Rhaglen grant cydraddoldeb a chynhwysiant: cwestiynau cyffredin
Atebion i gwestiynau a ofynnwyd am y rhaglen grant cydraddoldeb a chynnwys.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Bydd y rhestr hon yn cael ei diweddaru wrth i gwestiynau godi, ac nid yw'r rhestr mewn unrhyw drefn benodol o ran blaenoriaeth na phwysigrwydd.
Grant ymwybyddiaeth ac ymgysylltu
Pwy sy'n cael gwneud cais?
Mae'r Cynlluniau Grantiau Ymwybyddiaeth ac Ymgysylltu yn agored i grwpiau a sefydliadau trydydd sector (gan gynnwys grwpiau ffydd). Mae cydweithrediadau â sefydliadau'r sector cyhoeddus yn gymwys, ond rhaid i'r prif ymgeisydd fod yn elusen neu gwmni cofrestredig o'r trydydd sector.
Lleoliad y prosiect/gweithgareddau a dderbynnir
Rhaid i'r gweithgaredd ddigwydd yng Nghymru. Nid yw gweithgareddau y tu allan i Gymru yn cael eu cefnogi o dan y cynllun grant hwn.
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae cyfanswm o £750,000 ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y cynllun (£500,000 yn 2025 i 2026 a £250,000 yn 2026 i 2027). Wrth wneud cais am gyllid, gofynnir i chi ystyried cynnig am gyllid o fewn yr amlenni hyn gan nodi'r swm is yn 2026 i 2027.
A yw ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am Grantiau eraill o dan y Rhaglen Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant os ydym yn bodloni'r meini prawf?
Nid oes unrhyw beth i'ch atal rhag gwneud cais am gyllid arall os ydych chi'n bodloni'r meini prawf. Fodd bynnag, bydd angen datgan cyllid arall a gellir ei gymryd i ystyriaeth wrth flaenoriaethu ceisiadau am gymorth.
A fydd angen i fuddiolwyr gael prawf i asesu eu cymhwysedd o ran nodweddion gwarchodedig?
Na, ni fydd angen i fuddiolwyr gael prawf i asesu a ydynt yn gymwys.
Ydych chi'n barod i gefnogi rhaglenni presennol ochr yn ochr â phrosiectau/gweithgareddau newydd? A oes angen i ni ddangos tystiolaeth o effaith ystyrlon ar fywydau pobl â nodweddion gwarchodedig yng Nghymru?
Byddwn yn cefnogi unrhyw brosiect sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer y grant.
A fyddai'n bosibl i chi roi unrhyw enghreifftiau o'r hyn y gellid ei ariannu o dan y grant?
Ni allwn gynnig enghreifftiau penodol o geisiadau a fyddai'n cael eu cymeradwyo. Fodd bynnag, anfonwch e-bost at y blwch post (RhaglenGrantCydraddoldebAChynhwysiant@llyw.cymru) os nad ydych yn siŵr a yw eich prosiect yn addas ar gyfer y cynllun.
A gaiff sefydliad gyflwyno mwy nag un cais ar gyfer gwahanol brosiectau?
Caiff. Fodd bynnag, lle mae gan sefydliad amcanion lluosog, byddem yn annog cyflwyno un cais mawr yn hytrach na nifer o gynigion llai. Sylwch hefyd y bydd gwasgariad daearyddol cyffredinol y dyfarniadau grant arfaethedig, a’u gwasgariad ar draws nodweddion gwarchodedig gwahanol, yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses asesu i sicrhau bod cydbwysedd ledled Cymru. Byddwn hefyd yn ystyried cyllid sydd eisoes wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill wrth flaenoriaethu ceisiadau am gymorth.
A fyddai'n bosibl i mi drafod ein syniadau ar gyfer prosiect â chi? A ellir trefnu sgwrs i weld a yw ein syniadau'n cyd-fynd â briff y grant cyn i ni fynd ati i gwblhau'r ffurflen gais?
Er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg, ni allwn drafod ceisiadau'n fanwl. Fodd bynnag, os oes gennych gwestiynau penodol am gymhwysedd neu am y ffurflen gais, e-bostiwch y blwch post grantiau Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Pa gostau sy'n gymwys i'w cynnwys o dan y grant hwn?
