Cynllun cydraddoldeb strategol Awdurdod Cyllid Cymru a'r amcanion 2025 i 2028
Beth mae Awdurdod Cyllid Cymru yn bwriadu ei wneud yn 2025 i 2028 gefnogi cydraddoldeb.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amdanom ni
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru. Ers 2018 rydym wedi bod yn gyfrifol am gasglu'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) a'r Dreth Trafodiadau Tir (TTT), y trethi cyntaf i gael eu codi yng Nghymru, i Gymru, mewn 800 mlynedd.
Rydym yn helpu i godi dros £1 biliwn yn ystod ein 4 blynedd gyntaf i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn uniongyrchol, fel ym meysydd iechyd, ysgolion, a gofal cymdeithasol.
Rydym yn sefydliad Gwasanaeth Sifil, a ni yw’r adran anweinidogol gyntaf a grëwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn fach ac yn arbenigol gyda dros 100 aelod o staff ac 14 o broffesiynau. Mae ein pobl yn hynod o ymgysylltiedig, gan sgorio'n uchel yn Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil, gyda sgoriau arbennig o uchel gan ein staff ar gyfer Cynhwysiant a Thriniaeth Deg.
Gallwch ddysgu mwy am weithio yma drwy edrych ar ein canlyniadau Arolwg Pobl diweddaraf.
Rydym yn falch o sgorio’n uchel ar draws y Gwasanaeth Sifil am Gynhwysiant a Thriniaeth Deg (yn y safle cyntaf yn 2023 a'r pedwerydd safle yn 2024). Mae ein pobl yn ymgysylltiedig iawn, ac rydym yn y chweched safle allan o dros 100 o gyflogwyr yn Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil, 2024.
Gallwch ddysgu mwy am yr hyn mae ein pobl yn ei feddwl o weithio i ni drwy edrych ar ein canlyniadau Arolwg Pobl diweddaraf.
Rydym wedi arloesi gyda ffordd Gymreig o drethu o'r enw 'Ein Dull'. Rydym yn defnyddio'r dull hwn i weithio gyda threthdalwyr ac eraill er mwyn sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu ar yr adeg gywir. Drwy gydweithio, rydym yn helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru.
Rydym yn seilio popeth a wnawn ar ein cynllun corfforaethol ac mae ein hamcanion cydraddoldeb strategol a'n cynllun cydraddoldeb strategol yn cyd-fynd yn agos â hwn. Mae hwn yn nodi ein pwrpas, ein hamcanion sefydliadol strategol a’n huchelgeisiau tymor hwy. Rydym yn adrodd ar ein gwaith yn flynyddol. Gweler ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon diweddaraf.
Rydym yn sefydliad ystwyth,aml-sgiliau, sy'n cyflogi tua 100 o bobl sydd â sgiliau a phrofiad sy'n rhychwantu 14 proffesiwn gwahanol. Rydym yn hyrwyddo arloesi, cydweithredu a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Ac rydym yn grymuso ein pobl ac yn ymddiried ynddynt i weithio gyda lefelau uchel o gyfrifoldeb ac ymreolaeth.
Ein cyfrifoldebau
Mae ein hamcanion cydraddoldeb yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb ac maent yn cael eu harwain gan ein cyfrifoldebau cyfreithiol o dan:
- Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011
- Dyletswyddau Penodol Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC) ar gyfer Cymru
- Egwyddorion Pum Ffordd o Weithio Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu gwahaniaethau unigol. Rydym yn gweithio’n ymwybodol i gael gwared ar, neu leihau anfanteision, cymryd camau i ddiwallu anghenion penodol pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, yn ogystal â chydnabod croestoriadedd.
Mae ein hamcanion cydraddoldeb yn cynnwys ac yn berthnasol i bob un o'r naw nodwedd warchodedig:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd a chred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Mae ein hamcanion cydraddoldeb strategol ar gyfer 2025 i 2028 yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yn ein cynllun cydraddoldeb strategol 2020 i 2024. Roedd y cynllun hwnnw'n cynnwys pum amcan a ddatblygwyd ar y cyd â chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru drwy Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru, ynghyd ag wyth amcan cydraddoldeb mewnol.
Gallwch ddarllen mwy am ein hamcanion cydraddoldeb yn ein cynlluniau a'n hadroddiadau cydraddoldeb.
Datblygu ein cynllun
Fel rhan o'n hymrwymiad i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC) a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, rydym wedi datblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol mewn cydweithrediad â'n rhanddeiliaid. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod ein gweithredoedd yn cael eu llywio gan y rhai sydd â phrofiad byw a bod ein gweithredoedd yn ystyrlon ac yn gynhwysol.
Mae ACC wedi ystyried ei ofynion yn ofalus o dan y ddyletswydd gyffredinol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni:
- ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waharddir o dan neu gan y Deddf Cydraddoldeb
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhai nad ydynt
- meithrin cysylltiadau da rhwng unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhai nad ydynt
Yn ogystal, mae ACC wedi ystyried ei ofynion o dan ddyletswyddau penodol Cymru, sef:
- asesu a monitro polisïau ac arferion
- nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb
- adolygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
- nodi a chasglu gwybodaeth am wahaniaethau mewn cyflog
- hyfforddiant a chasglu gwybodaeth cyflogaeth
- adolygu a chyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol
- cynnwys pobl sy'n cynrychioli un neu fwy o'r grwpiau gwarchodedig ac sydd â diddordeb yn y ffordd yr ydym yn cyflawni ein swyddogaethau
- ystyried y ddyletswydd gyffredinol mewn prosesau caffael
- cynhyrchu adroddiad blynyddol bob blwyddyn
- cyhoeddi dogfennaeth hygyrch
Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad eang gan gynnwys ymgysylltu â staff ar bob lefel yn y sefydliad, megis Tȋm Arwain (Tîm Gweithredol), y Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau, a nifer o grwpiau ffocws traws-sefydliad – yn ogystal ag Undebau Llafur.
Yn ogystal, fe wnaethom ddefnyddio mewnwelediadau gan:
- Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru, grŵp cydweithredol o 12 sefydliad sy'n canolbwyntio ar ganfyddiadau cydraddoldeb
- Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil, a ddarparodd adborth gwerthfawr ar ymgysylltiad staff, cynhwysiant a diwylliant sefydliadol
- yn ogystal â deialog barhaus â rhwydweithiau sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb a rhanddeiliaid allanol
Mae'r sgyrsiau hyn wedi ein helpu i lunio ein cynllun cydraddoldeb strategol a sicrhau bod ein hamcanion yn berthnasol o ran cyd-destun ac yn cyd-fynd â'n diwylliant sefydliadol o arloesi, cydweithredu a charedigrwydd.
Ein nodau cydraddoldeb a'n cynllun cydraddoldeb strategol
Mae ein hamcanion a'n hamcanion cydraddoldeb strategol ar gyfer 2025 i 2028 yn adeiladu ar yr amcanion a'r camau gweithredu sydd eisoes wedi'u cyflawni yn ystod oes cynllun 2020 i 2024.
Byddwn yn meithrin lle teg a chynhwysol i weithio ynddo lle gall ein pobl ffynnu
Byddwn yn:
- ceisio cynyddu amrywiaeth ein hymgeiswyr drwy ymgysylltu â chymunedau amrywiol trwy allgymorth
- annog ein pobl i ddatgelu data cydraddoldeb ystyrlon, yn ogystal â monitro data cydraddoldeb arall
- parhau i feithrin lle cadarnhaol i weithio ynddo lle mae pobl yn teimlo bod eu llesiant yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi
Rydym yn ymrwymo i:
- ymgysylltu â chymunedau amrywiol i annog ceisiadau gan grwpiau amrywiol (ddwywaith y flwyddyn)
- cefnogi pobl i ymgeisio am ein swyddi (yn flynyddol)
- monitro ein data recriwtio bob chwarter a'n bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn flynyddol i dynnu sylw at feysydd sydd angen sylw (yn chwarterol ac yn flynyddol)
- annog ein pobl i ddatgelu data ystyrlon trwy gyfathrebu ac anogaeth rheolaidd (yn flynyddol)
- ystyried canlyniadau ein harolwg pobl er mwyn meincnodi'r mynegai PERMA a'r sgôr Straen Procsi, yn ogystal â dangosyddion perthnasol eraill (yn flynyddol)
Byddwn yn cynyddu ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn cael gwared ar wahaniaethu a rhagfarn o ddarpariaeth gwasanaethau
Byddwn yn:
- darparu hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant perthnasol i'n pobl
