Aelodaeth
Aelodaeth o'r Grŵp Gweithredu'r Gwaharddiad ar Rasio Milgwn.
Aelodau o Grŵp Gweithredu'r Gwahardd ar Rasio Milgwn
Mae'r Grŵp Gweithredu yn cynrychioli sbectrwm eang o'r sectorau y gallai'r penderfyniad i wahardd rasio milgwn effeithio arnyn nhw.
Cadeirydd
Cadeirydd y Grŵp Gweithredu yw Dr Emily Blackwell. Mae Dr Blackwell yn Uwch Ddarlithydd mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn Ysgol Filfeddygol Bryste.
Aelodau
Er nad dyma'r rhestr derfynol, yr aelodau presennol yw:
- milfeddygon – yr Athro Tim Parkin a Dr Sarah Carr
- Cynrychiolydd Valley Greyhounds – Katie Bennison
- Cynrychiolydd SIS Ltd – Richard Brankley
- Cynrychiolydd wedi'i enwebu gan CLlLC – Gareth Walters
- Allan Dallimore, Rheolwr Gwasanaethau Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- wedi'u henwebu gan Goalisiwn Cut the Chase, Dr Sam Gaines o'r RSPCA a Vanessa Waddon o Hope Rescue
- Scott Fryer o Battersea Dogs and Cats Home
Lle bydd eu gwaith ar gael
Bydd y Grŵp Gweithredu yn adrodd i Weinidogion Cymru. Disgwylir i adroddiad cychwynnol a chynllun gwaith gael eu cyhoeddi yn Hydref 2025.
Bydd yr adroddiadau hyn ac adroddiadau yn y dyfodol ar gael ar y dudalen hon.
Pryd maen nhw'n cwrdd
Mae'r Grŵp Gweithredu yn cyfarfod bob mis. Maen nhw'n adolygu cynnydd, yn llunio cynlluniau gwaith ac yn trafod problemau. Gellir trefnu cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen, gan alw ar arbenigwyr pwnc pan fydd angen.
