Digidol ar gyfer cartrefi gofal: canllaw arferion da
Sut i wneud y mwyaf o ddefnyddio technoleg ddigidol yn eich cartref gofal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan gynyddol arwyddocaol wrth alluogi teuluoedd i gysylltu â'u hanwyliaid. Mae hefyd yn cynnig platfform ar gyfer ymgynghoriadau rhithwir gyda gwasanaethau iechyd, ac yn cadw preswylwyr yn brysur gyda gweithgareddau ystyrlon.
Buddion technoleg
Mae technolegau digidol yn offer sy'n ein galluogi i wneud pethau'n wahanol ac, mewn rhai achosion, yn fwy effeithiol ac effeithlon. Pryd bynnag y byddwn yn meddwl am ddefnyddio technoleg, mae'n dda dechrau gyda 'pam', a pha fuddion y gall ei rhoi i ni. O ran cartrefi gofal, mae sawl rheswm pam y gall buddsoddi adnoddau ac amser staff helpu. Maen nhw’n cynnwys y canlynol:
- mae’r GIG a gwasanaethau gofal eraill bellach ar gael yn ddigidol, gan ddod â chymorth
gyda gofal i’r cartref drwy apiau a galwadau fideo ar-lein - gall unigrwydd ac arwahanrwydd achosi straen a gorbryder, ond gall offer digidol helpu preswylwyr i gynnal perthnasoedd ag anwyliaid y tu allan i'r cartref
- gall technolegau cynorthwyol, gan gynnwys seinyddion clyfar (Alexa, Google Home) a
realiti rhithwir (VR) gefnogi gofal o ddydd i ddydd a helpu i gadw pobl yn brysur - gall offer digidol ddod â hwyl hefyd wrth helpu pobl i hel atgofion a chwarae cerddoriaeth a gemau
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddefnyddion ni’r tabledi i ddathlu pen-blwydd Syr Tom Jones yn 80 oed. Fe wnaethon ni gwis rhithwir amdano a gwylio ei fideos cerddoriaeth dros y blynyddoedd er mwyn i ni weld sut mae wedi newid dros amser. Fyddai'r math hwn o weithgaredd ddim wedi bod yn bosib o'r blaen.
Mae’r buddion i breswylwyr yn cynnwys y canlynol:
- cynnal perthnasoedd
- tawelu meddyliau
- adloniant
- gwelliant i iechyd corfforol o bosibl
- gwell lles
- cadw'n brysur
Blociau adeiladu
Er mwyn elwa o ddefnyddio technoleg, mae angen i'r blociau adeiladu fod yn eu lle i greu profiad cadarnhaol o safon i bawb. Gweler Atodiad 2 am y rhestr wirio blociau adeiladu digidol.
Cefnogaeth staff ac arweinwyr
Dyw pawb ddim yn gyfforddus yn defnyddio technoleg ddigidol ac efallai y bydd rhai yn teimlo nad ydyn nhw’n hyderus iawn yn ei defnyddio.
Cysylltedd rhyngrwyd
Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y profiad gorau, mae cysylltedd rhyngrwyd o safon yn hanfodol. Gall hyn fod yn her, yn enwedig pan nad ydych chi’n gwybod ble i ddechrau neu sut mae modd ei wella. Dewis cysylltiad rhyngrwyd ar gyfer eich cartref gofal.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu canllawiau ar gyfer cynlluniau talebau a allai fod o fudd i'ch cartref gofal.
Dyfeisiau digidol
Mae’n bosibl bod gennych chi ddyfeisiau digidol fel tabledi (iPads/Samsung Tabs) i’w defnyddio yn y cartref.
Hyrwyddwyr Digidol
Mae Hyrwyddwyr Digidol yn helpu eraill i feithrin hyder a sgiliau i fynd ar-lein. Does dim angen iddyn nhw fod yn arbenigwyr. Y cyfan sydd ei angen arnyn nhw yw sgiliau digidol sylfaenol a sgiliau allweddol i helpu eraill, gan gynnwys amynedd, brwdfrydedd, ac angerdd i helpu. Efallai fod rhywun yn y cartref eisoes yn Hyrwyddwr Digidol neu’n rhywun sy’n ymgymryd â’r rôl honno.
Hyfforddiant a chanllawiau
Mae sefydliadau eraill a all helpu (Atodiad 1).
