Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn, y cytunwyd arno ar y cyd gan Drysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn dangos uchelgais parhaus y ddwy lywodraeth i sicrhau tryloywder llawn yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru ac i wella dealltwriaeth ehangach ohono ac yn benodol y broses gysoni. Mae'r datganiad hwn yn esbonio sut y mae'r broses o gysoni Treth Incwm ar gyfer 2023-2024 yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2026-2027.

Cysoni ar gyfer Treth Incwm 2023-2024

Ar 10 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd CThEF ystadegau alldro Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2023-2024.

Mae'r cyhoeddiad yn darparu ffigurau ar gyfer refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru, a'r refeniw Treth Incwm cyfatebol ar gyfer gweddill y DU a ddefnyddir i gyfrifo Addasiad Grant Bloc (BGA) Treth Incwm Llywodraeth Cymru, fel y'i nodir yn y Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae hyn yn caniatáu i'r cysoniad Treth Incwm sy'n gymwys i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-2027 gael ei gyfrifo. Mae'r cysoniad yn rhan arferol o weithredu'r Fframwaith Cyllidol ac mae'n sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar refeniw Treth Incwm gwirioneddol, yn hytrach na rhagolygon.

Mae cyfrifo'r cysoniad yn gofyn am gymharu'r ffigurau a ragwelir a'r ffigurau alldro ar gyfer refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru ac ar gyfer yr Addasiad i'r Grant Bloc am y flwyddyn 2023-2024. Mae'r gwahaniaeth rhwng y rhagolygon a'r alldro yn cael ei gymhwyso i Gyllideb a chyllid Llywodraeth Cymru yn 2026-2027. Nodir cefndir pellach isod, ar ôl y cyfrifiadau.

Mae Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr Addasiadau i'r Grant Bloc yn cael eu cyfrifo ‘fesul band’ (ar gyfer pob un o'r cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol). Mae'r tabl isod yn crynhoi cyfanswm effaith y cysoniad, tra bo cyflwyniad manylach o'r ffigurau gyda dadansoddiad ‘fesul band’ i'w weld yn yr adran gefndir.

Mae'r cysoni hwn hefyd yn ystyried yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diwygiedig a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 30 Gorffennaf 2025.

Bydd y ddwy gydran gysoni yn cael yr effeithiau canlynol, fel y crynhoir yn y tabl isod:

  • Addasiad i'r Grant Bloc: Mae'r alldro yn uwch nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2023-24, felly bydd hyn yn golygu cynnydd yn yr Addasiad i'r Grant Bloc (a thrwy hynny leihad yng ngrant bloc Llywodraeth Cymru) o £49m yn 2026-2027
  • Cyfraddau Treth Incwm Cymru: Mae'r alldro yn uwch nag a ragwelwyd adeg Cyllideb Cymru 2023-2024, felly bydd hyn yn golygu cynnydd o £173m yn hunanariannu Llywodraeth Cymru yn 2026-2027.

Effaith y cysoni net yw cynnydd o £124m yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-2027.

Y cysoniad ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2023-24 a fydd yn effeithio ar Gyllideb 2026-2027
Treth Incwm 2023 i 2024 (£m)RefeniwAddasiad i'r Grant BlocSefyllfa'r Gyllideb Net
Rhagolygon adeg Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-20242,795-2,733+63
Alldro2,968-2,782+187
Newid/cysoniad173-49+124

Noder - efallai na fydd y rhifau'n cyfansymio oherwydd talgrynnu.

Y cefndir

Yn dilyn Deddf Cymru 2017, cafodd pwerau trethu ychwanegol eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill 2019, cafodd pob un o gyfraddau Treth Incwm y DU ar incwm nad yw'n deillio o gynilion na difidendau (NSND) eu lleihau 10 ceiniog yn y bunt i drigolion Cymru. Enillodd Llywodraeth Cymru'r pŵer i bennu cyfradd Gymreig ym mhob band yng Nghymru. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu'r cyfraddau hynny yn 10 ceiniog yn y bunt. Mae CThEF yn gyfrifol am gasglu'r holl Dreth Incwm, gan gynnwys cyfraddau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu'n rhannol gan grant bloc Llywodraeth y DU, ac yn rhannol drwy godi refeniw o drethi datganoledig a benthyca.

Mae'r grant bloc yn cael ei bennu gan y fformiwla Barnett hirsefydlog.

Mae'r grant bloc bellach wedi'i addasu i adlewyrchu effaith trosglwyddo mwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Addasiadau Grant Bloc hyn yn ddidyniadau ar gyfer pwerau trethi. Ochr yn ochr â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl refeniw o drethi datganoledig, mae ganddi Gronfa Wrth Gefn i Gymru ac mae ganddi bwerau benthyca cyfalaf ac adnoddau gyda therfynau y cytunwyd arnynt.

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau benthyca adnoddau y gall ei ddefnyddio i gwmpasu gwallau a ragwelir mewn perthynas â derbyniadau treth datganoledig ac addasiadau cyfatebol i'r Grant Bloc, gyda therfyn blynyddol o £200m.

Mae'r refeniw o gyfraddau Cymru a'r addasiadau cysylltiedig i'r Grant Bloc a ddefnyddir yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ragolygon a gynhyrchir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae'r rhain yn cael eu pennu cyn y flwyddyn o dan sylw.

Fel y nodir yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru, bydd yr alldro Treth Incwm a gyhoeddir yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CThEF, a gyhoeddir fel arfer tua 16 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol, yn cael ei ddefnyddio wedyn i benderfynu ar addasiadau i gyfrif am wall a ragwelir drwy broses gysoni. Yna caiff unrhyw addasiadau sy'n ofynnol eu cymhwyso i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol wedyn.

O dan y broses hon, bydd cysoniad ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2023-2024 yn cael ei gymhwyso i Gyllideb Cymru ar gyfer 2026-2027. Mae'r cysoniad yn cwmpasu refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru a'r Addasiad i'r Grant Bloc.

Dadansoddiad manwl o gysoni alldro Treth Incwm Llywodraeth Cymru

Addasiad i'r Grant Bloc
£mSylfaenolUwchYchwanegolCyfanswm
Rhagolwg-2,392-269-72-2,733
Alldro-2,384-324-74-2,782
Cysoniad8-55-2-49
Refeniw
£mSylfaenolUwchYchwanegolCyfanswm
Rhagolwg2,375350712,795
Alldro2,506373892,968
Cysoniad1312319173
Cyllid net
£mSylfaenolUwchYchwanegolCyfanswm
Rhagolwg-1780-163
Alldro1224915187
Cysoniad139-3217124

Noder: efallai na fydd y rhifau'n cyfansymio oherwydd talgrynnu.