Mae'r cyllid grant hwn ar gael i wella, atgyfnerthu ac ychwanegu gwerth at weithgareddau ymwybyddiaeth ac ymgysylltu sydd eisoes ar waith, neu i sefydlu trefniadau newydd.
Mae'r canllawiau yn nodi "Ni dderbynnir ceisiadau gan gyrff a busnesau'r sector preifat / nid yw cyllid ar gael i ariannu unrhyw gostau uniongyrchol i bartner sector preifat''. A yw hyn yn berthnasol o hyd os yw'r partner yn gwmni preifat ac yn elusen gofrestredig?
Efallai na chaiff partner sy'n gwmni preifat ac yn elusen gofrestredig ei eithrio. Fodd bynnag, gwneir penderfyniadau fesul achos. Rhowch yr holl fanylion perthnasol yn eich cais a byddwn yn cysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau.
Pa ddata fyddech chi'n disgwyl i ni ei gasglu gan ddefnyddwyr gwasanaeth a sut fyddai disgwyl i ni wneud hyn? Sut ddylwn i gasglu data monitro oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaeth?
Bydd disgwyl ichi gasglu data ddefnyddwyr terfynol ar sut effeithiodd gweithgareddau a ariennir gan grantiau ar eu cyfranogiad, ynghyd â chasglu eu gwybodaeth fonitro. Bydd y data monitro y dylech/y bydd angen i chi eu casglu, a sut rydych yn eu casglu yn dibynnu ar y gweithgaredd y mae eich grant yn ei gefnogi. Darperir templedi gyda chwestiynau priodol.
A all unrhyw ran o'r grant fynd tuag at gostau ymgynghorydd ymchwil allanol? Neu a oes unrhyw ddisgwyliad y dylid defnyddio'r grant cyfan i gyflawni'r gweithgaredd yn unig? Os gellir defnyddio rhan o'r grant ar gyfer ymgynghoriaeth ymchwil allanol, a oes disgwyliad o ran y trothwy uchaf ar gyfer yr elfen hon? e.e. llai na 10% o gyfanswm y grant?
Mae'n bwysig bod unrhyw gostau o'r fath yn gymesur ac yn rhesymol, o'i gymharu â graddfa'r prosiect. Dylech fod yn eglur ar y ffurflen gais.
Pryd byddaf yn gwybod canlyniad fy nghais?
Cyfeiriwch at yr Amserlen Ymgeisio yn y Canllawiau.
Sut y caiff y taliadau eu gwneud?
Gwneir taliadau mewn ôl-ddyledion, oni bai bod sefydliad trydydd sector yn darparu tystiolaeth glir o'r angen am daliadau ymlaen llaw.
A oes rhaid i gostau 'amser' fod ar gyfer staff cyflogedig neu a allant fod ar gyfer gweithwyr llawrydd?
Nid oes unrhyw beth yn y canllawiau sy'n gwahardd gweithwyr llawrydd.
Ydych chi'n golygu elusennau neu a all cwmni buddiant cymunedol wneud cais?
Gall cwmni buddiant cymunedol wneud cais.
A all sefydliad corfforedig elusennol wneud cais felly? Sut mae cwmni cyfyngedig drwy warant yn dod o fewn ymbarél y 3ydd sector? A all menter gymdeithasol wneud cais? Cwmnïau cyfyngedig drwy warant? A all cwmnïau nid-er-elw cyfyngedig drwy warant wneud cais?
Y modelau arferol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig y trydydd sector fydd cwmnïau cyfyngedig drwy warant (heb gyfalaf cyfrannau), cwmnïau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau neu gwmnïau buddiant cymunedol, a all hefyd fod â chyfranddaliadau. Mae gan gwmnïau buddiant cymunedol glo asedau, sy'n golygu'n gyffredinol bod asedau'n cael eu diogelu at ddibenion cymunedol/ elusennol.