Rhestr wirio ddigidol
Gall y rhestr wirio yn Atodiad 2 eich cynorthwyo ar ddechrau eich taith ddigidol fel bod eich preswylwyr yn gallu elwa ar y pethau niferus sydd gan dechnoleg i'w cynnig.
Cynnal perthnasoedd
Mae’r tabled digidol wedi galluogi ein staff i allu cysylltu mwy o’r preswylwyr â’u teuluoedd, sy’n cael effaith wych. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi cynnal cyngherddau fideo byw o'r lolfa ar gyfer ffrindiau a theulu ac wedi cynnal galwadau fideo rheolaidd gydag anwyliaid.
Mae'n bwysig i drigolion gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, yn enwedig pan na allan nhw dderbyn ymwelwyr yn gyson. Un o'r ffyrdd o gadw cysylltiad yw trwy wasanaethau fel WhatsApp, Zoom a Facetime lle gallwch wneud galwadau fideo. Gall buddsoddi amser staff i ddysgu sut i ddefnyddio’r platfformau amrywiol hyn a theimlo’n gyfforddus â nhw arwain at arbed amser yn yr hirdymor a sicrhau bod preswylwyr yn cael cyswllt â’u teuluoedd. Gall cadw eich preswylwyr mewn cysylltiad â’u hanwyliaid gael effaith mor gadarnhaol ar eu hymdeimlad o les.
Ymhlith y syniadau eraill y gallech fod am roi cynnig arnyn nhw mae:
- anwyliaid yn darllen i breswylwyr, amser gwely efallai
- partis te â theuluoedd trwy gyfrwng galwadau fideo
- boreau coffi rhithwir
Apwyntiadau iechyd
Mynychu Unrhyw Le/Gwasanaeth Ymgynghoriadau Fideo’r GIG (Galwad Fideo)
Mae'r GIG yng Nghymru wedi cyflwyno gwasanaeth ymgynghori trwy gyfrwng fideo fel y gall eich preswylwyr gysylltu â'u meddyg a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Yn y bôn, gwasanaeth galwad fideo yw hwn i'ch preswylwyr gysylltu â'ch meddyg neu'ch ysbyty pan nad yw'n bosibl gwneud hynny'n bersonol.
Mae’r gwasanaeth bellach ar gael ar draws y GIG yng Nghymru, gan gynnwys gofal sylfaenol/meddygon teulu, gofal eilaidd a chymunedol, fferylliaeth a deintyddiaeth. Gall hyn fod yn opsiwn gwell ar adegau pan na fydd apwyntiad wyneb yn wyneb yn bosibl neu'n briodol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar wefan TEC Cymru.
Adloniant
Gall technoleg ddigidol gynnig llawer o ffyrdd i ddiddanu ac ennyn diddordeb preswylwyr. Dyma ychydig o resymau pam mae hyn yn bwysig (ac yn hwyl).
Cerddoriaeth
Credir bod cerddoriaeth yn actifadu'r ymennydd, gan achosi rhannau cyfan i gyfathrebu. Meddyliwch am adegau pwysig yn eich bywydau. Gallai fod cân neu ddarn penodol o gerddoriaeth sy'n dwyn atgofion arbennig i chi. Gallai fod y ddawns gyntaf yn eich priodas, caneuon o'ch plentyndod rydych chi’n cofio'r holl eiriau iddyn nhw, neu artist penodol. Bydd hyn yr un peth ar gyfer y preswylwyr yn eich gofal.
Hel atgofion
Defnyddiodd Gwasanaeth Cynhwysiant Digidol ac Iechyd Llywodraeth Cymru atgofion digidol fel adnodd i wella profiad cleifion mewn ysbytai a lleoliadau gofal eraill trwy ennyn diddordeb, chwilfrydedd a sgwrs. Mae hyn yn ennyn diddordeb, chwilfrydedd a sgwrs. Mae'n gwella cydberthnasoedd, cyfathrebu ac ymgysylltu. Mae hefyd yn gallu lleihau gorbryder ac aflonyddwch i gleifion trallodus trwy eu cadw’n brysur, gan leddfu eu symptomau.
Hobïau
O ddysgu sgiliau newydd i ailgydio mewn hen hobïau, mae'r rhyngrwyd yn llawn arweiniad, fideos ‘sut i’ a fforymau i siarad â phobl sydd â'r un diddordebau.
