

Mae Gofal a Thrwsio yn elusen sy'n gweithio ledled Cymru i sicrhau bod gan bobl hŷn gartrefi sy'n addas i'w hanghenion. Maent yn helpu tua 40,000 o aelwydydd bob blwyddyn, gan ddarparu tua 25,000 o addasiadau fel rhan o'u pecyn cymorth. 

Yn ystod yr ymweliad, clywodd Ysgrifennydd y Cabinet sut mae'r cwpl, y ddau ohonynt yn eu 70au, wedi cael cymorth cynhwysfawr ers hynny i'w helpu i aros yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref eu hunain.

Mae hyn yn cynnwys gosod amrywiaeth o addasiadau ymarferol ledled y cartref, fel canllaw newydd ar y grisiau, gwell goleuadau ar y grisiau i leihau'r risg o gwympo - yn arbennig o bwysig oherwydd bod Mr Watkins yn colli ei olwg - a chanllaw o'r llawr i'r nenfwd y tu allan i'r gawod i’w helpu i symud.

Cafodd gwaith trwsio hanfodol ei wneud hefyd i ffenestr ystafell wely flaen a oedd yn ddiffygiol a oedd wedi bod yn gadael aer oer a drafftiau i mewn.

Y tu hwnt i addasiadau ffisegol, mae Gofal a Thrwsio wedi darparu gwasanaethau cymorth cofleidiol, gan gynorthwyo'r cwpl i hawlio budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt, cais llwyddiannus am Fathodyn Glas, eu cofrestru gyda Chofrestr Gwasanaeth â Blaenoriaeth y Grid Cenedlaethol ar gyfer cwsmeriaid sy'n agored i niwed, a darparu cyngor am atal cwympiadau. 

Trwy atgyfeirio at wasanaeth Ymdopi'n Well Gofal a Thrwsio, trefnwyd cymorth pellach gan gynnwys mynediad at lyfrau llafar RNIB, asesiad golwg gwan, a chyfeirio at grwpiau cymorth lleol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Gall addasiadau i gartrefi fod yn achubiaeth i rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau, ac roedd yn wych cwrdd â Mr a Mrs Watkins a chlywed yn uniongyrchol sut mae Gofal a Thrwsio wedi eu helpu i deimlo'n fwy diogel yn eu cartref.

Mae'r gwaith y mae Gofal a Thrwsio yn ei wneud ledled Cymru yn amhrisiadwy. Rwy'n falch, gyda'r cyllid ychwanegol rydyn ni wedi'i ddyrannu i gefnogi rhaglenni byw'n annibynnol y flwyddyn ariannol hon, ein bod yn gallu helpu rhagor o bobl i fyw gyda mwy o annibyniaeth ac urddas cyn hired â phosibl.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Gofal a Thrwsio Cymru:

Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru eleni. Mae'r gwaith a wnawn ledled Cymru i addasu, trwsio a gwneud cartrefi pobl hŷn yn hygyrch, yn ddiogel ac yn gynnes yn gwella ansawdd eu bywyd, eu hannibyniaeth a'u llesiant. 

Mae ein gwaith hefyd yn lleihau pwysau a galw yn y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy helpu i leihau derbyniadau diangen i'r ysbyty, ei gwneud hi'n bosibl rhyddhau cleifion yn gyflymach o'r ysbyty, a chefnogi pobl hŷn i fyw mewn urddas gartref. Rydym wedi amcangyfrif y bydd yr arian ychwanegol rydyn ni wedi'i dderbyn yn ein helpu i gefnogi 5,000-6,000 o bobl ychwanegol bob blwyddyn. 

Mae'r cwpl y cyfarfu'r Ysgrifennydd Cabinet â nhw yn nodweddiadol o'r bobl rydyn ni'n eu helpu, lle rydym nid yn unig yn gwella eu hamgylchiadau byw, ond yn sicrhau eu bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, gan eu helpu i dalu biliau bwyd ac ynni drud yn ystod y cyfnod ariannol anodd hwn, gan wella eu llesiant cyffredinol.