Cyngor ar sut i greu cyfrif a gwneud y defnydd gorau o ddyfais glyfar fel seinydd clyfar.
Cynnwys
Ynglŷn â dyfeisiau clyfar
Mae dyfeisiau clyfar yn offer digidol gwych y gall unrhyw un eu defnyddio o gwmpas y cartref i gysylltu â'r rhyngrwyd a chefnogi eu bywyd o ddydd i ddydd.
Gall dyfais glyfar roi cymorth gyda:
- aros yn gysylltiedig
- bod yn drefnus
- dod o hyd i wybodaeth
- aros wedi eich diddanu
- rheoli cartrefi clyfar
- derbyn gwybodaeth neu rybuddion pwysig
Creu cyfrif
Gallwch ddefnyddio dyfais glyfar mewn llawer o wahanol ffyrdd: mewn gofod cymunedol a rennir neu mewn cartref unigol i gefnogi byw.
Y brif ystyriaeth gydag unrhyw ddefnydd o ddyfeisiau clyfar yw body rhain yn unedau defnyddwyr unigol sydd angen cyfrif ar-lein cysylltiedig i'w galluogi i weithredu. Felly, rhaid i chi ystyried pwy yw deiliad y cyfrif mewn unrhyw amgylchiad.
Creu cyfrif
Dyfais glyfar yw unrhyw ddyfais sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd at ddibenion swyddogaethol. Rheolir y rhain trwy gynorthwyydd clyfar, fel arfer naill ai Amazon Alexa neu Google Assistant.
Pan fyddwch chi'n plygio i mewn ac yn troi eich dyfais glyfar am y tro cyntaf, fe'ch anogir i'w gysylltu â chyfrif dyfais glyfar. Bydd y broses ar gyfer hyn yn amrywio o ddyfais i ddyfais ac rydym yn argymell ymweld â'r canllawiau sydd wedi'u cynnwys mewn dolen yn y canllaw hwn i gael gwybodaeth gywir.
Mae pobl yn tueddu i ddefnyddio seinyddion clyfar neu arddangosfa glyfar fel ffordd o reoli eu holl ddyfeisiau clyfar. Gallwch hefyd ddefnyddio'ch ffôn clyfar i sefydlu a rheoli dyfeisiau clyfar.
Ni waeth pa ddyfais glyfar rydych chi'n ei defnyddio, mae angen cyfrif sydd wedi'i gofrestru i'r ddyfais. Dim ond unwaith y mae angen i chi greu cyfrif, a gallwch ei ddefnyddio ar wahanol ddyfeisiau. Bydd y ddyfais glyfar sydd gennych yn pennu'r cyfrif y mae angen i chi ei greu. Efallai bod gennych chi gyfrif y gallwch ei ddefnyddio eisoes, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio cyn creu un.
Alexa
Ar gyfer dyfeisiau clyfar, y mae Alexa wedi’i alluogi arnyn nhw, bydd angen i chi greu Cyfrif Amazon.
Google Assistant
Ar gyfer dyfeisiau clyfar y mae Google Assistant wedi’i alluogi arnyn nhw, bydd angen i chi greu Cyfrif Google. Mae'n bosib bod gennych chi gyfrif Google yn barod os ydych chi'n defnyddio Gmail.
Sefydlu eich dyfais glyfar
Mae'r holl ddyfeisiau clyfar y gallwch ddod o hyd iddynt mewn siopau stryd fawr wedi'u dylunio at ddefnydd personol:
- Bydd angen cysylltiad rhyngrwyd arnoch i ddefnyddio dyfais glyfar.
- Yn dibynnu ar y ddyfais, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho'r ap sy’n gysylltiedig â'ch ffôn clyfar yn y cam sefydlu cychwynnol. Cyfeiriwch at y canllaw swyddogol ar gyfer hyn.
- Peidiwch â rhannu cyfrineiriau na gwybodaeth eich cyfrif ag unrhyw un.
- Dim ond un cyfrif sydd ei angen arnoch a gallwch gysylltu llawer o ddyfeisiau clyfar newydd ag ef.
- Efallai y bydd angen i chi gefnogi rhywun arall i sefydlu dyfais glyfar. Arweiniwch nhw i sefydlu eu cyfrif eu hunain.
Seinyddion clyfar ac arddangosfeydd Alexa
Gall eich dyfais gyntaf fod yn Echo, yn Echo Show, neu'n Echo Dot. Bydd angen i'r rhain gysylltu â'ch cyfrif Amazon.
Seinyddion clyfar ac arddangosfeydd Google
Gall eich dyfais gyntaf fod yn ddyfais Google Home neu Google Nest. Bydd angen i'r rhain gysylltu â'ch cyfrif Google.