Sioeau teledu/atgofion chwaraeon/adloniant
Mae bod ar-lein yn golygu bod gennych adloniant diddiwedd ar flaenau eich bysedd.
Gwasanaethau crefyddol
Mae llawer o wasanaethau'n cael eu ffrydio'n fyw gan ddefnyddio Zoom/Facebook/YouTube. Os nad yw eich gwasanaeth lleol ar gael yn fyw, gall YouTube fod yn adnodd gwych ar gyfer cyrchu gwasanaethau o'r gorffennol, neu o bedwar ban y byd. Gall y cyfle hwn i brofi gwasanaethau crefyddol yn gyson roi trefn a chyfle i bobl gynnal eu ffydd.
Bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein
Un o’r rhwystrau at dechnoleg ddigidol yw’r pryder ynghylch diogelwch a diogeledd. Mae'n bwysig deall y materion hyn a rhoi mesurau diogelu ar waith i amddiffyn pawb.
Cael hyfforddiant ar-lein
Weithiau, mae darparwyr hyfforddiant a gwasanaethau cymorth yn cynnig eu cymorth a’u hyfforddiant i gartrefi gofal ar-lein. Efallai y bydd angen i chi wirio bod eich cartref yn barod i hwyluso hyn. Mae angen cymryd y camau canlynol cyn yr hyfforddiant:
- Sicrhewch fod gennych deledu/monitor a gliniadur neu dabled ynghyd â'r ceblau cysylltu priodol.
- Sicrhewch fod cysylltedd rhyngrwyd da yn yr ystafell neu'r swyddfa lle byddwch yn derbyn yr hyfforddiant/Cymorth.
- Darganfyddwch pa raglen neu declyn sydd ei angen arnoch i gael mynediad at yr hyfforddiant/Cymorth megis Zoom neu Microsoft Teams. Lawrlwythwch feddalwedd swyddogol ar y ddyfais y byddwch yn ei defnyddio i gysylltu â theledu neu fonitor. Sicrhewch fod cyfrif e-bost wedi'i osod ar y ddyfais oherwydd efallai y bydd y ddolen i’r wefan yn cael ei hanfon atoch i gael mynediad at yr hyfforddiant.
- Gwiriwch gyda darparwr yr hyfforddiant pa blatfform y bydd yn ei ddefnyddio a rhowch gyfeiriad e-bost y cyfrif a sefydlwyd ar y ddyfais gysylltiedig iddo. Bydd hyn yn gwneud pethau’n haws.
Mathau o offer digidol
Mae technolegau digidol (gan gynnwys clustffonau realiti rhithwir) yn cael eu defnyddio i alluogi pobl â dementia i gysylltu ag atgofion cadarnhaol. Mae sesiynau hel atgofion mewn cartrefi gofal i staff, teuluoedd a phobl â dementia yn defnyddio cyfryngau digidol (y rhyngrwyd, cyfrifiaduron tabled) i helpu pobl i gasglu straeon eu bywydau, trwy fentrau fel Book of You.
Er bod y canllaw hwn yn cynnig trosolwg o ddyfeisiadau tabled digidol, mae llawer o ddyfeisiau eraill a allai weithio yn eich cartref. Mae’r rhain yn cynnwys:
Realiti rhithwir (VR)
Mae VR yn cynnig profiad ymdrochol llawn. Gall gwisgo clustffon gludo'r defnyddiwr i leoedd / bydoedd eraill. Mae'r math o brofiad bron yn ddi-ben-draw oherwydd y llu o wahanol apiau VR y gallwch eu lawrlwytho – unrhyw beth o ymlacio ar ynys anial i reidio trên roler-coster, a gallwch hyd yn oed mynd yn ôl mewn amser i ardal eich magwraeth. Gall y dechnoleg hon fod yn hynod effeithiol pan gaiff ei defnyddio ochr yn ochr ag offeryn therapiwtig.
Seinyddion clyfar
Mae seinyddion megis Alexa, Google Home, ac ati yn ddyfeisiadau sy’n cael eu rheoli gan lais, ac maen nhw’n eich galluogi i gysylltu â'r rhyngrwyd heb orfod dysgu sgiliau technegol. Gallwch ddefnyddio'r dyfeisiau hyn i chwarae cerddoriaeth, dod o hyd i wybodaeth, chwarae gemau/cwisiau, gosod negeseuon atgoffa a llawer mwy. Dyma ffordd wych i rywun heb unrhyw sgiliau digidol fynd ar-lein. Mae rhai modelau nawr yn dod gyda sgrin fideo.