Er mwyn cael ei ystyried yn gymwys, rhaid i gwmni sydd â chyfranddaliadau naill ai ail-fuddsoddi'r holl elw, neu gyfyngu'r enillion i gyfranddalwyr i'r buddsoddiad gwreiddiol. Efallai y bydd angen i ni wybod i ble mae elw'n mynd trwy ofyn am gopi o'r memorandwm a'r erthyglau cymdeithasu ar gyfer cwmnïau.
Mae sefydliad corfforedig elusennol yn fath arall o gofrestriad elusennol. Mae rhai sefydliadau yn gwmnïau cyfyngedig ac yn elusennau cofrestredig.
Efallai y bydd sefydliadau na allant wneud cais fel ymgeiswyr arweiniol yn gallu gwneud cais fel rhan o drefniant cydweithio gyda sefydliad cymwys.
Mae'r ffurflen hefyd yn gofyn am rifau Yswiriant Gwladol ar gyfer sefydliadau, ond nid oes gan gwmni buddiant cymunedol bach nad yw'n cyflogi pobl rifau Yswiriant Gwladol. A fydd hynny'n peryglu cymhwystra?
Nodwch y rhifau ar gyfer yr ymgeisydd/ymgeiswyr arweiniol.
Lle y gallwn gael gafael ar y ffurflenni a'r canllawiau?
Mae'r canllawiau a'r ffurflenni cais i'w gweld ar dudalen we y grant.
Os yw'r ymgeisydd arweiniol yn 'gorff trydydd sector' sy'n cefnogi grwpiau llai yng Nghymru, a oes rhaid i'r sefydliad hwnnw fod wedi'i leoli yng Nghymru, os yw'r holl grwpiau llai a'r cyfranogwyr wedi'u lleoli yng Nghymru?
Mae'r canllawiau yn nodi, at ddibenion y grant hwn, bod yn rhaid i weithgareddau’r corff trydydd sector fod o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni (p'un a ydynt hefyd o fudd i unrhyw ardal arall ai peidio). Rhaid i'r ymgeisydd arweiniol am y grant fod yn gorff trydydd sector sydd wedi'i gofrestru fel elusen neu gwmni. Rhaid iddynt ddarparu eu rhif cofrestru perthnasol [cofrestriadau yn y DU]. Yn ogystal, rhaid bod y prosiect yn cael ei gyflwyno yng Nghymru yn unig. Ni ellir defnyddio cyllid i ariannu unrhyw weithgaredd y tu allan i Gymru.
Sut ydym yn ymdrin â chymorth mewn nwyddau? Mae'r ffurflen yn holi am gyllid arall ond nid am werth cymorth mewn nwyddau? Oes gennych ddiddordeb yn hyn?
Rhowch fanylion yn eich ffurflen gais am unrhyw gyllid arall.
A all cwmni preifat cyfyngedig drwy gyfranddaliadau wneud cais (ond nid er elw, rhoddir unrhyw elw a gynhyrchir i elusen)?
Na.
A ellir defnyddio'r naill neu'r llall o'r grantiau i gefnogi pobl ifanc fel grŵp?
Bwriad y grant yw helpu grwpiau a chyrff trydydd sector i gefnogi grwpiau lleiafrifol a phobl â nodweddion gwarchodedig trwy fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a/neu hyrwyddo cynhwysiant. Cyfeiriwch at y canllawiau am fwy o fanylion.
A all yr un trefniant cydweithio fod yn gymwys ar gyfer y ddau grant? / prosiectau gwahanol?
Gall.
A all ysgolion wneud cais?
Gall ysgolion awdurdodau lleol wneud cais fel rhan o drefniant cydweithio gyda sefydliad trydydd sector arweiniol.
Mae'r canllawiau grant yn nodi bod yn rhaid i bob cais gael ei arwain gan grŵp neu gorff trydydd sector. Faint o bartneriaid all gydweithio?
Nid oes terfyn ar nifer y partneriaid.
Allwch chi gadarnhau y byddai angen cyflawni'r prosiect rhwng Ionawr a Medi 2026. Beth yw'r amserlen/dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r gweithgareddau?
