Neidio i'r prif gynnwy

Bydd seremoni arbennig yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd heddiw i nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (VJ).

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cynrychioli Cymru yn y gwasanaeth, sy'n cael ei gynnal wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru. Bydd yn anrhydeddu cyn-filwyr Cymreig a wasanaethodd yn Asia a'r Môr Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bydd Huw Irranca-Davies yn gosod torch, ochr yn ochr â'r AS, y Fonesig Nia Griffiths a Mr Masaki Ikegami, Dirprwy Lysgennad Llysgenhadaeth Japan yn y DU.

Yn ddiweddarach, bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cynnal derbyniad preifat yn y Deml Heddwch, lle bydd teuluoedd cyn-filwyr VJ yn ymgynnull i gofio gwasanaeth eu hanwyliaid.

Mae Diwrnod VJ, a nodir ar 15 Awst, yn gyfle i gofio'r dyddiad pan ildiodd Japan a olygodd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:

"Heddiw rydym yn anrhydeddu cyn-filwyr Cymru a phawb a wasanaethodd yn Asia a'r Môr Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wrth i ni nodi 80 mlynedd ers y dyddiad hwn, rydym yn cofio nid yn unig eu gwasanaeth, ond hefyd bwysigrwydd cymod. Rhaid i ni sicrhau nad yw eu straeon na'u haberth byth yn cael eu hanghofio, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddeall gwir gost rhyfel a gwerth heddwch."