Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae'r canllawiau yn ei olygu i breswylwyr yng Nghymru

Mae'r canllawiau hyn yn nodi sut y dylai prosiectau i gyweirio risgiau diogelwch tân mewnol ac allanol adeiladau preswyl (11 metr neu fwy o uchder) ystyried anghenion preswylwyr waeth pwy sy'n cyflawni'r prosiect neu sut y caiff ei gyllido. 

Os ydych yn breswylydd mewn adeilad sy'n cael ei gyweirio, ni waeth p'un a ydych yn rhentu'r eiddo yn breifat, yn denant tai cymdeithasol, neu'n lesddeiliad, mae'r un disgwyliadau yn berthnasol i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect cyweirio. 

Drwy gydol y prosiect cyfan, dylai'r canlynol fod yn berthnasol i chi: 

  • Dylech gael gwybod pwy sy'n gyfrifol am y prosiect cyweirio, ac am rolau'r gwahanol bobl a sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r gwaith
  • Dylech gael y cyfle i gyfarfod â'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect cyn iddo ddechrau
  • Dylech ddisgwyl i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect gymryd camau rhesymol i ddeall ac ystyried unrhyw anghenion penodol a allai fod gennych
  • Dylech gael gwybod sut y gallwch ofyn cwestiynau, cyflwyno materion neu bryderon, a dylech gael y cyfle i gymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau lle y bo'n briodol ac yn bosibl i chi wneud hynny
  • Dylech gael gohebiaeth reolaidd, glir a chyfredol am y prosiect a'r cynnydd sy'n cael ei wneud, a dylech gael gwybod os bydd pethau'n newid
  • Dylech ddisgwyl i gamau gael eu cymryd i leihau ffactorau sy'n tarfu arnoch, er enghraifft sŵn, dirgryniad, mynediad at falconïau ac ati.

Canllawiau ar gyfer cyweirio adeiladau preswyl

Crynodeb gweithredol 

Mae problemau diogelwch tân a nodwyd yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017 wedi golygu ei bod yn ofynnol cynnal gwaith cyweirio mewn nifer mawr o adeiladau preswyl er mwyn gwneud yn siŵr bod preswylwyr yn ddiogel. 

Mae'n hollbwysig bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ymdrin â diogelwch adeiladau ac mae'n parhau i wneud cynnydd wrth gyweirio adeiladau drwy Raglen Diogelwch Adeiladau Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn glir y dylai datblygwyr gyflawni eu cyfrifoldebau ac unioni'r problemau o ran diogelwch tân yn yr adeiladau y maent wedi'u datblygu ers 1992. Hyd yn hyn, mae 12 o ddatblygwyr mawr wedi llofnodi'r contract i ddatblygwyr – gan gadarnhau eu hymrwymiad i gyweirio'r materion diogelwch tân y maent yn gyfrifol amdanynt. 

Gellir gwella profiadau preswylwyr yn sylweddol drwy well cynllunio a dulliau rheoli prosiect ystyriol. Mae'r canllawiau hyn ar gyfer cyweirio adeiladau preswyl yn nodi disgwyliadau clir i'r rhai hynny sy'n ymgymryd â phrosiectau cyweirio ac yn rheoli'r prosiectau hynny. Disgwylir i bob prosiect ddilyn y canllawiau hyn. 

Dylai anghenion preswylwyr barhau'n ystyriaeth ganolog yn ystod pob cam o'r broses gyweirio. Er mai canlyniad y gwaith yw gwneud i breswylwyr deimlo'n fwy diogel, dylid cynllunio a chynnal y gwaith gan achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl i breswylwyr. Dylai'r holl breswylwyr gael gwybodaeth briodol a dylid ymgysylltu â nhw mewn ffordd ystyrlon; dylid eu hysbysu am yr effeithiau tebygol ar eu bywydau a dylent ddeall sut y caiff yr effeithiau hyn eu nodi, eu hasesu a'u rheoli. Dylai preswylwyr wybod beth i'w ddisgwyl gan y rhai hynny sy'n gyfrifol am gyflawni'r prosiect a ble i fynd os bydd ganddynt gwestiynau neu os bydd materion yn codi y mae angen eu datrys. 

Cafodd safbwyntiau preswylwyr ar gyweirio eu hystyried a'u dadansoddi drwy'r Papur Gwyn ar Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru a'r gwaith ymchwil annibynnol hwn. Mae canfyddiadau'r ddau bapur hyn wedi cael eu hystyried wrth ddatblygu'r canllawiau hyn. 

Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am brosiect cyweirio neu am gynnal unrhyw ran o brosiect cyweirio ystyried y cyfrifoldebau sydd wedi'u nodi yn y canllawiau hyn. Maent hefyd yn nodi beth y gall preswylwyr ei ddisgwyl yn rhesymol yn ystod gwaith cyweirio. 

