Cynllun Bwrsariaeth Cadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg 2025: canllaw
Meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais am fwrsariaeth o £5000 ar gyfer athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg mewn ysgolion uwchradd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg ('Y Fwrsariaeth') yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a'i nod yn benodol yw cynyddu nifer yr athrawon uwchradd Cymraeg a chyfrwng Cymraeg drwy eu hannog i aros yn y proffesiwn.
Mae’n cynnig bwrsariaeth o £5,000 i gadw athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg ac athrawon sy’n addysgu Cymraeg fel pwnc yn y proffesiwn.
Mae’r Fwrsariaeth yn gynllun peilot bydd ar gael hyd ddiwedd 2028.
Meini prawf
Mae’r meini prawf cymhwystra yr un fath pa un a ydych yn gweithio'n llawnamser, yn rhan-amser neu wedi ymgymryd â chymysgedd o'r ddau batrwm gwaith. Mae’r meini prawf cymhwystra hefyd yr un fath lle bynnag yr ydych ar y raddfa gyflog athrawon a pha un a ydych yn cael lwfansau cyfrifoldebau ychwanegol ai peidio, er enghraifft Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu ar gyfer pennaeth grŵp blwyddyn.
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid cwrdd â’r meini prawf isod.
Rhaid i athrawon cymwys fod:
- wedi ennill statws athro cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen
- wedi cwblhau 3 blynedd o addysgu ers i chi ennill statws athro cymwysedig.
Rhaid i chi hefyd fod wedi cwblhau un o’r canlynol:
- cwblhau 3 blynedd o addysguCymraeg fel pwnc i ddysgwyr oed 11 i 19 mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol a gynhelir
- cwblhau 3 blynedd o addysgu unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg i ddysgwyr oed 11 i 19 mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir
Rhaid i chi fod yn gyflogedig yn eich pedwaredd blwyddyn o addysgu yn gwneud un o’r canlynol:
- Addysgu dysgwyr oed 11 i 19 mewn ysgol uwchradd neu ganol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru.
- Addysgu Cymraeg fel pwnc i ddysgwyr oed 11 i 19 mewn ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg.
Mae’n rhaid gwneud cais o fewn 2 flynedd o gyrraedd y 3 blynedd o wasanaeth disgwyledig.
Categorïau ysgolion cymwys
Rydych yn gymwys os ydych chi’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sydd yng nghategorïau 2 a 3.
Mae athrawon mewn ysgolion 3 i 19 oed (ysgolion canol) yn gymwys cyn belled â bod:
- Mwy na 50% o’u hamserlen addysgu ym mhob un o’r blynyddoedd perthnasol yn dilyn SAC wedi’i neilltuo i addysgu dysgwyr ym mlynyddoedd 7 hyd at 13.
- Yr ymgeisydd yn cwrdd â’r meini prawf.
Bydd angen i'r ymgeisydd a’r pennaeth presennol ddilysu hyn yn rhan o'r ffurflen hawlio.
Athrawon sydd yn derbyn cymhellion eraill
Bydd athrawon sydd eisoes wedi cael y cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn gymwys i hawlio'r Fwrsariaeth i gadw athrawon, cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf.
Cefndir hyfforddiant fel athro
Rydych yn medru ymgeisio os ydych yn bodloni’r meini prawf ac eich bod:
- wedi hyfforddi y tu allan i Gymru a bod Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cydnabod eich statws athro cymwysedig
- wedi hyfforddi drwy raglenni'r Brifysgol Agored neu
- heb hyfforddi yn benodol i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ond eich bod yn gwneud hynny ac wedi gwneud hynny am 3 blynedd
Athrawon sydd wedi bod i ffwrdd o’r ysgol
Rydych yn gymwys i ymgeisio os ydych wedi bod i ffwrdd o’r ysgol oherwydd:
- salwch
- absenoldeb rhiant
- gweithdrefnau disgyblu
Mae’n rhaid eich bod wedi eich cyflogi am 3 blynedd ar ôl derbyn SAC a nad oes toriad contractiol mewn gwasanaeth wedi bod yn yr amser hynny ac eich bod yn bodloni’r meini prawf.
Athrawon sydd ddim yn gymwys am y Fwrsariaeth
- Athrawon mewn ysgol annibynnol.
- Athrawon mewn coleg chweched Dosbarth.
- Athrawon mewn sefydliad Addysg Bellach.
Manylion y Fwrsariaeth
Bydd athrawon cymwys yn cael tâl o £5,000 yn ystod eu pedwaredd flwyddyn o addysgu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn talu am y dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn perthynas â’r Fwrsariaeth.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am y Fwrsariaeth o’r 1 i’r 30 Medi 2025 os ydych yn bodloni’r meini prawf.
Mae’n rhaid i athrawon fod wedi cyflawni 3 blynedd o wasanaeth ac yn eu pedwaredd blwyddyn o addysgu. Os nad ydynt wedi cyflawni 3 blynedd o addysgu, mae’n bosib gwneud cais eto.
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr wneud cais am y Fwrsariaeth a chynnwys y canlynol:
- Y dyddiad ennill statws athro cymwysedig
- Rhif cyfeirnod athro Cyngor y Gweithlu Addysg
- Cyflogwr presennol
- Rhestr o gyflogwyr blaenorol â'r dyddiadau perthnasol a’u swydd ar gyfer pob cyflogaeth
Mae'r ffurflen gais ar gael Y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg.
Dylid cyflwyno ffurflenni drwy e-bost i athrawoncc.wmteachers@llyw.cymru.
Bydd ceisiadau anghyflawn neu a gyflwynir yn hwyr yn cael eu gwrthod. Bydd ymgeiswyr yn gallu ailgyflwyno cais y flwyddyn ganlynol.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais o fewn 2 flynedd o fod wedi cyrraedd y 3 blynedd angenrheidiol o wasanaeth.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cadarnhad erbyn diwedd Tachwedd 2025, a bydd y Bwrsariaeth yn cael ei thalu erbyn diwedd mis Chwefror 2026.
Bydd derbyniadau e-bost yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod negeseuon e-bost yn cyrraedd yn ddiogel. Dylai copïau o hawliadau a negeseuon e-bost a anfonir at Lywodraeth Cymru gael eu cadw gan ymgeiswyr fel cofnod.
Dylid cadw cadarnhad o dderbyniadau e-bost a gafwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd. Os nad yw ymgeisydd wedi cael cadarnhad o dderbyn e-bost gan Lywodraeth Cymru o fewn 10 diwrnod, dylai gymryd yn ganiataol nad yw'r e-bost neu'r hawliad wedi cyrraedd.
Effaith Y Fwrsariaeth ar fudd-daliadau
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn un o adrannau Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi lles a phensiwn. Dylech ofyn am gyngor ganddynt hwy ar eich amgylchiadau unigol.
Y Fwrsariaeth a phensiynau
Nid yw’r Fwrsariaeth yn bensiynadwy.
Y Fwrsariaeth a Benthyciadau Myfyriwr
Pan fydd athro yn ad-dalu benthyciad myfyriwr, ac mae taliad y Fwrsariaeth yn mynd â nhw dros y trothwy misol ar gyfer eu cynllun ad-dalu, bydd y Fwrsariaeth yn cael ei leihau gan unrhyw swm ad-dalu ychwanegol tuag at y benthyciad myfyriwr. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar wefan gov.uk: Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr.
Telerau ac amodau
Ni fydd unrhyw Fwrsariaeth yn cael ei thalu i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru, drwy law Llywodraeth Cymru, ar y ffurflen gywir a chyflwyno'r dystiolaeth y gofynnwyd amdani.
Hawlio’r Fwrsariaeth yn ôl
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw Fwrsariaeth a dalwyd gael ei had-dalu'n gyfan gwbl neu'n rhannol os, er enghraifft, yw'r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol iawn yn ei gais am Y Fwrsariaeth, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw.
Diogelu data a Rhyddid gwybodaeth
Mae gwybodaeth y mae unigolyn yn ei chyflwyno yn rhan o'i hawliad o dan y Fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ('Deddf 2000'), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 ('Rheoliadau 2004'), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data Cyffredinol (y 'GDPR') a Deddf Diogelu Data 2018 ('Deddf 2018').
Mae ymgeiswyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
- a fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth a gawsom o dan y cyllid neu mewn cysylltiad ag ef i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu’r wybodaeth honno i berson sy’n gwneud cais datgelu o dan Ddeddf 2000 neu Reoliadau 2004
- a fydd unrhyw wybodaeth wedi’i hesemptio rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf 2000 neu Reoliadau 2004
Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol y byddwn yn eu casglu a'u rhannu ag awdurdodau lleol ac ysgolion yn cael eu rheoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y cynllun hwn.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch gyda athrawoncc.wmteachers@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau.