- monitro anghenion ein cwsmeriaid yn barhaus er mwyn gallu darparu ein gwasanaethau mewn modd cynhwysol
- meithrin gweithle lle mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu mynegi pryderon am fwlio, aflonyddu, erledigaeth a gwahaniaethu anghyfreithlon
Rydym yn ymrwymo i:
- ymrwymo i gynnig cyfleoedd dysgu a datblygu sy'n cynnwys rhannu profiad byw (yn flynyddol)
- ystyried effaith ein gwasanaethau a'n polisïau drwy ystod o ddulliau, gan gynnwys ymchwil defnyddwyr a chwblhau Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb (yn barhaus)
- parhau i fonitro a gwella ein harferion recriwtio i sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn rhydd o ragfarn, er enghraifft, drwy gadw ein statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd (yn barhaus)
- hyrwyddo ymgyrchoedd ac ymwybyddiaeth o bolisïau er mwyn annog pobl i fynegi pryderon (yn flynyddol)
Byddwn yn gwneud ein gwasanaethau'n hygyrch i bawb
Byddwn yn:
- sicrhau bod gwasanaethau newydd yn hygyrch ac yn cydymffurfio â Safon AA 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys (Web Content Accessibility Guidelines (WCAG) 2.2)
- adolygu hygyrchedd ein gwasanaethau presennol er mwyn cydymffurfio â Safon AA 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys (Web Content Accessibility Guidelines (WCAG) 2.2)
Rydym yn ymrwymo i:
- ymdrechu i ddechrau gyda gofynion dylunio sy'n cwmpasu hygyrchedd ac yn hyrwyddo'r rhain trwy bob cam o adeiladu gwasanaeth (yn barhaus)
- defnyddio technegau profi awtomataidd ac â llaw i brofi'r safonau (yn barhaus)
- sicrhau bod ein pobl yn cael mynediad at y canllawiau perthnasol ac yn deall hygyrchedd o fewn eu disgyblaethau priodol (yn barhaus)
- gweithio'n agos gyda darparwr hygyrchedd digidol i sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu hadolygu ac yn gweithredu eu hargymhellion fel blaenoriaeth (yn barhaus)
- bod yn dryloyw yn ein datganiad hygyrchedd cyhoeddedig (yn flynyddol)
Byddwn yn sicrhau cydraddoldeb yn ein proses gaffael
Byddwn yn:
- cynnwys disgwyliadau gwerth cymdeithasol yn ein holl gontractau gwerth uwch (dros £25,000)
- annog ein holl gyflenwyr i ddod yn Hyderus o ran Anabledd drwy'r Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd
- ei gwneud yn ofynnol i'n holl gyflenwyr gwerth uwch (dros £25,000) gael polisïau a hyfforddiant ar waith i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn ymrwymo i:
- datblygu meini prawf ansawdd gwerth cymdeithasol i'w cynnwys mewn prosesau caffael dros £25,000 (yn barhaus)
- cynnwys datganiad yn ein dogfennau caffael, yn tynnu sylw at y ffaith ein bod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac yn annog pob cyflenwr i gofrestru (yn barhaus)
- ei gwneud yn ofynnol i'n cyflenwyr gwerth uwch (dros £25,000) gadarnhau bod ganddynt bolisïau a hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar waith, neu ymrwymo i gael y rhain ar waith os byddwn yn dyfarnu contract iddynt (yn barhaus)
Llywodraethu a monitro
Er mwyn sicrhau cyflawniad a gwelliant parhaus ein cynllun cydraddoldeb strategol, rydym wedi ymgorffori monitro ac adolygu'r camau gweithredu trwy ein strwythurau llywodraethu presennol yn glir.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Tîm Arwain (Tîm Gweithredol) sydd ag atebolrwydd cyffredinol am weithredu'r cynllun cydraddoldeb strategol, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'n strategaeth a'n gwerthoedd corfforaethol
- Mae'r Grŵp Arwain Cyflenwi Corfforaethol a Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau yn adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun yn rheolaidd (o leiaf bob chwarter) ac yn integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb i gynllunio a darparu gwasanaethau
Byddwn hefyd yn:
- cynnwys ein cynnydd fel rhan o'n hadroddiad cydraddoldeb blynyddol cyhoeddedig, er mwyn cynnal tryloywder ac atebolrwydd
- parhau i ddefnyddio data fel Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil, archwiliadau, a mecanweithiau adborth i asesu effaith ein gweithredoedd
- adolygu ein cynllun cydraddoldeb strategol bob blwyddyn ac yn ffurfiol bob pedair blynedd, yn unol â'n gofynion statudol