Crynodeb o'r gofynion

Dylai prosiectau sicrhau'r canlynol: 

1.1 - Bod rolau a chyfrifoldebau wedi'u diffinio a'u cofnodi'n glir, gan gynnwys mewn perthynas â'r canllawiau, ar gyfer pob person a sefydliad perthnasol. 

2.1 - Bod preswylwyr yn cael gohebiaeth reolaidd a chyfredol am y prosiect, a bod trefniadau ymgysylltu ystyrlon ar waith drwy gydol y broses. Dylai'r rhai hynny sy'n goruchwylio'r gwaith cyweirio nodi'n glir sut a phryd y gall preswylwyr ddisgwyl gweld y trefniadau ymgysylltu hynny ar waith. 

2.2 - Bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i nodi a deall anghenion preswylwyr. 

2.3 - Bod preswylwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau lle y bo'n briodol ac yn bosibl iddynt wneud hynny. 

2.4 - Bod preswylwyr yn cael cyfle i gyfarfod â'r rhai hynny â rôl arwyddocaol yn y prosiect cyn iddo ddechrau. 

2.5 - Bod y dulliau cyfathrebu yn briodol a'u bod yn ystyried anghenion preswylwyr fel y'u nodwyd. 

2.6 - Ei bod hi'n glir i breswylwyr sut y gallant ofyn cwestiynau, codi materion a gwneud cwynion mewn perthynas â'r prosiect. 

3.1 - Bod preswylwyr yn cael eu cynnwys yn briodol fel rhan o'r gwaith o ddylunio a chyflwyno'r prosiect, gan gynnwys pan gaiff newidiadau eu gwneud yn ystod y gwaith. Dylai pob prosiect sicrhau y caiff camau priodol a rhesymol eu cymryd i nodi, asesu a rheoli effeithiau'r prosiect ar breswylwyr. 

3.2 - Bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i leihau effaith gweithgareddau sy'n arbennig o swnllyd. 

3.3 - Bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i osgoi achosion lle caiff golau naturiol a/neu ddulliau awyru eu lleihau lle bynnag y bo'n bosibl. Lle nad oes modd osgoi achosion o'r fath, dylid sicrhau eu bod am gyfnod mor fyr â phosibl. 

3.4 - Bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i leihau effaith unrhyw waith lle mae angen mynediad i gartrefi preswylwyr a chyfleusterau ac amwynderau cyffredin yn yr adeilad. 

3.5 - Bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch yr adeilad a'r preswylwyr. 

3.6 - Bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i leihau achosion o darfu ar fywydau unrhyw breswylwyr y mae'n ofynnol iddynt adael unrhyw ran o'r adeilad am gyfnod dros dro yn ystod gwaith cyweirio. 

4.1 - Bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i ddangos bod y canllawiau wedi'u dilyn, er mwyn i breswylwyr ac eraill allu dal contractwyr a phartïon eraill i gyfrif. 

Rhan 1: Cwmpas / Rolau a Chyfrifoldebau

Mae'r canllawiau yn cyfeirio at waith cyweirio ar adeiladau preswyl â phroblemau o ran diogelwch tân. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr effaith sylweddol y gall y gwaith hwn ei chael ar gartrefi a bywydau preswylwyr. 

Dylai prosiectau gydymffurfio â'r canllawiau o'r adeg y caiff gwaith tirfesur ei ddechrau, hyd at yr adeg y caiff y gwaith cyweirio ei gwblhau, pan gaiff y gwaith ei gymeradwyo gan berson awdurdodedig.

Yn unol â gofyniad 1.1, dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect ddiffinio'n glir pa bersonau a sefydliadau perthnasol sy'n gyfrifol am ddilyn y canllawiau hyn. 

Gofyniad 1.1: Dylai fod gan y rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect rolau a chyfrifoldebau wedi'u diffinio a'u cofnodi'n glir, gan gynnwys mewn perthynas â'r canllawiau, ar gyfer pob person a sefydliad perthnasol. 

Rhesymeg: Mae partïon o fewn cwmpas y canllawiau os ydynt yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am ddiogelwch, rheolaeth, trefniadau asesu, dylunio neu adeiladu mewn perthynas ag adeilad preswyl a/neu os oes ganddynt ddyletswydd mewn perthynas â'r prosiect a'r gwaith cyweirio. Mae hyn yn cynnwys drwy ddirprwyo dyletswyddau neu is-gontractio, y dylid gwneud hynny i berson priodol a chymwysedig gan gofnodi'r trefniadau hynny. 

Mae rheoli adeiladau preswyl a phrosiectau cyweirio yn dasg gymhleth. Dylid sicrhau bod y rolau a'r cyfrifoldebau cysylltiedig wedi'u nodi a'u deall yn glir er mwyn gwella cyfathrebu, effeithlonrwydd, atebolrwydd a dulliau gweithredu. 

