Cyfarfod y Cabinet: 23 Mehefin 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 23 Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Vikki Howells AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa'r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Wayne David, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Julia David, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Bethan Davies, Swyddfa'r Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Stephanie Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Nia Lewis, Swyddfa'r Cabinet (eitem 4)
- Daniel Griffiths, Swyddfa'r Cabinet (eitem 4)
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 5)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 5)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 16 Mehefin 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Adroddiad y Farwnes Casey
2.1 Nododd y Prif Weinidog fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r Archwiliad Cenedlaethol o Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant a Cham-drin Plant yn Rhywiol ar sail Grŵp, a gynhyrchwyd gan y Farwnes Casey. Croesawodd y Prif Weinidog benderfyniad Llywodraeth y DU i dderbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys cynnal ymchwiliad statudol cenedlaethol i gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol. Bydd yr ymchwiliad yn cynnwys Cymru a Lloegr. Roedd y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i sicrhau y byddai materion sy'n ymwneud â Chymru, gan gynnwys digwyddiadau diweddar a hanesyddol, yn destun ymchwilio, ac y byddent yn cael eu dadansoddi gan yr ymchwiliad, gan nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn cydweithredu.
2.2 Roedd yna ddyfalu yn y cyfryngau yr wythnos flaenorol am gydweithrediad Llywodraeth Cymru, ac ymatebion i'r Archwiliad Cenedlaethol. Roedd hyn o ganlyniad i gamgymeriad yn yr adroddiad, a oedd wedi awgrymu nad oedd deunydd y gofynnwyd amdano gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddarparu. Ers hynny, roedd tîm y Farwnes Casey wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n llawn ac wedi darparu'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ac y byddai'n cywiro'r adroddiad yn unol â hynny.
Twneli Conwy
2.3 Gwahoddodd y Prif Weinidog Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i roi diweddariad ar y tân yn Nhwneli Conwy.
2.4 Bu'n rhaid i'r ddau dwnnel gau ar frys y dydd Iau blaenorol oherwydd bod craen wedi mynd ar dân yn yr ochr tua'r Gorllewin. Ni chafodd neb ei anafu, a chafodd y tân ei reoli yn eithaf cyflym gan wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar ôl i'r gwasanaeth ymateb ar unwaith.
2.5 Fe wnaeth Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru archwilio pob rhan o'r twnnel ar ei ddwy ochr, gan gadarnhau bod yr ochr tua'r Dwyrain yn ddiogel i'w hailagor o dan amodau rheoli traffig gwrthlif fore Gwener.
2.6 Ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn, cynhaliwyd arolygiadau a phrofion, a chwblhawyd gwaith atgyweirio dros dro, gan osod ail-wyneb a glanhau yn yr ochr tua'r Gorllewin, ac fe ail-agorwyd yr ochr honno am 5:30am ddydd Sul.
Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol
2.7 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi derbyn gwybodaeth friffio am ddiogelwch yn gynharach y diwrnod hwnnw mewn perthynas â'r gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol. Roedd yn bwysig cael gwybodaeth friffio gyson ynghylch y sefyllfa.
Strategaeth Ddiwydiannol y DU
2.8 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Strategaeth Ddiwydiannol yn gynharach y diwrnod hwnnw, gan wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y goblygiadau i Gymru.
2.9 Roedd gan y Strategaeth y potensial i fod yn drawsnewidiol i Gymru, gyda datblygiadau megis y ganolfan ar gyfer hyfforddiant doethurol mewn lled-ddargludyddion o dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ac adeiladu ar y clwstwr yn Ne Cymru. Byddai busnesau, fel Tata Steel, Airbus a Toyota, yn elwa ar y gostyngiad mewn costau ynni o 2026-27, a byddai hwb i gyllid ymchwil a datblygu, a fyddai o fudd i'r Sector Addysg Uwch. Ar ben hynny, byddai cwmnïau'n gallu manteisio ar y clwstwr cytundeb twf amddiffyn.
2.10 Byddai'n bwysig manteisio ar y cyfleoedd mewn sectorau twf uchel, a sicrhau bod swyddi o safon yn parhau i gynyddu yng Nghymru.
Wythnos y Gwasanaethau Arfog
2.11 Nododd y Prif Weinidog mai hon oedd Wythnos y Lluoedd Arfog, a dywedodd wrth y Cabinet y byddai'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn cynrychioli'r Llywodraeth yn y digwyddiad cenedlaethol yng Nghastell Cil-y-coed ddydd Sadwrn.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfodydd Llawn gan nodi fod amser pleidleisio wedi’i drefnu ar gyfer 5:50pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2024-2025
4.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni'r papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2024-2025.
4.2 Dyma’r pedwerydd Adroddiad Blynyddol a'r olaf o'r Senedd bresennol, ac roedd yn adrodd ar y cynnydd a wnaed rhwng Ebrill 2024 a diwedd mis Mawrth 2025, ond er mwyn sicrhau perthnasedd roedd rhai cyflawniadau a wnaed cyn diwedd mis Mai wedi'u cynnwys.
4.3 Er mwyn bodloni adran 12(1)(a) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), byddai Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu yn cael ei gyhoeddi gydag atodiad cysylltiedig, yn nodi'r cynnydd tuag at bob un o'r 115 o ymrwymiadau a chyflawni'r ddyletswydd statudol.
4.4 Roedd y cyflawniadau allweddol a wnaed ar draws y Rhaglen Lywodraethu wedi'u hamlygu yn y naratif. Er enghraifft, roedd rhestrau aros ysbytai bellach 59% yn is ers mis Mawrth 2024 ac 88% yn is na'u brig ar ôl y pandemig, roedd y gwaith o gyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd wedi'i gwblhau, a degau o filoedd o swyddi a phrentisiaethau newydd wedi'u creu, tra hefyd yn cefnogi'r rheini yr oedd diwedd cynhyrchu dur ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot wedi effeithio arnynt.
4.5 Yn ogystal, roedd bron 9,000 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol wedi'u cyflwyno. Hefyd, roedd 580 o gartrefi'n cael eu defnyddio eto, ac roedd £90 miliwn mewn benthyciadau wedi ei ddarparu i gymdeithasau tai. Ar ben hynny, roedd y cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig wedi'i gyflwyno, gan gymryd cam pwysig i leihau dibyniaeth ar ddeunyddiau crai.
4.6 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gydnabod bod llwyddiannau sylweddol wedi'i gyflawni er gwaethaf y pandemig a'r argyfwng costau byw.
4.7 Cytunodd y Cabinet i gadw'r Amcanion Llesiant presennol, gan gydnabod y mewnbwn adeiladol a wnaed gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, ac y dylid amlygu hyn yn y Datganiad Ysgrifenedig ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol.
4.8 Cymeradwyodd y Cabinet argymhellion y papur.
Eitem 5: Dull gweithredu ar gyfer Cyllideb 2026-2027
5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r dull gweithredu ar gyfer Cyllideb 2026-2027.
5.2 Er bod setliad aml-flwyddyn gan Lywodraeth y DU yn yr Adolygiad o Wariant diweddar, o ystyried y cyd-destun gwleidyddol ac Etholiadau'r Senedd a gynhelir maes o law, cytunwyd i gyhoeddi cyllideb 'dreigl' un flwyddyn. Byddai hynny'n darparu sefydlogrwydd a sicrwydd, gan sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n briodol er gwaethaf ansicrwydd cyfnod yr etholiad.
5.3 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2025
