Helpu eraill i wella eu sgiliau digidol sylfaenol
Cyngor ar sut i ddefnyddio technoleg ddigidol a gwella sgiliau digidol sylfaenol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Helpu pobl i fynd ar-lein
Gyda dysgu unrhyw sgil digidol newydd, ystyriwch pwy ydychchi'n ei helpu, a'u hanghenion. Efallai y byddwch mewn sefyllfa i gefnogi eraill i fynd ar-lein.
Sgiliau digidol trosglwyddadwy
Mae yna nifer o sgiliau digidol rydych chi'n eu dysgu trwy wahanol brofiadau ar-lein, ac mae llawer yn drosglwyddo i dasgau eraill. Mae llenwi ffurflenni ar-lein, creu cyfrifon a llywio gwefannau yn ddefnyddiol ar gyfer llawer o wahanol wasanaethau ar-lein.
Trwy ddod o hyd i weithgareddau digidol ysbrydoledig, gallwn wneud dysgu sgiliau digidol sylfaenol yn brofiad mwy ystyrlon i rywun sy'n mynd ar-lein am y tro cyntaf. Archwiliwch hobïau, diddordebau a gweithgareddau sy'n darparu profiadau cadarnhaol. Yn ogystal, mae'r cyfleoedd hyn yn annog unigolion i fynd ar-lein a defnyddio eu sgiliau digidol sylfaenol mewn ffyrdd gwahanol.
Meddyliwch am adeg pan mae rhywun wedi eich helpu i wneud rhywbeth, sut gwnaeth hynny i chi deimlo? Mae angen cefnogaeth ac anogaeth ar ddefnyddwyr rhyngrwyd tro cyntaf. Mae angen amser a chyfleoedd i ddysgu sgiliau digidol sylfaenol.
Defnyddio hobïau a diddordebau fel bachyn a ffordd o annog ymgysylltiad digidol tymor hir. Yna gallwch gyfeirio unigolion at gymorth pellach neu opsiynau cymunedol ar gyfer datblygu eu sgiliau digidol.
Enghreifftiau o sgiliau digidol trosglwyddadwy
Gan ddefnyddio fframwaith sgiliau digidol hanfodol Llywodraeth y DU, gallwn ddad-ddewis rhai sgiliau digidol trosglwyddadwy a ddefnyddir yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae llawer o enghreifftiau o sgiliau digidol ar gyfer amrywiaeth o wahanol weithgareddau.
Sgiliau digidol sylfaenol
Sgiliau digidol sylfaenol yw'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio dyfais yn effeithiol, neu i ddeall cysyniadau digidol, fel ap neu borwr rhyngrwyd, a sut i ryngweithio â nhw. Defnyddiwch nodweddion rhyngweithiol fel gemau i wneud y profiad yn fwy pleserus. Ond deallwch hefyd y gall bod yn gyfarwydd â nodweddion dyfais drosglwyddo i wahanol ddyfeisiau, er enghraifft mae'r broses o gysylltu â WIFI yn debyg ar draws pob dyfais.
Magu hyder
Weithiau nid yw defnyddwyr rhyngrwyd hyder isel yn ymwybodol o'u sgiliau digidol a sut mae'n berthnasol i wahanol dasgau digidol. Mae’n dda tynnu ar enghreifftiau y gellir eu cyfnewid i fagu hyder:
- os gallwch anfon neges destun, gallwch ddefnyddio WhatsApp
- os gallwch chi gofrestru i Facebook, gallwch chi gofrestru i gyfrifon eraill
- os gallwch wylio Netflix, gallwch hefyd ddefnyddio YouTube neu iPlayer
- os gallwch chwilio ar Google, gallwch hefyd chwilio siopau ar-lein
Hygyrchedd
Mae nodweddion hygyrchedd, fel darllenwyr sgrin, yn barod ar gael ar ddyfeisiau symudol heb unrhyw gost ychwanegol. Mae bod yn gyfarwydd â nodweddion hygyrchedd, a sut i'w haddasu, yn bwysig er mwyn helpu rhywun i ddefnyddio dyfais am y tro cyntaf. Mae nifer o nodweddion hygyrchedd ar gael ar wahanol ddyfeisiau.
Mae gan AbilityNet ganllawiau defnyddiol ar hygyrchedd ar gyfer dyfeisiau digidol.
Darperir canllawiau ar-lein ar gyfer dyfeisiau gwahanol. Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth dyfais benodol trwy ddefnyddio peiriant chwilio i chwilio am eiriau allweddol fel model eich dyfais a hygyrchedd:
Bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein
Mae nodweddion sy'n cefnogi pobl i fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein yn rhan hanfodol o wasanaethau, apiau a gwefannau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys creu cyfrif diogel gyda cyfrinair diogel a dilysiad 2-ffactor. Mae'r gwahanol elfennau diogelwch hyn yn bwysig, ond gallant fod yn ormod i ddefnyddwyr rhyngrwyd newydd neu heb hyder.