Canllawiau: Argymhellir wrth ddiffinio rolau a chyfrifoldebau clir, y dylid ystyried cynnwys yr unigolion a'r sefydliadau canlynol, lle y bo'n berthnasol: 

  • perchenogion yr adeilad (h.y. landlord cymdeithasol, rhydd-ddeiliad a/neu ei asiant)
  • datblygwyr
  • asiantiaid rheoli ac asiantiaid eiddo a rheolwyr a dylunwyr prosiectau
  • preswylwyr â chyfrifoldebau rheoli, er enghraifft, Cwmnïau Rheoli Preswylwyr, Hawl i Reoli ac ati
  • preswylwyr, gan gynnwys lesddeiliaid preswyl a landlordiaid (hynny yw, y rhai hynny sy'n gosod un annedd neu fwy yn yr adeilad i denantiaid a chan gynnwys darparwyr tai cymdeithasol)
  • pobl sy'n gweithio ar y safle, darparwyr gwasanaethau a'r rhai hynny sy'n gyfrifol am unrhyw ran o'r prosiect a'r gwaith o'i ddylunio (o'r dechrau o'r diwedd yn deg), gan gynnwys contractwyr ac is-gontractwyr 

Dylid nodi, pan fo'r ddogfen hon yn cyfeirio at ‘breswylwyr’ y dylid ystyried yn gyffredinol bod hynny'n cynnwys yr holl denantiaid a lesddeiliaid (gan gynnwys lesddeiliaid meddiannol ac anfeddiannol). 

Rhan 2: Ymgymryd â gwaith cyweirio / Cyfathrebu â phreswylwyr

Mae'r rhan hon yn nodi'r egwyddorion y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddynt lywio gwaith cyweirio. Maent oll yn seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol mai profiadau preswylwyr ddylai lywio pob penderfyniad a wneir fel rhan o brosiect cyweirio. 

Gofyniad 2.1: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod preswylwyr yn cael gohebiaeth reolaidd a chyfredol am y prosiect, a bod trefniadau ymgysylltu ystyrlon ar waith drwy gydol y broses. Dylai'r rhai hynny sy'n goruchwylio'r gwaith cyweirio nodi'n glir sut a phryd y gall preswylwyr ddisgwyl gweld y trefniadau ymgysylltu hynny ar waith. 

Rhesymeg: Mae'n bwysig ei bod hi'n glir beth y gall preswylwyr ei ddisgwyl yn ystod y broses gyweirio a sut y gallant gael eu cynnwys ac y byddant yn cael eu cynnwys yn y prosiect. Bydd hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ac osgoi cymhlethdodau yn ystod oes y prosiect. Lle gall preswylwyr gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau, mae'n gwella eu profiad o brosiectau cyweirio. 

Canllawiau: Argymhellir, wrth bennu dulliau cyfathrebu, cyfleu gwybodaeth ac ymgysylltu, y dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • nodi pwy sy'n gyfrifol am gyfathrebu drwy gydol y prosiect, gan sicrhau bod y manylion yn berthnasol ac yn gyfredol
  • gwahanol anghenion cynulleidfaoedd a'r mathau o wybodaeth y mae angen iddynt gael gwybod yn briodol amdani – er enghraifft, pan fo anghenion a gofynion mynediad i wybodaeth lesddeiliaid preswyl neu denantiaid preifat neu sector cymdeithasol yn wahanol i landlordiaid
  • nodi pwynt cyswllt ar gyfer preswylwyr, er mwyn rhoi eglurder a chysondeb
  • adolygu cynlluniau ymgysylltu yn rheolaidd, gan gynnwys ar ôl unrhyw ddigwyddiad sylweddol a phan fydd ymholiadau, materion a chwynion wedi'u codi sy'n effeithio ar unrhyw gynlluniau neu y byddai'n ddefnyddiol ymdrin â nhw mewn ffordd ragweithiol
  • caiff gwybodaeth bersonol preswylwyr ei thrin mewn ffordd sensitif ac ni chaiff ei rhannu heb ganiatâd priodol. 

Ar gyfer pob gweithgaredd sy'n ymwneud â chyfathrebu, gwybodaeth ac ymgysylltu, dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • uchder yr adeilad, y math o ddeiliadaeth ac unrhyw sefydliad sy'n gysylltiedig â chynrychioli preswylwyr
  • ystyried anghenion preswylwyr drwy sicrhau y caiff rhwystrau eu dymchwel er mwyn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yn hygyrch i'r rhai hynny y mae angen addasiadau arnynt er mwyn gallu cael gafael ar y wybodaeth
  • tynnu sylw at bwyntiau allweddol ac osgoi jargon gan gynnig esboniadau syml o unrhyw bwyntiau technegol
  • defnyddio crynodebau gan nodi bod rhagor o wybodaeth ar gael os bydd ei hangen
  • gweithredu mewn ffordd gyson rhwng preswylwyr, ni waeth pa fath o ddeiliadaeth sydd dan sylw
  • defnyddio ffurflenni a fforymau ffisegol a digidol priodol 

Gofyniad 2.2: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i nodi a deall anghenion preswylwyr. 

Rhesymeg: Mae gwaith cyweirio yn effeithio ar bobl yn wahanol gan ddibynnu ar eu hanghenion a'u hamgylchiadau. Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect gymryd camau i ddeall anghenion y preswylwyr yn yr adeilad er mwyn iddynt allu gweithio gyda phreswylwyr i ystyried camau lliniaru priodol. Mae'n bosibl na fyddant bob amser yn hysbys cyn i'r prosiect ddechrau, felly dylent gael eu llywio gan waith ymgysylltu uniongyrchol â'r preswylwyr cyn y gwaith ac yn ystod y gwaith.

Canllawiau: Wrth nodi a deall anghenion preswylwyr, dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 2.1
  • annog preswylwyr i roi gwybod i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am unrhyw amgylchiadau unigol a allai fod yn berthnasol wrth ystyried effaith y gwaith hwnnw
  • trefniadau ymgysylltu cynnar ac uniongyrchol â phreswylwyr er mwyn helpu i feithrin cydberthnasau a deall yr unigolion hynny sy'n byw yn yr adeilad 

Gofyniad 2.3: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod preswylwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau lle y bo'n briodol ac yn bosibl iddynt wneud hynny. 

Rhesymeg: Mae'n bwysig rhoi'r cyfle i breswylwyr chwarae rhan ystyrlon drwy gydol prosiect. Hyd yn oed lle na fydd yn bosibl iddynt gymryd rhan uniongyrchol yn y broses o wneud penderfyniadau, dylid ymgysylltu â'r preswylwyr mewn ffordd sy'n sicrhau bod penderfyniadau yn amlwg yn parchu eu hanghenion. 

Canllawiau: Wrth ddylunio trefniadau ymgysylltu a'u rhoi ar waith, dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 2.1 ac unrhyw anghenion pellach a nodwyd drwy ofyniad 2.2
  • sut yr ymgysylltir â'r preswylwyr mewn ffordd ystyrlon drwy'r prosiect cyfan
  • sut i hyrwyddo cyfranogiad ac ymgysylltiad, ac a all cymdeithasau preswylwyr neu sefydliadau eraill i breswylwyr gefnogi'r broses hon
  • a fydd angen darparu deunydd i breswylwyr ymlaen llaw, neu eu helpu i ddeall effeithiau posibl penderfyniadau
  • sut i gyfleu'r sail dros unrhyw benderfyniadau na fydd preswylwyr yn rhan ohonynt
  • unrhyw ofynion cyfreithiol

Gofyniad 2.4: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod preswylwyr yn cael cyfle i gyfarfod â'r rhai hynny â rôl arwyddocaol yn y prosiect cyn i'r gwaith ddechrau. 

Rhesymeg: Yn ogystal â chynnig lle i ofyn cwestiynau, datgan dewisiadau a chodi materion, mae cynnig y cyfle i gyfarfod â'r bobl a fydd yn gweithio ar gartrefi'r preswylwyr hefyd yn annog gwell cyfathrebu ac amgylchedd gweladwy a chyfeillgar. 

Canllawiau: Wrth drefnu a chynnal cyfarfod, dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 2.1
  • sut i hyrwyddo cyfranogiad ac i sicrhau bod y cyfarfod yn hygyrch ac wedi'i drefnu ymhell ymlaen llaw
  • recordio'r cyfarfod, gwneud nodiadau a sut y caiff y nodiadau hyn eu dosbarthu
  • sut i sicrhau bod y cyfarfod yn effeithiol ac a fyddai darparu deunydd paratoadol o fudd i'r rhai hynny sy'n mynychu, gan gynnwys preswylwyr, er mwyn rhoi ffocws i drafodaethau a helpu i annog cwestiynau perthnasol 

Gofyniad 2.5: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod y dulliau cyfathrebu yn briodol a'u bod yn ystyried anghenion preswylwyr fel y'u nodwyd. 

Rhesymeg: Mae'n bwysig cynnal cyfathrebu effeithiol â'r preswylwyr drwy gydol y prosiect cyweirio. Mae cyfathrebu yn cael effaith fawr ar breswylwyr, gyda'r gallu i liniaru effeithiau drwy well dealltwriaeth, gan roi amser iddynt baratoi a chodi cwestiynau, ymholiadau a materion. Gall cyfathrebu effeithiol wella'r ffordd y caiff y prosiect ei ddylunio a'i gyflawni, yn ogystal â phrofiad preswylwyr. 

Canllawiau: Er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ac yn briodol, dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 2.1
  • rhoi sianeli cyfathrebu y cytunwyd arnynt ar waith cyn gynted â phosibl, gan adolygu unrhyw sianeli a sefydlwyd ymlaen llaw a chynnig a defnyddio sianeli lluosog lle y bo'n briodol
  • cytuno ar ddulliau cyfathrebu yn ystod y gwaith ymgysylltu cychwynnol â'r preswylwyr, er mwyn sicrhau bod preswylwyr a grwpiau cynrychioliadol wedi cael y cyfle i nodi sut mae gwybodaeth yn fwyaf tebygol o'u cyrraedd 

Gofyniad 2.6: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau ei bod hi'n glir i breswylwyr sut y gallant ofyn cwestiynau, codi materion a gwneud cwynion mewn perthynas â'r prosiect. 