Teledu clyfar
Gall teledu sydd wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd ddangos cynnwys ar-lein; er enghraifft, Netflix, Amazon Prime, YouTube, BBC iPlayer. Gallwch hefyd bori'r rhyngrwyd, anfon e-byst, ac ati. Mae set deledu glyfar yn defnyddio system sy'n seiliedig ar ap sy'n debyg i'r un ar dabled neu ffôn glyfar – a gallwch barhau i’w defnyddio fel teledu arferol.
Tablau gweithgaredd e.e. RITA
Mae'r dyfeisiau hyn yn dabledi/sgriniau cyffwrdd a chanddyn nhw feddalwedd bwrpasol sy’n galluogi grwpiau penodol o bobl gael mynediad atyn nhw. Er enghraifft, mae RITA – sy'n golygu Reminiscence Interactive Therapy Activities – yn system therapi digidol sy'n caniatáu i gleifion ddefnyddio apiau, gemau a gweithgareddau hamdden eraill wrth iddyn nhw wella yn yr ysbyty. Mae'n defnyddio'r un dechnoleg â thabled safonol gyda pheth meddalwedd arbenigol sy'n canolbwyntio ar gyfranogwyr sydd â chyflyrau penodol.
Pobl anabl a thechnoleg
Mae pobl anabl yn aml mewn mwy o berygl o allgáu digidol, ond nhw all elwa fwyaf. Yn sgil datblygiad cyflym technoleg, mae yna amrywiaeth o ddyfeisiau prif ffrwd sy'n gweithio'n dda wrth gynorthwyo pobl i fynd ar-lein, heb orfod troi at feddalwedd neu galedwedd arbenigol a all fod yn ddrud.
Mae nodweddion hygyrchedd wedi'u cynnwys ym mhob dyfais glyfar. Gall opsiynau fel cynyddu maint testun neu actifadu chwyddo wneud byd o wahaniaeth i brofiad digidol. Mae yna hefyd lawer o apiau rhad ac am ddim rhagorol ar gael fel Seeing AI (ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple) neu Google Live Transcribe (ar gyfer dyfeisiau Android) a all helpu rhywun sydd ag amhariad ar y synhwyrau nid yn unig i ddefnyddio'r ddyfais ei hun, ond i gyflawni pethau newydd all-lein hefyd. Dylai'r rhyngrwyd fod yn hygyrch i bawb, ac mae hyn yn gynyddol wir p'un a ydych chi’n defnyddio gliniadur, tabled, neu ffôn glyfar.
Ysbrydoliaeth ac astudiaethau achos
Woffington House
Tŷ Woffington yn Nhredegar oedd y cartref gofal cyntaf yng Nghymru i gofrestru i'r Siarter Cynhwysiant Digidol, achrediad a oedd yn bodoli gynt drwy Wasanaeth Cynhwysiant Digidol a Chaffael Iechyd Llywodraeth Cymru. Roedd y Rheolwr eisiau newid y diwylliant yn Woffington House, lleihau'r defnydd o feddyginiaeth, a dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw preswylwyr yn brysur a gwella eu hiechyd a'u lles. Hyfforddwyd staff y cartref gofal i ddefnyddio iPads gyda phreswylwyr i ymchwilio i'w hobïau a'u diddordebau a chadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.
Roedd un o'r preswylwyr yn Woffington House a oedd heb deulu nac ymwelwyr yn dioddef o orbryder ac iselder cymedrol, ac roedd hefyd yn byw gyda dementia. Ar brydiau, oherwydd ei rwystredigaethau a'i ffrwydradau corfforol, byddai Lorazepam yn cael ei roi ar bresgripsiwn iddo. Gan ddefnyddio iPad a Realiti Rhithwir, gallai ailymweld ag ardal ei fagwraeth yn ogystal â mynd ar reidiau trên roler-coster ac ymchwilio i rasio colomennod a fu’n hobi iddo ar hyd ei oes. Roedd hefyd wrth ei fodd yn chwilio am ganeuon ar YouTube. Roedd yr holl weithgareddau yn tawelu ei feddwl ac fe wnaeth ei iechyd a’i les wella’n aruthrol.