Defnyddiwch cyfleoedd dysgu presennol i gefnogi datblygiad y sgiliau hyn:
Learn My Way
Mae Learn My Way yn wefan a grëwyd gan y Good Things Foundation sy'n darparu cyrsiau dysgu byr am ddim i'ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau digidol sylfaenol. Mae ganddynt bynciau ar fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein sy'n addas ar gyfer dechreuwyr sydd heb sgiliau digidol neu sgiliau digidol isel.
Get Safe Online
Mae Get Safe Online yn dudalen we ddefnyddiol sy'n cynnig cyngor ar fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein, sydd wedi'i chymeradwyo gan lawer o sefydliadau sy'n ymwneud ag atal seiberdroseddu.
Defnyddio peiriannau chwilio
Mae defnyddio peiriant chwilio yn drosglwyddadwy i nifer o sgiliau digidol gwahanol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi chwilio am apiau ar eich tabled, neu ddefnyddio allweddair ar wefan benodol. Yn aml, fydd pobl yn defnyddio opsiynau poblogaidd fel Google neu Bing.
Mae peiriant chwilio yn eich galluogi ichi:
- adnabod gwahanol wefannau
- datrys problemau
- cael cyfarwyddiadau a gwybodaeth gwasanaeth
Yn aml, mae chwilio am hobïau, diddordebau a gemau yn opsiynau cychwyn defnyddiol i ddod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer dysgu defnyddio peiriannau chwilio am y tro cyntaf. Gallech ofyn i ble mae rhywun wedi bod, neu ble hoffai fynd, yn y byd, a gallai peiriant chwilio adnabod gwefannau, fideos a delweddau.
Llenwi ffurflenni
Mae nifer o apiau, gwefannau a gwasanaethau yn gofyn i chi gofrestru ar eu cyfer gan ddefnyddio ffurflen ar-lein. Datblygwch hyder i wneud hyn trwy ddefnyddio gweffurf ymarfer ar gyfer dysgwyr.
Defnyddio rhwydweithiau cymorth presennol
Mae ein canllaw yn darparu rhai mannau cychwyn defnyddiol ar gyfer siarad am sgiliau digidol trosglwyddadwy. Mae hyd yn oed dim ond ysbrydoli rhywun i gymryd diddordeb mewn defnyddio dyfeisiau digidol yn amlach yn ddechrau gwych.
Mae nifer o rwydweithiau cymorth ar gael y gallwch eu defnyddio i ymgorffori cynhwysiant digidol yn yr hir dymor. Gyda’n gilydd, gallwn wneud newid cynaliadwy a chynyddu cynhwysiant digidol.
Gwasanaethau HelpwrArian
Mae HelpwrArian yn cydgysylltu canllawiau ar gyfer arian a phensiynau i'w gwneud hi'n gyflymach ac yn haws dod o hyd i'r cymorth cywir. Mae HelpwrArian yn dwyn ynghyd gefnogaeth a gwasanaethau tri darparwr sy’n cynnig arweiniad ariannol ac sy’n cael eu cefnogi gan y llywodraeth: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise.
O hafan gwefan HelpwrArian, gallwch archwilio sawl pwnc gwahanol am arweiniad pellach, o ganllawiau ar gyfer gwahanol fudd-daliadau ac arian bob dydd, i offer penodol ar gyfer pensiynau neu i gefnogi bywyd teuluol.
Canllawiau ar-lein
Os ydych chi’n cefnogi eraill, mae gan HelpwrArian wasanaeth ar-lein sy'n cynnig y dogfennau canllaw diweddaraf, p'un a ydych chi’n unigolyn, yn sefydliad neu'n fusnes masnachol. Gallwch gysylltu â nhw i ddarganfod gwahanol opsiynau hygyrch o ran arweiniad.
Offer a chyfrifianellau
Mae gan wefan HelpwrArian dudalen teclynnau a chyfrifianellau ar-lein sy'n cynnwys sawl categori defnyddiol i bobl hŷn.
Dyma rai o’r teclynnau a chyfrifianellau sy'n fannau cychwyn defnyddiol ar gyfer trafodaethau am gyllid:
- Cyfrifiannell pensiynau
- Darganfod eich math o bensiwn
- Dod o hyd i gynghorydd ymddeol
- Byw ar incwm gwasgedig
- Blaenoriaethiwr biliau
Pension Wise
Mae Pension Wise yn wasanaeth llywodraethol gan HelpwrArian sy'n cynnig arweiniad diduedd am ddim i bobl dros 50 oed ynghylch eu dewisiadau o ran eu pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Ni waeth pa mor fawr neu fach yw eich cronfa bensiwn.
Byddwch yn cael arweiniad arbenigol ar eich pensiwn sydd fel arfer yn cymryd hyd at awr dros y ffôn neu'n lleol i chi.
Pwy all Pension Wise helpu?
- Os ydych yn 50 oed neu'n hŷn.
- Os ydych eisiau deall eich opsiynau.
- Os oes gennych bensiwn cyfraniadau diffinedig personol neu weithle.