Bydd angen i brosiectau gael eu cwblhau erbyn 30 Medi 2026. Mae’r amserlen yn y canllawiau.
A fyddai prosiectau sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl yn gymwys?

A fyddai'n bosibl i chi roi unrhyw enghreifftiau o'r hyn a allai gael ei ariannu o dan y grant? Allwch chi roi enghreifftiau o'r math o brosiectau / gweithgareddau sy’n gymwys o dan y grant ymwybyddiaeth ac ymgysylltu a'r grant arloesi?
Ni allwn gynnig enghreifftiau penodol o’r mathau o geisiadau a fyddai'n cael eu cymeradwyo. Bwriad y grant yw helpu grwpiau a chyrff trydydd sector i gefnogi grwpiau lleiafrifol a phobl â nodweddion gwarchodedig. Cyfeiriwch at y canllawiau am fwy o fanylion.
A oes rhestr o ganlyniadau ac allbynnau os gwelwch yn dda?
Mae hyn yn rhywbeth y disgwylir i dderbynwyr y grant ei gynhyrchu fel rhan o'u cais a'u darpariaeth gwasanaeth.
A oes angen partner arweiniol ar gyfer grantiau arloesi i gadw a gweinyddu’r arian ar draws partneriaid, os oes cydweithio?
Rhaid i bob cais ar y cyd fod â chorff trydydd sector arweiniol a fydd yn derbyn y grant. Byddai unrhyw brosesau mewnol yn fater i'r sefydliadau benderfynu arnynt ond lle mae cyrff yn bwriadu cydweithio, rhaid i'r cais gynnwys Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy'n disgrifio sail y trefniant cydweithio.
A all hyn gynnwys sawl ardal awdurdod lleol, e.e. prosiect rhanbarthol?
Gall.
Ai partneriaeth yn unig all wneud cais neu a oes modd i sefydliad unigol wneud hynny?
Gall cais gael ei wneud gan un corff trydydd sector neu ar y cyd drwy drefniant cydweithio a arweinir gan sefydliad trydydd sector. Cyfeiriwch at y canllawiau am fwy o fanylion.
Ai 'sefydliadau bach' yn unig sy'n gallu gwneud cais am y grant llai?
Nid oes gofynion penodol o ran maint ar gyfer sefydliadau sy'n ystyried gwneud cais am grant.
A all unigolyn wneud cais am grant bach gan sefydliad trydydd sector sydd wedi cael un o'r grantiau mwy?
Byddai hyn yn fater i'r sefydliad sydd wedi cael y grant. Gweler y canllawiau.
Grant arloesi
Pwy sy'n cael gwneud cais?
Mae'r cynllun Grant Arloesi hwn yn agored i grwpiau a sefydliadau trydydd sector (gan gynnwys grwpiau ffydd). Mae cydweithrediadau â sefydliadau'r sector cyhoeddus yn gymwys, ond rhaid i'r prif ymgeisydd fod yn elusen neu gwmni cofrestredig o'r trydydd sector.
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae'r Grant Arloesi gwerth £450k yn cynnwys £300k yn 2025 i 2026 a £150k yn 2026 i 2027. Y grant lleiaf sydd ar gael yw £40,000 a'r mwyaf sydd ar gael yw £100,000. Bydd hyn yn darparu cyllid nes 30 Medi 2026. Wrth wneud cais am gyllid, gofynnir i chi ystyried cynnig am gyllid o fewn yr amlenni hyn gan nodi'r swm is yn 2026 i 2027.
Lleoliad y prosiect/gweithgareddau a dderbynnir
Rhaid i'r gweithgareddau ddigwydd yng Nghymru. Nid yw gweithgaredd y tu allan i Gymru yn cael ei gefnogi o dan y cynllun grant hwn.
A yw ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am Grantiau eraill o dan y Rhaglen Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant os ydym yn bodloni'r meini prawf?
Nid oes unrhyw beth i'ch atal rhag gwneud cais am gyllid arall os ydych chi'n bodloni'r meini prawf. Fodd bynnag, bydd angen datgan cyllid arall a gellir ei ystyried wrth flaenoriaethu ceisiadau am gymorth.
