Data bwydo ar y fron: Ionawr i Mawrth 2025
Mae’r data yn cynnwys statws bwydo ar y fron ar enedigaeth, 10 diwrnod, 6 i 8 wythnos a 6 mis fesul bwrdd iechyd lleol ar gyfer Ionawr i Mawrth 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Mae cyfraddau bwydo ar y fron wedi codi'r chwarter hwn ar gyfer pob oedran ac eithrio 6 mis sydd wedi gostwng ers y chwarter blaenorol; mae cyfraddau bwydo ar y fron adeg genedigaeth, 10 diwrnod a 6 wythnos yr uchaf ar gofnod.
Ffigur 1: Cyfraddau bwydo ar y fron yn ôl oedran y plentyn, Gorffennaf 2014 i Mawrth 2025
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’n dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron ar bob oed wedi cynyddu’n raddol dros y degawd diwethaf, gyda'r lefelau uchaf wedi'u cofnodi ar gyfer pob pwynt oedran a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Adeg genedigaeth, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 65.9%. Mae hyn yn gynnydd o 1.5 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 2.0 bwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a chynnydd o 8.3 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).
Yn 10 diwrnod, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 58.8%. Mae hyn yn gynnydd o 0.7 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 2.4 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a chynnydd o 14.2 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).
Yn 6 wythnos, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 46.2%. Mae hyn yn gynnydd o 0.5 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, cynnydd o 5.4 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a chynnydd o 15.6 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2014).
Yn 6 mis, roedd y gyfradd bwydo ar y fron ar gyfer Cymru yn 32.8%. Mae hyn yn ostyngiad o 0.9 pwynt canran ar y chwarter blaenorol, ond yn gynnydd o 1.5 pwynt canran ar yr un chwarter y llynedd, a chynnydd o 14.4 pwynt canran ar y chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Gorffennaf i mis Medi 2015).
Noder bod cyfran uchel o ddata coll yn 6 wythnos ac yn 6 mis, er bod hyn bellach yn lleihau. Ac nid oedd gan 14.1% a 15.8% o’r cofnodion, yn y drefn honno, unrhyw statws o ran bwydo ar y fron ar gyfer y chwarter diweddaraf.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
