Cyhoeddom ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant ym Mai 2025.
Mae'r grant hwn yn cynnig cyllid refeniw i fynd i'r afael â'r dyheadau canlynol:
- sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, hygyrch ac amrywiol
- adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc
- gofalu am ein casgliadau a'n hasedau
- cynnal arfer digidol da
- cynnal datblygu cynaliadwy, cyflawni net-sero, a mynd i'r afael â'r argyfyngau yn y hinsawdd a natur.
Darllenwch y canllawiau: Blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn cefnogi'r sector lleol a gynhelir ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd: canllawiau
Ymgeisiwch drwy ddefnyddio’r ffurflen gais: Blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn cefnogi'r sector lleol a gynhelir ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd: ffurflen gais
Mae ceisiadau'n cau am 10am ar 29 Medi 2025.
Byddwn yn hysbysebu cyfres o sesiynau galw heibio yn fuan. Mae awdurdodau lleol a'u partneriaethau yn cael eu gwahodd i ddefnyddio'r sesiynau hyn i:
- wirio a ydynt yn gymwys
- dderbyn cyngor I wneud cais am arian i gefnogi gwasanaethau amgueddfa, llyfrgell acarchifau lleol yn eu hardal
