Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwerth £10 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael i helpu busnesau Cymru i leihau eu hôl-troed carbon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Llywodraeth Cymru ei lansio gyntaf ym mis Mawrth 2023 ac mae'r bellach yn cael ei estyn i £20 miliwn a bydd cyllid ar gael hyd 2028. 

Hyd yn hyn, mae dros 30 o fusnesau Cymru wedi elwa ar gymorth wedi'i deilwra drwy’r cynllun, a gyflenwir gan Fanc Datblygu Cymru, a disgwylir i hyn arwain at arbed carbon dros 28,000 tunnell gydol oes eu prosiectau. 

Mae hyn yn cynnwys benthyciad o £3.2 miliwn i Thorncliffe Building Supplies o’r Wyddgrug i fuddsoddi mewn gwaith golchi newydd a system trin dŵr a fydd yn lleihau defnydd y cwmni o safleoedd tirlenwi.

Fel un o'r masnachwyr adeiladwyr annibynnol mwyaf yng Ngogledd Cymru, mae Thorncliffe Building Supplies yn darparu ystod eang o gyflenwadau adeiladu, pren, dur, plymio a gwresogi, a llogi peiriannau, ynghyd â gwasanaeth rheoli gwastraff a llogi sgipiau. 

Gyda phum safle ledled Gogledd Cymru yn Nyserth, Ewlo, Rhuddlan, Wrecsam ac Abergele, mae Thorncliffe yn eiddo i'r ddau ŵr a gwraig Deborah a Tim Harper ac yn cael ei reoli ganddynt. Wedi'i sefydlu ym 1987, mae'r cwmni bellach yn cyflogi 265 o bobl.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Tim Harper: 

Rydym yn esblygu’n gyson fel busnes i arallgyfeirio a chryfhau’r hyn a gynigir i gwsmeriaid gan barhau i gydymffurfio â gofynion rheoleiddio a deddfwriaethol.

Mae lleihau gwastraff a thorri ein hallyriadau carbon yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac o ganlyniad gwnaethom benderfynu buddsoddi mewn gwaith golchi newydd. Bydd hyn yn caniatáu i ni brosesu ein gwastraff adeiladu a’n hisbridd ar y safle yn hytrach na defnyddio safle tirlenwi. 

Bydd y cyfleuster yn golchi ac yn didoli’r gwastraff i wahanol raddau o agregau y gellir eu hailwerthu wedyn felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: 

Mae’r estyniad £10 miliwn hwn i’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ar eu taith i sero net. Rydym yn sicrhau y gall hyd yn oed mwy o gwmnïau gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i leihau eu hôl troed carbon wrth gryfhau eu cystadleurwydd.

Gyda dros 30 o fusnesau eisoes yn elwa ac wedi rhagweld arbedion carbon o fwy na 28,000 tunnell, mae'n amlwg bod awydd cryf am arloesedd cynaliadwy ymhlith mentrau Cymru sy'n cefnogi ein huchelgais i dyfu'r economi.

Bethan Cousins yw Cyfarwyddwr Busnes Newydd y Banc Datblygu. Dywedodd:

Mae llwyddiant y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn dyst i uchelgais ac arloesedd busnesau Cymru wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae Thorncliffe yn enghraifft wych o sut mae’r cynllun yn helpu busnesau ledled Cymru i ‘fuddsoddi i gynilo’ drwy ddarparu benthyciadau gyda chyfraddau llog gostyngol i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni a gweithredu mentrau datgarboneiddio. 

Bydd y buddsoddiad pellach hwn gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod yn parhau i ysgogi newid ystyrlon, gan gefnogi busnesau o bob maint i fabwysiadu technolegau sy’n lleihau allyriadau ac yn cryfhau cydnerthedd ynni.

Gyda phroses ymgeisio syml, mae'r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cefnogi ystod eang o dechnolegau effeithlonrwydd ynni a charbon isel, gan gynnwys gwresogi, awyru, pympiau gwres, atebion rheoli gwastraff, a gwelliannau i adeiladwaith adeiladau.

Am ragor o wybodaeth ac arweiniad, ewch i: Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd - Banc Datblygu Cymru