Diffiniad o brofion ar fuchesi cyffiniol, pam ei fod yn bwysig a sut i drefnu prawf.
Cynnwys
Diffiniad o brawf cyffiniol
Prawf gwyliadwriaeth ychwanegol ar groen buches i gadw golwg sy'n ofynnol ar gyfer buchesi cyffiniol, neu sy'n agos at achos TB.
Rhesymau dros ofyn am brawf cyffiniol
Gwyddom fod ffermydd sy'n agos at achos o TB mewn mwy o berygl na ffermydd ymhellach i ffwrdd. Gellir trosglwyddo TB mewn gwartheg yn lleol yn y ffyrdd canlynol:
- yn uniongyrchol trwy gyswllt trwyn-i-drwyn gan wartheg dros ffin
- trwy fywyd gwyllt lleol heintiedig gyda mynediad at fwyd, neu fwynau anifeiliaid
- trwy yfed o gyrsiau dŵr y mae gan wartheg o fuchesi eraill, neu fywyd gwyllt fynediad atynt, neu o gafnau dŵr agored i fywyd gwyllt
- trwy'r llwybr awyr trwy ledaenu tail a slyri o fferm heintiedig
Mae'n bwysig nodi TB mewn buches cyn gynted â phosibl ar ôl yr heintio, er mwyn lleihau lledaeniad y clefyd i anifeiliaid eraill yn y fuches.
Meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa fuchesi sydd angen prawf cyffiniol
Mae'r profion hyn wedi'u trefnu ar gyfer buchesi:
- sydd yn union gyffiniol i fuches wedi'i heintio â TB; neu
- wedi'u gwahanu gan afon neu ffordd fach; neu
- lai nag 1km i ffwrdd o'r fuches wedi'i heintio â TB, ond wedi'i gwahanu gan ddarn o dir heb ei stocio, neu goetir, neu gynefin addas ar gyfer moch daear neu geirw
Trefnu prawf cyffiniol
Bydd amseriad y prawf cyffiniol yn dibynnu ar ddyddiad y prawf diweddaraf yn y fuches. Trefnir fel a ganlyn:
- os oedd y prawf twbercwlin negyddol diwethaf bedwar mis yn ôl neu fwy, trefnir prawf cyffiniol, ar unwaith. Mae ffenestr deufis i gwblhau'r prawf
- os cynhaliwyd y prawf twbercwlin negyddol diwethaf lai na phedwar mis yn ôl, mae dyddiad y prawf cyffiniol yn cael ei ohirio. Fodd bynnag, rhaid ei gwblhau o fewn chwe mis o ddyddiad dechrau'r prawf buches clir diwethaf. Mae'r ffenestr i gwblhau'r prawf yn agor dau fis yn gynharach na'r dyddiad cwblhau diwethaf