Rhesymeg: Mae'n anochel y bydd angen i breswylwyr gyfathrebu â'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect drwy gydol oes y prosiect. Mae'n bwysig bod llwybrau clir i breswylwyr eu defnyddio i gysylltu â'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect er mwyn iddynt allu gofyn cwestiynau neu hysbysu'r rhai hynny sy'n arwain y prosiect am unrhyw faterion neu effeithion andwyol nas rhagwelwyd. 

Canllawiau: Wrth ddarparu llwybrau effeithiol i breswylwyr ofyn cwestiynau, codi materion a gwneud cwynion, dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • gofynion perthnasol eraill y canllawiau, gan gynnwys sut y gellir defnyddio gofyniad 1.1 i gyflwyno gwybodaeth am bwynt cyswllt, a'r disgwyliadau a nodir yng ngofyniad 2.1
  • creu neu ddiweddaru polisi clir a hygyrch ar gwestiynau, materion a chwynion mewn perthynas â'r prosiect
  • rhoi gweithdrefnau ar waith ar gyfer ymdrin â chwestiynau, materion a chwynion, gan gynnwys terfynau amser ar gyfer ymateb
  • sut i sicrhau bod gohebiaeth gan breswylwyr yn cyrraedd y rhai hynny sy'n gallu ymateb iddi yn effeithiol ac yn effeithlon
  • sut i sicrhau bod preswylwyr yn gwybod â pha gyrff a sefydliadau y gallant gysylltu mewn perthynas â'r prosiect 

Rhan 3: Byw gyda gwaith cyweirio

Gall gwaith cyweirio gael effaith sylweddol ar fywydau'r rhai hynny sy'n byw yn yr adeilad pan fydd y gwaith yn mynd rhagddo. Dylid gwneud pob ymdrech i leihau'r effeithiau hyn lle y bo'n rhesymol ac yn gymesur gwneud hynny. 

Gofyniad 3.1: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cynnwys yn briodol fel rhan o'r gwaith o ddylunio a chyflwyno'r prosiect, gan gynnwys pan gaiff newidiadau eu gwneud wrth iddo fynd rhagddo. Dylai pob prosiect sicrhau y caiff camau priodol a rhesymol eu cymryd i nodi, asesu a rheoli effeithiau'r prosiect ar breswylwyr.

Rhesymeg: Mae'r arbenigedd technegol sydd ei angen ar gyfer prosiectau o'r fath yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cymwys perthnasol wneud y penderfyniad terfynol ar weithgareddau – gweithiwr proffesiynol cymwysedig sy'n meddu ar yr arbenigedd perthnasol. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff gofynion iechyd a diogelwch a gofynion technegol eraill eu cyflawni. Nid yw hyn yn golygu na ellir ymgysylltu'n effeithiol â phreswylwyr a'u hystyried wrth drafod gweithgareddau er mwyn lleihau eu heffeithiau. Lle caiff preswylwyr eu hystyried o'r cychwyn cyntaf, gall hyn helpu i leihau effeithiau gweithgareddau arnynt yn sylweddol. 

Canllawiau: Argymhellir ar gyfer unrhyw weithgaredd sy'n effeithio ar breswylwyr, y dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol, a chymryd camau priodol: 

  • hysbysu preswylwyr am effaith debygol y gwaith cyn iddo ddechrau, yn ogystal â'r camau a gymerwyd i'w lleihau, ac unrhyw beth pellach y gallai'r preswylwyr ei wneud
  • ymgysylltu â phreswylwyr am unrhyw ddymuniadau neu ddewisiadau o ran camau lliniaru
  • pennu camau a dylunio'r gweithgaredd yng nghyd-destun y defnydd presennol ohono, gan gynnwys cyfyngu gwaith aflonyddgar a chamau lliniaru ymwthiol i'r cyfnod byrraf posibl a'r cwmpas ffisegol lleiaf
  • adolygu effaith gweithgareddau yn gyson
  • ystyried unrhyw adborth gan breswylwyr a phartïon eraill
  • unrhyw anghenion penodol sydd gan breswylwyr sy'n agored i niwed, preswylwyr anabl a/neu breswylwyr â chyflwr a allai waethygu effaith gweithgaredd
  • sicrhau bod gweithwyr wedi'u hyfforddi'n briodol, gan gynnwys o ran sut mae gweithgareddau yn effeithio ar breswylwyr, a phwysigrwydd ymddygiad sensitif ac ystyriol wrth weithio ar gartrefi pobl neu'n agos atynt 

Gofyniad 3.2: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i leihau effaith gweithgareddau sy'n arbennig o swnllyd. 

