Mae gwaith cadwraeth hanfodol ar Eglwys Sant Silyn yn Wrecsam bron wedi dod i ben, gan sicrhau dyfodol yr eglwys hanesyddol am flynyddoedd lawer i ddod.
Mae Eglwys Sant Silyn yn adeilad rhestredig Gradd 1 ac yn un o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth grefyddol yng Nghymru. Mae'n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif – gyda rhannau o eglwys hŷn o'r 14eg ganrif – a chafodd ei hadeiladu mewn sawl cam gyda'r tŵr yn cael ei gwblhau yn 1506 i 1520.
Mae'r eglwys hefyd yn dirnod lleol, sy'n cael ei dathlu yn un o 'Saith Rhyfeddod Gogledd Cymru' mewn odl o'r 19eg ganrif.
Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, wedi cyfrannu dros £167,000 drwy ei Raglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol tuag at y prosiect cadwraeth.
Roedd y grant hwn yn cefnogi atgyweiriadau gwaith maen i'r eil ddeheuol a'r gangell, disodli'r plwm ar do'r gangell, ac adnewyddu darpariaeth dŵr glaw ag addasiadau i reoli glaw trwm yn fwy effeithlon fel rhan o fesurau addasu i newid yn yr hinsawdd. Mae'r prosiect hefyd wedi cefnogi dau brentis saer maen.
Ymwelodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â'r Eglwys yr wythnos hon i weld y gwelliannau a'r gwaith adnewyddu.
Yn ystod ei ymweliad, cwrddodd y Gweinidog â Brian Stickels, a ymddeolodd yn ddiweddar fel Warden y Ficer, am daith o amgylch yr eglwys ac esboniad o'r gwaith cadwraeth sydd wedi cael ei wneud.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
Mae ein buddsoddiad drwy Cadw wedi helpu i warchod yr adeilad rhestredig godidog hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Eglwys Sant Silyn yn un o drysorau pensaernïol Cymru, ac mae'r gwaith cadwraeth hwn nid yn unig yn diogelu ei ffabrig hanesyddol ond hefyd yn dangos ein hymrwymiad i addasu ein treftadaeth i gwrdd â heriau newid yn yr hinsawdd.
Rwy'n arbennig o falch bod y prosiect hwn wedi darparu cyfleoedd hyfforddi gwerthfawr i brentisiaid saer maen, gan sicrhau bod y sgiliau traddodiadol hyn yn parhau i ffynnu.
