Cyfarfod y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion: 14 Gorffennaf 2025
Chofnodion y gyfarfodydd y Bwrdd y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion ar 14 Gorffennaf 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cynhaliwyd wythfed cyfarfod Bwrdd y Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion ar 14 Gorffennaf.
Adolygodd y Bwrdd y cynnydd a wnaed dros y 18 mis diwethaf, gan edrych ar sut mae'r gwaith a wnaed eisoes a'r gwaith sydd yn yr arfaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd bonito hon yn 2025/26 wedi ymateb i brif ganfyddiadau yr Adolygiad strategol o Bartneriaid Addysg a gynhaliwyd gan yr Athro Dylan Jones.
Yn dilyn gweithdai'r Awdurdodau Lleol a gynhaliwyd yn y gwanwyn, mae cynhadledd genedlaethol ar gyfer Gwella Ysgolion ac Arweinwyr ADY wedi'i threfnu ar gyfer mis Medi. Disgwylir y bydd y gynhadledd yn ddigwyddiad rheolaidd, a fydd yn arwain at fanteision drwy feithrin cysylltiadau rhwng ardaloedd ledled Cymru. Mae'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Benaethiaid newydd bellach yn weithredol, gan ddarparu sylwadau gwerthfawr gan arweinwyr ysgolion. Mae'r Tîm Gwella Addysg hefyd wedi bod yn trafod ag Estyn a phartneriaid undebau llafur i ddeall sut mae arweinwyr a staff ysgolion yn ymgysylltu â'r modelau gwella ysgolion newydd.
Mae’r gwaith o sefydlu'r corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd ar gyfer y sector addysg, a fydd yn dod i fodolaeth ar 1 Medi, yn mynd rhagddo ‘n dda iawn. Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr, a bydd yn ymgymryd â'r rôl ym mis Tachwedd.
Trafododd y Bwrdd gynlluniau i gau'r Rhaglen yn ffurfiol yn yr Hydref, ac ar yr adeg honno bydd partneriaid yn cymryd cyfrifoldeb llawn am ymgorffori'r model newydd yn eu harferion bob dydd a goruchwylio trefniadau'n lleol trwy eu strwythurau llywodraethu busnes fel arfer eu hunain.
Daeth y cyfarfod i ben gyda gweithdy Theori Newid i helpu i lunio gweledigaeth hirdymor a sicrhau bod y diwygiadau yn darparu manteision ystyrlon i ddysgwyr ac arweinwyr fel ei gilydd.
Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd y Rhaglen yn cael ei gynnal yn yr hydref.