Rhesymeg: Mae sŵn yn elfen na ellir ei hosgoi o waith adeiladu, ac mae'n annhebygol y bydd modd lliniaru effaith sŵn ar breswylwyr yn llwyr. Er bod gofynion sy'n bodoli eisoes yn ymdrin yn uniongyrchol â lefelau sŵn, er enghraifft, gofynion cynllunio a thrwyddedu, yng nghyd-destun rhaglenni cyweirio, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gontractwyr gymryd gofal arbennig, gan adlewyrchu'r ffaith bod y gwaith yn cael ei gynnal ar gartrefi sydd wedi'u meddiannu, a'i fod yn cael ei gynnal i ymdrin â diffygion sy'n cael effaith ddinistriol ar lesiant preswylwyr a llesddeiliaid. 

Canllawiau: Wrth sicrhau y caiff gweithgareddau sy'n arbennig o swnllyd eu lliniaru'n briodol, argymhellir y dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 3.1
  • a ellir eu cyflawni'n llwyr neu'n rhannol oddi ar y safle
  • mesur lefelau sŵn a chael adborth gan breswylwyr
  • cyflwyno oriau gweithredu cyfyngedig ac egwyliau wedi'u trefnu (gan gydgysylltu â phreswylwyr)
  • a ellir darparu mannau i breswylwyr eu defnyddio nad ydynt wrth ymyl gweithgareddau mwy swnllyd, neu a ellir cynnal gwaith o'r fath mewn ffordd sy'n lliniaru effaith y sŵn 

Gofyniad 3.3: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i osgoi achosion lle caiff golau naturiol a/neu dulliau awyru eu lleihau lle bynnag y bo'n bosibl. Lle nad oes modd osgoi achosion o'r fath, dylid sicrhau eu bod am gyfnod mor fyr â phosibl.

Rhesymeg: Oherwydd natur gwaith cyweirio, mae'n hynod debygol y bydd angen mynediad i waliau allanol yr adeilad. Gall mynediad (sgaffald, dringwyr mastiau, llwyfannau gwaith uchel symudol, crudiau ac ati) a gorchuddion gael effaith sylweddol iawn ar fywydau preswylwyr ac felly mae angen rhoi sylw penodol i'r mater. 

Er bod yr angen i ganiatáu mynediad i'r waliau allanol, a'r opsiynau cysylltiedig, fel arfer yn symlach i'w hesbonio, mae penderfyniadau ynghylch yr angen am unrhyw orchuddion, natur y gorchuddion hynny a'u hyd yn fwy cymhleth. Gall gofynion iechyd a diogelwch ei gwneud hi'n ofynnol i adeilad gael ei orchuddio am resymau sy'n cynnwys rheoli llwch (yn sgil tynnu deunyddiau a deunydd inswleiddio) ac amlygiad i amodau tywydd. Wrth benderfynu sut ac am ba hyd y dylid gorchuddio'r adeilad cyfan neu rannau ohono, dylid ystyried yr effaith ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol preswylwyr yn ofalus a'i dogfennu. 

Canllawiau: Er mwyn bodloni'r gofyniad hwn, dylai'r rhai hynny sy'n cynnal y waith cyweirio ystyried sut y gallant gydbwyso'r angen i sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau gofynnol fel safonau iechyd a diogelwch ac yn lliniaru'r effaith ar breswylwyr â'r effeithiau ar gostau a hyd y prosiect. Dylid cynnwys preswylwyr mewn trafodaethau am y blaenoriaethau hyn sy'n cystadlu â'i gilydd, a dylid rhoi pwyslais ar eu safbwyntiau wrth wneud penderfyniadau. Wrth sicrhau bod prosiectau yn rhoi cymaint o olau naturiol a dulliau awyru â phosibl i breswylwyr, argymhellir y dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol:

  • yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 3.1, yn enwedig lleihau'r amser a'r cwmpas gofynnol
  • pan na fydd angen mynediad a gorchudd mwyach fel rhan o'r gwaith (gwaith fesul cam), er enghraifft wrth weithio o ran uchaf adeilad tuag i lawr pan fydd lloriau penodol wedi'u cwblhau, lle bo gwaith llychlyd wedi'i gwblhau neu pan fydd gwaith wedi'i atal am gyfnod, dylid ystyried cael gwared ar y dull mynediad a'r gorchudd (neu osod dulliau/gorchudd amgen gwahanol sy'n cael llai o effaith)
  • dim ond lle na fydd unrhyw ddewis amgen addas arall (gan gynnwys rhwydi, rhwyll a gorchuddion tryloyw) y dylid defnyddio gorchuddion didraidd a solet
  • pob opsiwn o ran mynediad, fel dringwyr mastiau, crudiau a llwyfannau gwaith uchel symudol (gan anelu at leihau'r defnydd o sgaffald draddodiadol)
  • lle caiff sgaffald ei defnyddio, sut i'w dylunio mewn ffordd sy'n lleihau ei heffaith, er enghraifft drwy ddefnyddio estyll metel trydwll a chaniatáu i ffenestri gael eu hagor
  • lleihau'r effaith ar yr ardal a'r cyfleusterau cyfagos
  • sicrhau bod cynlluniau cyweirio yn caniatáu mynediad priodol i wasanaethau tân ac achub fynd i mewn i adeiladau preswyl ac achub pobl os bydd angen 

Gofyniad 3.4: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i leihau effaith unrhyw waith lle mae angen mynediad i gartrefi preswylwyr a chyfleusterau ac amwynderau cyffredin yn yr adeilad.

