Neidio i'r prif gynnwy

Lansiodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, ymgynghoriad Cynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru ar safle hanesyddol Ffatri Corona Pop ym Mhorth ar 18 Awst.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos, sy'n para tan 10 Tachwedd, yn llywio dull Cymru o weithredu cynllun sy'n cynnwys cynwysyddion diodydd gwydr ac yn blaenoriaethu ailddefnyddio dros ddulliau ailgylchu traddodiadol.  

Gyda Chymru eisoes â'r ail gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd, mae'r cynllun dychwelyd ernes hwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy gefnogi'r newid i ailddefnyddio, sy'n darparu llawer mwy o fanteision amgylcheddol nag ailgylchu yn unig. 

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod ailddefnyddio yn lleihau cost deunyddiau i gynhyrchwyr wrth ddarparu llwybrau clir i ddatgarboneiddio. Mae'r ymgynghoriad yn archwilio sut y gall cynnwys gwydr fynd i'r afael â sbwriel, gwella seilwaith ailgylchu wrth fynd, a chreu cyfleoedd economaidd drwy ailddefnyddio. 

Mae ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol a gweithdai sector-benodol, wedi llywio datblygiad yr ymgynghoriad. Bydd y cynllun yn ategu'r polisïau amgylcheddol presennol ac yn cefnogi taith Cymru tuag at sero net. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:

"Mae Cymru bob amser wedi arwain drwy esiampl o ran gweithredu amgylcheddol, ac mae'r cynllun dychwelyd ernes yn ein cam beiddgar nesaf ymlaen.  

"Roedd ymweld â'r hen Ffatri Corona Pop, a oedd ar un adeg yn ganolfan ar gyfer poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio, yn ein hatgoffa nad ydyn ni'n gwneud rhywbeth newydd – rydyn ni'n dychwelyd i'r gorau o'n treftadaeth ddiwydiannol wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy.  

"Drwy roi ailddefnyddio yng nghanol ein dull gweithredu, nid yn unig rydyn ni'n mynd i'r afael â gwastraff  – rydyn ni hefyd yn creu model y gall gwledydd eraill ei ddilyn. Bydd y cynllun hwn yn sbarduno arloesi, yn creu swyddi gwyrdd, ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ar yr un pryd.  

"Rwy'n annog busnesau a'r holl randdeiliaid i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a helpu i lunio cynllun sydd wir yn cyflawni dros Gymru." 

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 10 Tachwedd 2025. Mae'r manylion llawn ar gael yma: Cyflwyno Cynllun Ddychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru.