Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Sefydlwyd Cymwysterau Cymru o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 ac, fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt ar lefel gradd yng Nghymru, mae'n gyfrifol am sicrhau bod cymwysterau Cymru, a'n system gymwysterau, yn effeithiol o ran diwallu anghenion rhesymol ein dysgwyr; ac am hybu hyder y cyhoedd yn system gymwysterau Cymru.
Mae'r Cadeirydd a'r Bwrdd yn ymgymryd â rôl bwysig sy'n cynnwys:
- Pennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer Cymwysterau Cymru;
- Monitro i ba raddau y cyflawnir strategaeth fusnes y sefydliad, ei gynlluniau a'i amcanion perfformiad.
- Llywio a dylanwadu ar waith cyffredinol y sefydliad.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi penodi Paul Bevan i ymgymryd â rôl Cadeirydd newydd Bwrdd Cymwysterau Cymru ar 1 Hydref 2025 pan fydd cyfnod y Cadeirydd presennol, David Jones OBE, yn dod i ben.
Mae gan Paul gefndir cryf ym myd addysg, a hanes rhagorol o arwain, trawsnewid sefydliadau a datblygu ar lefel Bwrdd, gan weithio yn y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae wedi arwain rhaglenni newid sylweddol ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ac wedi trawsnewid Cyfarwyddiaeth Weithredol yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Mae Paul yn gwirfoddoli ar sawl bwrdd, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth a Chyngor ar Bopeth Sir y Fflint, ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cymdeithas Cerbydau Trydan (EVA) Cymru.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i David Jones OBE DL, Cadeirydd presennol Cymwysterau Cymru, am ei gyfraniad sylweddol yn ystod ei gyfnod yn y rôl ers 2019.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
Nodiadau
Gwnaed y penodiad yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyniad i weithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os oes unrhyw weithgarwch yn cael ei ddatgan) gael ei gyhoeddi. Nid yw'r ymgeisydd a ffefrir wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.