Rhesymeg: Yn ystod y prosiect, mae'n debygol y bydd angen cael mynediad i gartrefi preswylwyr fel rhan o'r gwaith ac y bydd effaith ar eu cartrefi ac ar y cyfleusterau y gallant eu defnyddio, fel parcio, mannau cyffredin ac ati. Mae'n bwysig pan fo angen gwneud hynny, y caiff yr effaith ei lleihau, ac y rhoddir ystyriaeth i fod yng nghartref rhywun neu fan y mae'n ei ddefnyddio. 

Canllawiau: Wrth sicrhau bod gwaith a wneir mewn cartrefi preswylwyr yn dangos parch ac y caiff mynediad i gyfleusterau cyffredin ei gynnal cymaint â phosibl, argymhellir y dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 3.1
  • sicrhau bod dewisiadau amgen ar gael yn lle'r amwynderau a'r mannau yr effeithir arnynt, gan gynnwys mannau parcio, ardaloedd cymunedol a llwybrau mynediad
  • lle bo angen mynediad, rhoi cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw. Lle y bo'n bosibl, dylid rhoi rhybudd ysgrifenedig i breswylwyr (ar ffurf sy'n ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen i hwyluso hygyrchedd) yn gofyn am fynediad i'w cartrefi, gan gynnwys y rhesymau dros yr ymweliad ac amserlenni arolygu clir
  • Ni ddylid gorfodi mynediad na chael mynediad heb ganiatâd gan y preswylydd
  • Presenoldeb gwasanaethau cymorth neu gynrychiolwyr eraill i breswylwyr agored i niwed yn ystod arolygon / gwaith cyweirio ymwthiol
  • lle y bo'n bosibl, dylid cynnal yr arolygiad gan rywun y mae'r preswylydd yn ei adnabod, neu dylid sicrhau o leiaf fod gan yr unigolyn fanylion adnabod clir a bod ffordd i'r preswylydd gadarnhau dilysrwydd ac arbenigedd y person sydd am gael mynediad i'w gartref
  • lle y bo'n bosibl, gallu darparu arolygwyr o ryweddau gwahanol, neu gyfleu rhywedd yr arolygydd ymlaen llaw, a bod yn ymwybodol o ystyriaethau diwylliannol perthnasol
  • effaith mynediad i du allan cartrefi preswylwyr a'r rhyngweithio rhwng gweithwyr a phreswylwyr yn eu cartrefi
  • sut i sicrhau na fydd mynediad i ardaloedd cymunedol neu ardaloedd awyr agored, gan gynnwys balconïau, yn cael ei wrthod i breswylwyr am gyfnod hwy na'r cyfnod sy'n gwbl angenrheidiol
  • lleihau'r tebygolrwydd y bydd achosion o dresmasu
  • hyfforddiant penodol i unrhyw weithwyr y mae angen iddynt gael mynediad i gartrefi preswylwyr, gyda pholisïau clir sy'n cyfeirio at weithgareddau a allai fod yn ymwthiol (fel yr angen i dynnu ffotograffau)
  • sut y gall preswylwyr godi unrhyw bryderon o ran ymddygiad y rhai hynny sy'n gweithio ar y safle, gan gynnwys sut y gellir gwneud cwyn a sut y cânt eu datrys 

Gofyniad 3.5: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch yr adeilad a'r preswylwyr. 

Rhesymeg: Diogelwch preswylwyr, gweithwyr a'r cyhoedd yw'r ffactor pwysicaf mewn unrhyw brosiect. Gan y byddant i bob pwrpas yn byw ar safle adeiladu, bydd preswylwyr yn dod i gysylltiad â gwaith a gweithgareddau na fyddai aelodau o'r cyhoedd yn dod ar eu traws fel arfer ac felly mae angen ystyried sut y byddant yn rhyngweithio â'r gwaith ymhellach a darparu gwybodaeth bellach. 

