Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Hoffwn roi gwybod i'r Aelodau, yn unol â'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, fy mod wedi cytuno i ddileu'n ffurfiol arian a ddyfarnwyd i Credu Charity Ltd (a enwyd gynt fel Porthcawl Harbourside CIC) yn 2016 a 2017 gwerth £1,641,682 (£929,380 ERDF a £712,302 o arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru) tuag at ddatblygu ac adeiladu Canolfan Forwrol newydd ym Mhorthcawl.
Roedd y Ganolfan Forwrol yn un o 13 prosiect o fewn rhaglen Cyrchfannau Atyniadau Twristiaeth (TAD) Llywodraeth Cymru, rhaglen a ariannwyd gan yr UE, a gymeradwywyd gan WEFO yn 2016 ac a reolwyd gan dim Croeso Cymru/Datblygu Twristiaeth o dan Raglen ERDF 2014-2020.
Dyfarnwyd cyllid i Credu Charity Ltd ar gyfer costau cyfalaf a refeniw tuag at Ganolfan Forwrol i ddarparu Canolfan Gwyddoniaeth a Darganfod Arfordirol, gweithgareddau preswyl a masnachol, caffi/bistro dysgu a bwyty a chyfleusterau ar gyfer grwpiau cymunedol lleol.
Ym mis Ebrill 2020, hysbysodd cynrychiolwyr o Credu Charity Ltd Lywodraeth Cymru (Croeso Cymru) fod disgwyl i’r prosiect orwario oherwydd oedi i'r prosiect. Yn dilyn adolygiad o hyfywedd ariannol y prosiect, hysbysodd Llywodraeth Cymru Credu Charity Ltd y byddai'n tynnu'n ôl gweddill cyllid ERDF ar gyfer y prosiect ac yn ceisio ad-ennill yr holl arian ERDF a dalwyd yn flaenorol.
Cafodd gweddill yr arian ERDF ei ailddyrannu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer adeilad llai ar y safle a ddynodwyd yn wreiddiol ar gyfer y Ganolfan Forwrol. Cwblhawyd y prosiect hwn yn llwyddiannus ac mae bellach yn darparu lle i fusnesau manwerthu a busnesau newydd lleol yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.
Cafodd Credu Charity Ltd ei ddatodi ym mis Tachwedd 2020 ac nid yw’n debygol bod unrhyw arian ar gael i ad-dalu credydwyr. O ganlyniad, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru gofnodi gwerth llawn y cyllid fel colled 'Hawliadau wedi'u hepgor a'u gadael'.
Yn dilyn gan archwiliad gan Archwilio Cymru i'r prosesau rheoli grantiau ar gyfer y prosiect hwn a gafodd ei gyhoeddi heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu nifer o fesurau i gryfhau prosesau grant drwy gydol cylch bywyd prosiectau i liniaru risgiau ymhellach a diogelu'r pwrs cyhoeddus.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru hefyd adolygiad mewnol o'r rhaglen TAD a gadarnhaodd, er bod hwn yn ddigwyddiad ynysig o fewn y rhaglen, bod gwersi ehangach y gellid eu dysgu. Mae hyn hefyd wedi arwain at gyflwyno mesurau ychwanegol gan gynnwys gosod gwiriadau ar ragamodau cyllido cyn gwneud taliadau grant, prosesau monitro a diwydrwydd dyladwy ehangach gyda'r nod o nodi unrhyw risgiau posibl yn gynharach yng nghylch bywyd y prosiect a chryfhau rheolaethau gwariant.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi gwybod i'r Aelodau. Pe bai'r Aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