A fydd angen i fuddiolwyr gael prawf i asesu eu cymhwysedd o ran nodweddion gwarchodedig?
Na, ni fydd angen i fuddiolwyr gael prawf i asesu a ydynt yn gymwys.
A oes angen i ni gyflwyno prosiectau / gweithgareddau newydd i wahaniaethu ein rhaglen oddi wrth raglenni rheolaidd?
Oes. Ni all y prosiect newydd fod yr un fath â'ch rhaglen waith arferol.
A fyddai'n bosibl i chi roi unrhyw enghreifftiau o'r hyn y gellid ei ariannu o dan y grant?
Ni allwn gynnig enghreifftiau penodol o geisiadau a fyddai'n cael eu cymeradwyo. Fodd bynnag, anfonwch e-bost at y blwch post (RhaglenGrantCydraddoldebAChynhwysiant@llyw.cymru) os nad ydych yn siŵr a yw eich prosiect yn addas ar gyfer y cynllun.
A gaiff sefydliad gyflwyno mwy nag un cais am brosiectau gwahanol?
Caiff. Fodd bynnag, lle mae gan sefydliad amcanion lluosog, byddem yn annog cyflwyno un cais mawr yn hytrach na nifer o gynigion llai. Sylwch hefyd y bydd gwasgariad daearyddol cyffredinol y darpar ddyfarniadau grant, a’u gwasgariad ar draws nodweddion gwarchodedig gwahanol, yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses asesu i sicrhau bod cydbwysedd ledled Cymru. Byddwn hefyd yn ystyried cyllid sydd eisoes wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill wrth flaenoriaethu ceisiadau am gymorth.
A fyddai'n bosibl i mi drafod ein syniad ar gyfer prosiect â chi? A ellir trefnu sgwrs i weld a yw ein syniadau'n cyd-fynd â briff y grant cyn i ni fynd ati i gwblhau'r ffurflen gais?
Er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg, ni allwn drafod ceisiadau'n fanwl. Fodd bynnag, os oes gennych gwestiynau penodol am gymhwysedd neu am y ffurflen gais, e-bostiwch y blwch post grantiau Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Mae'r canllawiau yn nodi 'Ni dderbynnir ceisiadau gan gyrff a busnesau'r sector preifat / nid yw cyllid ar gael i ariannu unrhyw gostau uniongyrchol i bartner sector preifat''. A yw hyn yn berthnasol o hyd os yw'r partner yn gwmni preifat ac yn elusen gofrestredig?
Efallai na chaiff partner sy'n gwmni preifat ac yn elusen gofrestredig ei eithrio. Fodd bynnag, gwneir penderfyniadau fesul achos. Rhowch yr holl fanylion perthnasol yn eich cais a byddwn yn cysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau.
A all unrhyw ran o'r grant fynd tuag at gostau ymgynghorydd ymchwil allanol? Neu a oes unrhyw ddisgwyliad y dylid defnyddio'r grant cyfan i gyflawni'r gweithgaredd yn unig? Os gellir defnyddio rhan o'r grant ar gyfer ymgynghoriaeth ymchwil allanol, a oes disgwyliad o ran y trothwy uchaf ar gyfer yr elfen hon? e.e. llai na 10% o gyfanswm y grant?
Mae'n bwysig bod unrhyw gostau o'r fath yn gymesur ac yn rhesymol, o'u cymharu â graddfa'r prosiect. Dylech fod yn eglur ar y ffurflen gais.
Pryd byddaf yn gwybod canlyniad fy nghais?
Cyfeiriwch at yr Amserlen Ymgeisio yn y Canllawiau.
Sut y caiff y taliadau eu gwneud?
Gwneir taliadau mewn ôl-ddyledion oni bai bod ymgeisydd 3ydd sector yn darparu tystiolaeth glir o'r angen am daliadau ymlaen llaw.
Pa ddata fyddech chi'n disgwyl i ni eu casglu gan ddefnyddwyr gwasanaeth a sut y byddai disgwyl i ni wneud hyn? Sut ddylwn i gasglu data monitro gan ddefnyddwyr gwasanaeth?