Canllawiau: Wrth gynllunio a chynnal gwaith cyweirio, dylai'r unigolion sy'n gyfrifol am brosiectau sicrhau'r canlynol: 

  • bod y gwaith bob amser yn cael ei ddylunio a'i gyflawni'n briodol i fodloni gofynion iechyd a diogelwch
  • nad oes unrhyw beth yn rhwystro'r allanfeydd tân, neu os byddant wedi'u rhwystro dros dro, y caiff camau lliniaru eu cymryd a'u cyfleu i'r preswylwyr
  • y caiff asesiadau risg tân eu cadw'n gyfredol a'u bod yn nodi'r camau lliniaru priodol, yn enwedig ar gyfer y strategaeth tân, drwy gydol y gwaith cyweirio ac ar ôl ei gwblhau 

Wrth sicrhau diogelwch yr adeilad a'r preswylwyr, argymhellir y dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 3.1
  • hysbysu'r preswylwyr sut y gallant aros yn ddiogel ar y safle ac yn eu cartrefi
  • sicrhau pan fydd materion iechyd a diogelwch a materion diogeledd yn codi, y cânt eu datrys yn gyflym, y rhoddir gwybod amdanynt ac y cânt eu cofnodi
  • sicrhau bod gweithwyr ar y safle yn cynnal gwiriadau rheolaidd i nodi peryglon (gan gynnwys drysau tân agored), clirio sbwriel a chadw'r safle yn daclus
  • cydgysylltu â'r awdurdodau perthnasol mewn perthynas â diogelwch
  • rhoi trefniadau diogelwch ychwanegol perthnasol ar waith. Gallai'r rhain gynnwys camerâu diogelwch sy'n cael eu monitro, pwyntiau mynediad â larwm, patrolau ac ymatebion diogelwch, gofynion clir a gweladwy o ran manylion adnabod ac offer amddiffyn personol (PPE), ac arwyddion ar bwyntiau diogelwch. Lle bo'r rhain ar waith, dylid dynodi terfynau amser ar gyfer ymatebion diogelwch, a dylid dogfennu digwyddiadau a rhoi gwybod yn briodol i breswylwyr amdanynt. Dylai preswylwyr ddeall sut i roi gwybod bod angen i'r tîm diogelwch fynychu os bydd angen. 

Gofyniad 3.6: Rhaid i'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i leihau achosion o darfu ar fywydau unrhyw breswylwyr y mae'n ofynnol iddynt adael eu cartrefi am gyfnod dros dro yn ystod gwaith cyweirio.

Rhesymeg: O ystyried natur gwaith cyweirio, mewn achosion prin, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i breswylwyr adael eu cartrefi tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Yn aml cyfeirir at y preswylwyr hyn fel preswylwyr a gaiff eu hadleoli ('decants' yn Saesneg). Dim ond mewn achosion eithriadol o brin y bydd angen gwneud hyn, a dim ond os na fydd unrhyw ateb arall. Mae hyn yn debygol o darfu'n sylweddol ar fywydau preswylwyr. Dylid cadw'r cyfnodau y bydd yn ofynnol i breswylwyr adael fflatiau unigol i'r cyfnodau lleiaf posibl. 

Canllawiau: Lle bydd angen i breswylwyr adael eu cartref am unrhyw ran o'r gwaith cyweirio, argymhellir y dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried yr holl gamau a argymhellwyd yng ngofyniad 3.1 a chymryd camau i hysbysu preswylwyr yn rheolaidd am y broses.

Rhan 4: Ystyried y canllawiau

Gofyniad 4.1: Dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol am y prosiect sicrhau eu bod yn gallu dangos eu bod wedi ystyried y canllawiau hyn yn llawn drwy gydol oes y prosiect. 

Rhesymeg: Mae'n bwysig bod pawb sy'n gysylltiedig â phrosiect cyweirio yn ymwybodol o ofynion y canllawiau hyn. Dylai'r rhai hynny â chyfrifoldeb cyffredinol dros y prosiect sicrhau eu hunain bod y canllawiau wedi cael eu dilyn ac y gellir gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth i ddangos sut y maent wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy iddynt. 

Canllawiau: Argymhellir y dylai'r rhai hynny sy'n gyfrifol ystyried y canlynol: 

  • rhoi trefniadau contractio a gweithio clir a chadarn ar waith er mwyn sicrhau bod y rhai hynny sy'n gweithio ar y prosiect (neu sy'n gyfrifol am ran ohono) yn deall eu cyfrifoldeb i breswylwyr a lle bo materion yn codi, y gellir ymdrin â nhw'n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys ystyried y canllawiau wrth gaffael ar gyfer y prosiect
  • casglu adborth gan breswylwyr ar eu profiadau, gan ymdrin ag unrhyw faterion ac amlygu arferion da
  • cynnal adolygiadau rheolaidd, gan gynnwys ymweld â'r adeilad, a rhoi unrhyw welliannau ar waith
  • rhannu adborth a chanlyniadau adolygiadau â phreswylwyr
  • cofnodi'r camau a gymerwyd wrth ystyried y canllawiau ac unrhyw faterion, gan gynnwys sut y cafodd preswylwyr eu hystyried wrth ddylunio a chynnal y prosiect a'r camau lliniaru a'r camau gweithredu a gymerwyd.