Cafodd tri o breswylwyr a arferai berthyn i gôr meibion lleol eu syfrdanu o weld hen luniau o’r côr yn canu ar YouTube, ac roedden nhw wrth eu bodd yn gweld eu hunain yn canu gyda’i gilydd unwaith eto. Roedd un o’r gwŷr bonheddig wrth ei fodd yn gwrando ar gerddoriaeth ar yr iPad a dod o hyd i wahanol fersiynau o’i hoff gân, Calon Lan. Roedd yn canu gyda’r recordiad ac yn annog trigolion eraill i ymuno. Rhoddodd hyn yr hyder iddo ddefnyddio’r iPad i sgwrsio â’i ferch ar Facetime. Oherwydd ei fod yn gallu ei gweld, mae’n siarad â hi fel pe bai yn yr un ystafell ag ef, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r ddau.
Mae’r mwynhad y mae preswylwyr yn ei gael o’r dyfeisiau wedi golygu bod y darnau hyn o dechnoleg yn adnoddau hanfodol i staff. Mae’n eu helpu nhw i dawelu meddyliau preswylwyr pan fyddan nhw’n mynd yn ofidus ac yn helpu i’w cadw’n brysur ac yn ddiddan. Wrth weld y newid yn lles ei mam, dywedodd un aelod o'r teulu: “Dwi wedi cael fy mam yn ôl”. Mae hyn yn dangos cymaint o wahaniaeth y gall technoleg ei wneud ym mywydau pobl.
Arweiniodd y defnydd o dechnoleg yn y cartref at newid mawr, gyda'r Rheolwr yn nodi gostyngiad o 30% yn nifer y cwympiadau a gostyngiad o 100% mewn meddyginiaethau PRN. Dyma beth ddywedon nhw:
Mae ein preswylwyr yn gallu cynhyrfu a drysu; efallai y byddan nhw’n taro ar ddrysau ac yn gweiddi ar y ffenestri, ac eisiau gwybod pam eu bod nhw yma. Cyn i ni gychwyn ar ein taith ddigidol, yr ymateb oedd estyn am y feddyginiaeth. Ond bellach, rydyn ni'n estyn am yr iPad.
Atodiad 1: sefydliadau sy'n barod i helpu
Pan fydd gennych y blociau adeiladu yn eu lle, efallai y byddwch am estyn allan at sefydliadau sy'n barod i'ch cefnogi. Dyma rai o'r sefydliadau yr hoffech gysylltu â nhw efallai, ond nid yw'n rhestr hollgynhwysfawr o bell ffordd.
Book of You
Creu stori bywyd gan ddefnyddio geiriau, lluniau, cerddoriaeth a ffilm. Dewch â theulu, ffrindiau a gofalwyr ynghyd mewn un lle i ddangos pwy oedd rhywun a phwy ydyn nhw nawr. Os ydych chi'n ofalwr, bydd creu Book of You yn weithgaredd hwyliog a fydd yn caniatáu ichi dreulio amser gwerth chweil gyda'ch gilydd.
TEC Cymru
Hyfforddiant ar Wasanaeth Ymgynghoriadau Fideo newydd y GIG i'ch galluogi chi a'ch preswylwyr i gael mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol.
Forget-me-not Chorus
Mae’r Forget-me-not Chorus yn dod â llawenydd i fywydau'r rhai sy'n byw gyda dementia, a'r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y clefyd, drwy rym canu. Mae’r elusen yn cyrraedd dros 300 o bobl bob wythnos drwy gorau yn y gymuned, cartrefi gofal ac ysbytai yng Nghymru.
Live Music Now
Mae Live Music Now yn cynnig sesiynau cerdd i filoedd o bobl hŷn bob blwyddyn, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia, a'u gofalwyr
Music in Hospitals and Care
Mae Music in Hospitals and Care (MiHC) yn elusen sy'n darparu sesiynau cerddoriaeth fyw i bobl sy'n derbyn gofal neu driniaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU.
Playlist for Life
Nod Playlist for Life yw i bawb sy’n byw gyda dementia gael rhestr chwarae o gerddoriaeth bersonol ac i bawb sy’n gofalu amdanyn nhw wybod sut i’w defnyddio’n effeithiol.
