Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hwb ychwanegol o £3.3 miliwn i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr ailddatblygu'n creu canolfan ddysgu, ardal chwarae, siop a chaffi newydd yn yr amgueddfa, yn ogystal â gwneud y safle cyfan yn fwy hygyrch. Bydd rhagor o gyfleoedd i ddarganfod a mwynhau stori llechi drwy arddangosfeydd a dehongli newydd.

Bydd y cyllid hefyd yn galluogi'r safle i barhau i ddatblygu ei rôl fel amgueddfa fyw drwy gynnig hyfforddiant a chyfleoedd i bobl o bob cefndir fwynhau, datblygu a dysgu am sgiliau treftadaeth draddodiadol.

Mae'r amgueddfa wedi cau dros dro er mwyn gwneud y gwaith cadwraeth ac adnewyddu'n ddiogel. Ond mae Amgueddfa Cymru yn mynd â'r amgueddfa ar daith o amgylch atyniadau lleol a digwyddiadau cymunedol yng ngogledd Cymru a thrwy amgueddfeydd dros dro yn Ysbyty'r Chwarel a Chastell Penrhyn.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cynnwys £3 miliwn ychwanegol ynghyd â grant o £300,000 o'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol tuag at adeiladu caffi newydd, Canolfan Ddysgu a Gwirfoddoli a chyfleusterau newid. Mae hyn yn dod â chyfanswm cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r prosiect i £5.8 miliwn (gyda £2.5 miliwn wedi'i ddyfarnu o'r blaen).

Ymwelodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â'r safle yn ddiweddar i gwrdd â staff Amgueddfa Cymru a gweld y datblygiadau sy'n mynd rhagddyn nhw. Meddai:

Fel y Gweinidog Diwylliant, a gogleddwr balch, mae wedi bod yn haf delfrydol imi – yn ymweld ag un datblygiad neu ddigwyddiad cyffrous yn y Gogledd ar ôl y llall:  Theatr Clwyd ar ei gwedd newydd, sydd bron wedi'i gorffen; yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol ar ddechrau ei thaith i drawsnewid ei hun; Maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam lle ymunais â degau o filoedd o ymwelwyr eraill i ddathlu popeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg – a ches i ddiweddariad ar gynnydd yr Amgueddfa Bêl-droed newydd ar gyfer Cymru o fewn Amgueddfa Wrecsam.

Rydyn ni wedi cynyddu gwariant o ddydd i ddydd ar ddiwylliant 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddi mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl. Ond mae ein gwariant ar ddiwylliant yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn – mae'n cael ei ymgorffori mewn cyllidebau ar draws Llywodraeth Cymru.

Mae ein buddsoddiad yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol heddiw yn enghraifft ardderchog o'r ffordd mae hyn yn gweithio'n ymarferol, gyda £5.5 miliwn o gyllideb fy adran ynghyd â chyllid adfywio cymunedol i sicrhau bod yr amgueddfa wedi'i hailddatblygu yn cynnig profiad o'r radd flaenaf i ymwelwyr â thirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru – safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 2021.

Dyrannodd Llywodraeth Cymru dros £230 miliwn eleni i raglenni diwylliant a diwylliannol y tu allan i bortffolio'r Gweinidog Diwylliant – ar draws adrannau gan gynnwys addysg, llywodraeth leol, yr economi, iechyd, y Gymraeg, ynni a chyfiawnder cymdeithasol.

Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer prosiectau cyfarwydd a diwylliannol arwyddocaol fel y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Llangollen, Her Ddarllen yr Haf ym mhob llyfrgell yng Nghymru, y buddsoddi yn ein sectorau ffilm, teledu a cherddoriaeth fyw a digwyddiadau proffil uchel fel Tafwyl a rhaglen Canmlwyddiant Richard Burton 2025 flwyddyn o hyd.